Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan diddordeb personol yn eitem 8 ond cymerodd ran yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ond ni fwriodd bleidlais.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 92 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Tachwedd, 2019.

 

RHAN 1 – MATERION ADDYSG – GWAHODDIAD I HOLL AELODAU’R CYNGOR SIR

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd, 2019 yn gywir.

4.

Adroddiad Safonau Ysgolion (Haf 2019) pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar yr uchod.

 

Amlinellodd Deilydd Portffolio - Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant argymhellion yr adroddiad i’r Pwyllgor a nododd mai blaenoriaethau’r Cyngor yw parhau i godi safonau mewn addysg er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion gael y sgiliau gorau posibl yn ysgolion Môn.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc drosolwg manwl o’r adroddiad a dywedodd fod Llywodraeth Cymru ynghyd â nifer o bartneriaid ac arbenigwyr wedi cynnal adolygiad sylfaenol o’r system atebolrwydd ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Amlygodd y canfyddiadau fod llawer o ganlyniadau negyddol nas bwriadwyd i'r system bresennol a'i defnydd o fesurau perfformiad.  Cafodd datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, CLlLC ac Estyn i Gadeiryddion Sgriwtini, Aelodau Cabinet, Cyfarwyddwyr Addysg a Rheolwyr Gyfarwyddwyr y Consortia Addysg Rhanbarthol a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf, 2019 ei gynnwys yn yr adroddiad i’r pwyllgor. Dywedodd fod newidiadau cenedlaethol wedi cael eu cyflwyno i'r broses o adrodd ar asesiadau athrawon dros y ddwy flynedd diwethaf a bod hyn yn cefnogi prif amcanion dogfen Cymru: ‘Cenhadaeth ein Cenedl', wrth ddarparu trefniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn i gefnogi system sy'n gwella ei hun. Erbyn hyn, mae mwy o ffocws ar ddefnyddio data mewn hunanwerthuso ysgolion. Yn y system ddiwygiedig, gwerthusir ysgolion yn ôl y gwahaniaeth a wnânt i gynnydd pob plentyn. Hefyd dywedodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y prif feysydd gwella fel rhan o Gynllun Busnes Lefel 2 wedi’u cynnwys ar dudalen 33 o’r adroddiad.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Rhys Williams, Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) ac i Mrs Sharon Vaughan, Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) ddadansoddiad manwl o ddata perfformiad i’r Pwyllgor. 

 

Cyfnod Sylfaen

 

·           Fel y llynedd, dylid osgoi cymharu canlyniadau Cyfnod Sylfaen mewn iaith a mathemateg â blynyddoedd blaenorol ar lefel ysgol gan nad ydynt yn cael eu mesur ar sail gymaradwy. Mae Llywodraeth Cymru’n glir y bydd y ffocws ar gynnydd dysgwyr o’r asesiad gwaelodlin hyd at ddiwedd y Cyfnod Allweddol ac felly, am y tro cyntaf, caiff hyn ei gynnwys ar ddiwedd y flwyddyn adroddd;

·           Yn gyffredinol, mae safonau yn y Cyfnod Sylfaen yn Ynys Môn yn foddhaol.

Mae canran y disgyblion sy'n cyflawni'r Dangosydd Cyfnod Sylfaen (DCS) yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol ac mae wedi bod felly am y tair blynedd diwethaf. Fel y rhagwelwyd yn gyffredinol, yn sgil gweithredu'r Fframwaith Cyfnod Sylfaen newydd, bu gostyngiad yng nghanran y disgyblion a gyflawnodd y deilliannau disgwyliedig drwy Gymru yn 2018/19.  Roedd perfformiad yr awdurdod lleol yn adlewyrchu hyn yn y DCS ac ym mhob maes dysgu;

·           Mae effaith y gostyngiad yn y Gymraeg 05 + wedi cael effaith ar berfformiad yn y DCS.  Bu gostyngiad yn nifer y dysgwyr a gyflawnodd y deilliannau uwch hefyd yn genedlaethol ac eto adlewyrchwyd hyn yn neilliannau ysgolion ALl Ynys Môn;

·           Mae'r gwahaniaeth mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched yn Ynys Môn wedi aros yn debyg i'r llynedd, gyda merched yn perfformio'n well na bechgyn ym mhob maes dysgu o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion : Adroddiad Cynnydd pdf eicon PDF 461 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

 

RHAN 2 – MATERION ERAILL – AELODAU’R PWYLLGOR SGRIWTINI PARTNERIAETH AC ADFYWIO YN UNIG

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini ynghylch cynnydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

Amlinellodd y Cadeirydd a Chadeirydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion yr adroddiad i'r Pwyllgor gan nodi bod yr adroddiad cynnydd hwn yn cynnwys cyfeiriad at dri chyfarfod diwethaf y Panel yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Rhagfyr, 2019. Dywedodd fod Aelodau'r Panel wedi bod yn cysgodi gweithgareddau GwE o fewn ysgolion a'u bod wedi monitro'r heriau o fewn ysgolion. Mae'r fframwaith llywodraethu ar gyfer y trefniadau cysgodi hyn yn cynnwys trefniadau i Aelodau adrodd yn ôl yn dilyn gweithgareddau cysgodi unigol cyn y rhoddir gwahoddiad i Benaethiaid a Chyrff Llywodraethu ysgolion annerch y Panel Adolygu Gwella Ysgolion.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a Deilydd Portffolio - Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant wedi dweud eu bod yn croesawu'r cynnydd a wnaed gan y Panel Adolygu Gwelliant Ysgolion o fewn ysgolion yr Awdurdod. Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ei fod yn cael adborth cadarnhaol gan Benaethiaid sydd wedi annerch y Panel ac yn enwedig i ymweliadau Aelodau'r Panel sydd wedi cysgodi gweithgareddau GwE o fewn yr ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Nodi’r:-

 

·         Cynnydd a wnaed hyd yma o ran cyflwyno rhaglen waith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion sy’n cynnwys herio perfformiad ysgol unigol yn gadarn;

·         Y meysydd gwaith a gafodd sylw drwy'r trefniadau newydd a gyflwynwyd yn ystod cyfnod cysgodi GwE;

·         Canlyniadau'r ymarferiad pwyso a mesur a'r ymarfer blaengynllunio a gynhaliwyd gan y Panel yn ddiweddar;

·         Yr angen i adolygu cylch gorchwyl y Panel er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn barhaus â blaenoriaethau corfforaethol a chanlyniadau’r ymarfer pwyso a mesur.

