Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Llun, 18fed Tachwedd, 2019 9.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddrodeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim wedi eu derbyn.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 20 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 22 Hydref, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2019.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A y Ddeddf honno.”

4.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Lle, Llesiant a Chymunedol

 

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyfarwyddwr Lle a Lleisiant Cymunedol

 

Cyflwynwydadroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Hysbysebu swydd y Cyfarwyddwr Lle a Lleisiant Cymunedol yn allanol ac yn fewnol ar yr un pryd am gyfnod o dair wythnos o 13 Ionawr, 2020 gan ddefnyddio’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn unig;

·      Rhoi trefniadau dros dro yn eu lle ar gyfer rheoli cyfadran fawr tra mae’r broses recriwtio’n mynd rhagddi drwy hysbysebu am Bennaeth Gwasanaeth dros dro a swyddog arall i fod yn gyfrifol am ‘Gynllunio Lle.’.