Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Arbennig - Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Llun, 13eg Tachwedd, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

3.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pdf eicon PDF 2 MB

 

  1. Rhaglen Wella’r Bwrdd Iechyd – trosolwg lefel uchel
  2. Gwydnwch Gwasanaethau Clinigol Cymunedol ar Ynys Môn
  3. Cydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Ynys Môn

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad partner mwyaf y mae’r Awdurdod yn gweithio ag o er mwyn helpu pobl fregus a darparu’r gwasanaethau a’r gofal gorau ar gyfer trigolion yr Ynys. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi wynebu cyfnod heriol yn ystod y chwe mis diwethaf yn sgil cael ei roi o dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cael ei gydnabod. Er hynny, cydnabyddir hefyd fod gwelliannau wedi cael eu gwneud o fewn y Bwrdd Iechyd a’r gobaith yw y bydd y cynnydd yn parhau. Ychwanegodd fod y Cyngor yn ffodus fod ganddo ddau unigolyn sy’n aelodau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sef y Cynghorydd Dyfed W Jones, sydd yn Aelod Annibynnol o’r Bwrdd, a Mr Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd yn Aelod Cysylltiol.

 

Dywedodd Mr Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod gosod y Bwrdd Iechyd cyfan o dan fesurau arbennig, fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023, yn beth anghyffredin a digwyddodd hynny am fod nifer o bryderon am y ddarpariaeth, perfformiad sefydliadol a llywodraethiant. Cyfeiriodd at aelodaeth a strwythur y bwrdd a’r gobaith yw penodi rhagor o gynrychiolwyr i’r Bwrdd maes o law. Ychwanegodd Mr Edwards fod y Bwrdd Iechyd wedi wynebu cyfnod heriol yn ystod y ddegawd ddiwethaf a gwelwyd nifer o Brif Weithredwyr yn cael eu penodi ac yna’n gadael eu swyddi. Dywedodd fod profiadau pobl sy’n derbyn gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd yn cael ei fonitro a derbyniwyd sylwadau a oedd yn canmol y gwasanaeth iechyd ar ôl i gleifion gael eu gweld ac wedi iddynt dderbyn triniaeth, ond mae heriau’n bodoli o hyd o ran derbyn apwyntiadau a gwasanaethau yn y lle cyntaf.

 

 

Dywedodd Mr Edwards mai ei nod fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, a nod y Prif Weithredwr, yw gwella’r gwasanaethau a ddarperir a rhoi’r gefnogaeth iechyd a llesiant orau i’r bobl sy’n cael eu gwasanaethu gan y Bwrdd Iechyd. Dywedodd fod angen i’r Bwrdd Iechyd ymgysylltu mwy gyda chymunedau lleol a bod angen iddo ddarparu’r gwasanaethau hyn yn y cymunedau yma a bydd nifer o gyfarfodydd ymgynghori’n cael eu cynnal i ganfod beth yw barn pobl am y Bwrdd Iechyd. Ychwanegodd fod ymgysylltu a rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau lleol yn holl bwysig er mwyn cynnig y gwasanaethau gorau posib i’r bobl sy’n cael eu gwasanaethu gan y Bwrdd Iechyd.

 

Ychwanegodd Mr Edwards fod y Bwrdd Iechyd yn gyflogwr mawr a’i fod yn cyflogi bron i 20,000 o weithwyr ledled y rhanbarth ac mae effaith economaidd-gymdeithasol y Bwrdd yn bellgyrhaeddol.

 

Dywedodd Mrs Ffion Johnson, Cyfarwyddwr Ardal (Gorllewin) – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod perthynas waith dda’n parhau i fodoli rhwng yr Awdurdod hwn a’r Bwrdd Iechyd.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol:-

 

·         Nodwyd fod taith wella’r Bwrdd Iechyd yn cynnwys y 5 amcan allweddol a nodir yn yr adroddiad. Gofynnwyd pa heriau neu risgiau sy’n effeithio ar allu’r Bwrdd Iechyd i wireddu ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.