Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg cyhoeddi’r rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwyno cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, 2019 i'w cymeradwyo ganddo.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, 2019 fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 808 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng mis Hydref, 2019 a mis Mai, 2020 i'w ystyried a nodwyd yr eitemau newydd a ganlyn -

 

Ar gyfer cyfarfod 28 Hydref, 2019

 

          Eitem 4 - Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd)

           Eitem 7 - Gostwng yr oedran derbyn plant i Ysgol Llandegfan

 

Ar gyfer cyfarfod 25 Tachwedd, 2019

 

           Eitem 14 - Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21

           Eitem 15 - Bargen Twf Gogledd Cymru

 

Ar gyfer cyfarfod 17 Chwefror, 2020

 

          Eitemau 19 i 32 - Cyllideb 2020/21 ac eitemau sy’n gysylltiedig â Chyllid

           Eitem 34 - Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Hydref, 2019 i Mai, 2020 fel y’i cyflwynwyd.

5.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2018/19 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol erbyn 31 Hydref bob blwyddyn; mae'r adroddiad yn ddogfen statudol sy'n dadansoddi perfformiad dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y gwelliant a'r blaenoriaethau yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol a Chynllun y Cyngor. Mae ffurf Adroddiad Perfformiad Blynyddol eleni ychydig yn wahanol i rai'r blynyddoedd diwethaf gan ei fod yn edrych ar gynnydd a wnaed gan y Cyngor o ran cyflawni yn erbyn ei Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2018/19 fel yr amlinellwyd o dan y 3 amcan blaenoriaeth a nodir ym mharagraff 1.3 yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn falch o allu adrodd, ar sail ei berfformiad yn erbyn dangosyddion cenedlaethol, a elwir yn Fesurau Atebolrwydd Perfformiad (MAP), fod safle’r Cyngor trwy’r wlad wedi gwella unwaith eto yn 2018/19. Er y bu rhai siomedigaethau yn 2018/19 gydag atal datblygu gorsaf Wylfa Newydd a'r llithriad ar Raglen Moderneiddio Ysgolion yn ardaloedd Llangefni a Seiriol, bu nifer o lwyddiannau nodedig hefyd gan gynnwys cwblhau Ffordd Gyswllt Llangefni, adfywio Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi sydd bellach yn gartref i'r llyfrgell leol, cwblhau ac agor yr Ysgol Santes Dwynwen newydd yn Niwbwrch ynghyd â chwblhau a phrydlesu 7 uned fusnes newydd yn Llangefni gydag 8 uned arall yng Nghaergybi yn cael caniatâd cynllunio a’r gwaith adeiladu yn cychwyn yn 2019/20. Llwyddodd y Gwasanaeth Tai i ddod â 78 o dai gwag yn ôl i ddefnydd ledled yr Ynys ac adeiladwyd cyfanswm o 48 o gartrefi newydd yn ystod y flwyddyn. Wrth dynnu sylw at y cyflawniadau hyn a rhai eraill, diolchodd yr Aelod Portffolio i staff y Cyngor gan na fyddai’r llwyddiannau hyn wedi bod yn bosib heb eu hymroddiad a'u gwaith caled. Wrth edrych ymlaen, er bod y Cyngor yn parhau i wynebu her ac ansicrwydd wrth ddarparu ei wasanaethau, roedd yn hyderus serch hynny y gallai, gyda chefnogaeth ei staff a'i bartneriaid, wneud gwelliannau pellach a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl Ynys Môn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor Sgriwtini, wrth ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn ei gyfarfod ar 11 Medi, yn falch o nodi perfformiad y Cyngor fel y meincnodwyd ef yn erbyn perfformiad Cynghorau eraill yng Nghymru a'r gwelliant yn ei safle cenedlaethol o ganlyniad. ‘Roedd yn ddiolchgar i'r Arweinydd a'r Swyddogion a fynychodd y cyfarfod am ymateb yn eglur i'r cwestiynau a godwyd ar yr adroddiad. Roedd y Pwyllgor Sgriwtini yn falch o argymell yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y llwyddiannau lu y mae'r adroddiad yn dyst iddynt a chytunwyd bod y llwyddiant hwnnw i’w briodoli i arweinyddiaeth glir, gweithlu ymroddedig a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 1, 2019/20 pdf eicon PDF 698 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2019/20 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod cerdyn sgorio cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20 yn dangos bod mwyafrif y dangosyddion a gafodd eu monitro yn perfformio'n dda yn erbyn targedau gydag ychydig iawn o feysydd yn dangos yn goch ar y cerdyn sgorio. Os yw meysydd yn tanberfformio, mae camau lliniaru yn cael eu rhoi ar waith i wella'r perfformiad yn Chwarter 2 (adran 4 yr adroddiad).

