Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod eithriadol hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/20 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro ar effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2019/20 i'r Pwyllgor ei ystyried. Mae cyhoeddi’r adroddiad yn ofyniad statudol a’i bwrpas yw hybu ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am y perfformiad a'r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf o ran darparu Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Cyngor Sir Ynys Môn yn ogystal ag amlinellu blaenoriaethau gwella.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem drwy gyfeirio at y sianeli democrataidd y byddai'r Adroddiad Blynyddol yn cael eu hadrodd drwyddynt gan arwain at ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth y Cyngor Llawn cyn 31 Hydref 2020 a gwahoddodd Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro i gyflwyno'r adroddiad.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod llawer o'r clod am yr adroddiad ac am weithgarwch y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 yn ddyledus i Mr Alwyn Rhys Jones a arweiniodd y gwaith a grybwyllwyd yn yr adroddiad fel Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ac sydd ers hynny wedi'i benodi i rôl y Cyfarwyddwr Statudol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Paratowyd yr adroddiad o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac felly mae'n dilyn fformat rhagnodedig gyda pherfformiad wedi'i gofnodi o dan chwe Safon Ansawdd ar gyfer canlyniadau llesiant gyda thystiolaeth ategol o gynnydd a chyflawniad o dan bob safon. Mae'r adroddiad yn cynnwys llawer o wybodaeth ac mae  wedi'i nodi mewn ffordd mor hygyrch a chyfeillgar â phosibl i ddarllenwyr ac mae'n rhoi cipolwg i ddefnyddwyr gwasanaeth, aelodau etholedig, partneriaid y Cyngor, rheoleiddwyr a'r cyhoedd ar gynnydd a’r hyn a gyflawnwyd gan Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Mae rhai o'r prif bwyntiau’n cynnwys –

 

           Sefydlu prosiect ar y cyd â Voices from Care Cymru sy'n datblygu grŵp cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal ar Ynys Môn. Bydd y grŵp yn cefnogi Cyngor Ynys Môn i ddatblygu ei Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy'n Gadael Gofal ac yn darparu llwyfan sy'n helpu i feithrin perthynas rhwng plant sy'n derbyn gofal, pobl ifanc a'u rhieni corfforaethol yn Ynys Môn.

           Gwaith yng Ngwasanaethau Oedolion ar ddatblygu gwasanaeth Cyswllt Cymunedol Môn mewn cydweithrediad â Medrwn Môn fel y corff gwirfoddol cyffredinol.

           Mwy o bwyslais yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar wrando ar lais defnyddwyr gwasanaethau fel sail ar gyfer datblygu a llunio gwasanaethau.

 

Diolchodd yr Arweinydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol i Mr Alwyn Jones am arwain y Gwasanaeth fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2019/20 ac i Mr Fôn Roberts, ei olynydd, am gymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro. Tynnodd sylw at swyddogaethau niferus Gwasanaethau Cymdeithasol fel yr adlewyrchir gan yr adroddiad blynyddol a chyfeiriodd at y ffaith eu bod yn cyrraedd bywydau llawer o bobl o ran darparu cymorth a chefnogaeth ar adegau pan fyddant yn agored i niwed ac wrth ymateb i amrywiaeth o anghenion gofal, lles a diogelu.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad fel un a oedd yn rhoi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Adroddiad Cynnydd Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 714 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn crynhoi datblygiadau diweddar yn y Gwasanaethau i Blant ac Oedolion gan gyfeirio hefyd at effaith pandemig Covid 19 ac ymateb y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

 

Darparodd yr Arweinydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol drosolwg o weithgarwch diweddar; adroddodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro’n fanylach am y ddarpariaeth yn y Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd a'r Gwasanaethau Oedolion yn y drefn honno o dan y penawdau canlynol

 

           Cynyddu nifer y Gofalwyr Maeth sydd gan yr Awdurdod Lleol

           Agor y Cartref Clyd cyntaf a fydd yn galluogi plant sy'n derbyn gofal o Ynys Môn i dderbyn gofal ar yr Ynys

           Agor fflat hyfforddi i bobl ifanc sy'n gadael gofal i'w cynorthwyo i fyw'n annibynnol am y tro cyntaf

           Parhau i weithio ar gynllunio ar gyfer darpariaeth tai gofal ychwanegol newydd yn Ne'r Ynys

           Datblygu'r rhaglen Cysylltu Bywydau i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn ogystal â dylunio Strategaeth Dementia sy'n unol â Chynllun Dementia Llywodraeth Cymru

           Datblygu cyfleoedd i bobl ag anghenion iechyd meddwl gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp yn y gymuned

           Cynyddu lefelau cyfranogiad yn y modelau hyb cymunedol trwy hyrwyddo a datblygu'r hybiau ledled yr Ynys; gweithio i sefydlu 3 thîm adnoddau cymunedol yn Amlwch, Ysbyty Penrhos Stanley a Llanfairpwll

           Ymgysylltu ac ymgynghori â defnyddwyr ar y Strategaeth Cyfleoedd Dydd i Oedolion yn y maes Anabledd Dysgu fel ein bod yn creu ystod ehangach o gyfleoedd dydd o ansawdd uchel i unigolion yn eu cymunedau.

           Cyflawni'r holl ddyletswyddau statudol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau

 

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Griffiths, cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau'r Panel o'i gyfarfod ar 10 Medi (gweler adran 2 o'r adroddiad) gan dynnu sylw at argymhelliad y Panel y gallai'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gyfeirio meysydd gwaith penodol at y Panel i graffu'n fanwl arnynt yng nghyd-destun ehangach rhaglen waith y rhiant-bwyllgor ar ymateb y Cyngor i Covid-19. Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffiths ymhellach at y Panel Maethu a oedd hefyd wedi cyfarfod yn ddiweddar. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a diolchodd i'r Cynghorydd Richard Griffiths am ei darparu.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a thrafododd y materion canlynol

 

           Mae cynlluniau'r Gwasanaeth ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir yn ystyried effaith Covid 19. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro ei bod yn anodd cynllunio ymlaen llaw mewn unrhyw ffordd ystyrlon oherwydd yr ansicrwydd ynghylch sut y bydd argyfwng Covid-19 yn parhau i esblygu a sut bydd yn effeithio ar gyllid llywodraeth leol y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Eglurodd yr Arweinydd fod ffocws diweddar arweinwyr Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi bod ar sicrhau bod pwysau'n cael eu nodi'n gynt yn hytrach  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.