Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parethed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd K P Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 3 – Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd 2019 ac ni chymerodd rhan yn y drafodaeth na’r bleidlais.

3.

Cynllun Datbygu Lleol ar y Cyd - Adroddiad Monitro Blynyddol pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol mewn perthynas â’r Adroddiad Monitro Blynyddol 2019 – Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn cofnodi canfyddiadau gwaith monitro gweithrediad strategaethau a pholisïau’r cynllun rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth yn ystod y flwyddyn flaenorol. Fel arfer, mae’n rhaid cyhoeddi’r adroddiad monitro blynyddol cyntaf erbyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn yn dilyn mabwysiadu’r cynllun datblygu lleol. Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn ddiwedd mis Gorffennaf 2017. O’r herwydd, er mwyn cynnwys blwyddyn ariannol gyflawn, dyma’r cyfle cyntaf i gyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol i Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod rhaid i’r Adroddiad Monitro Blynyddol gynnwys fframwaith monitro a’i fod yn gyfrwng allweddol ar gyfer darparu adborth fel rhan o’r broses gylchol o lunio polisïau cynaliadwy. Mae prif ganfyddiadau’r Adroddiad Monitro Blynyddol fel a ganlyn:-

 

·      Mae 55% o unedau tai a ganiatawyd yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn y Ganolfan Isranbarthol a’r Canolfannau Gwasanaethau Trefol. Rhoddwyd caniatâd i 23% o unedau mewn Canolfannau Gwasanaeth Lleol a 22% mewn Pentrefi, Clystyrau a Chefn Gwlad Agored sy’n cyd-fynd â strategaeth ddosrannu tai y Cynllun;

·      Rhoddwyd caniatâd cynllunio i 543 o unedau tai newydd yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol h.y. safleoedd nad oedd â chaniatâd cynllunio ar y  diwrnod y cafodd y Cynllun ei fabwysiadu;

·      Rhoddwyd caniatâd cynllunio i 202 o dai fforddiadwy yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol;

·      Yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol (2017-2019), cwblhawyd 348 o unedau tai ar safleoedd a ddynodwyd ar gyfer tai;

·      Cwblhawyd 254 o unedau fforddiadwy yn 2017-19. Roedd cynnydd sylweddol yn nifer yr unedau tai fforddiadwy a gwblhawyd yn 2018/19 (193 o unedau) o gymharu â blynyddoedd blaenorol;

·      Derbyniodd y Cyngor 62 o apeliadau yn ystod y Cyfnod Monitro a diystyriwyd 74% ohonynt. Nid oedd yr apeliadau a ganiatawyd yn tanseilio polisïau allweddol y Cynllun.

 

Nododd y Swyddog bod casgliad yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn un cadarnhaol a bod polisïau cynllunio yn cael eu gweithredu. Dywedodd, o ganlyniad i brif ganfyddiadau’r Adroddiad Monitro Blynyddol, nad oes tystiolaeth i awgrymu bod angen cynnal adolygiad cynnar o’r Cynllun.

 

Rhoes y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·           Gofynnwyd sut mae pris tŷ fforddiadwy yn cael ei ddiffinio? Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio – Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd bod fformiwla i gyfrifo canran o gyflogau trigolion yr ardal yn cael ei defnyddio i benderfynu ar brisiau tai fforddiadwy (sydd yn rhan o ddatblygiadau newydd). Nododd bod Canllaw Cynllunio Atodol wedi’i lunio sydd yn rhoi gwybodaeth fanwl am dai fforddiadwy mewn gwahanol ardaloedd. Bydd cytundeb Adran 106 yn cael ei osod ar unrhyw ganiatâd cynllunio yn ôl yr angen, i sicrhau bod y tai yn cael eu cadw fel tai fforddiadwy. Cyfeiriwyd bod rhai datblygwyr yn nodi nad yw datblygiad yn hyfyw oni bai bod modd iddynt leihau cyfran y tai fforddiadwy sy’n rhan ohono. Dywedodd y Prif  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Ymateb Drafft i Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 144 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol mewn perthynas ag Ymateb Drafft i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol fod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) yn gynllun datblygu newydd fydd yn gosod cyfeiriad ar gyfer datblygiad yng Nghymru o 2020 i 2040. Mae’n gosod strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy’r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi llewyrchus, lleihau carbon, datblygu ecosystemau gwydn a gwella iechyd a lles ein cymunedau. Mae’r FfDC yn gynllun gofodol, sy’n golygu ei fod yn gosod cyfeiriad ynghylch ble y dylid buddsoddi mewn seilwaith a datblygiad er lles Cymru a’i phobl. Yr FfDC fydd yr haen uchaf o gynllun datblygu ac mae’n canolbwyntio ar faterion a heriau ar lefel genedlaethol. Oherwydd ei natur strategol, nid yw’n neilltuo datblygiad i bob rhan o Gymru ac nid yw ychwaith yn cynnwys polisïau ar bob math o ddefnydd tir. Dywedodd ei bod yn hollbwysig ymateb i’r FfDC i sicrhau bod polisi cynllunio ar yr haen uchaf yn addas i bwrpas a bod aliniad clir rhwng dyheadau Cyngor Sir Ynys Môn o’r lefel leol i’r lefel genedlaethol fydd yn gosod cyfeiriad i fuddsoddiad mewn seilwaith a datblygiad yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd bod hyn yn gyfle i’r Cyngor ddylanwadu ar gynnwys y FfDC fydd yn siapio datblygiad y genedl yn ystod yr ugain mlynedd nesaf. Dywedodd mai Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn hytrach na’r awdurdod cynllunio lleol. Cyfeiriodd at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ynghylch Fferm Solar Traffwll fel enghraifft. Mae’r fferm solar arfaethedig yn safle 289 acer ar dir fferm mewn 7 ardal i’r de o’r A55. Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu ar y cynnig hwn. Nododd y byddai gan y FfDC fwy o ddylanwad ar unrhyw benderfyniad na pholisïau Cynllun Datblygu Lleol yr Awdurdod.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol fod y Cyngor Sir yn cefnogi’r egwyddor o greu FfDC ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae gan y Cyngor bryderon ac amheuon mewn perthynas â nifer o themâu a pholisïau yn y FfDC drafft. Dywedodd bod angen mynegi’n bendant na fydd rhai o’r prosiectau sy’n rhan o’r FfDC yn cydweddu â thirwedd yr Ynys. Mae’r FfDC yn cynnig bod canol yr Ynys yn addas ar gyfer ffermydd gwynt a ffermydd solar ac, yn ôl Llywodraeth Cymru, mae rhagdybiaeth o blaid datblygiadau ynni gwynt a solar mawr ar y tir yn yr ardaloedd â blaenoriaeth. Dywedodd nad yw swyddogion yn ystyried bod datblygu tyrbinau gwynt 250 metr o uchder yn addas i’r Ynys. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol bod y Cyngor yn synnu nad yw Caergybi’n cael ei chydnabod na’i diffinio fel Ardal Dwf Rhanbarthol ar gyfer Cymru, yn arbennig o ystyried bod yr FfDC yn cyfeirio’n benodol at bwysigrwydd Porthladd Caergybi i wasanaethu Cymru, y DU ac Iwerddon.

