Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydio'n yn fyw (Ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel y’u rhestrir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.1 ar y rhaglen.

 

Datganodd Mr Dewi F. Jones, Prif Swyddog Cynllunio, ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.2 ar y rhaglen.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 398 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 3 Tachwedd, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim wedi cymeryd lle.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd yr un ymweliad safle yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2021.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw siaradwyr cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd ceisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 291 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/106 – Cais llawn ar gyfer cadw cwt pren i ddal peiriant gwerthu llefrith (Dosbarth Defnydd A1) ynghyd â llain galed a llecyn parcio, addasu'r fynedfa bresennol i gerbydau a thirlunio cysylltiedig ar dir yn Neuadd, Cemaes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais a chynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 20 Hydref 2020. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2021, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ei fod, fel menter wledig, yn cyfrannu at ffyniant economaidd a chynaliadwyedd y gymuned; oherwydd yr ystyrir na fydd y datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar yr AHNE ac ar yr amod bod unrhyw ganiatâd a roddir yn cyfyngu’r defnydd o’r cwt i’r ymgeisydd yn unig.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr adroddiad, yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, yn rhoi sylw i’r rhesymau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod blaenorol dros ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, a’i fod yn cadarnhau argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais oherwydd yr ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi gan nad yw’n elfen israddol o fusnes sydd eisoes yn bodoli ar y safle; byddai’n arwain at ddatblygu uned fanwerthu ar ei phen ei hun yng nghefn gwlad nad yw’n dderbyniol ac nad oes cyfiawnhad iddi, ac o’r herwydd, ni fyddai’n gwarchod nac yn gwella rhinweddau a nodweddion arbennig yr AHNE dynodedig.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol, ei gefnogaeth i’r bwriad, gan ei fod yn ddatblygiad cymharol fach sy’n darparu gwasanaeth lleol a werthfawrogir ac, oherwydd nad yw ei faint yn sylweddol, ni fyddai yn ei farn ef yn cael unrhyw effaith niweidiol ar yr ardal o’i amgylch nac ar unrhyw amwynderau. Gofynnodd i’r Pwyllgor lynu at ei benderfyniad blaenorol i gymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones bod nifer o gytiau pren wedi eu codi ar hyd a lled yr Ynys yn ystod y pandemig a’u bod yn cael eu defnyddio fel ystafell ardd, tŷ bach twt a den dynion ac nid oedd yn credu bod unrhyw wahaniaeth rhwng y bwriad a’r strwythurau hynny. Dywedodd bod y ddeiseb a llythyrau o gefnogaeth gan drigolion lleol yn dyst i gryfder y teimladau o blaid y bwriad yn y gymuned.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y Pwyllgor yn ail-gadarnhau ei benderfyniad i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio, os oedd y Pwyllgor â’i fryd ar gadarnhau’r caniatâd a roddwyd i’r cais, yna byddai angen ystyried yr amodau i’w gosod ar y caniatâd. Wrth egluro ymhellach, dywedodd y Swyddog y byddai’r amodau yn rheoli’r datblygiad yn y ffordd arferol yn ogystal â chael eu teilwra i adlewyrchu rhesymau’r Pwyllgor dros ganiatáu’r cais, sef cyfyngu’r defnydd o’r cwt i’r ymgeisydd yn unig; ystod y nwyddau i’w gwerthu ar y safle er mwyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 1 MB

11.1 – LUE/2021/19 – Bodlawen, Llanidan, Brynsiencyn

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O2tOFUAZ/lue202119?language=cy

 

11.2 – FPL/2021/136 – Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKf7JUAT/fpl2021136?language=cy

 

11.3 – FPL/2021/248 – Parciau, Llanddaniel

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3aEMUAZ/fpl2021248?language=cy

 

11.4 – MAH/2021/19 – Parciau, Llanddaniel

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3aOIUAZ/mah202119?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 LUE/2021/19 – Cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon ar gyfer defnydd presennol yr annedd a gymeradwywyd o dan 37C53A/DA yn groes i’w ganiatâd cynllunio a’i amodau cyn cychwyn ac amodau eraill yn Bodlawen, Llanidan, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod yr ymgeiswyr yn perthyn i Aelod Lleol.

