Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Llun, 9fed Gorffennaf, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw fusnes. 

Cofnodion:

Dim.

3.

Medrwn Môn pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol gan Brif Swyddog, Medrwn Môn.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Sian Purcell, Prif Swyddog Medrwn Môn i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol gan Brif Swyddog Medrwn Môn.

 

Adroddodd Prif Swyddog Medrwn Môn mai nod Medrwn Môn yw hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli, mudiadau gwirfoddol a chymunedol drwy weithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau ar Ynys Môn i sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn a blaenllaw i ddatblygu potensial yr ynys. Mae Medrwn Môn yn gwmni elusennol cofrestredig gydag aelodaeth o blith mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol. Mae’n rhan o rwydwaith o Gynghorau Gwirfoddol Sirol sy’n weithredol ledled Cymru. Daw’r cyllid tuag at eu gwaith craidd o Lywodraeth Cymru drwy’r WCVA. Nododd ymhellach bod gwirfoddolwyr yn chwarae rhan fwyfwy pwysig a dynamig yn eu cymunedau ac mae Medrwn Môn yn hyrwyddo, cefnogi a datblygu pob math o wirfoddoli, gwirfoddolwyr a grwpiau gwirfoddol ar lefel leol, gan gydnabod bod eu cyfraniad unigryw yn rhoi manteision i'r rhai sy'n defnyddio / derbyn y gwasanaeth, cymunedau lleol a'r gwirfoddolwyr hwy eu hunain.

 

Nododd mai dyma’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2016/17 ac y cyhoeddir yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017/18 yn yr hydref ac y byddai’n fodlon mynychu’r Pwyllgor hwn bob blwyddyn er mwyn adrodd ar eu gwaith yn y cymunedau lleol. Cyfeiriodd at y ffaith bod Medrwn Môn yn rhedeg rhaglen Lleisiau Lleol sy'n cael ei hariannu gan y Gronfa Loteri Fawr. Yn ogystal mae Lleisiau Lleol yn sicrhau ffyrdd effeithiol i alluogi unigolion a chymunedau i leisio barn a sicrhau fod eu llais yn cael ei glywed yn ystod cyfnodau cynllunio a dylunio gwasanaethau cyhoeddus, gan ofalu bod darparwyr gwasanaeth yn cael clywed beth yn union y mae ar y gymuned ei angen. Mae’r model 'Adeiladu Cymunedau' wedi'i fabwysiadu i hwyluso'r broses, drwy ddefnyddio'r dulliau ymgynghori gwahanol i greu darlun o holl asedau'r gymuned sy'n amrywio o wasanaethau lleol; adeiladau a llecynnau gwyrdd; pobl, gwybodaeth a sgiliau; i rwydweithiau lleol a gweithgareddau cymunedol.

 

