Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Nicola Roberts ddatgan diddordeb personol a datganiad sy’n rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 12.1 ar y rhaglen.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 69 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Medi, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Medi, 2019 ac fe gadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 14 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle a gafwyd ar 18 Medi, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2019 ac fe gadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwr cyhoedd mewn perthynas â chais 10.2.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael ei gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 236 KB

7.1 - FPL/2019/1 - Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2019/1 – Cais llawn ar gyfer newid adeilad allanol yn saith fflat ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn  Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. 

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Medi, 2019 fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gynhaliwyd ymweliad â’r safle ar 18 Medi, 2019. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones, Aelod Lleol, bod yna 10 llythyr o wrthwynebiad wedi dod i law gan  drigolion lleol mewn perthynas â’r cais hwn oherwydd yr effaith andwyol y byddai’n ei gael ar yr ardal. Nododd fod y datblygwr wedi nodi yn Adran 11 ei gais nad oes angen am ‘ddargyfeiriad, diddymu a/neu greu hawliau tramwy’, ac mae hon yn ystyriaeth o bwys mewn perthynas â safle’r cais. Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad fod Adran 11 o’r ffurflenni ceisiadau cynllunio yn cyfeirio at hawliau tramwy cyhoeddus ac nid hawliau tramwy preifat. Dywedodd y Cynghorydd A M Jones hefyd fod y cais hwn angen nifer benodol o leoedd parcio gydag angen i gael mynediad i gefn yr adeilad a’i bod yn amlwg o’r ymweliad safle bod yr ardal yn gul ac nad oes unrhyw fynediad drwy’r cae i’r ochr arall o’r hen gapel i gefn yr adeilad. Nododd, er mai mater sifil yw dymchwel wal derfyn, ei bod yn amhosibl cael mynediad i gefn y capel. Dywedodd hefyd fod y datblygwr wedi tynnu rheiliau sydd o flaen y capel a hynny heb ganiatâd cynllunio. Dywedodd y Cynghorydd Jones y bydd datblygu’r hen  gapel hwn yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos ac mae pryderon wedi eu mynegi am y traffig a fydd yn teithio i’r datblygiad ac oddi yno. Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais.       

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad fod y datblygiad arfaethedig yn un ar gyfer 7 o fflatiau yn hen Gapel Carmel, Amlwch sy’n Adeilad Rhestredig Graddfa II. Mae’r cais yn dderbyniol yn nhermau polisi cynllunio ac y bydd yn cyfrannu tuag at dai fforddiadwy. Bydd y datblygiad arfaethedig yn adfer Adeilad Rhestredig Graddfa ii sydd mewn cyflwr gwael ac sydd wedi bod yn wag ers bron i 15 mlynedd. Cafodd ffin yr Ardal Gadwraeth ei hymestyn er mwyn cynnwys yr adeilad o fewn Ardal Amlwch. Mae Caniatâd Adeiladu Rhestredig eisoes wedi cael ei sicrhau ar gyfer newid defnydd y Capel. Gan fod yr Awdurdod Addysg wedi cadarnhau nad oes angen cyfraniad addysgol ond bod angen swm wedi’i gyfrifo tuag at dai fforddiadwy fel rhan o’r cais; byddai angen llunio cytundeb A106 mewn perthynas â’r cyfraniad tai fforddiadwy. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad bod pryderon lleol wedi eu mynegi mewn perthynas â’r parcio yn y datblygiad arfaethedig oherwydd y traffig trwm sydd eisoes yn bodoli; mae’r cais yn cynnig 11 lle parcio ac mae’r trefniadau parcio a mynediad i gerbydau yn cael eu hystyried yn dderbyniol gan yr Awdurdod Priffyrdd Lleol. Nododd fod Amod 5 fel rhan o unrhyw ganiatâd ar gyfer y cais, yn dweud bod angen i’r cyfleusterau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 308 KB

10.1 ­­- FPL/2019/201 - Tegfan, Llanynghenedl

 

10.2 - VAR/2019/49 - Trearddur House, Bae Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  FPL/2019/201 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Tegfan, Llanynghenedl.

 

        Mae’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn groes i bolisïau’r    

        Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd

        ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad fod cais wedi’i ganiatáu yn wreiddiol yn y 1960au ar gyfer annedd marchnad agored, Fodd bynnag, petai cais newydd yn cael ei gyflwyno byddai angen cyflwyno datganiad iaith Gymraeg ond mae sefyllfa wrth gefn mewn perthynas â’r cais hwn am annedd marchnad agored ac felly nid ystyrir bod angen datganiad iaith Gymraeg. Ystyrir fod y cais blaenorol yn debygol o gael ei weithredu ac mae’r newidiadau yn welliant o gymharu â’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol.     

