Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Virtual Meeting

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

FPL/2020/215 - Cais llawn ar gyfer codi 23 annedd (yn cynnwys 4 fflat) ynghyd â chreu dau fynediad newydd a datblygiad cysylltiedig ar dir ger Lôn Lwyd, Pentraeth

Cofnodion:

Dangoswyd cynllun y safle i’r Aelodau ac amlinellwyd natur y cais. Amlygwyd y rhan o’r safle a fyddai’n cael ei ddatblygu, ynghyd â ffin ddatblygu pentref Pentraeth, y brif briffordd, sef yr A5025, a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Dangoswyd gosodiad manwl y safle, gan gynnwys mynedfeydd, gwaith tirlunio arfaethedig ar ffurf gwrychoedd brodorol newydd ac ardaloedd awyr agored i gynnwys ardal chwarae i blant gydag offer chwarae a pherllan gymunedol. Esboniwyd y gymysgedd o unedau. Dangoswyd fideo o safle’r cais a oedd yn dangos golygfa o’r safle o’r ochr arall i’r A5025 a dangoswyd y mynediad arfaethedig i’r safle ynghyd â’r mynediad amaethyddol arfaethedig a fyddai’n rhoi mynediad i gae tu ôl i’r safle. Dangoswyd yr olygfa ar y safle ac esboniwyd y byddai’r cynnig yn defnyddio tua hanner safle’r cais.

 

Gofynnwyd cwestiynau am ddiogelwch y briffordd a diogelwch cerddwyr. Hysbyswyd yr Aelodau bod gwelliannau i’r mynediad i gerddwyr yn cael eu cynnig fel rhan o’r cais.

2.

FPL/2021/111 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn safle cabannau gwyliau, gosod 30 adeilad caban gwyliau, codi adeilad derbynfa, gwaith peirianyddol i greu llyn, adeiladu lonydd preifat, adeiladu ardaloedd parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Fferm Penmynydd, Caergeiliog

Cofnodion:

 

Dangoswyd map i Aelodau a oedd yn gosod safle’r cais yn ei gyd-destun ehangach a dangoswyd lleoliad yr A55, Caergeiliog a Bodedern mewn perthynas â’r safle. Rhoddwyd gwybodaeth gefndir am natur y cais.

 

Dangoswyd cynllun y safle a oedd yn rhoi cyd-destun ar gyfer y 3 fideo a ddangoswyd wedi hynny. Dangoswyd gosodiad manwl y safle hefyd a oedd yn dangos lleoliad y cabannau, y dderbynfa, y siop a’r caffi, yn ogystal â’r llyn hamddena arfaethedig. Roedd Fideo 1 yn rhoi golygfa ar draws safle’r cais i’r gogledd-orllewin; roedd fideo 2 yn dangos yr olygfa o’r trac mynediad preifat i’r briffordd gyhoeddus ac roedd fideo 3 yn dangos y daith gerdded o ben y trac mynediad ar draws Cyffordd 4 i’r safle bws agosaf. Roedd y llun olaf yn dangos safle’r cais yng nghyd-destun y ddau safle bws agosaf.

 

Gofynnwyd cwestiynau am ddiogelwch cerddwyr a chadarnhawyd bod y daith gerdded o fynedfa’r safle ar draws Cyffordd 4 yn golygu croesi dwy ffordd ymuno. Nodwyd bod palmant botymog yn bodoli i ddynodi mannau croesi diogel.

 

Darparwyd gwybodaeth ychwanegol yn seiliedig ar wybodaeth leol gan y Cynghorydd Llinos Medi, un o’r Aelodau Lleol.

3.

FPL/2019/251/EIA - Cais llawn ar gyfer codi uned ddofednod buarth (cynhyrchu wyau) ynghyd â storfa dail, biniau bwyd a gwaith cysylltiedig yn Cae Mawr, Llannerchymedd

Cofnodion:

 

Dangoswyd map Google i Aelodau a oedd yn gosod safle’r cais yn ei gyd-destun ehangach. Dangoswyd cynllun y safle a lleoliad yr uned ddofednod a’r storfa dail arfaethedig a thynnwyd sylw at eu mesuriadau. Rhoddwyd gwybodaeth i’r Aelodau am natur y cynnig. Dangoswyd y mynediad i’r safle o’r briffordd ynghyd ag ardaloedd tirlunio arfaethedig. Byddai darn o’r gwrych yn cael ei dynnu er mwyn gwneud lle i’r uned ddofednod. Tynnwyd sylw hefyd at safle bywyd gwyllt Coed Cae Mawr y mae rhan ohono yn cynnwys coetir hynafol. Dangoswyd cynllun o’r tir pori arfaethedig ar gyfer ieir maes a thynnwyd sylw at yr anheddau agosaf at safle’r cais.

 

Dangoswyd fideo i Aelodau o’r mynediad i’r fferm o briffordd y B5111; byddai angen trac newydd at yr uned ddofednod arfaethedig. Tynnwyd sylw at leoliad yr uned ddofednod, y tir pori ar gyfer ieir maes, y sied dail ac ardaloedd tirlunio arfaethedig. Dangoswyd yr olygfa tuag at Lyn Alaw.