Cyfeiriodd Prif Swyddog Medrwn Môn at Gynghrair Seiriol a dderbyniodd £10,000 o gyllid datganoledig gan Gyngor Sir Ynys Môn fel prosiect peilot a, gyda chyngor a chefnogaeth Medrwn Môn, fe rannwyd y cyllid rhwng 3 Cyngor Cymuned ar y sail eu bod yn ymgysylltu gyda'u cymunedau ar sut bydd yr arian yn cael ei wario. Nododd y datganolwyd cyllid o'r Gronfa Gofal Canolraddol i Medrwn Môn allu ymgysylltu gyda thrigolion yn Llanfairpwll yn ystod proses o nodi’r angen am Hyb Gymunedol yn yr ardal. Wrth ddefnyddio model 'Adeiladu Cymunedau' a ddatblygwyd drwy ein prosiect Lleisiau Lleol, fe wnaeth Medrwn Môn gynnal nifer o sesiynau mapio yn yr ardal yn ogystal â digwyddiadau agored a sesiynau grwp ffocws. Roedd y dystiolaeth yn dangos mai'r Neuadd Goffa yn Llanfairpwll fyddai'r lleoliad gorau ac mae prosiect Lleisiau Lleol wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor Cymuned a thrigolion eraill i nodi sut y gall y cyllid cyfalaf gael ei wario. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ar ddechrau'r Haf ac mae'r gweithgareddau a adnabuwyd yn ystod y broses ymgynghori yn awr ar gael drwy Hyb Cymunedol Llanfairpwll, ar ei newydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Strategaeth Gwrth Dlodi pdf eicon PDF 153 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai nad oes Strategaeth Gwrthdlodi yn bodoli yn y Cyngor ar hyn o bryd. Mae’r ddogfen hon wedi’i chydnabod fel blaenoriaeth ar gyfer rhaglen waith yr Uned Strategol Gwasanaethau Tai ar gyfer 2017/18 sydd wedi’i yrru gan Gynllun Corfforaethol 2017/2022. Nododd mai un o’r negeseuon cryfaf o ran gwrthdlodi yng Nghymru ar hyn o bryd yw bod mwy o bobl o oed gwaith yn dioddef tlodi ar hyn o bryd o gymharu â 10 mlynedd yn ôl. Dywedodd ymhellach nad yw’r gair ‘tlodi’ o reidrwydd yn golygu rhywun â dim arian, gall olygu pobl yn teimlo nad oes modd iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau ar lefel gymunedol ac efallai diffyg gallu i gael nwyddau neu gael mynediad i wasanaethau hanfodol. Mae gan y Cyngor Sir rôl i hyrwyddo strategaethau sy’n galluogi pobl i gael mynediad i’r gwasanaethau sydd ar gael ac hefyd i geisio arwain pobl tuag at wasanaethau nad yw’r Cyngor yn eu darparu. Mae’r Strategaeth gwrthdlodi wedi bod yn destun trafodaeth fewnol o fewn y Cyngor er mwyn codi ymwybyddiaeth a gosod gwaelodlin o weithgareddau o fewn gwasanaethau a gyda phartneriaid a datblygu dull o fesur effaith y gwasanaethau ar ddelio â thlodi mewn cymunedau ar yr Ynys. Cynhaliwyd cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ym Mai 2018 drwy’r cyfryngau cymdeithasol a gwefan gorfforaethol y Cyngor ond nododd na dderbyniwyd unrhyw adborth gan y cyhoedd ond y derbyniwyd ymateb da gan bartneriaethau sy’n gweithio gyda’r Cyngor ac sy’n dymuno bod yn rhan o’r strategaeth.       

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Tai unwaith eto fod y Strategaeth Gwrthdlodi yn ddogfen gorfforaethol ar draws holl wasanaethau’r Cyngor ac y dylai fod yn rhan o’r Cynllun Cyflawni Blynyddol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y prif faterion canlynol:-

 

·      Gwnaed sylwadau fod Cyngor ar Bopeth Ynys Môn wedi nodi bod mwy na £1.2 miliwn o fudd-daliadau a oedd ar gael i bobl Ynys Môn yn mynd heb eu hawlio. Codwyd cwestiynau am sut y gall gwasanaethau sicrhau bod y bobl hynny sy’n gymwys i gael budd-daliadau o’r fath yn gallu gwneud cais a sut y gellir sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau tai bod Swyddogion Cynhwysiant Cymdeithasol wedi eu penodi yn y Gwasanaethau Tai ac y bydd un swyddog yn gweithio o fewn y sector preifat er mwyn codi ymwybyddiaeth am hawliau i fudd-daliadau. Dywedodd fod pobl yn methu â hawlio budd-daliadau yn fater cenedlaethol, fel rhieni yn methu â hawlio prydau ysgol am ddim i’w plant y mae ganddynt yr hawl i’w derbyn. Nododd y Pwyllgor ymhellach nad yw pobl yn cael eu harwain tuag at y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt a’u bod felly yn colli allan yn ariannol;  

·      Gofynnwyd am gadarnhad o ran pa bartneriaethau sy’n gweithio gyda’r awdurdod yr ymgynghorwyd â nhw mewn perthynas â’r strategaeth hon. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai enghraifft o’r mathau o sefydliadau y mae’r Gwasanaeth Tai yn cydweithio’n agos  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 187 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd ar fis Mehefin 2019. 

 

Ystyriodd Aelodau y dylai:-

 

·           Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru gael ei wahodd i fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i roi trosolwg o’i rôl a’i gyfrifoldebau ac i adrodd ar y Cynllun Heddlu a Throsedd 2017 – 2021. 

·           Medrwn Môn gael eu gwahodd i’r Pwyllgor Sgriwtini bob blwyddyn er mwyn adrodd ar eu gwaith ar yr Ynys er mwyn craffu ar y bartneriaeth â’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at Mehefin 2019 ac i wahodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol ac i Medrwn Môn fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor i gyflwyno eu Hadroddiad Blynyddol. 

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.