Rhaglen a Phenderfyniadau

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Penderfyniad:

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 2 ar yr agenda fel gwirfoddolwr gyda Bwyd Da Môn.

 

Bu i’r Cynghorydd Robin Williams (ddim yn aelod o’r pwyllgor) hefyd ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 2 ar yr agenda.

2.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhlaiwyd ar y dyddiadau canlynol 

 

·         16 Chwefror, 2021

·         8 Mawrth, 2021

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 16eg o Chwefror a’r 8fed o Fawrth, 2021 ac fe'u cadarnhawyd fel cofnod cywir.

 

3.

Ymateb y Cyngor i Covid-19 pdf eicon PDF 869 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr ynglyn â materion i’w dilyn i fyny ar gais y Pwyllgor.

 

 

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi ymateb y Cyngor i’r pandemig ac yn benodol yr ymateb wrth ddiogelu llesiant staff a chymunedau ac effeithiolrwydd y Strategaeth Profi ac Olrhain.

 

Gweithred Ychwanegol: Dylid creu Llawlyfr Gwydnwch Cymunedol Ynys Môn i gofnodi'r gwersi a’r arferion da o’r pandemig ar y lefel gymunedol. Dylid cyfeirio at Lawlyfr Gwydnwch Cymunedol Llundain yr LGA ac ymgynghori â’r Grwp Cefnogi Cymunedol am ei fewnbwn. 

4.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 971 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

           Cytuno i fersiwn bresennol y blaen raglen waith ar gyfer 2021/22.

           Nodi’r cynnydd hyd yn hyn yn gweithredu’r blaen raglen waith.