Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 11eg Mawrth, 2021 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 330 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Chwefror, 2021.  

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror, 2021 yn gywir.

 

Yn codi o hyn

 

Dywedodd y Cadeirydd fod llythyr wedi'i anfon ar ran y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru yn mynegi siom a phryderon y Pwyllgor nad oedd unrhyw gynlluniau yn eu lle o ran arholiadau TGAU a Safon Uwch ar gyfer Haf 2022.  Dywedodd y Cadeirydd fod ymateb wedi’i dderbyn oddi wrth y Gweinidog Addysg, Ms Kirsty Williams AS sy'n nodi y byddwn yn derbyn llythyr cyn 6 Ebrill, 2021 i ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor hwn.

 

4.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - craffu cynnydd ar wireddu'r Cynllun Llesiant pdf eicon PDF 553 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Ynys Môn. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Reolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd a darpariaeth y Cynllun Llesiant gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Dywedodd fod y pandemig wedi arafu cynnydd yr Is-grwpiau sy'n helpu i weithredu gwaith y Bwrdd, ond erbyn hyn mae'r holl Is-grwpiau'n ailedrych ar eu cynlluniau gwaith.  Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi parhau i gyfarfod yn ystod cyfnod y pandemig sy'n dangos ymrwymiad y Bwrdd i'r gwaith. 

 

Rhoddodd Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ddiweddariad am gynnydd yr Is-grwpiau.  Dywedodd fod pob un o'r Is-grwpiau’n cael eu harwain gan aelod o'r Bwrdd.  Cynhaliwyd gweithdy ym mis Medi 2020 i drafod rôl y Bwrdd wrth adfer ar ôl y pandemig. Cytunwyd mai rôl y Bwrdd yw cadw trosolwg o'r gwaith a wneir ar hyn o bryd gan y sefydliadau.  Yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, heriwyd yr Is-grwpiau i adrodd ar eu gwaith o ran eu cynlluniau gwaith a'u cyflawniadau; bydd Arweinydd pob un o’r Is-grwpiau yn rhoi adroddiad diweddaru i gyfarfod llawn nesaf y Bwrdd. Adroddodd y Rheolwr Rhaglen ar bob Is-grŵp fel a ganlyn:-

 

·           Is-grŵp Cartrefi – mae gan yr is-grŵp reolwr prosiect rhan-amser sy'n sicrhau bod y prosiect yn gweithredu’n unol â’r amserlen ac adnoddau disgwyliedig.  Diben yr is-grŵp yw chwilio am gyfleoedd i ddatblygu tai arloesol, sy'n ategu ac nid yn dyblygu'r gwaith sy'n deillio o strategaeth dai Ynys Môn.  Mae un safle ym Maes Mona, Amlwch wedi'i nodi i'w ddatblygu yn y dyfodol agos.

·           Is-grŵp Newid Hinsawdd – dros y misoedd diwethaf mae'r is-grŵp wedi canolbwyntio ar ddiwygio eu cynllun gwaith ers yr oedi oherwydd dechrau'r pandemig.  Cynhaliwyd gweithdy ym mis Ionawr, 2021 i ddenu cynrychiolaeth ehangach o sefydliadau cyhoeddus.  Mae'r is-grŵp wedi nodi bod angen iddynt ystyried sut i ymgysylltu â chymunedau, canolbwyntio ar amcanion hirdymor a nodi rôl pob sefydliad pan fyddant yn wynebu problemau llifogydd. 

·           Is-grŵp Integredig Iechyd a Gofal – mae'r is-grŵp hwn yn enghraifft o arfer da sydd wedi ychwanegu gwerth tuag at gynlluniau cyfredol gyda swyddogion proffesiynol yn gallu rhannu profiadau a chydweithio.  Mae'r Is-grŵp yn parhau i fynd i'r afael ag agweddau penodol fel plant, oedolion, iechyd meddwl, anableddau dysgu a thrawsnewid.  Roedd yr angen i gydweithio, rhannu gwybodaeth a sicrhau mynediad hwylus at wasanaethau yn cael ei gydnabod fel nod cyffredin ar gyfer pob ffrwd waith.