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod rhai newidiadau wedi'u gwneud i'r cerdyn sgorio er mwyn darparu trosolwg mwy strategol o berfformiad, a hynny’n  dilyn gweithdy yn yr haf gydag aelodau o'r UDA, y Pwyllgor Gwaith a'r Pwyllgor Gwaith Cysgodol; mae'r newidiadau hefyd wedi arwain at aliniad agosach rhwng y Dangosyddion Perfformio Allweddol sy’n ymwneud â monitro perfformiad a thri amcan strategol y Cyngor fel y nodir hwy ym mharagraff 2.1 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, fod y Pwyllgor Sgriwtini yn ei gyfarfod ar 11 Medi wedi trafod y meysydd lle bu dirywiad mewn agweddau ar berfformiad yn Chwarter 1 yn y meysydd tai, cynllunio a gwasanaethau plant. Roedd y Pwyllgor, wrth nodi'r camau lliniarol yr oedd y gwasanaethau hynny'n eu cymryd i wella perfformiad yn y meysydd dan sylw, fel yr eglurwyd gan y Swyddogion yn y cyfarfod, wedi derbyn y sicrwydd a roddwyd ynghylch y cynnydd a oedd yn cael ei wneud.

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1 2019/20, gan nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Rheoli yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac i dderbyn y mesurau lliniaru fel maent wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

7.

Ffederaleiddio Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar ffederaleiddio Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Yn dilyn cais gan gyrff llywodraethu Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre ym mis Mawrth, 2019 i gynnal ymgynghoriad ar sefydlu trefniant ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cyfarfodydd wedi eu cynnal ym mis Ebrill a mis Mai yn Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre yn y drefn honno er mwyn ystyried yr opsiynau a'r broses ymgynghori. Yn dilyn y cyfarfodydd hyn, daethpwyd i'r casgliad mai ffederaleiddio oedd yr opsiwn gorau i'r ddwy ysgol dan sylw ac ym mis Mai, 2019 awdurdodwyd swyddogion gan y Pwyllgor Gwaith i fwrw ymlaen i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i ffederaleiddio. Rhedodd y broses ymgynghori am gyfnod o 6 wythnos rhwng 3 Mehefin a 15 Gorffennaf, 2019 ac ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau. Roedd yr ymateb cadarnhaol iawn a gafwyd gan rieni plant yn y ddwy ysgol yn canmol yr arweinyddiaeth, y staff a'r ethos yn y ddwy ysgol (Roedd crynodeb yn yr adroddiad ac yn Atodiad 2).

 

Mewn ymateb i gwestiynau am fanteision posib ffederaleiddio o ran gwell effeithlonrwydd ariannol ac ansawdd gwell y ddarpariaeth addysg, eglurodd y Swyddog Effeithiolrwydd Ysgolion fod Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre eisoes yn gweithio mewn partneriaeth wirfoddol sy'n cael ei monitro gan grŵp partneriaeth. Er na fydd y trefniant ffederaleiddio yn arwain at unrhyw newidiadau mawr, bydd yn golygu parhad y cydweithredu llwyddiannus sy'n bodoli ar hyn o bryd. Bydd y ddwy ysgol yn rhedeg eu cyllidebau eu hunain ac er na ragwelir y bydd ffederaleiddio yn cynhyrchu arbedion sylweddol, daw â manteision ar ffurf cydgysylltu’r defnydd gorau o adnoddau ac arbenigedd addysgu’r ddwy ysgol. Bydd y newid mwyaf yn sgil ffederaleiddio yn golygu bod y ddwy ysgol yn cael eu rheoli o dan un corff llywodraethu a fydd yn golygu llai o bwysau ar y Pennaeth a sefydlogrwydd o ran arweinyddiaeth yr ysgol. Mae'r cynghorau ysgol hefyd yn gweld manteision i'r cynnig o safbwynt rhannu teithiau a gweithgareddau allgyrsiol, gwneud ffrindiau newydd ac effaith gadarnhaol ar chwaraeon, cystadlaethau a gemau.

