Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Llun, 15fed Hydref, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru - Gweithio mewn Partneriaeth

Derbyn cyflwyniad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd a Môn) - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r cyfarfod.

 

Rhoddodd Mr Gwyn Jones gyflwyniad i'r Pwyllgor ar swyddogaethau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas â diogelwch tân, ymladd tân, mynychu damweiniau ac argyfyngau ar y ffyrdd (achub / llifogydd dŵr) yn unol â Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Dywedodd fod yr ystadegau ddeng mlynedd yn ôl yn dangos bod gan Ogledd Cymru y gyfran uchaf fesul poblogaeth o farwolaethau o danau damweiniol mewn anheddau yng Nghymru a Lloegr ac ystyriwyd bod hynny yn annerbyniol. Sefydlwyd Grŵp Tasg y Prif Swyddog Tân i archwilio strategaeth a pholisïau'r Gwasanaeth ar gyfer atal marwolaethau damweiniol oherwydd tanau mewn cartrefi ynghyd ag adolygu proses ar gyfer rheoli perfformiad a phroffilio dioddefwyr a digwyddiadau.  Nododd fod un person hyd yn hyn wedi marw eleni oherwydd tân damweiniol yn y cartref.  Dywedodd Mr Jones fod ffactorau penodol yn cyfrannu at farwolaethau damweiniol oherwydd tanau; megis pobl yn byw ar eu pennau eu hunain, oed (roedd dros hanner yn 60+); bod ag anabledd, rhentio llety, rhyngweithio tân (ysmygu, coginio bwyd a’i adael yn ddi-oruchwyliaeth); alcohol a chyffuriau a bod heb larwm mwg sy'n gweithio.  Dywedodd bod proffil y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cael ei adolygu drwy weithio ar y cyd â gwasanaethau mewn awdurdodau lleol, yr heddlu ac asiantaethau lleol eraill i rannu gwybodaeth a nodi pobl fregus er mwyn osgoi’r tanau damweiniol posibl. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) am ei gyflwyniad.  Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd ac fe wnaed y pwyntiau canlynol: -

 

·      Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a yw'r Gwasanaeth Tân yn parhau i osod  larymau tân yn rhad ac am ddim mewn anheddau preswyl. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd a Môn) bod Llywodraeth Cymru yn derbyn grant sy'n galluogi'r Gwasanaeth Tân i brynu'r offer ond y Gwasanaeth Tân sy'n talu am osod y larymau tân mewn anheddau. Dywedodd ymhellach fod Swyddogion Tân yn gallu rhoi cyngor i drigolion pan maent yn ymweld â phobl yn eu cartrefi i drafod diogelwch tân ac atal tanau.  Nododd y gall y Gwasanaeth Tân, drwy weithio mewn partneriaeth a rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill, dargedu'r bobl fwyaf bregus yn y cymunedau lleol i atal tanau posib yn y cartref;

·      Gofynnwyd cwestiynau ynghylch a yw'r Gwasanaeth Tân yn parhau i fynychu digwyddiadau lleol a Sioeau Amaethyddol i hyrwyddo'r gwasanaeth a gynigir i breswylwyr o ran atal tân.  Ymatebodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) fod y Gwasanaeth Tân yn mynychu digwyddiadau o'r fath ond yn ymdrechu i rannu cyfleusterau gyda gwasanaethau brys eraill fel y gellir gwneud arbedion ariannol;

·      Mynegwyd pryderon fod priffyrdd lleol wedi cael eu cau oherwydd llifogydd / damweiniau / cau pontydd yn ddiweddar ac effaith hynny o ran tagfeydd traffig a’r oedi y gall achosi i’r gwasanaethau brys.  Dywedodd aelodau'r Pwyllgor nad yw cymunedau lleol yn cael gwybod am ffyrdd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol - Cynghorau Gogledd Cymru pdf eicon PDF 538 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhanbarthol y Gwasanaeth Cynllunio ac Argyfwng Rhanbarthol.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Neil Culff, Rheolwr Rhanbarthol, Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru a Mr Gwyn Hughes, Swyddog Cynllunio Argyfwng i'r cyfarfod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mai pwrpas yr adroddiad yw darparu diweddariad ynglŷn â blaenoriaethau rhanbarthol a Rhaglen Waith y Cyngor.

