Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio
Dydd Mercher, 11eg Mawrth, 2020 10.00 o'r gloch

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel a nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2020 yn gywir.

 

Yn codi o’r cofnodion

 

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

 

Gofynnodd y Cynghorydd K P Hughes a anfonwyd llythyr at Lywodraeth Cymru yn mynegi siom fod cyllid ar gyfer y cynllun ‘Syrthio yn y Cartref’ wedi dod i ben ac y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried darparu arian ar gyfer y cynllun. Dywedodd y Swyddog Sgriwtini y byddai’r llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei anfon yr wythnos hon.

 

 

4.

Protocol siarad cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini

Cofnodion:

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio – Busnes Corfforaethol mai’r bwriad wrth gyflwyno Protocol Siarad Cyhoeddus yw darparu proses eglur a hwylus i’r cyhoedd fedru rhannu eu barn gyda’r Pwyllgorau Sgriwtini fel rhan o’u trafodaethau.

 

Rhoddodd y Cyfreithiwr - Llywodraethiant Corfforaethol a Chontractau amlinelliad o’r adroddiad i’r Pwyllgor a dywedodd, yn unol ag Adran 62 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ac o dan Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), bod rhaid i’r Cynghorau Sir sicrhau fod y rheini sy’n byw neu’n gweithio yn eu hardal yn gallu cyfrannu eu safbwyntiau ar unrhyw fater sydd i’w ystyried gan Bwyllgorau Sgriwtini. Dywedodd bod cael canllawiau clir yn rhoi cysondeb a thryloywder i’r cyhoedd, aelodau etholedig a swyddogion. Bydd cyflwyno’r Protocol Siarad Cyhoeddus yn cynorthwyo’r cyhoedd i ddeall y broses y bydd angen ei dilyn ac yn sicrhau fod proses gyson yn cael ei mabwysiadu sydd yn rheoli disgwyliadau’r cyhoedd mewn perthynas â’u cyfraniad. Mae’r adroddiad yn amlinellu manylion y protocol mewn perthynas â chais i siarad mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau a ganlyn:-

 

·      Cyfeiriwyd at y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i’r cyhoedd gyfrannu mewn cyfarfodydd a gofynnwyd a fyddai’r Protocol Siarad Cyhoeddus yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro pe byddai’r Cyngor llawn yn cymeradwyo’r Protocol Siarad Cyhoeddus ym mis Mai, yna byddai’r protocol yn cael ei ymgorffori yn y Cynllun Cyfathrebu ac y byddai’n cael ei adolygu ar ôl chwe mis, ac ar ôl 12 mis wedi hynny, er mwyn mesur a fu’r protocol yn effeithiol. Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd yn holl bwysig i’w galluogi i gyfrannu eu barn ar unrhyw fater a ystyrir gan y Pwyllgorau Sgriwtini;

·      Gofynnwyd a fydd y Protocol Siarad Cyhoeddus yn caniatáu i’r cyhoedd siarad yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod deddfwriaeth yn caniatáu i’r cyhoedd gymryd rhan yn ystod ymgynghoriad ar fater penodol, ond nid yw’r ddeddfwriaeth yn nodi bod rhaid mabwysiadu Protocol Siarad Cyhoeddus ond mae’n rhoi cyfle i’r cyhoedd gyfrannu mewn cyfarfodydd;

·      Gofynnwyd sut fyddai blaenoriaethu unigolion sy’n dymuno siarad mewn cyfarfodydd yn cael ei weinyddu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y byddai trefn yn cael ei gweinyddu i flaenoriaethu’r rhai sy’n gofyn am gael siarad mewn Pwyllgor Sgriwtini h.y. ‘o blaid ac yn erbyn’ ac yn cynrychioli pob safbwynt. Y Swyddogion Sgriwtini fydd yn gweinyddu’r protocol siarad mewn Pwyllgorau Sgriwtini;