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn cael ei gyflwyno o dan adran 191(1) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) ar gyfer Tystystgrif Cyfreithlondeb Defnydd neu Ddatblygiad sy’n Bodoli. Mae’r cais yn ceisio sefydlu cyfreithlondeb annedd sydd yn groes i’r caniatad cynllunio a roddwyd a nifer o’r amodau a osodwyd ar y caniatâd materion a gadwyd yn ôl. Y prif fater yw a ydi’r dystiolaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, yn ôl pwysau tebygolrwydd, yn ddigonol ai peidio, a bod baich y prawf wedi’i gyflawni. Gyda cheisiadau o’r fath, nid yw polisïau cynllunio’n berthnasol i ganlyniad y cais ac felly dylid penderfynu ar y cais yn unol â’r dystiolaeth a gyflwynwyd. Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer codi annedd yn 1989 ac yn dilyn hynny rhoddwyd caniatâd gydag amodau i’r materion a gadwyd yn ôl yn 1990. Wedi asesu’r hanes cynllunio, nid ymddengys y cyflwynwyd gwybodaeth i’r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn ymgais i ryddhau’r amodau. Ystyrir hefyd na chafodd y datblygiad ei adeiladu yn unol â gofynion yr amodau. Honnir na chafodd y datblyigad ei adeiladu yn unol â’r caniatâd a roddwyd a bod amodau 1, 2, 3, 7 ac 8 wedi cael eu torri am dros 10 mlynedd yn ddi-dor ac, o’r herwydd, bod gan yr ymgeiswyr hawl i dystysgrif gan nad oes modd gorfodi’r amodau mwyach. Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn honni bod gwaith wedi cychwyn ym mis Tachwedd 1990 a bod yr eiddo wedi’i feddiannu gyntaf ym mis Hydref 2000. Mae adran Gyfreithiol yr Awdurdod, ar ôl ymgynghori â nhw ynghylch y cais, wedi dod i’r casgliad bod yr amodau, yn ôl pwysau tebygolrwydd, wedi cael eu torri am dros 20 mlynedd. Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn gosod terfynau amser ar gyfer cymryd camau gorfodaeth ac mae’n golygu nad oes modd cymryd camau gorfodaeth ar ddiwedd cyfnod o 4 blynedd o’r dyddiad pan gwblhawyd y gwaith ac mewn perthynas ag unrhyw achos arall o dorri rheolaeth cynllunio (ac eithrio datblygiad gweithredol neu newid defnydd adeilad i annedd sengl), y terfyn amser yw diwedd cyfnod o 10 mlynedd o ddyddiad torri unrhyw reol cynllunio. Felly i gloi, ymddengys yn ôl pwysau tebygolrwydd na chafodd y datblygiad ei gyflawni yn unol â’r caniatâd a rhai amodau. Gan fod y datblyigad wedi’i gwblhau tua 20 mlynedd yn ôl, mae’n golygu na ellir cymryd unrhyw gamau gorfodaeth mewn perthynas â’r amodau yn awr a bod gan yr ymgeiswyr hawl i dderbyn tystysgrif yn cadarnhau cyfreithlondeb y datblygiad. Felly,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1 – LBC/2021/29 – Gerddi Haulfre, Llangoed

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3pDqUAJ/lbc202129?language=cy

 

12.2 – FPL/2021/196 – Fron Heulog, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OLKTOUA5/fpl2021196?language=cy

 

12.3 – FPL/2021/178 – Cyn Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OL7YqUAL/fpl2021178?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 LBC/2021/29 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer ailwampio’r toiledau dynion a merched yn Uned Gerddi Haulfre, Haulfre, Llangoed 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â thir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cynnig ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith addasu mewnol er mwyn adnewyddu’r toiledau dynion a merched yn Uned Gerddi Haulfre. Mae’r cynigion a ddisgrifir yn yr adroddiad wedi cael eu hystyried yn ofalus ac ni fyddant yn niweidio cymeriad yr adeilad rhestredig a byddai’n bosib eu dadwneud yn rhwydd heb ddifrodi’r strwythur hanesyddol pe byddai amgylchiadau’n newid yn y dyfodol. Felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais, gydag amodau, ac yn amodol hefyd ar newid geiriad amod (02) i adlewyrchu’r ffaith fod y cais ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig yn hytrach na chaniatâd cynllunio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, ei fod yn croesawu’r cynnig a’i fod ef a’r gymuned leol yn gobeithio y byddai’r addasiadau arfaethedig yn golygu bod mwy o ddefnydd a gwell defnydd yn cael ei wneud o Erddi Haulfre fel adnodd arwyddocaol a hanesyddol werthfawr.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau a gynhwysir ynddo, ac i newid geiriad amod (02) fel yr amlinellwyd.