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen. 

 

        PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  VAR/2019/49 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (11)(Cynllun Draenio) o ganiatâd cynllunio rhif 46C168A/FR (Codi annedd) a’r cais dilynol ar gyfer materion a gadwyd yn ôl cyfeirnod 46C168D/DA fel bod dŵr budr o'r annedd yn cael ei ollwng i waith trin carthffosiaeth ar y safle yn hytrach nag i’r system garthffosiaeth gyhoeddus ar dir ger Trearddur House, Bae Trearddur.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei ganiatáu.   

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Steve Bond (a oedd yn siarad o blaid y cais) fod y cais yn cynnig defnyddio cyfleuster trin carthion hunangynhwysol yn hytrach na defnyddio’r prif system garthffosiaeth. Mae’r amrywiad yn ganlyniad i’r anymarferoldeb o gysylltu â’r brif garthffos sydd wedi’i lleoli yn y cae pêl-droed tua 40 metr i’r de ac i mewn i dir ac sy’n berchen i drydydd parti. Er mwyn cysylltu â’r system garthffosiaeth bresennol byddai angen i gysylltiad cangen newydd o’r plot groesi’r cwrs dŵr presennol sydd ger ymyl ochr y cae pêl-droed. Amlygodd trafodaeth â Dŵr Cymru bod ganddynt bryderon ynghylch y risg y byddai cysylltiad cangen newydd yn cael ei ddifrodi ac y gallai hynny arwain at lygru’r cwrs dŵr. O ganlyniad, roedd Dŵr Cymru angen datrysiad peirianyddol sylweddol drud a ystyrir yn anymarferol ac yn annichonadwy ar gyfer datblygiad tŷ sengl, yn enwedig pan ychwanegir hyn at gost y draen a’r gost o sicrhau hawddfraint gan y perchennog tir trydydd parti. Mae’r wybodaeth hon am y costau wedi’i chyflwyno a’i derbyn gan yr Awdurdod Cynllunio a Chyfoeth Naturiol Cymru. Y cynnig yw i ddefnyddio cyfleuster trin carthion Klargester sydd, unwaith y bydd y carthion wedi eu trin, yn rhyddhau dŵr sy’n rhydd o unrhyw halogyddion ac sydd felly’n golygu y gall redeg i nant, afon neu ffos gerrig. Mae’r Adran Ddraenio wedi cymeradwyo’r profion mandylledd a gynhaliwyd ar y safle ac maent  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 136 KB

11.1 - HHP/2019/190 - Bryn y Môr, Lôn Bryn y Môr, Y Fali

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  HHP/2019/190 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ar gyfer creu anecs hunan gynaliadwy yn Bryn y Môr, Lôn Bryn y Môr, Y Fali.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny o fewn paragraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro yn ôl yr angen yn unol â 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.  

 

Amlinellodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad y cais i’r Pwyllgor a dywedodd nad oedd yn meddwl y byddai’r cais yn cael unrhyw effaith ar yr AHNE.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 307 KB

12.1 - OP/2019/5 - Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni

 

12.2 - FPL/2019/200 – Ysgol Gynradd Pentraeth, Lôn Tanrallt, Pentraeth

 

12.3 - FPL/2019/226 - Fronwen, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  OP/2019/5 – Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol             ynghyd â chodi 52 annedd fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig     sy’n cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir

            ger Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni.

 

Bu’r Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts, ddatgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais ond fe siaradodd fel Aelod Lleol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais a ddilynodd. Yr Is-gadeirydd oedd yn y Gadair ar gyfer y cais hwn. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais wedi’i leoli ar dir sy’n berchen i’r Cyngor Sir.   

 

Gofynnodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorydd Dylan Rees a Nicola Roberts i aelodau ymweld â’r safle gan fod y cais cynllunio yn un sylweddol a bod rhai pryderon wedi eu codi yn lleol am edrych drosodd, agosrwydd, rheoli traffig a mesurau lliniaru. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid cynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2  FPL/2019/200 – Cais llawn i godi ffensys yn Ysgol Gynradd Pentraeth, Ffordd Tanrallt, Pentraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais wedi’i leoli ar dir sy’n berchen i’r Cyngor Sir.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.  

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.3  FPL/2019/226 – Cais llawn ar gyfer codi tri chaban gwyliau, creu trac mynediad, diwygio’r fynedfa bresennol ynghyd â gosod cyfleuster trin carthffosiaeth ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. 