·           Is-grŵp y Gymraeg - Mae Mr Aled Jones Griffith o Goleg Llandrillo a Menai bellach wedi cytuno i arwain yr is-grŵp a fydd yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd yn y cyfarfod ym mis Mawrth.  Bydd yr Is-grŵp yn ystyried ei gynllun gwaith ar gyfer y misoedd nesaf.  Bydd yr Is-grŵp yn edrych ar y defnydd o'r Gymraeg wrth i aelodau o'r cyhoedd gysylltu â sefydliadau cyhoeddus am y tro cyntaf a bwriedir cynnal astudiaeth i ystyried yr iaith a ddefnyddir mewn derbynfeydd gyda'r gobaith o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Polisi a Strategaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb 2019/20 i'w ystyried gan y Pwyllgor. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dyletswyddau penodol i helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni dyletswydd gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010.  Mae'r dyletswyddau penodol hyn yn cynnwys gofyniad i ddatblygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynlluniau Cydraddoldeb Strategol.  Cyfeiriodd at y data yn yr adroddiad - roedd yn galonogol o ran y bobl ifanc y mae'r Awdurdod wedi'u cyflogi a'r ffordd y mae'r Cyngor hefyd wedi gallu cynnal ystod eang o grwpiau oedran ymysg staff y Cyngor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth drosolwg o'r adroddiad a’r dull y mae'r Awdurdod yn cyflawni cyfrifoldebau Cydraddoldeb a dyletswyddau cydraddoldeb penodol.  Dywedodd fod yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn ddogfen statudol i fodloni dyletswydd gyffredinol y Ddeddf Cydraddoldebau.  Mae'r adroddiad yn rhoi sylw i’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth, 2020 lle mae'n cyfeirio at ddata cyflogaeth.  Mae gweddill yr adroddiad yn rhoi amlinelliad o'r datblygiadau hyd at fis Rhagfyr 2020 er mwyn rhoi ffocws mwy diweddar yn ogystal ag ategu Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor.

 

Er ei bod wedi bod yn flwyddyn heriol i'r Awdurdod wrth ddelio â'r pandemig, dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth fod enghreifftiau calonogol a bod y Cyngor a'i bartneriaid wedi cynnal nifer o weithgareddau i hyrwyddo cydraddoldeb a diogelu'r cymunedau mwyaf agored i niwed fel y gwelir ar dudalen 16 yr adroddiad. Mae'r Awdurdod hefyd wedi addasu i heriau'r pandemig gyda staff yn gweithio gartref a chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir. Mae angen i staff addasu i heriau addysgu eu plant gartref a chyfrifoldebau gofal plant 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y cyflawnodd y Cyngor yr amcanion cydraddoldeb yn llwyddiannus.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth yr ystyrir bod amcanion y Cynllun Cydraddoldebau wedi cael sylw gan y Cyngor;

·           Cyfeiriwyd at flaenoriaeth 8.2 yn yr Adroddiad Blynyddol – Mae proses gorfforaethol effeithiol wedi’i sefydlu i sicrhau bod effaith yn cael ei hasesu'n barhaus ar draws gwasanaethau.  Codwyd cwestiynau ynghylch pwy sy'n asesu'r broses gorfforaethol.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth fod asesu ar gyfer effaith ar gydraddoldeb yn broses barhaus y dylid ei hymgorffori wrth ddatblygu cynigion.

·           Cyfeiriwyd at y bylchau addysgol rhwng merched a bechgyn a phlant sy'n derbyn prydau ysgol, yn enwedig yn ystod y pandemig.  Codwyd cwestiynau ynghylch beth yw blaenoriaethau'r Awdurdod i fynd i'r afael â'r bwlch hwn yn y dyfodol.  Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd yn her nodi a dangos tystiolaeth o'r bwlch yn enwedig tra bod plant wedi gorfod derbyn eu haddysg gartref ac i fesur yr effaith y mae wedi'i chael ar ddisgyblion.  Pan fydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgolion, dywedodd y bydd angen eu hasesu i fesur potensial a chyflawniad disgyblion ac i gydbwyso eu lles;

·           Cyfeiriwyd at y ffaith bod 8 blaenoriaeth wedi'u nodi yn yr adroddiad ac mai pwrpas y Ddeddf Cydraddoldebau yw canolbwyntio ar gydraddoldeb a thegwch. Codwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Newid Hinsawdd pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Deilydd Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod yr argyfwng hinsawdd yn berthnasol yn gorfforaethol o fewn pob gwasanaeth ac mai’r targed i’r Cyngor oedd bod yn garbon niwtral erbyn 2030.  Bydd disgwyliadau gan drigolion, cymunedau a busnesau i'r Cyngor gymryd camau penodol i ymateb yn brydlon ac yn effeithiol yn cynyddu.  Er mwyn ymateb yn effeithiol i'r argyfwng hinsawdd, dywedodd y bydd angen arweinyddiaeth, polisïau a newid arferion ynghyd ag atebion ariannol a thechnegol a bydd angen dechrau addasu i ddulliau gwaith yr Awdurdod.

