Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Penderfyniad: Bu’r Cynghorydd Nicola Roberts ddatgan diddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 2 ar yr agenda fel aelod o gorff llywodraethu Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.
Bu Mr Marc Jones, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ddatgan diddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu yn eitem 2 ar yr agenda o ran bod ei dad yng nghyfraith yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Talwrn. |
|
Mae cais galw i mewn wedi ei gyflwyno gan y Cynghorwyr Bryan Owen, R. Llewelyn Jones, Kenneth Hughes, Peter Rogers ac Aled Morris Jones ynglyn â phenderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth, 2021 mewn perthynas ag Adroddiad Gwrthwynebu yng nghyswllt Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni - Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig.
Mae’r ddogfennaeth fel a ganlyn –
· Y penderfyniad a gyhoeddwyd ar 16 Mawrth, 2021
· Y cais galw i mewn
· Adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 15 Mawrth, 2021. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd gwrthod y mater a gafodd ei alw i mewn a chadarnhau penderfyniad y Pwyllgor Gwaith o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2021 sef i gymeradwyo’r cais gwreiddiol i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.
(Bu i’r penderfyniad gael ei basio o 10 pleidlais i 2). |