·      Gofynnwyd a fydd rhaid i Gadeiryddion Pwyllgorau Sgriwtini geisio cyngor cyfreithiol pan dderbynnir cais hwyr gan y cyhoedd i gymryd rhan mewn Pwyllgor Sgriwtini. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro nad yw’n ofynnol i Gadeiryddion Sgriwtini geisio gwybodaeth gan Swyddogion perthnasol ond byddai modd datgan y byddai disgwyl i Gadeiryddion Sgriwtini geisio cyngor.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn mabwysiadu’r Protocol Siarad Cyhoeddus ar gyfer Sgriwtini gyda’r ychwanegiad y disgwylir i Gadeiryddion Sgriwtini geisio gwybodaeth gan Swyddogion Perthnasol os derbynnir cais hwyr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad cynnydd ar gyflawni'r Cynllun Lleisiant gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn

Cofnodion:

Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Adroddodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn y cafodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ei sefydlu yn 2016, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae gan y Bwrdd 4 aelod statudol, sy’n cynnwys y Cynghorau Sir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ynghyd â 10 o sefydliadau cyhoeddus sy’n mynychu cyfarfodydd y Bwrdd.

 

Cytunodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar feysydd blaenoriaeth i gyflawni amcan 2 y Cynllun Llesiant. Sefydlwyd yr Is-grwpiau a ganlyn dan Amcan 1 - Cymunedau sy’n ffynnu ac yn llewyrchus yn yr hir dymor.

 

·      Is-grŵp yr Iaith Gymraeg - gweithred gyntaf yr Is-grŵp oedd cymryd rhan yn y prosiect ‘Arfer’. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn un o’r partneriaid sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Mae Prifysgol Bangor wedi treialu’r prosiect ‘Arfer’ yn barod ac fe welwyd cynnydd yn y defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle yn ogystal â chynnydd mewn hyder wrth ddefnyddio’r iaith. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gofyn i Is-grŵp yr iaith Gymraeg ystyried sefydlu prosiect i edrych yn benodol ar sut i hyrwyddo ac annog defnyddio’r iaith Gymraeg mewn derbynfeydd;

·      Is-grŵp Effaith Newid Hinsawdd ar Lesiant ein Cymunedau - mae’r Is-grŵp wedi nodi’r angen i addysgu a gweithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol er mwyn eu paratoi ar gyfer heriau presennol ynghylch newid hinsawdd a’r rheini y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Cynhaliwyd trafodaethau ar lefel ranbarthol yn ddiweddar a chytunwyd y byddai’r Is-grŵp yn trefnu gweithdy ar addasu i newid hinsawdd i drafod y cymunedau a fyddai’n elwa o gynlluniau addasu i newid hinsawdd. Cynhaliwyd rhan gyntaf y gweithdy a chynhelir gweithdy pellach ym mis Mawrth 2020 a bydd adborth o’r gweithdy’n cael ei rannu gyda’r ddau awdurdod lleol yn dilyn hynny;

·      Is-grŵp Cartrefi ar gyfer Pobl Leol - mae’r Is-grŵp yn gweithio gyda’r sector dai i sicrhau mwy o gartrefi addas a fforddiadwy yn y llefydd iawn i ddiwallu anghenion lleol. Penodwyd Swyddog Rheoli Prosiect rhan amser i arwain gwaith yr Is-grŵp a chynhyrchwyd Cynllun Gweithredu ar ei gyfer;

·      Is-grŵp effaith tlodi ar Lesiant ein Cymunedau - mae tlodi’n parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Bwrdd ond nid oes is-grŵp yn arwain y gwaith ar hyn o bryd. Cytunwyd bod cyfle drwy’r Bwrdd i roi sylw i’r gwaith sydd eisoes yn digwydd yn y ddau awdurdod cyn ystyried opsiynau i’r Bwrdd weithio mewn ffordd fwy integredig a chydlynus. Yn ogystal, mae Swyddogion Cefnogi'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymgymryd â dau faes astudiaeth (1) trafnidiaeth, ac yn arbennig rhwystrau a wynebir gan unigolion ar draws y rhanbarth sy’n eu hatal rhag cyrraedd lleoliadau gwaith neu sefydliadau hyfforddi a (2) deall effaith tlodi ac amddifadedd ar fywydau trigolion ac ar eu llesiant.