 

Penderfynwyd awdurdodi Swyddogion i symud ymlaen gyda’r broses ffederaleiddio rhwng Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre.

8.

Adroddiad Cynnydd Chwarterol y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 267 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma o fewn y Gwasanaeth i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddatblygiadau yn y cyfnod ers y diweddariad chwarterol blaenorol gan gyfeirio'n benodol at y canlynol -

 

 

           Meysydd y gwnaed cynnydd ynddynt o dan y Cynllun Datblygu Gwasanaeth 3 blynedd newydd (sydd wedi disodli'r Cynllun Gwella Gwasanaeth blaenorol).

           Gwaith ac effaith y Tîm Teuluoedd Gwydn sy'n camu i mewn pan fo gan deuluoedd anghenion uchel, a hynny er mwyn darparu ymyrraeth a chefnogaeth ddwys i gynnig cymorth pan fo teuluoedd yn chwalu, i atal plant rhag gorfod derbyn gofal ac i ddychwelyd plant sydd wedi bod yn derbyn gofal i’w teuluoedd.

           Prosiect Lleisiau o Ofal Cymru sy'n ceisio hwyluso ymgysylltiad gwell â phlant lleol sy’n derbyn gofal a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal, a hynny trwy wrando ar eu profiadau a gwella gwasanaethau ar eu rhan trwy ddatblygu Grŵp Cyfranogi ar gyfer plant sydd yn derbyn gofal neu sydd wedi bod yn derbyn gofal. Bydd y grŵp yn helpu i gydgynhyrchu strategaeth ar gyfer plant mewn gofal a gadawyr gofal yn Ynys Môn ynghyd â Siarter Rhianta Corfforaethol.

           Maethu a Recriwtio Gofalwyr Maeth. Ym mis Mehefin cynhaliwyd y Pythefnos Maethu sy'n ddigwyddiad blynyddol i godi proffil gofalwyr maeth ac i gynorthwyo i recriwtio rhai newydd. Mae recriwtio darpar ofalwyr maeth wedi cael hwb gan y pecyn gofal maeth newydd a gyflwynwyd ym mis Ebrill, 2019 ac mae'r ymgyrch recriwtio wedi arwain at y posibilrwydd y bydd 24 o welyau gofal maeth newydd ar gael yn Ynys Môn erbyn mis Hydref, 2019.

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y bydd y Gwasanaeth yn cynnal adolygiad o’r sefyllfa yn ystod y chwe mis nesaf drwy’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol wrth i flwyddyn gyntaf y Cynllun Datblygu Gwasanaeth ddod i ben.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor wedi cael diweddariad tebyg yn ei gyfarfod ar 11 Medi ac yn ogystal â chadarnhau ei fod yn fodlon â'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud o fewn y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a chyflymder y cynnydd, roedd y Pwyllgor hefyd wedi ailgadarnhau ei gefnogaeth i Arweinydd y Cyngor wrth iddi beidio â gosod targed ar gyfer gostwng nifer y plant sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod. Yn ogystal, derbyniodd y Pwyllgor ei adroddiad cyntaf gan y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol sydd newydd ei sefydlu (ac sydd wedi disodli'r Panel Gwella Gwasanaethau Plant).

