Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 25ain Chwefror, 2020 9.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 65 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd fel a ganlyn:-

 

·      Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 24 Hydref, 2019.

·      Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 21 Ionawr, 2020.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol ac fe’u cadarnhawyd fel cofnod cywir:-

 

·      Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 24 Hydref, 2019 yn amodol ar enw’r Cynghorydd Dafydd Roberts yn cael ei gynnwys ar y rhestr ymddiheuriadau;

 

·      Cofnodion y pwyllgor arbennig a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2020.

 

4.

Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru pdf eicon PDF 675 KB

·           Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

 

·           Derbyn cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Jonathan Sweet, Rheolwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru GIG a Stephen Sheldon – Rheolwr Ardal, i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad ar berthynas Gwasanaeth Ambiwlans Cymru â’r Cyngor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gweithrediadau gyflwyniad i’r Pwyllgor a dywedodd fod y gwasanaeth ambiwlans wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd gan symud o fod yn wasanaeth cludiant yn bennaf, i un sy’n darparu gofal clinigol, a gwasanaethau cludiant sydd â phwyslais clinigol ar draws Cymru. Dywedodd fod 3 gorsaf ambiwlans yn Ynys Môn a 41 o staff. Rhoddodd wybodaeth ystadegol bellach i’r Pwyllgor am flaenoriaethau o ran categorïau coch, oren a gwyrdd digwyddiadau. Fodd bynnag, yn ystod 2019/2- mae patrwm y galw ar gyfer y gwasanaeth yn parhau i newid yn enwedig yn y maes galw ‘coch’ lle mae cynnydd sylweddol wedi’i weld; mae hyn ynghyd â nifer o ffactorau eraill wedi arwain at ostyngiad yn yr amseroedd ymateb. Nododd iddi fod yn flwyddyn heriol ar draws y sector iechyd yng Nghymru ac ers cyflwyniad y model ymateb clinigol ym mis Hydref 2015, bod ymateb y Gwasanaeth i’r galwadau categori coch wedi disgyn o dan y targed o 65% ond bod y gwasanaeth ambiwlans yn cydweithio â byrddau iechyd er mwyn datrys y mater. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth wedi cymryd camau gweithredu er mwyn gwell perfformiad a thrawsnewid y gwasanaeth ac yn enwedig mewn perthynas â:    

 

·        Cymryd rôl arwain system o ran gofal heb ei drefnu, gyda chefnogaeth gan

  • Lywodraeth Cymru.
  • Uwch Barafeddygon Ymarferol (APPs) yn gallu trin cleifion yn fwy effeithiol yn eu cartrefi, heb fod angen gofal yn yr ysbyty.
  • Buddsoddi mewn gwasanaethau i gleifion sydd wedi syrthio, neu gleifion sydd â dementia neu iechyd meddwl.
  • Cyfraddau “hear and treat” wedi gwella.
  • Parhau i weithio gyda’r byrddau iechyd ar lwybrau cyfeirio ar gyfer nifer o gyflyrau, sy’n caniatáu i’r gwasanaeth gyfeirio at wasanaethau yn y gymuned gyda Meddyg Teulu SICAT yn gwneud penderfyniadau clinigol.
  • Cynyddu nifer y staff sy’n gweithio ar sift yn ystod cyfnod y gaeaf
  • Adolygiad galw a chapasiti wedi mynd i’r afael ag effeithlonrwydd roster.

 

Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth yn parhau i edrych ar ddatrysiadau cynaliadwy er mwyn gallu mynd i’r afael â materion cymhleth. 

Adroddodd y Rheolwr Gweithrediadau ymhellach fod Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth ambiwlans wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol a chyfeiriodd yn benodol at y cynllun Gwqasanaeth Night Owl a ymatebodd i 115 o gleifion a oedd wedi ‘disgyn yn y cartref’ gyda dim ond 11 o gleifion wedi gorfod mynd i’r ysbyty. Nododd fod cynllun, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd â’r Gwasanaeth Tân ac Achub a oedd yn cynorthwyo â phobl a oedd yn ‘Disgyn yn y Cartref’, cynllun oedd hwn i gefnogi’r Gwasanaeth Ambiwlans pan mae’r gwasanaeth â galw uchel. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi stopio’r cyllid ar gyfer y cynllun hwn ond mae trafodaethau’n parhau er mwyn ail fuddsoddi yn y cynllun.  