 

Noda’r FfDC y bydd lefel newydd o bolisïau cynllunio yn cael eu creu h.y. Polisïau Cynllunio Cenedlaethol, Polisïau Cynllunio Rhanbarthol a Pholisïau Cynllunio Lleol. Cwestiynodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Craffu ar Bartneriaethau pdf eicon PDF 1 MB

 

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr ynghylch Craffu ar Bartneriaethau.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr bod gweithio mewn partneriaeth bellach yn rhan bwysig o arferion gweithio’r Awdurdod, a’i fod yn cryfhau capasiti’r Awdurdod i ddarparu gwasanaethau.

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini fod gan y Cyngor Sir brofiad helaeth o weithio mewn partneriaeth, boed ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol. Gyda phwysau cynyddol ar adnoddau cyhoeddus, mae gan y Cyngor ganllawiau clir ar gyfer penderfynu pryd i sefydlu partneriaethau, pa wasanaeth(au) a’r canlyniadau disgwyliedig ac ar gyfer rheoli’r berthynas yn gadarn er mwyn:-

 

·           Ein galluogi i gyflawni Cynllun y Cyngor a’n blaenoriaethau strategol. Hefyd, i wella profiad a chanlyniadau unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau;

·           Rhoi tystiolaeth o werth am arian neu gost-effeithlonrwydd wrth fuddsoddi yn y dyfodol a sicrhau canlyniadau clir a mesuradwy;

·           Ymateb i risgiau yn gysylltiedig â phartneriaethau a sicrhau fod meysydd i’w datblygu’n cael sylw;

·           Cael eglurder ynghylch atebolrwydd a threfniadau monitro;

·           Nodi unrhyw le y gellir rhesymoli partneriaethau a sicrhau trefn glir ar gyfer dod ag unrhyw drefniadau i ben.

 

Mae’r maes gwaith hwn yn canolbwyntio ar bartneriaethau lle mae’r Cyngor yn dewis gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Ychwanegodd y Rheolwr Sgriwtini bod gan y Cyngor Gofrestr o Bartneriaethau Corfforaethol ar gyfer yr holl bartneriaethau allweddol a’i bod yn cael ei hadolygu’n rheolaidd. Ychwanegodd bod rhaid parhau i reoli’r dasg o graffu ar bartneriaethau, gan ganolbwyntio ar bartneriaethau strategol allweddol sy’n caniatáu i’r Cyngor gyflawni ei amcanion a’i flaenoriaethau. Nododd bod angen i Flaenraglen Waith y Pwyllgor hwn flaenoriaethu cydbwysedd priodol o bartneriaethau statudol, partneriaid allweddol y mae’r Cyngor yn gweithio â nhw a chyrff eraill.

 

Rhoes y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

·           Dywedodd un o’r Aelodau bod angen rhaglennu gwaith craffu ar bartneriaethau dros gyfnod o 18 mis ac y dylai Aelodau Etholedig sy’n cynrychioli’r Cyngor ar sefydliadau partner ddarparu adroddiad blynyddol yn manylu ar ganlyniadau gwaith y bartneriaeth y maent yn aelod ohoni. Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn croesawu’r awgrym bod Aelodau Etholedig yn llunio adroddiadau blynyddol ar sefydliadau partneriaeth gan fod y Cyngor yn rhoi dyraniad ariannol i’r sefydliadau hyn. Ychwanegodd y byddai adroddiadau blynyddol o’r fath yn darparu gwybodaeth am sut mae’r bartneriaeth yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i gymunedau lleol ac a yw’r Cyngor yn cael y gwerth gorau am yr adnoddau a ddarparwyd ganddo.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Cefnogi’r gwaith craffu ar bartneriaethau allweddol a gyflawnwyd yn ystod 2018/19;

·           Cefnogi’r partneriaethau y mae’r Pwyllgor Sgriwtini yn bwriadu eu blaenoriaethu ar raglen waith y Pwyllgor yn ystod y 18 mis nesaf;

·           Bod Aelodau Etholedig yn cyflwyno adroddiadau blynyddol ar y sefydliadau partner y maent yn gynrychiolwyr arnynt.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.