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor Gwaith y materion canlynol -

 

           Bod yr adroddiadau cynnydd chwarterol a gyflwynir dros amser yn dangos, wrth i'r Gwasanaeth barhau ar ei daith wella, fod y gwelliannau y mae wedi'u gwneud hyd yma yn gwreiddio ac yn arwain at newid cadarnhaol. Yn wyneb  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Croeso Menai i fod yn Noddwyr Cymunedol i Dderbyn Teulu o Ffoaduriaid o Syria pdf eicon PDF 424 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gefnogi cais Croeso Menai i’r Swyddfa Gartref i fod yn noddwyr cymunedol i deulu o ffoaduriaid sydd angen eu hailsefydlu.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod Grŵp Croeso Menai yn cynnwys 12 aelod ag arbenigedd mewn amrywiol feysydd sy'n gweithio'n galed i lunio cais i'r Swyddfa Gartref i ddod yn noddwr cymunedol fel y gellir ailsefydlu teulu bregus arall o Syria yn ardal Menai (mae 5 teulu bregus o Syria eisoes wedi cael eu croesawu gan Ynys Môn). Gan nad yw'r Grŵp wedi dod o hyd i gartref addas i'r teulu hyd yma a allai fod ar y naill ochr neu’r llall i’r Fenai, mae angen cefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd er mwyn cyflwyno'r cais.

 

Noddir Croeso Menai gan Dinasyddion Cymru sy'n rhan o Citizens UK; Bydd Dinasyddion Cymru yn gweithredu fel gwarantwr ar gyfer Croeso Menai pe bai'r grŵp yn methu â chyflawni yn y dyfodol ac o dan amgylchiadau o'r fath, byddent yn cymryd drosodd y gwaith o gefnogi unrhyw deuluoedd sy'n derbyn cefnogaeth gan y noddwyr cymunedol. Amlinellir gofynion y Swyddfa Gartref o ran Noddwyr Cymunedol yn yr adroddiad ynghyd â rôl yr Awdurdodau Lleol. Gall yr Awdurdod Lleol wrthod cefnogi cais os oes ganddo bryderon am  addasrwydd yr ardal ailsefydlu arfaethedig neu am allu'r noddwr cymunedol i ddarparu cefnogaeth i'r teulu sydd wedi'i ailsefydlu. Gall hefyd wrthod derbyn teulu os yw'n teimlo na ellir cwrdd ag anghenion y teulu yn yr ardal leol. Cadarnhaodd y Swyddog ei fod yn hyderus bod y trefniadau i alluogi Croeso Menai i symud ymlaen wedi eu sefydlu.

 

Penderfynwyd cefnogi cais Croeso Menai i’r Swyddfa Gartref i fod yn Noddwyr Cymunedol i dderbyn teulu o ffoaduriaid o Syria petaent yn cael eu lleoli ar Ynys Môn.

 

10.

Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol sy'n ymgorffori Cynllun Adfywio Gogledd Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod Cynllun Lle Gogledd Ynys Môn wedi'i greu o ganlyniad uniongyrchol i'r ymatebion a gafwyd gan aelodau'r cyhoedd ar sail eu blaenoriaethau ar gyfer adfywio'r ardal. Amcanion y cynllun yw darparu cyfeiriad teithio clir a darparu sylfaen i sicrhau swyddi cynaliadwy, buddsoddiad a chyfleoedd i ardal Gogledd Ynys Môn yn erbyn cefndir o Hitachi yn atal gwaith ar Wylfa Newydd a chau ffatri Rehau yn Amlwch. Cynhaliwyd proses ymgynghori gychwynnol gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid dros haf 2018 i nodi safbwyntiau, problemau, syniadau a blaenoriaethau. Cafwyd dros 600 o ymatebion i’r broses hon,  gan adlewyrchu pryder pobl leol am ddyfodol eu hardal a'u hawydd i weld rhywbeth yn cael ei wneud i'w gwella. Cyhoeddwyd y cynllun drafft ym mis Ebrill, 2019 ac yn sgil ymgynghoriad ar y cynllun gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid, fe gafwyd 48 o ymatebion a oedd yn eithriadiol o gefnogol i'r cynllun a'i gynnwys. Gan fod yr adnoddau sydd ar gael gan y Cyngor yn gyfyngedig, datblygwyd cais cyllido allanol i sicrhau cymorth allanol ychwanegol gan gronfa economaidd-gymdeithasol yr Asiantaeth Datgomisiynu Niwclear (ADN). Gan gydnabod effaith cyhoeddiadau Hitachi a Rehau, addawodd yr ADN gymorth ariannol o £ 450k i helpu i ddatblygu Cynllun Adfywio Gogledd Ynys Môn y Cyngor ac i gefnogi creu cyfleoedd economaidd newydd ar yr Ynys. Defnyddir yr arian i ddatblygu rhai o'r cysyniadau a'r syniadau yn y Cynllun i’r cam nesaf ac i ddenu cyllid / grantiau o ffynonellau eraill. Fodd bynnag, rhaid nodi y bwriedir i'r Cynllun ffurfio un rhan fach yn unig o strategaeth homogenaidd gyffredinol i adfywio ac ailddatblygu ardal Gogledd Ynys Môn mewn cydweithrediad â phartneriaid a rhanddeiliaid.