 

Rhoes Mr Neil Culff, y Rheolwr Rhanbarthol, gyflwyniad ar Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS) i'r Pwyllgor yn nodi gofynion deddfwriaethol, strwythur y gwasanaethau rhanbarthol a'r trefniadau llywodraethu.   Dywedodd fod gan awdurdodau lleol ddyletswyddau ar gyfer cynllunio argyfwng ac ymateb brys dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004, Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd ar gyfer Argyfwng a Gwybodaeth Gyhoeddus) 2001, a Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996. Mae'r Cyngor yn cwrdd â'i rwymedigaethau trwy gydweithio ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru trwy Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru, y mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol amdano.   Nododd fod NWC-REPS yn adrodd i Fwrdd Gweithredol, ac arno Swyddog sy'n cynrychioli pob un o awdurdodau lleol Gogledd Cymru sy'n bartneriaid yn y gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth hwn wedi bod yn ei le ers 2014 ac mae NWC-REPS yn darparu cyswllt sylfaenol rhwng y Cyngor a Fforwm Gwydnwch Lleol Gogledd Cymru ac mae cyfraniadau staff y gwasanaeth yn hollbwysig mewn grwpiau, digwyddiadau, prosesau a chynlluniau aml-asiantaethol.  O fewn y Cyngor, rhennir cyfrifoldebau am gynllunio ac ymateb i argyfwng ar draws y gwasanaethau a chynrychiolwyr gwasanaeth enwebedig. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rhanbarthol ar ffrydiau gwaith yr ymgymerir â nhw gan y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng: -

 

·      Ffliw Pandemig - gwneir gwaith ar draws y rhanbarth gyda’r Gwasanaeth Iechyd ac Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodau lleol o ran y trefniadau mewn perthynas â pharatoi ar gyfer ffliw pandemig sydd wedi'i gategoreiddio fel 'uchel iawn' ar y Cofrestrau Risg Cenedlaethol a Chymunedol;

·      Adroddiad Kerslake - cynhyrchwyd yr adroddiad yn dilyn adolygiad o Arena Manceinion y ym mis Mai 2017 ac mae'r NWC-REPS wedi llunio Dadansoddiad Bwlch ar yr argymhellion sydd â goblygiadau i bob un Cyngor. Bydd rhaglen Dysgu a Datblygu NWC-REPS yn cynnwys hyfforddiant i aelodau etholedig ar ddelio â digwyddiadau mawr;

·      Strategaeth Gwydnwch Cymunedol - gweithredu Strategaeth Gwydnwch Cymunedol ar gyfer 2017-2020 ar gyfer delio ag argyfyngau lleol a sicrhau fod cymunedau’n fwy gwydn. Bydd y manylion yn cael eu hadrodd i'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned maes o law;

·      Rhannu data - gweithio'n agos gyda gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol i adnabod pobl sy'n agored i niwed os ceir digwyddiadau megis llifogydd pan fydd angen gwacáu ardaloedd;

·      Dysgu a Datblygu - mae Swyddog dynodedig yn arwain ar hyfforddiant ac ymarfer o fewn y Tîm Gwasanaeth Brys. Mae’n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i nodi unigolion sydd â rôl mewn perthynas ag ymateb mewn argyfwng a sicrhau eu bod yn cael hyfforddiant effeithiol i ddelio gydag argyfyngau a nodi anghenion hyfforddiant.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y bu'n bosib cynyddu gwydnwch a chefnogaeth arbenigol i awdurdodau lleol ar draws Gogledd Cymru trwy sefydlu trefniant rhanbarthol ar gyfer cynllunio argyfwng.  Nododd fod y gwasanaeth argyfwng, fel swyddogaeth gwasanaeth,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 758 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mehefin, 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhalgen Waith hyd at fis Mehefin, 2019.