·         Cadernid trefn fonitro'r panel hyd yma.

 

GWEITHREDU: Nodi’r adroddiad.

 

 

6.

Trawsnewid Cyfleon Dydd Anableddau Dysgu pdf eicon PDF 6 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Deilydd Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn bwysig nodi mai’r bobl sy’n defnyddio cyfleoedd dydd anableddau dysgu sy’n bwysig wrth ystyried yr adroddiad hwn a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Diolchodd i’r Swyddog am ei waith yn trafod gyda’r defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a’r darparwyr gwasanaeth ynglŷn â’r cyfleusterau y maent yn awyddus i’w gweld yn y dyfodol.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn angenrheidiol ail-lunio a moderneiddio'r gwasanaethau cyfleoedd dydd er mwyn datblygu cyfleoedd cynaliadwy i unigolion gyflawni eu potensial a gwella ymhellach y modd y cyflenwir y gwasanaeth yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.  Nododd fod gan y Cyngor nifer o gyfleoedd dydd gwahanol ar hyn o bryd i bobl ag anableddau dysgu, gyda rhai ohonynt yn wasanaethau mewnol sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor ac eraill sy’n cael eu comisiynu'n allanol.  Mae'r ddarpariaeth fewnol bresennol ym Morswyn, Caergybi, Blaen y Coed, Llangoed, Gerddi Haulfre, Llangoed a'r Gors Felen, Llangefni.  Nid yw gweithdy Canolfan Byron wedi'i gynnwys yn y gwaith o drawsnewid y canolfannau dydd i bobl anabl ar hyn o bryd ond bydd yn cael ei adolygu o dan ffrwd waith ar wahân.   O dan gyfarwyddyd Bwrdd Trawsnewid Gwasanaeth Oedolion trefnwyd cyfres o ymweliadau â chanolfannau dydd amrywiol ar yr Ynys gyda chyfleoedd i bob Aelod Etholedig fynd iddynt. Cynhaliwyd gweithdai i gynnal arfarniad o'r opsiynau a gyflwynwyd ar gyfer dyfodol y canolfannau dydd.  Nododd fod y gwasanaeth yn ymgymryd â'r newidiadau hyn er mwyn adlewyrchu'r cynnydd yn y galw a sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol.  Mae’r heriau allweddol a wynebir gan y canolfannau dydd mewnol presennol wedi'u cynnwys ar dudalen 7 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ymhellach mai'r cynnig yw datblygu mwy o gyfleoedd yn y gymuned i bobl ag anableddau dysgu, ehangu’r ddarpariaeth yng Ngors Felen a chau'r gwasanaethau a ddarperir ym Morswyn, Blaen y Coed a Gerddi Haulfre.  Byddai'r gwasanaeth newydd yn cynnig cyfleoedd hyblyg i bobl ag anableddau dysgu a byddai'n bodloni’r galw yn y dyfodol gan gynnwys pobl ag anghenion mwy cymhleth.

 

Roedd yr Aelodau'n cytuno bod angen adolygu a gwella'r gwasanaethau dydd a gynigir i bobl ag anableddau dysgu. Fodd bynnag, mae angen cynnwys y drafodaeth gyda phobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'u teuluoedd mewn trafodaeth onest ac addysgiadol o ran y cyfleusterau a gynigir yn y dyfodol ac mae angen i bobl ag anableddau dysgu fod yn ganolog i'r drafodaeth hon.  

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion canlynol:-

 

·      Gofynnwyd am eglurhad o'r amserlen y mae'r Gwasanaethau Oedolion yn ei hystyried, ar ôl ymgynghori a allai arwain at gau rhai o'r cyfleusterau dydd anableddau dysgu.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd angen ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth ac y byddai unrhyw benderfyniad i gau unrhyw gyfleuster anabledd dysgu yn cael ei wneud dros gyfnod o amser. Dywedodd Arweinydd y Cyngor a Deilydd Portffolio - Gwasanaethau Cymdeithasol na  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 24 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r

cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd

gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12,

Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd

ynghlwm.”

 

8.

Cytundeb Gwastraff

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 ar Rheolwr Sgriwtini.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 o safbwynt dewisiadau o ran casglu gwastraff a chyflunio gwasanaeth glanhau yn barod ar gyfer y tendr terfynol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) ) / Swyddog Adran 151 fod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn y broses o gaffael contract casglu gwastraff newydd a'i fod bellach wedi cyrraedd diwedd y cam cyntaf o fewn proses dendro dau gam.  Cyn symud ymlaen i'r cam terfynol a derbyn y ceisiadau tendro terfynol gan y tendrwyr sydd wedi cwblhau cam cyntaf y broses, byddai lleihau nifer yr opsiynau gwasanaeth wedi'u costio yn lleihau'r risg ariannol a'r risgiau i’r gwasanaeth. 

 

Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio’n argymell i’r Pwyllgor Gwaith yr argymhellion fel y maent wedi’u nodi yn yr adroddiad.