 

Er mwyn medru rhyddhau’r cyllid, (tua £165k y flwyddyn am 3 blynedd) dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol  fod yn rhaid i'r Cyngor gyflwyno rhaglen yn flynyddol y mae'n rhaid i'r ADN ei chymeradwyo. O ystyried bod nifer o grwpiau ac unigolion wedi cysylltu â'r Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn i ofyn am arian ar gyfer eu prosiectau / syniadau, bydd yn rhaid i'r Cyngor gymryd agwedd gadarn a disgybledig o ran sut mae'r cyllid yn cael ei ddefnyddio a rhaid blaenoriaethu'r prosiectau / gweithgareddau hynny a fydd yn cael effaith hirdymor ar yr ardal o ran denu cyfleoedd cyflogaeth a buddsoddi.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a'r Cynllun fel un sy'n darparu sylfaen dda ar gyfer ailddatblygu Gogledd yr Ynys gyda'r nod o greu swyddi a ffyniant i'r ardal ar adeg pan fo'r rhanbarth wedi dioddef ergydion economaidd difrifol. Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i gymunedau Gogledd yr Ynys am eu hymateb i'r ymgynghoriad a'r Cynllun Adfywio ac am ymrwymo i weithio gyda'r Cyngor i wireddu’r cynllun.

 

Penderfynwyd –  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Monitro’r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2019/20 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, yn seiliedig ar y wybodaeth ariannol sydd ar gael am dri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hyd at ddiwedd mis Mehefin, 2019, mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2019/20 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw gorwariant o £ 1.60m (1.18% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2019/20) a hynny yn bennaf oherwydd yr un math o bwysau ar y gyllideb ag a fu yn 2018/19, sef yn benodol mewn perthynas â Chludiant Ysgol a Gwasanaethau Oedolion. Rhoddwyd y system Drafnidiaeth “One” ar waith yn 2018/19 ac mae hynny, ynghyd ag ymarfer aildendro, wedi arwain at ostyngiad o tua £230k yn y gorwariant cyffredinol ar drafnidiaeth ysgol o gymharu â’r gorwariant a fyddai wedi digwydd fel arall.  Ar gyfer Gwasanaethau Oedolion, mae trosglwyddo un lleoliad cost uchel cymhleth iddo o’r Gwasanaeth Plant wedi cyfrannu at y gorwariant o £ 599k a ragwelir yn y maes Anableddau Dysgu. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn anodd proffwydo’n gywir yn gynnar yn y flwyddyn ariannol ond mae profiadau yn y gorffennol wedi dangos bod y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn tueddu i fod yn well na’r amcangyfrif yn y chwarter cyntaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er bod yr adroddiad yn dangos yn Atodiad 1 fod gwariant ysgolion yn unol â’r gyllideb a ddirprwywyd iddynt, nid yw’n rhoi arwydd o beth fydd yr effaith gyffredinol ar falansau ysgolion. Rhagwelir y bydd balansau ysgolion yn parhau i ostwng, ac erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol y byddant yn sylweddol is na’r balans o £600k a oedd yn sefyll ar ddiwedd 2018/19.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ôl-effeithiau ymosodiadau olew Saudi Arabia ar brisiau ynni a'r effaith bosib ar gyllideb refeniw'r Cyngor, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod gan y Cyngor sawl contract tymor hir lle mae'r  pris yn sefydlog am nifer o flynyddoedd. Felly, os bydd pris olew yn codi yn y tymor byr ac wedyn yn gostwng eto, ni fydd yn cael effaith sylweddol ar y Cyngor. Fodd bynnag, os bydd pris olew yn parhau i fod yn uchel pan ddaw'r amser i’r Cyngor aildrafod ei gontractau, yna mae'r Cyngor yn debygol o deimlo'r effeithiau bryd hynny.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiad A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2019/20.

           Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir yn Atodiad C.

           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad Ch yr adroddiad a chymeradwyo defnyddio unrhyw falans sy’n weddill ar y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1, 2019/20 pdf eicon PDF 791 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y gwariant gwirioneddol hyd at 30 Mehefin 2019 yn £3.076m o gymharu â phroffil o £4.623m. Mae mwyafrif y prosiectau ar darged i gael eu cwblhau o fewn y gyllideb. Gan dynnu sylw at Gynllun Lliniaru Llifogydd Biwmares, dywedodd yr Aelod Portffolio fod y contractwr newydd ar y cynllun (a benodwyd i gymryd lle'r contractwr a fethodd, sef Dawnus) wedi cyflwyno tendr diwygiedig yn seiliedig ar y wybodaeth newydd am y gwaith yr oedd angen ei wneud. Cafodd y ffigwr hwn ei gynnwys mewn cais newydd i Lywodraeth Cymru i gwrdd â’r holl gostau newydd a chostau oedd yn  gysylltiedig â’r ffaith bod Dawnus wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Er bod y cais wedi'i gymeradwyo, gwelwyd cynnydd o £0.22m yn yr ymrwymiad y byddai angen i’r Cyngor ei wneud o ran cyllid cyfatebol.   Oherwydd costau uwch y cynllun gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith ailddyrannu £ 200k o arian cyfatebol o Gynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Traeth Coch i Gynllun Lliniaru Llifogydd Biwmares gan nad yw'r Cyngor mewn sefyllfa i symud ymlaen â chynllun Traeth Coch yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd y £0.222m ychwanegol yn cael ei ariannu gan y gwasanaeth o'i gyllidebau cyfredol.

 

Penderfynwyd –

 

           Nodi’r cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2019/20 yn Chwarter 1.

           Cymeradwyo ailddyrannu’r cyllid cyfatebol o £200k o Gynllun Lliniaru Lifogydd Traeth Coch i Gynllun Lliniaru Lifogydd Biwmares.

13.

Monitro Cyllideb y CRT – Chwarter 1, 2019/20 pdf eicon PDF 313 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2019/20 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y sefyllfa refeniw ar gyfer y chwarter cyntaf yn dangos gorwariant o £4k. Mae'r rhagolwg incwm bellach £75k yn well na'r gyllideb wreiddiol, a rhagwelir y bydd y gwariant yn unol â’r gyllideb. Mae’r gwariant cyfalaf £342k yn uwch na'r gyllideb a broffiliwyd ac mae'r gwariant a ragwelir yn £142k yn uwch na'r gyllideb. Felly mae'r diffyg a ragwelir (gan gynnwys refeniw a chyfalaf) £67k yn uwch na'r gyllideb a hynny’n bennaf oherwydd y gwariant cyfalaf uwch na'r gyllideb.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yr Awdurdod yn parhau i ddefnyddio balansau CRT i ariannu gwariant cyfalaf yn y lle cyntaf ond wrth i'r balansau hynny gael eu defnyddio, bydd yr Awdurdod yn edrych ar fenthyca’n allanol. Yn dilyn newidiadau i reolau Llywodraeth Cymru sy'n caniatáu mwy o gyfle i fenthyca, bydd yr Awdurdod yn adolygu ei gynlluniau tai i sefydlu faint o dai cyngor newydd y gall eu datblygu trwy fenthyca, tra hefyd yn sicrhau bod y swm benthyca yn fforddiadwy i'r CRT.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol

 

        Y sefyllfa a amlinellir o ran perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1, 2019/20.

        Yr alldro tybiedig ar gyfer 2019/20.

14.

Cynllun Ariannol Tymor Canol 2020/21 i 2022/23 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 oedd yn ymgorffori'r Cynllun Ariannol Tymor Canol (CATC) ar gyfer 2020/21 i 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae'r CATC yn nodi anghenion adnoddau tebygol y Cyngor am y tair blynedd ariannol nesaf ac yn manylu ar sut mae'r Cyngor yn bwriadu cydbwyso'r gofynion hynny gyda’r cyllid sydd ar gael.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y CATC wedi'i gwblhau yn ystod cyfnod o ansicrwydd ynghylch economi'r DU a'r effaith ar lefelau gwariant cyhoeddus yn y dyfodol. Mae'r ansicrwydd yn ei gwneud hi'n bwysicach fyth bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad mewn da bryd ynghylch ei setliad ariannol dangosol ar gyfer awdurdodau lleol am y flwyddyn nesaf a thu hwnt, yn enwedig nawr bod ei sefyllfa ei hun yn eglurach yn dilyn Adolygiad Gwariant y Llywodraeth Ganolog y cyhoeddwyd ei ganlyniad ar 4 Medi, 2019. O ystyried y pwysau parhaus ar lywodraeth leol mae hefyd yn hanfodol fod y setliad cyllido ar gyfer cynghorau yn un teg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai bwriad y Llywodraeth Ganolog oedd cynnal Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr 3 blynedd yn ystod  haf 2019 ond gohiriwyd hynny o blaid Adolygiad Gwariant blwyddyn a gynhaliwyd ar 4 Medi pan wnaed cyhoeddiad y bydd £600m o arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2020/21. Fodd bynnag, pan fo Llywodraeth Ganolog yn addo cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion ac ati, nid yw o reidrwydd yn golygu y bydd yr arian ychwanegol yn ffeindio ei ffordd  i ysgolion yng Nghymru gan fod y ffordd y mae'r arian yn cael ei ddyrannu yn dibynnu ar gynlluniau a blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru. Hyd nes y bydd y rheini'n hysbys mae'n anodd cynllunio ymlaen llaw gydag unrhyw sicrwydd. Felly mae'r CATC wedi ei seilio  ar y wybodaeth sydd ar gael ar ddiwedd yr haf, ond o gofio y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ychwanegol, gall y sefyllfa newid er gwell. Mae Llywodraeth Leol yn wynebu pwysau cyllidebol mewn nifer o feysydd ac mae’r Cyngor yn Ynys Môn yn wynebu ei bwysau  unigryw ei hun ar ei gyllidebau (cyfeirir at hyn ym mhara 5.1 (i) i (x) o’r adroddiad). Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru adroddiad o’r enw Sicrhau Adnoddau ar gyfer Gwasanaethau Lleol yn 2020/21 ” sy'n manylu ar effaith llymder ar lywodraeth leol yng Nghymru ac sy’n amlinellu’r pwysau cyllidebol y mae cynghorau yn gyffredinol yn ceisio mynd i'r afael â nhw ledled Cymru ( Atodiad 2 i'r adroddiad). O ystyried y cyd-destun ariannol, mae'n anochel y bydd yn rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i arbedion sylweddol yn 2020/21 oni bai bod Llywodraeth Cymru yn rhyddhau arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i helpu i gau’r bwlch cyllido. Mae'r CATC yn Nhabl 6 yn cynnwys amlinelliad o’r senario orau a’r senario waethaf lle byddai'n rhaid i'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14.

15.

Adolygiad Blynyddol ar Reoli Trysorlys 2018/19 pdf eicon PDF 662 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 yn ymgorffori'r Adolygiad Blynyddol o ran Rheoli'r Trysorlys am 2018/19 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid mai'r Adolygiad Blynyddol yw'r trydydd mewn cyfres o adroddiadau y mae'n rhaid i'r Awdurdod eu cyhoeddi yn unol â’r gofynion ar gyfer adrodd ar reoli trysorlys – y ddau arall yw’r Strategaeth Rheoli Trysorlys Flynyddol a gymeradwywyd gan y Cyngor cyn y flwyddyn ariannol a’r Adolygiad Canol Blwyddyn. Archwiliwyd yr Adolygiad Blynyddol ar gyfer 2018/19 gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod ar 23 Gorffennaf, 2019 a chafodd ei dderbyn gan y pwyllgor heb wneud sylw pellach. Cyflwynir yr adroddiad i'r Cyngor Llawn ar ôl iddo gael ei dderbyn gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, oherwydd cyfraddau llog sy’n gyffredinol isel, nad oedd y Strategaeth Rheoli Trysorlys wedi newid rhyw lawer o'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, o ganlyniad i falansau arian parod isel yn ystod y flwyddyn (roedd yr Awdurdod yn defnyddio arian parod lle bo modd er mwyn ariannu gwariant cyfalaf), penderfynwyd benthyca’n allanol ac wrth wneud hynny ad-dalodd y Cyngor £5m a chymerodd fenthyciad tymor hir newydd o £25m gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. Mae monitro llif arian y Cyngor bob dydd yn rhan o'r strategaeth ac yn sicrhau bod gan y Cyngor ddigon o arian parod ar gael pan fydd ei angen arno.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn parhau i fod yn ffigyrau dros dro tan fod y gwaith o archwilio Datganiad Cyfrifon 2018/19 wedi’i gwblhau a bod y cyfrifon wedi eu harwyddo; bydd unrhyw addasiadau sylweddol i’r ffigyrau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad yn cael eu hadrodd fel bo’n briodol.