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gweithrediadau at y gwaith gyda’r trydydd sector ac yn benodol at y Gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan mewn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Gweithio mewn partneriaeth gyda Medrwn Môn pdf eicon PDF 7 MB

Cyflwyno adroddiad gan Brif Swyddog Medrwn Môn.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Sian Purcell, Prif Swyddog – Medrwn Môn a Mr Andrew Hughes – Cadeirydd Bwrdd Rheoli Medrwn Môn i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Swyddog – Medrwn Môn ar y gwaith a gafodd ei ymgymryd ag ef gan Medrwn Môn yn ystod 2018/19 a’r cynnydd ar ddatblygu’r gwaith partneriaeth o fewn y Cyngor. Roedd copi o Adroddiad Blynyddol 2018-19 wedi’i atodi i’r adroddiad. 

 

Adroddodd Prif Swyddog Medrwn Môn mai prif nod Medrwn Môn yw hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol drwy weithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau ar Ynys Môn i sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn a blaenllaw i ddatblygu potential yr Ynys. Mae Medrwn Môn yn ran o Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW), sy'n bartneriaeth rhwng y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGSau) a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Mae Medrwn Môn yn un o 19 o CGSau yng Nghymru. Adolygwyd trefniadau’r bartneriaeth genedlaethol, Cefnogi Trydydd Sector Cymru, yn

ystod 2017-18 a 2018-19. 2018/19 oedd ail flwyddyn rhaglen newid uchelgeisiol Cefnogi Trydydd Sector Cymru a oedd yn canolbwyntio ar wella’r effaith y caiff Medrwn Môn fel partneriaeth wrth gefnogi’r trydydd sector yng Nghymru i ffynnu.

 

Nododd fod Medrwn Môn wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir er mwyn datblygu’r ‘Rhaglen Cynllunio Lle’ ar gyfer yr Ynys. Mae ‘Cynllunio Lle’ yn edrych ar sut y gellir gwneud cymunedau yn gryfach ac yn fwy gwydn yn y dyfodol drwy ddeall yr hyn sydd gan y cymunedau hynny o ran asedau – adeiladau, llecynnau gwyrdd, sgiliau a gwybodaeth, grwpiau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus. Cyfeiriodd at y cymorth a roddwyd gan Medrwn Môn wrth sefydlu Cynghrair Seiriol ac mae gwaith bellach yn cael ei ymgymryd ag ef o fewn Ward Twrcelyn fel rhan o’r ‘Rhaglen Cynllunio Lle’.    

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog - Medrwn Môn at y cynllun Linc Cymunedol Môn y mae Medrwn Môn yn gweithredu fel pwynt mynediad unigol er mwyn i bobl gael gwybodaeth am sefydliadau trydydd sector. Mae Linc Cymunedol yn derbyn cyswllt uniongyrchol gan unigolion ond hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan bartneriaid yn y Cyngor Sir ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae Medrwn Môn hefyd wedi ymwneud â’r rhaglen ‘Camau Cynnar Gyda’n Gilydd’ sydd â’r nod o hwyluso’r trawsnewidiad o blismona i fod yn rhywbeth aml-asiantaeth, seiliedig ar Brofiadau Niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) sy’n galluogi ymyrraeth gynnar a mynd at wraidd y mater.         

 

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Rheoli bod Medrwn Môn bellach wedi sefydlu ffyrdd newydd o weithio a’i fod yn ymgysylltu â thrigolion yr Ynys er mwyn galluogi ymgysylltiad cyhoeddus â chymunedau lleol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd yn yr Adroddiad Blynyddol at yr angen i recriwtio ymddiriedolwyr ychwanegol i fod yn aelodau o Fwrdd Rheoli Medrwn Môn. Holwyd i ba raddau oedd y sefydliad yn sicrhau bod unigolion â sgoliau penodol yn cael eu penodi.  

