Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyn dechrau busnes y cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i holl staff y Cyngor am eu hymdrechion yn ystod wythnos heriol iawn o ganlyniad i'r sefyllfa oedd yn datblygu mewn perthynas â phandemig Covid-19 a mynegodd werthfawrogiad hefyd am y gefnogaeth a gynigir gan wirfoddolwyr. Ar ôl y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Gwaith, ac yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth ynghylch lleihau cysylltiad cymdeithasol, eglurodd y byddai’r ffordd y mae'r Cyngor yn gwneud penderfyniadau yn newid, gydag awdurdod i wneud penderfyniadau’n cael ei ddirprwyo i'r Arweinydd; fodd bynnag, pwysleisiodd y bydd y penderfyniadau hynny’n canolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng presennol ac ar sicrhau parhad busnes y Cyngor yn ystod y cyfnod hwn. Gan fanteisio ar y cyfle hwn, anogodd bawb i wrando ar gyngor y Llywodraeth, i gadw'n ddiogel ac i ofalu am ein gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i adrodd arnynt.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 331 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  17 Chwefror 2020

  2 Mawrth 2020 (Cyllideb)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Chwefror a 2 Mawrth, 2019 i'w cymeradwyo.

 

Penderfynwyd cadarnhau fel rhai cywir, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol

 

           17 Chwefror, 2020

           2 Mawrth, 2020

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 538 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd, 2020 i gael ei ystyried.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y canlynol yn eitemau newydd ar y Flaenraglen Waith yn unol â'r wybodaeth a gyhoeddwyd-

 

           Eitem 1 – Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 – Polisi (RIPA) (Penderfyniad Deilydd Portffolio Corfforaethol i'w gyhoeddi ym mis Ebrill, 2020)

           Eitem 3 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (ar gyfer cyfarfod 27 Ebrill, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)

           Eitem 11 – Cyflwyno taliadau Galw Gofal – Care Connect ar gyfer Tenantiaid Tai Cyngor (ar gyfer cyfarfod 15 Mehefin, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)

           Eitem 18 – Adroddiad Cynnydd gan y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (ar gyfer cyfarfod 28 Medi, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)

           Eitem 20 – Cyllideb 2020/21: cwblhau cynigion y gyllideb ddrafft gychwynnol ar gyfer ymgynghori (ar gyfer cyfarfod 9 Tachwedd, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)

           Eitemau 22-25 – Adroddiadau Monitro Perfformiad ac Ariannol (ar gyfer cyfarfod 30 Tachwedd, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)

           Eitem 26 – Datganiad o Bolisi Trwyddedu (ar gyfer cyfarfod 30 Tachwedd, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith).

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ebrill i Dachwedd, 2020 fel y’i chyflwynwyd.

5.

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 3 2019/20 pdf eicon PDF 953 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2019/20 ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Nododd y Cadeirydd fod Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 yn rhoi darlun cadarnhaol o berfformiad, gyda'r rhan fwyaf o'r dangosyddion yn rhai Gwyrdd ac mai dim ond ychydig o feysydd y mae angen rhoi sylw iddynt ar ddiwedd y trydydd chwarter.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod yr adroddiad ar y cyfan yn galonogol ond ei fod hefyd yn dangos yn glir y meysydd penodol hynny nad ydynt yn cyrraedd targedau a'r camau i'w cymryd i wella eu perfformiad yn Chwarter 4. Nodwyd y pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini mewn perthynas â meysydd sy'n tanberfformio, a rhoddir sylw i hyn wrth symud ymlaen.