 

Mae’r ddau faes blaenoriaeth, ‘Iechyd a Gofal Oedolion’ a ‘Lles a llwyddiant plant a phobl ifanc’, yn cyfrannu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Datblygu darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynllun Hamdden yn ceisio arddangos ymagwedd integredig tuag at ofal iechyd ataliol yn Ynys Môn drwy sicrhau y darperir cyfleusterau hamdden cynaliadwy ac o ansawdd uchel i alluogi preswylwyr i fyw bywydau actif, atal afiechyd a gwella llesiant. Nododd y cynhaliwyd nifer o sesiynau briffio i asesu dyfodol cyfleusterau hamdden yr Awdurdod.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y cynhaliwyd adolygiad o’r cyfleusterau hamdden i nodi gwelliannau cyfalaf posib i’r canolfannau hamdden. Amcangyfrifwyd y byddai’n costio £21m i adnewyddu’r canolfannau hamdden yn rhannol, yn unol ag arferion adeiladu modern. Byddai’n costio £37m i adeiladu tair canolfan hamdden newydd i gymryd lle’r rhai presennol. Bwriad y Cyngor yw cadw’r pedair canolfan hamdden bresennol ac, oherwydd y sefyllfa ariannol bresennol, cynigir bod angen rhaglen fuddsoddi ar raddfa lai, yn canolbwyntio yn gyntaf ar waith cynnal a chadw angenrheidiol a gwaith buddsoddi ar raddfa lai, i gynnal y ddarpariaeth bresennol yn y tymor byr a chanolig; gwerth y gwaith hwn yw £1m a £3m yn y drefn honno. Cyfeiriodd hefyd at y gwelliannau cyfalaf a wnaed yn barod ac y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. Ar hyn o bryd mae cyfleoedd ar gael i sicrhau lefel cymharol isel o arian allanol i wella pob canolfan hamdden a rhaid i’r gwasanaethau hamdden fedru cynhyrchu prosiectau cadarn i wneud cais am yr arian hwn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Masnachol Hamdden gyflwyniad byr i’r Pwyllgor a nododd bod nifer defnyddwyr y 4 canolfan hamdden wedi cynyddu i 530,000 yn ystod 2018/19. Mae’r canolfannau’n darparu nifer o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol ac yn annog ffordd iach o fyw. Ychwanegodd fod y brand Môn Actif wedi gwella canfyddiad y cyhoedd am gyfleusterau'r canolfannau hamdden a bod pecynnau debyd uniongyrchol wedi denu mwy o bobl i ddefnyddio’r adnoddau yn y pedair canolfan hamdden, ynghyd â phecynnau corfforaethol am bris gostyngol i fusnesau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau a ganlyn:-

 

·      Nodwyd bod y gwasanaeth hamdden yn bwriadu sicrhau cyllid ychwanegol i wella gwasanaethau hamdden ar yr Ynys. Gofynnwyd a fyddai modd derbyn arian grant gan Gemau’r Ynysoedd fydd yn cael eu cynnal ar Ynys Môn yn 2025. Dywedodd y Rheolwr Masnachol Hamdden na ragwelir y bydd arian grant mawr ar gael ar gyfer Gemau’r Ynysoedd yn 2025 gan fod Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd yn ystyried fod y cyfleusterau presennol ar Ynys Môn yn ddigonol ar ôl creu caeau 3G newydd ym Mhlas Arthur, Llangefni a Phorthaethwy ac ystafell ffitrwydd yng Nghaergybi. Cyfeiriodd at Dwrnamaint Pêl Droed Gemau’r Ynysoedd a gynhaliwyd ar Ynys Môn yn 2019 a oedd yn llwyddiant mawr a nododd mai nod Gemau’r Ynysoedd yw dathlu cyfleusterau hamdden a rhoi cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y gemau;

·      Cyfeiriwyd at gyflwyno’r pecynnau debyd uniongyrchol newydd a gynigir gan y canolfannau hamdden a dywedwyd bod defnyddwyr gwasanaeth wedi mynegi siom nad oes pecyn debyd uniongyrchol i deuluoedd yn cael ei gynnig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith

Cofnodion:

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Ebrill 2020.