Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts ddatganiad personol yng nghyswllt eitemau 4, 5 a 6 am ei bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Talwrn ac am fod ei merch yn mynd i Ysgol y Graig, Llangefni a’i mab yn mynd i Ysgol Gyfun, Llangefni.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 81 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Tachwedd, 2018.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2018 yn gywir.

4.

Adroddiad Safonau Ysgolion (Haf 2018) pdf eicon PDF 126 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu ar y safonau yn Ysgolion Ynys Môn (Haf 2018).

 

Adroddodd Mr Elfyn Jones – Uwch Arweinydd Uwchradd – GwE fod cynnwys yr adroddiad yn wahanol i’r blynyddoedd a fu oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau sylweddol i’r modd y caiff mesurau perfformiad eu hadrodd. Yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gyhoeddi asesiadau athrawon yn y dyfodol, nid ydynt bellach yn cyhoeddi data cymharol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a 3 ar lefel ysgolion, awdurdod lleol a chonsortia ac felly ar wahân i gymhariaeth gyda chyfartaleddau cenedlaethol, nid oes unrhyw wybodaeth gymharol na meincnodi ar gael. Ym mis Hydref 2014 cafodd y Meysydd Dysgu (MD) Cyfnod Sylfaen ar gyfer Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu a Datblygiad Mathemategol eu diwygio fel eu bod yn cyd-fynd â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) ac i’w gwneud yn fwy heriol yn ogystal. Yn unol â hyn cafodd y deilliannau Cyfnod Sylfaen eu hail-raddnodi fel eu bod yn cyd-fynd â disgwyliadau cynyddol y Meysydd Dysgu diwygiedig. Cafodd y MD diwygiedig eu cyflwyno yn statudol o fis Medi 2015. Golyga hyn mai’r garfan o blant a ddechreuodd yn y Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2015 oedd y plant cyntaf i gael eu hasesu’n ffurfiol yn erbyn y deilliannau newydd ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn haf 2018. Felly, dylid osgoi cymharu deilliannau Cyfnod Sylfaen gyda’r blynyddoedd cynt ar lefel ysgol, gan nad ydynt yn cael eu mesur ar sail gymaradwy. Nodwyd o ran cymharu canlyniadau blynyddol yn y dyfodol, na fydd awdurdodau lleol yn cymharu canlyniadau yn erbyn ei gilydd ac na fydd cymhariaeth rhwng ysgolion chwaith, ond yn hytrach bydd yr amrywiaeth o ran yr hyn a gyflawnir mewn pwnc penodol o fewn ysgol neu Gyfnod Allweddol yn cael ei graffu.

 

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Rhys Williams, Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) a Mrs Sharon Vaughan, Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) i’r cyfarfod. 

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) ddadansoddiad manwl o’r data perfformiad i’r Pwyllgor.

 

Cyfnod Sylfaen

 

·      Mae’r canlyniadau eleni yn y Cyfnod Sylfaen yn dangos gostyngiad cenedlaethol o gymharu â’r blynyddoedd cynt. Mae nifer o athrawon o dan yr argraff fod disgwyliadau uwch i gyflawni Deilliant ac mae hyn yn un ffactor sydd wedi arwain at lai yn cyflawni Deilliant 5; 

·      Mae nifer o ysgolion yn adrodd ar Cymraeg iaith gyntaf yn 2018 yn hytrach nag ail iaith yn 2017. Ac eithrio Cymraeg mae’r bwlch DCS rhwng perfformiad 2017 a 2018 yn fwy yn genedlaethol nac ar Ynys Môn, a hynny ar y deilliannau disgwyliedig a’r deilliannau uwch;

·      Mae gan yr Awdurdod gynllun penodol i yrru gwelliannau yn y Cyfnod Sylfaen. Mae yna Grŵp Llywio eisoes gyda chynrychiolaeth o Brifathrawon o bob dalgylch. Mae GwE yn hwyluso, yn cefnogi ac yn sicrhau ansawdd gwaith y Grŵp Llywio a bydd Ymgynghorwyr Gwella Cefnogol hefyd yn gweithio mewn dalgylchoedd i adnabod anghenion pob ysgol. Mae’r cynllun gweithredu hwn mewn ymateb penodol i Gymraeg, Asesiad Gwaelodlin, y Blynyddoedd Cynnar a gwella  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol GwE 2017/18 pdf eicon PDF 1022 KB

Cyflwyno adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Uwch Arweinydd Uwchradd – GwE.

