Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol ac, er mwyn y recordiad, gofynnodd i bawb gyflwyno eu hunain.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 392 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol  

 

·         14 Hydref, 2020 (Galw i mewn)

·         20 Hydref, 2020

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020 (Galw i Mewn) a 20 Hydref, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir.

3.

Dogfen Gyflawni Blynyddol (Cynllun Gwella) 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol am gyfnod o ddeunaw mis o fis Hydref 2020 i fis Mawrth 2022 i’r Pwyllgor ei ystyried a chraffu arno. Mae’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn canolbwyntio ar y gwaith y bydd yr Awdurdod yn ei wneud i gyflawni’r dyheadau a nodir yng Nghynllun y Cyngor 2017-22.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor a nododd fod y Ddogfen yn cwmpasu cyfnod estynedig o ddeunaw mis a chyfeiriodd at yr her o lunio’r ddogfen mewn cyfnod o ansicrwydd oherwydd y pandemig Covid-19. Yr amcan wrth saernïo’r Cynllun, fydd yn cael ei adolygu wrth i amgylchiadau esblygu a newid, oedd bod yn uchelgeisiol ond yn realistig ac i gydnabod yr effaith bellgyrhaeddol y mae’r argyfwng Covid-19 wedi’i gael ar y Cyngor, trigolion yr Ynys, y gymdeithas a’r economi drwy gynnwys pedair rhaglen adfer thematig. Bydd y pedair rhaglen yn canolbwyntio ar adfer yr economi, adfer cyrchfan, adfer cymdeithasol a chymunedol ac adfer sefydliadol.

 

Cytunodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ei bod yn bwysig fod y rhaglen waith a grynhoir yn y Ddogfen Gyflawni yn ogystal â bod yn uchelgeisiol, yn un y gellir ei chyflawni er gwaetha’r pandemig presennol. Bydd y Ddogfen yn cael ei rhoi ar waith drwy gynlluniau busnes y gwasanaethau sy’n tystio bod y mesurau’n rhai y gellir eu cyflawni. Mae’r cyfnod amser hirach nag arfer yn cydnabod y sefyllfa bresennol ac yn caniatáu’r amser a’r cyfle i ddod allan o’r argyfwng ac i gyflawni’r Cynllun.

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cwestiynau sgriwtini allweddol. Roedd y cwestiwn cyntaf yn ymwneud ag effaith pwysau ariannol posib a diffyg adnoddau ar allu’r Cyngor i gyflawni’r Cynllun arfaethedig o ystyried y bydd angen parhau i ddelio â’r pandemig. Gwahoddwyd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid i gyflwyno ei safbwynt ar y sefyllfa ariannol yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, y byddai’r Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiad ar sefyllfa’r gyllideb refeniw a chyfalaf yn Chwarter 2 2020/21 yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd. Ar hyn o bryd, dengys y data bod tanwariant yn y gyllideb refeniw ac o dan amgylchiadau arferol byddai hynny’n cael ei groesawu. Fodd bynnag, oherwydd yr ansicrwydd cyffredinol yn sgil yr argyfwng parhaus oherwydd y pandemig a pha mor gyflym y gall y sefyllfa newid, mae’n rhaid bod yn ofalus wrth wneud penderfyniadau a bydd angen i’r Cyngor adolygu’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pan fydd mewn sefyllfa well i asesu’r sefyllfa ariannol ac i gynllunio ar y sail hynny. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i ddarparu cymorth ariannol i awdurdodau lleol.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 fod ansicrwydd sylweddol yn parhau ynglŷn â beth fydd yn digwydd yn ystod y tri mis nesaf, er bod y data ariannol yn ymddangos yn addawol ar hyn o bryd. Rhagwelir y bydd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol yn 2021/22 ym mis Rhagfyr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2020/21 pdf eicon PDF 855 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2020/21 i’r Pwyllgor ei ystyried a chraffu arno.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor yr adroddiad a chadarnhaodd fod y pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar yr adroddiadau chwarterol ar gyfer Ch4 2019/20 a Ch1 2020/21 ac y cytunwyd i beidio â’u cyhoeddi a’u trafod yn y pwyllgorau perthnasol. Mae delio â’r pandemig wedi bod yn her sylweddol i’r Cyngor – nid yn unig o ran cynnal gwasanaethau rheng flaen a chynnal busnes arferol lle bo hynny’n bosib, ond hefyd o ran sicrhau fod trefniadau iechyd a diogelwch mewn lle i ddiogelu staff yr Awdurdod wrth iddynt ddarparu gwasanaethau. Bu’n rhaid i’r Cyngor ymateb i amgylchiadau sy’n newid yn gyflym ac addasu iddynt. Fodd bynnag, mae’n galonogol nodi fod y mwyafrif (88%) o’r dangosyddion sy’n cael eu monitro yn parhau i berfformio’n dda yn erbyn y targedau (statws CAG Gwyrdd neu Felyn) gyda phresenoldeb yn y gweithle (2.66 diwrnod o absenoldeb fesul ALlC yn ystod y cyfnod yn erbyn targed o 4.48 diwrnod) a’r dangosyddion o dan symud i wasanaethau digidol ymysg yr uchafbwyntiau ar gyfer y cyfnod adrodd.