 

Amlinellodd y Rheolwr Rheoli Datblygiadau y cais i’r Pwyllgor a rhoddodd hanes cynllunio cais blaenorol a oedd wedi’i wrthod. Nododd fod llythyr pellach o gefnogaeth wedi’i dderbyn mewn perthynas â’r cais. Mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno gwelliannau i’r fynedfa i gerbydau er mwyn datrys y trydydd rheswm dros wrthod yn y cais blaenorol. Mae uchder y cabanau gwyliau arfaethedig hefyd wedi’i ostwng. Fodd bynnag, nid yw lleoliad y cabanau gwyliau wedi newid ac maent mewn lle amlwg ar y safle heb unrhyw gyfleusterau cyfagos. Roedd yr argymhelliad yn un o wrthod.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y safle ar y brif ffordd rhwng Pentre Berw a Niwbwrch a’i fod ger yr atyniad twristiaeth Tacla Taid. Dywedodd fod yr ardal yn atyniad i dwristiaid gan ei fod ger Traeth Llanddwyn; mae’r holl gyfleusterau o fewn pellter cerdded i bentrefi lleol. Mynegodd y Cynghorydd Owen mai cais fel yr un hwn yn Fronwen yw’r math o beth y mae twristiaid yn ddymuno ei gael a does dim gwrthwynebiad yn lleol i’r cais na gan Gyngor Cymuned Rhosyr. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod cyfleuster o’r fath i dwristiaid yn bwysig i’r ardal a’r Ynys. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 258 KB

13.1 - FPL/2018/57 - Parc Tyddyn Bach, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  FPL/2019/57 – Cais llawn ar gyfer codi 46 o dai ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio mewn perthynas â’r cais hwn ym Mai 2019 yn amodol ar gwblhau cytundeb cyfreithiol. Wrth baratoi cytundeb cyfreithiol, mae manylion tirlunio diwygiedig wedi eu derbyn ac mae angen cyfeirio’r cais yn ôl at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Rhoddodd fanylion cefndirol am y cais o ran tirlunio a phlannu coed yn y cais cynllunio gwreiddiol a gyflwynwyd. Mae pryderon wedi’u codi nad yw’n bosibl gwneud y gwaith plannu coed yn unol â’r cynllun a gyflwynwyd i’r Awdurdod Cynllunio o ganlyniad i leoliad y ffos. Felly, mae manylion tirlunio diwygiedig wedi eu cyflwyno sy’n golygu y bydd y coed bellach yn cael eu plannu yng ngerddi’r anheddau newydd, y bydd ffensys yn cael eu codi ar y ffiniau ynghyd â llwyni a gwaith ail hadu. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad yr ystyrir y manylion tirlunio diwygiedig yn dderbyniol ond nad yw’r cyfnod cyhoeddusrwydd lle gall pobl gyflwyno eu barn yn dod i ben tan 9 Hydref, 2019 ac mae angen pŵer wedi’i ddirprwyo unwaith y bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben. Mae un gwrthwynebiad wedi’i dderbyn yn honni na fyddai’r llwyn arfaethedig yn tyfu’n ôl i’r uchder angenrheidiol a bod angen i erddi’r anheddau gael eu gosod yn ôl 1 metr. Mynegodd y gwrthwynebydd hefyd nad oes digon o le i gynnal a chadw’r ffos gyfagos a gofynnodd bod ffens yn cael ei chodi yn ystod y gwaith adeiladu ar y safle. Mae’r Swyddog Tirlunio wedi cadarnhau bod y manylion tirlunio diwygiedig yn dderbyniol ac mae’r Adran Ddraenio yn ystyried nad yw’r gwaith plannu yn amharu ar y gwaith o gynnal a chadw’r ffos gerllaw. Nododd fod y pellter o’r tai yn fwy na’r disgwyl o fewn y canllawiau cynllunio ac mae Amod 13 o fewn adroddiad y Swyddog yn mynd i’r afael â chodi ffensys yn ystod y gwaith o adeiladu’r datblygiad a bydd angen cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu a’i gymeradwyo cyn i’r datblygiad ddechrau.                

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygiadau mai’r argymhelliad yw i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ail gadarnhau ei benderfyniad o ganiatáu’r cais gyda chytundeb cyfreithiol A106 fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog ac i gynnwys y manylion tirlunio diwygiedig a gynigwyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R O Jones.  

 

            PENDERFYNWYD:-

 

  • caniatáu’r cais yn amodol ar y cynllun tirlunio a chytundeb cyfreithiol A106 fel y nodir yn yr adroddiad ac i gynnwys y gwaith tirlunio ychwanegol yn y safle o fewn y cytundeb cyfreithiol;

·         rhoi hawl i weithredu i Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.