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu perfformiad GwE ar gyfer 2017/18 ac yn nodi bod GwE yn darparu her gefnogol gyda ffocws pendant er mwyn datblygu system sy’n gwella ei hun ac sy’n ymddiried mewn ysgolion a’u harweinwyr ar bob lefel. Roedd yr adroddiad yn darparu Blaenoriaethau Cynllun Busnes GwE ar gyfer 2018/19, ynghyd â throsolwg o safonau addysgol ar draws Gogledd Cymru yn 2017/18. 

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y pwyntiau canlynol:-

 

·      Tra’n derbyn bod gwelliant parhaus o ran rhannu arfer dda rhwng ysgolion mynegodd Aelod fod angen adnabod dyddiau targed penodol. Ymatebodd yr Uwch Arweinydd Uwchradd GwE fod GwE yn ystyried mai’r prif ffocws yn y blynyddoedd i ddod fydd cael gwell gwydnwch. Roedd yn ystyried bod yr arfer dda o fewn yr ysgolion a gan y byddant yn wynebu newidiadau helaeth i’r cwricwlwm addysgol, bydd GwE yn cefnogi rhaglen dreigl mewn ysgolion. Nododd y bydd Llywodraeth Cymru ac Estyn yn cyhoeddi disgwyliadau i ysgolion fod yn herio ac yn cefnogi ei gilydd yn y dyfodol agos;

·      Mynegodd Aelod ei farn y dylai Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant GwE fod wedi eu lleoli yn yr ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith fod cefnogaeth GwE yn gostus. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu drwy ddeud nad oedd o’r farn y byddai model cyffelyb i’r un a ddarperir gan GwE yn cyflawni’r gwelliannau a’r gefnogaeth a roddwyd i ysgolion ar Ynys Môn yn enwedig o gofio’r newidiadau helaeth y bydd y system addysg yn eu wynebu dros y blynyddoedd nesaf. Mynegodd yr Aelod Portffolio – Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant fod y gefnogaeth y mae GwE wedi’i rhoi i wella a chyfoethogi ysgolion Môn wedi bod yn hanfodol i lwyddiant yr ysgolion. Nododd hefyd fod GwE wedi cefnogi a rhoi arweiniad i waith y Panel Sgriwtini – Adolygu Cynnydd Ysgolion wrth herio ysgolion sydd wedi ymddangos ger bron y Panel. Fel rhan o gefnogi datblygiad y Panel, rhoddodd yr Uwch Arweinydd Uwchradd – GwE wahoddiad i Aelodau’r Panel gysgodi gwaith GwE mewn ysgolion yn ystod ymweliadau penodol. Roedd y Pwyllgor yn croesawu hyn fel rhan o gefnogi rôl sgriwtini yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU : Trefnu i Aelodau gysgodi gwaith GwE unwaith mae’r trefniadau angenrheidiol wedi cael eu gwneud gan GwE mewn ymgynghoriad â’r Adran Ddysgu.

 

 

6.