 

Adroddodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Cyngor Sir wedi datgan argyfwng hinsawdd yn y Cyngor llawn a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020 a’i fod wedi ymrwymo y byddai’r Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030.  Mae nifer o Strategaethau Cenedlaethol a Rhanbarthol sydd wedi'u drafftio ers hynny i ymateb i'r heriau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Er bod yr awdurdod wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i ymgysylltu a chydweithio â'i holl bartneriaid, ar bob lefel, mae cydnabyddiaeth hefyd bod yr holl ddarpariaeth yn lleol.  Mae'r awdurdod wedi ymrwymo i ddarparu arweinyddiaeth leol ar yr Ynys, ac i weithredu'n gorfforaethol i sicrhau newidiadau pendant er mwyn gallu newid yn effeithiol i fod yn sefydliad carbon niwtral.  Er bod rhai penderfyniadau a chamau gweithredu o fewn rheolaeth yr awdurdod, bydd angen cymorth ac adnoddau ychwanegol ar eraill gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydgysylltu, datblygu a chyflawni.  Ynghyd â Deddf Newid yn yr Hinsawdd y DU (2008), mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Amgylcheddol (Cymru) 2016 yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gweithredu ar newid hinsawdd a rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, gyda phob un yn seiliedig ar strategaethau a fframweithiau.  Cydnabyddir bod Llywodraeth Leol yn hanfodol i sicrhau datgarboneiddio, yn enwedig o ran darparu arweinyddiaeth leol a hyrwyddo atebion cynaliadwy uchelgeisiol a newid ymddygiad. 

 

At hynny, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol wedi'i sefydlu i helpu i arwain, cefnogi, annog a rhoi trosolwg strategol.  Cytunodd Cyngor Partneriaeth Cymru ar sefydlu'r Panel ym mis Mehefin 2020, gyda chynrychiolaeth gan Brif Weithredwyr awdurdodau lleol, CLlLC, sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a chynghorwyr perthnasol.  Mae'n adrodd i'r Cyngor Partneriaeth sy'n rhoi cyfeiriad ac arweiniad gwleidyddol i'r gwaith. Cynrychiolir awdurdodau lleol Gogledd Cymru gan Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Mae pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i :-

 

·           Ddeall eu hôl troed carbon, yn unol â chanllawiau ar gyfer adrodd am allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y sector cyhoeddus;

·           Cytuno i osod ymrwymiadau/addewidion sero net ar gyfer COP26 (a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021);

·           Monitro ac adrodd yn ofalus ar eu hallyriadau carbon ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;

·           Sicrhau bod cynllun gweithredu sero net cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ei le, fel dogfen fyw erbyn mis Mawrth 2021;

·           Gweithio gyda'r Panel Strategaeth Datgarboneiddio newydd 

 

At hynny, dywedwyd nad oes gan yr awdurdod arweinydd corfforaethol (neu wleidyddol)  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru 2019/20 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn bodloni'r gofynion statudol, sef bod Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol.  Mae'r adroddiadau'n rhoi trosolwg o waith Byrddau Diogelu Plant Gogledd Cymru ac Oedolion Gogledd Cymru rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020 a'r cynnydd a wnaed i gyflawni amcanion allweddol ar draws y rhanbarth i ddiogelu pobl.  Mae'r adroddiad yn amlinellu'r camau nesaf a'r cynlluniau tymor hir ar gyfer y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.  Dywedodd fod enghreifftiau o arfer da yn cael sylw yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod diogelu yn gofyn am waith partneriaeth effeithiol ac mae Adroddiad Blynyddol 2019/20 yn cydnabod arfer da ar draws y rhanbarth, yn ogystal â meysydd datblygu.  Adlewyrchir y meysydd datblygu hyn yng nghynllun busnes Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar gyfer 2020/21.  Mae'r Byrddau wedi parhau i aeddfedu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bellach maent yn dangos bod cydweithredu a herio effeithiol yn rhan o fusnes bob dydd.  Gall y Byrddau ddangos sut y maent wedi dylanwadu ar yr agenda cenedlaethol ar y Gweithdrefnau Cenedlaethol a Chanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan.   Dywedodd fod Gweithdrefnau Diogelu Cymru wedi'u rhoi ar waith a bod nifer o sesiynau hyfforddi wedi'u cynnal yn rhithwir ar gyfer staff yn y gwasanaethau i blant ac oedolion. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod pryderon yn ystod misoedd cyntaf y pandemig bod atgyfeiriadau o fewn y gwasanaethau i blant wedi gostwng. Roedd y Bwrdd Diogelu yn gallu codi ymwybyddiaeth i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r diffyg o fewn y system. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·           Mynegodd y Cynghorydd R Ll Jones fel Hyrwyddwr Pobl Hŷn fod pryderon ynglŷn â cham-drin pobl oedrannus a holodd sut yr oedd y Bwrdd Diogelu yn diogelu'r henoed.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod ymdrechion yn cael eu gwneud yn lleol i godi ymwybyddiaeth o bob grŵp oedran ac roedd pobl yn cael eu hannog i roi gwybod am bryderon ynghylch unrhyw bobl yr oedd ganddynt bryderon yn eu cylch yn eu cymunedau.  Dywedodd fod hyfforddiant yn cael ei roi i'r holl staff sy'n ymwneud â gofal yr henoed;