Ymatebodd y Prif Swyddog - Medrwn Môn bod grwpiau gwirfoddol o fewn cymunedau yn enwebu cynrychiolydd i gael ei ystyried ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru pdf eicon PDF 15 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Neil Culff, Rheolwr Rhanbarthol, Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru a Mr Gwyn Hughes, Swyddog Cynllunio Argyfwng, I’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – diweddariad ar y cyd gan y Rheolwr Rhanbarthol a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar faterion Cynllunio Argyfwng. 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mai pwrpas yr adroddiad oedd er mwyn darparu diweddariad ar y rhaglen o waith rhanbarthol ar gyfer cynllunio ac ymateb i argyfwng a’r rhai hynny o fewn y Cyngor ei hun. Nododd bod angen profi gwytnwch trefniadau cynllunio argyfwng a threfniadau parhad busnes drwy ymarferion. Bydd ymarferion argyfwng yn cael ei hymgymryd â nhw er mwyn gweld pa mor barod yw’r awdurdod i ddelio â phethau megis tywydd garw er enghraifft.    

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhanbarthol, Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru gyflwyniad ac fe adroddodd bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau trwy gydweithio ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru trwy’r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS), sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir y Fflint. Nodwyd fod NWC-REPS yn adrodd i Fwrdd Gweithredol, sy’n cynnwys swyddog o bob un o’r Awdurdodau Lleol sy’n bartneriaid i’r gwasanaeth. Mae’r Bwrdd yn derbyn adroddiadau am raglenni gwaith rhanbarthol ac yn eu monitro. Nodwyd fod gan Gyngor Sir Ynys Môn ddyletswyddau mewn perthynas â chynllunio argyfwng ac ymateb i argyfyngau dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004, Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd ar gyfer Argyfyngau a Gwybodaeth Gyhoeddus) 2001, a Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996. Nododd y cafodd y cafodd y Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd ar gyfer Argyfyngau a Gwybodaeth Gyhoeddus) eu hadolygu yn 2019. Roedd dyletswydd ar yr Awdurdod I baratoi cynllun oddi ar y safle ar gyfer Gorsaf Bŵer Wylfa ond nad oedd hyn bellach yn ofyniad. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rhanbarthol ar y ffrydiau gwaith y mae’r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng yn ymgymryd â nhw:-

 

  • Pandemig Ffliw – mae gwaith yn cael ei ymgymryd ag ef ar draws y rhanbarth ar y cyd â’r Gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol mewn perthynas â threfniadau parodrwydd ar gyfer pandemig ffliw y mae’r posibilrwydd yn cael ei ystyried yn ‘uchel iawn’ ar y Gofrestr Risg Genedlaethol a Chymunedol. 
  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth – Grŵp ‘4x4 Response Wales mae gwaith o fewn y trydydd sector yn darparu cludiant wrth gefn ar gyfer cyfnodau o dywydd garw. 
  • Cynllun Argyfwng Ffordd Glandwr, Llangefni – gwaith wedi’i ymgymryd ag ef gyda CNC er mwyn paratoi cynllun argyfwng penodol;
  • Prosiect EXODUS (rhannu gwybodaeth am bobl fregus) – adnabod pobl fregus mewn ardaloedd lle mae risg o lifogydd petai angen gwagio’r ardal oherwydd llifogydd. 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at y gweithgareddau cynllunio argyfwng diweddar a gyflawnwyd o fewn yr Awdurdod fel a ganlyn:- 

 

·      Profi Cynlluniau Rheoli Parhad Busnes – Ymarfer Synergedd, Ebrill

2019

·      Cynlluniau Rheoli Parhad Busnes Gwasanaeth diweddaru yn flynyddol;

·      Adroddiad Archwilio Mewnol - Parhad Busnes Gwasanaeth - a oedd wedi’i adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio ar 18 Chwefror, 2020.

·      Wylfa  - ymarfer bwrdd gwaith aml-asiantaeth wedi’i gynnal ym Medi 2020;

·      Hyfforddiant Staff Fforwm Cymru Gydnerth Leol yn trefnu hyfforddiant ar gyfer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 972 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolydd Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill 2020. 

 

Adroddodd y Swyddog Sgriwtini bod trefniadau wedi eu gwneud i aildrefnu’r cyfarfod ar 10 Mawrth, 2020 i’w gynnal ar 11 Mawrth, 2020. Nododd y bydd yr eitem – Cydweithio a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach yn cael ei gynnal yng nghyfarfod 16 Mehefin, 2020.  

 

PENDERFYNWYD nodi’r rhaglen waith hyd at Ebrill, 2020.