12.2      FPL/2021/196 – Cais llawn i godi strwythur newydd i ddarparu to dros y storfa dail bresennol yn Fron Heulog, Cemaes

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais yn dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cynnig ar gyfer gwella’r system reoli slyri bresennol ar y fferm i gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Nid yw’r strwythur ar gyfer cynyddu niferoedd stoc. Ar ôl ystyried y cynnig yn erbyn polisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a amlinellir yn yr adroddiad, cadarnhaodd bod y swyddog o’r farn fod y cynnig yn dderbyniol o ran ei osodiad a’i ddyluniad ac nid ystyrir ei fod ar raddfa a fyddai’n cael effaith niweidiol sylweddol ar gymeriad ac edrychiad yr ardal neu ar fwynderau meddianwyr preswyl gerllaw. Felly, yr argymhelliad yw caniatáu.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a gynhwysir ynddo.

12.3     FPL/2021/178 – Cais llawn ar gyfer codi 7 uned fusnes ynghyd â thirlunio a datblygiadau cysylltiedig yn Hen Safle Hofrenfa, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran yr Awdurdod.

 

Amlinellodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y prif ystyriaethau cynllunio mewn perthynas â’r cais yn ymwneud ag  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 695 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 DEM/2021/13 – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdai yn Thomas Close, Beaumaris

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmyngion gan ei fod yn ymwneud â thir ym mherchnogaeth y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais ar gyfer dymchwel rhes o 23 o fodurdai domestig i gerbydau sydd wedi dechrau dadfeilio ar stad breswyl Thomas Close ym Miwmares. Nid oes defnydd iddynt bellach ac oherwydd y dull adeiladu, nid ydynt yn addas i’w hailddatblygu. Bwriedir gadael y safle fel llecyn agored ar ôl dymchwel y modurdai. O dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, nid oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau ar yr amod bod y datblygwr yn cyflwyno cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gyntaf i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw mewn perthynas â’r dull dymchwel ac unrhyw waith adfer arfaethedig ar y safle. O dan y broses hon, rhoddwyd 28 diwrnod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ddod i benderfyniad ac yn ystod y cyfnod hwnnw cadarnhawyd na fydd angen caniatâd ymlaen llaw. Mae’r dull dymchwel arfaethedig wedi’i nodi yn y ffurflen gais ac mae’n cael ei amlinellu yn yr adroddiad; rhagwelir y bydd hyn a gwaith adfer ar y safle wedi hynny’n cael eu hystyried yn dderbyniol. I gloi, mae’r Cyngor wedi ystyried y cais a phenderfynwyd nad oes angen caniatâd ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol gan fod y gwaith yn cael ei ystyried fel datblygu a ganiateir o dan Ran 31 o Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais fel datblygu a ganiateir yn unol ag adroddiad y Swyddog a’r manylion a gyflwynir ynddo.

13.2 DEM/2021/4 – Caniatâd ymlaen llaw ar gyfer y bwriad i ddymchwel dau fodurdy yn Hampton Way, Llanfaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â thir ym mherchnogaeth y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer dymchwel rhes o ddau fodurdy domestig i gerbydau sydd wedi dechrau dadfeilio ar stad breswyl Hampton Way yn Llanfaes. Nid oes defnydd i’r modurdai mwyach ac oherwydd y dull adeiladu, nid ydynt yn addas i’w hailddatblygu. Bwriedir gadael y safle fel llecyn agored ar ôl dymchwel y modurdai. Yn yr un modd â’r cais blaenorol, o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, nid oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau os yw’r datblygwr yn cyflwyno cais yn gyntaf i’r Awdurdod Cynllunio Lleol er mwyn penderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw mewn perthynas â’r dull dymchwel ac unrhyw waith i adfer y safle. O dan y broses hon, rhoddwyd 28 diwrnod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ddod i benderfyniad a chadarnhawyd yn ystod y cyfnod hwnnw na fydd angen caniatâd ymlaen llaw. Mae’r dull dymchwel arfaethedig wedi’i nodi yn y ffurflen gais ac mae’n cael ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.