·           Cyfeiriwyd at blant sy'n cael eu haddysgu gartref a'r diffyg arolygiad addysgol gan gyrff addysgol.  Codwyd cwestiynau ynghylch sut y mae'r Bwrdd Diogelu yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref/addysg gartref.  Dywedodd y Cadeirydd fod y Comisiynydd Plant wedi codi'r mater yn ddiweddar.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd ynglŷn â chanllawiau newydd ar gyfer addysgu plant gartref.  Dywedodd fod yr Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn gweithio'n agos i rannu unrhyw bryderon ynglŷn â'r plant hyn sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref.  Fodd bynnag, dywedodd fod hwn yn fater cymhleth a bod rhai plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn ffynnu. Er hynny, mae'n bwysig nodi bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Craffu ar Bartneriaethau pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â'r uchod.

 

Adroddodd y Swyddog Craffu fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini rhwng mis Mehefin 2019 a mis Tachwedd 2020.  Dywedodd fod angen parhau i wneud y dasg o graffu ar bartneriaethau mewn ffordd reoledig, gan ganolbwyntio ar y partneriaethau strategol allweddol sy'n galluogi'r Cyngor i gyflawni ei amcanion a'i flaenoriaethau.  Er mwyn ychwanegu gwerth, mae angen i drefniadau ar gyfer craffu ar bartneriaethau barhau i fod yn amserol ac yn gymesur.  Mae gan y Cyngor Sir brofiad helaeth o weithio mewn partneriaeth, yn lleol, yn rhanbarthol ac ar lefel genedlaethol.  Hefyd, dywedodd y Swyddog Sgriwtini fod yn rhaid i'r Cyngor, o ganlyniad i'r pandemig presennol, flaenoriaethu ei adnoddau ac nad yw ymdrechion ei weithlu i gynnal busnes fel arfer yn bosibl.  Mae Deddf Coronafeirws 2020 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 dilynol yn lleihau'r rhwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau lleol mewn perthynas â chyfarfodydd, tra eu bod yn caniatáu i aelodau fynychu unrhyw gyfarfodydd gofynnol o bell.  Yn ogystal â hyn, o ganlyniad i'r pandemig, cafodd yr angen i graffu ar rai adroddiadau blynyddol ei ohirio, neu cafodd yr amserlen i wneud y gwaith ei hymestyn. 

 

Cyfarfu'r ddau Bwyllgor Sgriwtini am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig yn ystod mis Medi 2020, ac ers hynny, mae'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wedi cyfarfod yn rheolaidd ac wedi ailddechrau'r gwaith craffu ar bartneriaethau ac wedi cydymffurfio'n llawn â'r holl ofynion statudol. Fodd bynnag, mae trefniadau ar gyfer rhai partneriaid wedi'u gohirio o ganlyniad i'r pandemig, a bu'n rhaid blaenoriaethu rhaglen waith y Pwyllgor i ategu gofynion lleol ac ystyried y pwysau yr oedd y partneriaid hyn yn ei wynebu hefyd; mae’rpartneriaid hyn wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad.    Cyfeiriwyd hefyd at Atodiad 2 sydd ynghlwm wrth yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r partneriaethau y mae angen eu blaenoriaethu a'u gwahodd i fynychu'r Pwyllgor Sgriwtini hwn maes o law.  At hynny, dywedodd y Swyddog Sgriwtini ei bod yn fwriad gwahodd y partneriaethau hynny nad ydynt wedi gallu mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu oherwydd y pandemig i drafod y gwaith partneriaeth gyda'r Awdurdod ar yr Ynys i gyd-fynd â'r cyfnod adfer.

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn bod angen rhoi gwahoddiad i’r sefydliadau canlynol i fynychu'r Pwyllgor Craffu maes o law:-

 

Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Gwasanaethau Ambiwlans

 

PENDERFYNWYD nodi a chefnogi:-

 

·      Craffu ar bartneriaethau allweddol a gynhaliwyd yn ystod 2019/20;

·      Y partneriaethau y bwriedir eu blaenoriaethu yn rhaglen waith y Pwyllgor dros y flwyddyn nesaf;

·      Y camau nesaf y bwriedir eu cymryd fel y nodir ym mharagraff 5.11 o'r adroddiad;

·      Gwahodd y partneriaethau lle bu llithriant yn y rhaglen waith o ganlyniad i bandemig Covid-19 i drafod eu gwaith partneriaeth i gyd-fynd â'r cyfnod adfer.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

9.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 838 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Cytuno ar y fersiwn gyfredol o'r Flaenraglen Waith ar gyfer 2020/21;

·           Nodi'r cynnydd hyd yma o ran gweithredu'r Flaenraglen Waith.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.