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i’r pwyntiau a’r cwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor –

 

           Mewn perthynas â phwysigrwydd gwydnwch a llesiant staff o ran parhau i gynnal perfformiad da, cytunodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod llwyddiant y Cyngor wrth ymateb i’r argyfwng i’w briodoli i raddau helaeth i gydweithrediad ei weithlu a’i barodrwydd i addasu. Yn ei dro, mae’r Cyngor wedi ceisio cyfathrebu, ymgysylltu a darparu cymorth i’w staff mewn perthynas â’u lles a’u hanghenion wrth weithio o bell ac mae’r ymateb positif i’r Arolwg Staff Interim ar Weithio Gartref a ddosbarthwyd yn gynharach yn ystod y pandemig yn tystio i hynny. Yn ogystal, mae lefelau straen yn cael eu monitro fel rhan o’r broses o fonitro presenoldeb yn y gwaith ac mae’n galonogol nodi na chafwyd cynnydd yn lefelau straen staff o gymharu â’r un chwarter yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae rheoli straen yn bwysig ac mae staff yn cael eu hannog i gymryd egwyl o’u gwaith yn rheolaidd ac mae hynny’n cael ei danlinellu gan y Prif Weithredwr yn ei negeseuon wythnosol i staff ac mae rheolwyr y gwasanaeth yn cynorthwyo gyda hynny hefyd. Cydnabyddir y gall delio gyda’r pandemig dros fisoedd lawer achosi blinder, yn arbennig wrth i fisoedd y gaeaf ddynesu.

 

           Mewn perthynas â’r posibilrwydd fod gweithio gartref yn ffactor o ran y gwelliant mewn lefelau presenoldeb yn y gwaith, esboniodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod y gweithlu wedi dod ynghyd ar ddechrau’r pandemig ac wedi ymrwymo fel tîm i ymateb i’r argyfwng. Mae dadansoddiad o’r data o gymharu â’r llynedd a’r rhesymau am absenoldebau salwch yn dangos, er na fu newid yn y  mathau o salwch, bu llai o achosion a rhaid cofio hefyd fod Chwarter 2 yn cyd-fynd â chyfnod o dywydd braf sy’n cael ei gysylltu ag  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid

Derbyn diweddariad ar lafar.

Cofnodion:

Rhoes y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, ddiweddariad llafar i’r Pwyllgor ynghylch cyfarfodydd mwyaf diweddar y Panel fel a ganlyn

 

           Cyflwynwyd crynodeb o drafodaethau’r Panel yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Medi ac y cyflwynwyd adroddiad yn ei gylch i gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 14 Medi 2020.

 

           Amlinellwyd y prif bynciau trafod yng nghyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, fel y nodir isod

 

• Y cynnydd o ran gwariant ar gyllideb gyfalaf 2020/21 gan nodi fod tanwariant o £16m yn y rhaglen yn Chwarter 1 oherwydd bod cynlluniau wedi cael eu gohirio, yn bennaf oherwydd y pandemig;

Perfformiad y gyllideb refeniw yn Chwarter 1, gan graffu’n benodol ar amrywiadau yng nghyllidebau gwasanaethau unigol a’r rhesymau am y tanwariannau/gorwariannau yn y cyfnod hwn.

Ailgychwyn yr adolygiadau gwasanaeth er mwyn paratoi ar gyfer y broses gosod y gyllideb.

• Y rhagolygon ar gyfer cyllideb 2021/22 gan nodi y bydd y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei gyhoeddi ar 22 Rhagfyr, 2020.

 

Penderfynwyd nodi’r diweddariad a roddwyd ac i ddiolch i Gadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid am y wybodaeth.

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 708 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd blaen raglen waith y Pwyllgor er ystyriaeth. Nododd y Cadeirydd fod dau gyfarfod arbennig wedi’u trefnu ar 10 a 17 Rhagfyr 2020 i ystyried y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ardal Llangefni.

 

Penderfynwyd

 

           Cytuno ar fersiwn gyfredol y blaen raglen waith ar gyfer 2020/21.

           Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith.