Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Wrth groesawu pawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod rhithiol hwn o’r Pwyllgor Gwaith, esboniodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod yn cael ei ffrydio’n fyw ac y byddai ar gael i’w wylio wedi hynny hefyd.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar yn dyddiadau canlynol:-

 

  15 Mawrth 2021 (Arbennig)

  22 Mawrth 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol i’w cadarnhau -

 

           15fed o Fawrth, 2021 (arbennig)

           22ain o Fawrth, 2021

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y 15fed o Fawrth, 2021 (arbennig) a’r 22ain o Fawrth, 2021.

 

4.

Panel Rhiantu Corfforaethol pdf eicon PDF 274 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, gofnodion drafft y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 16eg o Fawrth, 2021 ar gyfer eu mabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 16eg o Fawrth, 2021.

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 433 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gan gynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Mehefin, 2021 i Ionawr, 2022 i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyriaeth ac fe nodwyd y newidiadau canlynol -

 

           Eitem 7 - Newidiadau i’r Cyfansoddiad: Pwerau Dirprwyedig - Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Buddion Cymunedol anstatudol - eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar y 21ain o Fehefin, 2021.

           Rhyddhau Cyllid ar gyfer cyn safle Ysgol y Parc, Caergybieitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar y 21ain o Fehefin, 2021, heb ei gynnwys ym Mlaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith fel y cyhoeddwyd, a

           Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddushefyd yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar y 21ain o Fehefin, 2021, heb ei gynnwys ym Mlaen Raglen y Pwyllgor Gwaith fel y cyhoeddwyd.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mehefin, 2021 i Ionawr, 2022 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

6.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) pdf eicon PDF 626 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai gan gynnwys Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2021 i 2051, i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyriaeth a’i gymeradwyaeth.

 

Rhagflaenodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau ei gyflwyniad i’r Cynllun Busnes CRT drwy ddiolch i staff y Gwasanaeth Tai am yr adroddiad a’r Cynllun ac am eu parodrwydd i newid y ffordd yr oeddent yn gweithio mor sylweddol yn ystod cyfnod y pandemig er budd unigolion bregus yr Ynys a thenantiaid y Gwasanaeth Tai. Mae’r Cynllun Busnes yn rhoi trosolwg o sut mae’r Gwasnaeth Tai wedi addasu ei wasanaethau er mwyn parhau i gefnogi ei denantiaid a phreswylwyr fel rhan o’r weledigaeth ac uchelgais adferiad Covid-19 ac mae’r canlynol ymysg y pwyntiau amlycaf -

 

           Disgwylir cwblhau 58 o dai cyngor newydd yn ystod y flwyddyn, o fewn 5 datblygiad sef Rhosybol, Llanfachraeth, Amlwch a Chaergybi ble mae dau ddatblygiad. 

           Y caffaeliad o 15 o dai ychwanegol sydd wedi ei gynllunio drwy brynu cyn eiddo’r cyngor yn ôl a’u gwerthwyd drwy’r Hawl i Brynu.

           Y gwaith gwella ac uwchraddio mewn 53 eiddo yn ystâd Min y Môr yn Aberffraw ac ystadau Awel y Môr a Trem y Môr yn Rhosneigr.

           Datblygiad arloesol a’i gefnogir gan grant y RhaglenÔl-osod er mwyn OptimeiddioLlywodraeth Cymru a fydd yn golygu y bydd pympiau gwres ffynhonnell aer hybrid yn cael eu treialu mewn 19 cartref ym Mhont y Brenin, Llangoed, fel rhan o gynllun peilot Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer. Bydd y rhain ymysg y cartrefi cyntaf yng Nghymru i gael Bydd y rhain ymhlith y cartrefi cyntaf yng Nghymru i gael eu gosod gyda'r system gwresogi hybrid newydd.

 

Adroddodd Bennaeth y Gwasanaeth Tai fod y Cynllun Busnes yn rhoi sylfaen gadarn o ran symud ymlaen a chyflawni blaenoriaethau'r Gwasanaeth, a’i raglen datblygu tai cyngor. Mae stoc tai'r Cyngor ar hyn o bryd yn 3,852 uned (proffil stoc yn 3.1 o’r Cynllun) ac erbyn diwedd y Cynllun Busnes bydd cyfanswm y stoc wedi cyrraedd 5000 o unedau yn seiliedig ar gynllun datblygu sy’n ceisio datblygu 45 o unedau tai cyngor newydd yn flynyddol.  Mae’r CRT hefyd yn edrych i gyflawni'r drydedd raglen tai gofal ychwanegol ar yr Ynys a fydd yn ddatblygiad 40 uned yn ardal Aethwy; disgwylir i’r gwaith ar y datblygiad hwn gychwyn yn 2022/23. Cynghorodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai, gan fod Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar foddhad tenantiaid, mi oedd y Gwasanaeth Tai yn falch o weld canlyniad yr Arolwg Boddhad Tenantiaid ai gyhoeddwyd wythnos diwethaf gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn ystyried barn yr holl denantiaid Cymdeithas Tai ynghyd â thenantiaid yr 11 cyngor yng Nghymru sydd wedi cadw eu stoc tai; rhoddodd yr arolwg Gyngor Ynys Môn yn gyntaf o’r cynghorau o ran ansawdd y tai, ac yn ail am gynnal a chadw, am wrando ar denantiaid, ac am foddhad cyffredinol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.