Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

12.1 FPL/2021/10 - Cais ôl-weithredol ar gyfer codi modurdy ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

Cofnodion:

Amlinellwyd y cynnig i'r Aelodau ac esboniwyd y rhesymau a roddwyd dros symud y garej. Dangoswyd 4 fideo o safle'r cais i'r aelodau a oedd yn cynnwys yr olygfa i fyny o'r ffordd yn cynnwys y fynedfa, y garej a'r annedd a gymeradwywyd ac sy'n cael ei hadeiladu; yr olygfa o Bron Castell - yr annedd ger y garej gan gynnwys yr ardd yn cwmpasu ardaloedd y lawnt, y llecynnau llawr caled a'r ffin, gan ddangos agosrwydd y garej sy'n destun y cais i Bron Castell; a hefyd y persbectif ehangach o ben arall y pentrefan a oedd yn dangos y garej a'r annedd sydd wedi'i hadeiladu'n rhannol yn eu cyd-destun. 

Amlygodd y Swyddog Achos y gwahaniaethau rhwng y garej a gymeradwywyd o dan gyfeirnod cynllunio 18C225B a'r garej sy'n cael ei hadeiladu o ran lleoliad, maint a golwg a chyfeiriodd at ychwanegu ffenestri a'r effeithiau o ran cysgodi.

 

Cododd yr aelodau nifer o gwestiynau mewn perthynas â'r safle a dyluniad a golwg y garej, gan holi a fyddai wedi ei chysylltu â rhai cyfleustodau.

 

Gofynnodd yr aelodau hefyd am gopi o'r cynllun a'r gosodiad gwreiddiol ar gyfer y safle a'r rhai cyfredol.