 

Adroddwyd yn ôl gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, am gyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mawrth lle cafodd Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 ei archwilio a'i drafod. Roedd y Pwyllgor wedi cydnabod y gwelliannau sy'n cael eu gwneud ar draws nifer o wasanaethau'r Cyngor, gan nodi hefyd fod agweddau ar berfformiad o fewn Gwasanaethau Tai, Cynllunio, Hamdden ac Oedolion yn methu’r targed. Roedd y Pwyllgor wedi nodi ymhellach y meysydd y mae'r uwch dîm arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i'r dyfodol, ac roedd yn cefnogi'r mesurau lliniaru a gyflwynwyd i wella perfformiad yn y meysydd hynny yr oedd yn eu hargymell i'r Pwyllgor Gwaith. Dywedodd y Cynghorydd  Aled Morris Jones ei fod yn cydnabod bod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol bellach wedi cael ei effeithio gan ddigwyddiadau ac y bydd camau i fynd i'r afael â sefyllfa Covid-19, ac ymateb iddi, yn cael blaenoriaeth o reidrwydd dros yr wythnosau nesaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor Sgriwtini ar yr adborth a dywedodd fod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn dangos bod y Cyngor mewn sefyllfa gadarn o ran perfformiad y gwasanaeth, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer ymateb i'r sefyllfa anodd sydd ohoni.

 

Penderfynwyd nodi’r meysydd mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru sy’n cael eu hamlinellu yn yr adrdoddiad.

6.

Datblygu Darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol pdf eicon PDF 732 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro, sy'n cynnwys Cynllun Drafft i Ddatblygu Darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cadeirydd yr ymgynghorwyd ynghylch y Cynllun ar sawl lefel, gan gynnwys Chwaraeon Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mewn sesiynau briffio Aelodau Etholedig. Mae'r Cynllun yn gadarnhaol yn ei agwedd ac mae'n ceisio cadw'r pedair canolfan hamdden bresennol gan ddarparu rhaglen dreigl o welliannau dros amser fel y gall y canolfannau ddiwallu anghenion poblogaeth yr Ynys yn y dyfodol o ran ffitrwydd, iechyd a lles. Cafodd fersiwn drafft y Cynllun ei ystyried gan Bwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ei gyfarfod ar 11 Mawrth. Cefnogwyd y Cynllun, gan argymell bod y cynnwys yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith - yn arbennig y cynigion ar gyfer cynnal a chadw a gwella a amlinellir ynddo.

 

Dywedodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro fod y Cynllun Hamdden newydd yn ateb fforddiadwy a realistig i gynnal y canolfannau presennol dros y tymor byr i ganolig hyd nes y bydd y sefyllfa ariannol bresennol yn gwella.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y Cynllun gan gydnabod ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn parhau i ddarparu'r ddarpariaeth hamdden yn y dyfodol a'i bod hefyd yn bwysig bod y cyhoedd yn gwybod mai strategaeth y Cyngor yw cadw bob un o'r pedair canolfan a buddsoddi yn y cyfleusterau hynny.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’n ffurfiol y fersiwn ddrafft o’r Cynllun Datblygu Darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

7.

Protocol Siarad Cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro sy'n cynnwys Protocol Siarad Cyhoeddus drafft i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Protocol yn cynnig ffordd deg a threfnus i aelodau'r cyhoedd fynegi eu barn mewn cyfarfodydd o'r Pwyllgorau Sgriwtini.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol, er bod siarad cyhoeddus yn y Pwyllgorau Sgriwtini yn bosibl ar hyn o bryd, nad oes gweithdrefn bendant ar gyfer gwneud hynny; mae'r Protocol drafft yn rhoi cyfle i roi canllawiau clir a ffurfiol ar waith i roi gwybod i’r cyhoedd ac Aelodau Sgriwtini am y trefniadau ar gyfer siarad yn gyhoeddus yn y Pwyllgorau Sgriwtini ac i sicrhau felly bod disgwyliadau'r broses yn cael eu rheoli. Mae prif ddarpariaethau'r Protocol fel a ganlyn

 

           Bydd Swyddogion yn ymgymryd â'r gwaith gweinyddol o dan y Protocol mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd Sgriwtini perthnasol.

           Gall aelodau'r cyhoedd wneud cais i siarad mewn cyfarfod o Bwyllgor Sgriwtini os ydynt wedi cyflwyno cais ysgrifenedig i'r Swyddog Sgriwtini o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn cyfarfod y Pwyllgor. Rhaid gwneud y cais ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen berthnasol o wefan y Cyngor a dylid eu hannog i anfon eu ceisiadau’n electronig. Dylai unrhyw ddeunydd ysgrifenedig ategol hefyd gael ei gyflwyno 3 diwrnod gwaith cyn cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini.

           Caiff aelodau'r cyhoedd eu hannog i adolygu Blaenraglenni Gwaith Pwyllgorau Sgriwtini i gael gwybodaeth am y materion sydd i'w hystyried.

 

Dywedodd y Swyddog mewn cywiriad i'r adborth gan y Pwyllgorau Sgriwtini yn Atodiad 2 yr adroddiad fod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wedi argymell y dylid mabwysiadu'r Protocol ar yr amod bod disgwyliad yn y Protocol bod y Cadeiryddion Sgriwtini yn cael cyngor gan y Swyddog Sgriwtini a'r swyddog monitro cyn caniatáu ceisiadau hwyr. Dywedodd pe bai'r Protocol yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn, mai'r bwriad yw rhoi cyhoeddusrwydd iddo drwy wefan y Cyngor a'r cyfryngau cymdeithasol ac i'r Cadeiryddion Sgriwtini dynnu sylw at y Protocol gyda'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned. Hefyd, bydd Blaenraglen Waith pob Pwyllgor Sgriwtini, yn ogystal â'r holl ddogfennau ymgynghori cyhoeddus, yn cynnwys cyfeiriad at y Protocol Siarad Cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini er mwyn sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn gwbl ymwybodol o'r ddarpariaeth siarad cyhoeddus. Bydd y Protocol yn cael ei adolygu ar ôl blwyddyn i asesu a yw ei ddefnydd wedi bod yn effeithiol.

 

Adroddwyd yn ôl gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, am gyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mawrth 2020, lle ystyriwyd y Protocol Siarad Cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini, gan ddweud ei fod bob amser wedi bod yn arfer ganddo ef, fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, i ganiatáu i'r cyhoedd siarad mewn cyfarfodydd o'r Pwyllgor heb osod cyfyngiadau amser ar siaradwyr cyhoeddus. Wrth gadarnhau bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi pleidleisio gyda mwyafrif i dderbyn y Protocol, ac i'w argymell i'r Pwyllgor Gwaith  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adroddiad Cynnydd y Panel Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 600 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n amlinellu’r cynnydd a wneir o ran y gwelliannau hyd yma o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol, i'r Pwyllgor Gwaith eu hystyried.

 

Adroddodd Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod pedair elfen i'r diweddariad fel a ganlyn

 

           Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGC) - Adolygiad Perfformiad Awdurdodau Lleolderbyniodd y Cyngor ei Lythyr Adolygiad Perfformiad Blynyddol  Awdurdod Lleol AGC ddiwedd mis Hydref, 2019; roedd y llythyr yn rhoi adborth ar weithgarwch arolygu a gwerthuso perfformiad a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn yn ogystal â'r cynnydd a wnaed gan yr awdurdod lleol i weithredu argymhellion o arolygiadau a/neu adolygiadau ymarfer plant ac oedolion ac roedd hefyd yn amlinellu blaenraglen waith yr Arolygiaeth. Mae'r adroddiad yn nodi'r negeseuon allweddol o'r llythyr adolygu ar draws Gwasanaethau Oedolion a Phlant o dan bedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 –Lles; Pobl - Lleisiau a Dewis; Atal, a Phartneriaethau ynghyd ag ymateb y Gwasanaeth i'r materion a godwyd.

           Adborth gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar 2 ddiwrnod o fonitro yn Llythyr Gwasanaethau Plant CSYM dyddiedig 25 Hydref, 2019 a oedd yn cynnwys gwerthuso ffeiliau achos a chyfweld Rheolwyr Timau Gweithredol a Swyddogion Adolygu Annibynnol - mae'r llythyr adborth yn nodi bod canfyddiadau AGC yn dangos bod gwasanaeth ar drywydd cadarnhaol o ran gwella gyda chefnogaeth arweinwyr a rheolwyr sy'n cymryd cyfrifoldeb am ysgogi gwelliannau. Mae'r llythyr yn tynnu sylw ymhellach at ddarnau da o waith yn ogystal â meysydd sydd angen eu gwella ac fe'u nodir yn yr adroddiad.

           Cydweithio â Voices from Care Cymru (asiantaeth wirfoddol Cymru gyfan sy'n gweithio gyda phlant sy'n derbyn gofal i hyrwyddo eu hawliau a gwella'r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer) – mae'r adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gyda Voices from Care Cymru i sefydlu grŵp cyfranogiad misol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 14 a 22 oed sy'n derbyn gofal i gefnogi Ynys Môn i ddatblygu Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal a Rhai sy'n Gadael Gofal.

           Sicrhau Ansawddmae'r adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith yr Uned Diogelu a Gwella gan gynnwys gweithredu'r Fframwaith Gwella Ansawdd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor, wrth ystyried yr adroddiad cynnydd yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth 2020, wedi cadarnhau ei fod yn fodlon ar gyflymder y cynnydd a'r gwelliannau hyd yma yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i fod yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud.

 

Wrth ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, nododd y Pwyllgor Gwaith ei fod yn cyfeirio at gryfhau'r Cylch Gwella a gofynnodd am eglurhad o'r modd y ceir tystiolaeth o hyn ac a yw'r Gwasanaeth yn fodlon ar y cynnydd a wneir yn hyn o beth. Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y gwasanaeth wedi atgyfnerthu'r trefniadau sicrhau ansawdd anffurfiol a oedd ar waith dair blynedd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 116 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol –

 

“O dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd .”

10.

Gorchymyn Pryniant Gorfodol ar gyfer Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Biwmares

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r bwriad i gyflwyno gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer hen Glwb Chwaraeon a Chymdeithasol Biwmares, Steeple Lane, Biwmares, i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor Gwaith mai diben y Cyngor wrth geisio caffael hen adeilad y Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol yw ail-ddatblygu'r safle i ddarparu tai fforddiadwy i ateb y galw sydd heb ei ddiwallu ym Miwmares. Mae'r adeilad wedi bod yn wag fel clwb cymdeithasol ers blynyddoedd ac mae mewn cyflwr gwael. Mae'r ailddatblygiad arfaethedig yn cynnig defnydd arall i'r safle. Bydd y defnydd hwnnw’n cael effaith gadarnhaol amlwg ar y safle a'r ardal, gan ddiogelu a gwella cymeriad yr Ardal Gadwraeth a dilyn polisi lleol a chenedlaethol. Mae'r adroddiad yn manylu ar y materion i'w hystyried mewn perthynas â'r cam gweithredu arfaethedig ac yn nodi'r cyfiawnhad dros orchymyn prynu gorfodol.

 

Penderfynwyd -

 

           Awdurdodi pryniant gorfodol  yr hen Glwb Chwaraeon a Chymdeithasol, Steeple Lane, Biwmares fel y nodir ef ar y cynllun yn Atodiad 1 yr adroddiad a hynny o dan Adran 17 o Ddeddf Tai 1985 (Caffael Tir i Ddibenion Tai) er mwyn darparu cynllun tai fforddiadwy.

           Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai gymryd pob cam sy’n angenrheidiol i sicrhau gorchymyn prynu gorfodol a breinio teitl yn y Cyngor.

           Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn ymgynghoriad â’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, i setlo’r holl iawndal sy’n daladwy o ganlyniad i’r gorchymyn.

           Awdurdodi datblygu tai fforddiadwy ar y safle ar ôl caffael y safle yn amodol ar sicrhau’r caniatad cynllunio priodol ac ar yr amod hefyd fod y prosiect yn hyfyw.