Panel Sgriwtini - Adolygu Cynnydd Ysgolion pdf eicon PDF 131 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion a Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan gadeirydd y Panel Sgriwtini – Adolygu Cynnydd Ysgolion a’r Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad fod y Panel Sgriwtini – Adolygu Cynnydd Ysgolion, ers adrodd i’r Pwyllgor hwn, wedi cyfarfod ar bump achlysur ac wedi derbyn adroddiadau ac wedi cyfarfod gyda Phenaethiaid a Llywodraethwyr fel a ganlyn:-

 

Ysgol Gynradd Bodedern

Adolygiad o’r Cynllun Gweithredu Dysgu

Y Cyfnod Sylfaen

Ysgol y Ffridd ac Ysgol y Graig, Llangefni

Ysgol Corn Hir, Llangefni ac Ysgol Henblas

 

Mae’r Panel yn derbyn gwybodaeth gan GwE ac mae Swyddog ar gael yn y cyfarfodydd i drafod unrhyw gefnogaeth sy’n cael ei derbyn gan ysgol. Mae’r Panel hefyd yn derbyn diweddariadau gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â gweithredu Cynllun Gweithredu’r Gwasanaeth Dysgu. Mae gwella perfformiad yn y Cyfnod Sylfaen yn uchel ar agenda yr Adran Ddysgu ac er y cafwyd deilliannau da o ran sicrhau bod ysgolion bellach yn asesu disgyblion mewn Cymraeg iaith gyntaf, mae sicrhau cysondeb mewn safonau uchel trwy’r holl bynciau yn dal yn flaenoriaeth. Dywedodd y Swyddogion ymhellach, yn dilyn sesiwn briffio a roddwyd gan Grŵp Arweinyddiaeth Clwstwr y Cyfnod Sylfaen, fod y Panel wedi cael sicrwydd bod cynllun gweithredu cadarn yn cael ei gynnal i gryfhau’r maes hwn. Nodwyd fod y Panel yn bryderus bod nifer y disgyblion sy’n cael Prydau Ysgol Am Ddim yn lleihau er nad yw economi’r Ynys ar y cyfan yn adlewyrchu’r newid mewn amgylchiadau teuluoedd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y materion canlynol:-

 

·      Ceisiwyd eglurhad ynglŷn â’r sefyllfa bresennol gyda recriwtio Prifathrawon yn y Sector Cynradd. Ymatebodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad fod nifer o Brifathrawon newydd wedi bod mewn lle ers y ddwy flynedd ddiwethaf. Dywedodd ymhellach fod nifer o athrawon yn y sector cynradd wedi gwneud cais am hyfforddiant CPCP i ddod yn Brifathrawon;

·      Cyfeiriwyd at y ffaith fod Aelodau Etholedig wedi ymweld ag ysgolion yn flaenorol i weld gweithgareddau a pherfformiad ysgolion. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod o’r farn y byddai’n fanteisiol i’r Aelodau Etholedig ymweld ag ysgolion oherwydd gallai gyfrannu at eu rôl fel Llywodraethwyr a byddai’n addysgiadol iddynt o ran tystiolaethu’r gwerth am arian mewn perthynas â rôl GwE yn Ysgolion yr Ynys.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Cytuno bod y Panel Sgriwtini – Adolygu Cynnydd Ysgolion yn darparu her gadarn ar berfformiad ysgolion unigol;

·      Cytuno bod y Panel Sgriwtini – Adolygu Cynnydd Ysgolion yn monitro gweithrediad y Cynllun Gwella gan y Gwasanaeth Dysgu a bod y cynllun ar darged hyd yma;

·      Cytuno bod y Panel yn gwneud cynnydd wrth fonitro’r gwaith a wneir gan Grŵp Arweinyddiaeth Clwstwr y Cyfnod Sylfaen sy’n arwain ar wella perfformiad yn y Cyfnod Sylfaen ar draws yr Ynys;

·      Nad oes unrhyw faterion ar hyn o bryd sydd angen eu huwch-gyfeirio i sylw’r Pwyllgor Gwaith o waith parhaus y Panel.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

 

7.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 180 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Gorffennaf 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Gorffennaf 2019.

 

GWEITHREDU : Fel yr uchod.