           Nodi’r dangosyddion pwyllog a rheoli trysorlys dros dro ar gyfer 2018/19 sydd yn yr adroddiad.

           Derbyn yr adroddiad blynyddol ar reoli’r trysorlys ac anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau.

 

16.

Datganiad Polisi Rheoli Risg pdf eicon PDF 649 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori Datganiad ar y Polisi Rheoli Risg i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, fel rhan o'i drefniadau ar gyfer llywodraethu corfforaethol da, fod angen i'r Cyngor gael datganiad clir ar ei bolisi cyffredinol mewn perthynas â rheoli risgiau wrth iddo gyflawni ei amcanion a darparu ei wasanaethau. Mae'r Datganiad ar y Polisi Rheoli Risg yn amlinellu’r cyfrifoldebau am nodi, rheoli a monitro'r risgiau hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Datganiad Polisi ar Reoli Risg fel y cafodd ei gyflwyno.

17.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail ei bod yn golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A i'r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd Cyhoeddus fel y'i cyflwynwyd.

 

18.

Tai Cyngor Newydd – Datblygu 10 neu fwy o unedau yn Llaingoch, Caergybi

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i symud ymlaen i ddatblygu cynllun tai newydd o 26 uned ar hen safle Ysgol Llaingoch yng Nghaergybi.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor Gwaith fod y safle gerllaw stad Waenfawr y Cyngor ac y byddai'r datblygiad arfaethedig yn cynnwys cymysgedd o unedau tai. Mae'r angen am dai rhent cymdeithasol a thai rhent canolraddol yng Nghaergybi wedi'i hen sefydlu ac mae 84 o ymgeiswyr sydd angen tai fforddiadwy wedi'u cofrestru ar wefan Tai Teg. Yn ogystal â darparu cartrefi newydd lle mae gwir angen amdanynt, mae’r datblygiad yn cynnig buddion o ran sicrhau refeniw ar gyfer cynllun busnes yr ysgolion a chefnogi busnesau lleol a’r economi leol. Byddai'r cynnig yn seiliedig ar gytundeb dylunio ac adeiladu gyda'r datblygwr fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith a'r broses o wneud cais am ganiatâd cynllunio, rhagwelir y byddai'r gwaith adeiladu yn dechrau yng Ngwanwyn 2020 ar y cynharaf.

 

Trafododd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad ac wrth groesawu'r cynnig am dai newydd, gofynnodd am eglurder a sicrwydd pellach ynghylch y cytundeb adeiladu. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai at fanteisionpecynnau dylunio ac adeiladu” a gymeradwywyd fel proses ar gyfer datblygu tai cymdeithasol newydd gan y Pwyllgor Gwaith yn 2017 ac sy'n ddull sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor ar gyfer cynlluniau eraill.

 

Penderfynwyd cymeradwyo symud ymlaen i ddatblygu cynllun tai cyngor newydd o 26 o unedau ar safle Ysgol Llaingoch, Caergybi.

 

Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Prif Weithredwr o'r Pwyllgor Gwaith cyn iddo ymddeol, diolchodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn unigol ac ar y cyd i Dr Gwynne Jones am ei ymroddiad yn y swydd ac am yr arweiniad cadarn a roddodd i'r Awdurdod fel Prif Weithredwr.