Eitem Rhaglen

Strategaeth Gwrth Dlodi

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai nad oes Strategaeth Gwrthdlodi yn bodoli yn y Cyngor ar hyn o bryd. Mae’r ddogfen hon wedi’i chydnabod fel blaenoriaeth ar gyfer rhaglen waith yr Uned Strategol Gwasanaethau Tai ar gyfer 2017/18 sydd wedi’i yrru gan Gynllun Corfforaethol 2017/2022. Nododd mai un o’r negeseuon cryfaf o ran gwrthdlodi yng Nghymru ar hyn o bryd yw bod mwy o bobl o oed gwaith yn dioddef tlodi ar hyn o bryd o gymharu â 10 mlynedd yn ôl. Dywedodd ymhellach nad yw’r gair ‘tlodi’ o reidrwydd yn golygu rhywun â dim arian, gall olygu pobl yn teimlo nad oes modd iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau ar lefel gymunedol ac efallai diffyg gallu i gael nwyddau neu gael mynediad i wasanaethau hanfodol. Mae gan y Cyngor Sir rôl i hyrwyddo strategaethau sy’n galluogi pobl i gael mynediad i’r gwasanaethau sydd ar gael ac hefyd i geisio arwain pobl tuag at wasanaethau nad yw’r Cyngor yn eu darparu. Mae’r Strategaeth gwrthdlodi wedi bod yn destun trafodaeth fewnol o fewn y Cyngor er mwyn codi ymwybyddiaeth a gosod gwaelodlin o weithgareddau o fewn gwasanaethau a gyda phartneriaid a datblygu dull o fesur effaith y gwasanaethau ar ddelio â thlodi mewn cymunedau ar yr Ynys. Cynhaliwyd cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ym Mai 2018 drwy’r cyfryngau cymdeithasol a gwefan gorfforaethol y Cyngor ond nododd na dderbyniwyd unrhyw adborth gan y cyhoedd ond y derbyniwyd ymateb da gan bartneriaethau sy’n gweithio gyda’r Cyngor ac sy’n dymuno bod yn rhan o’r strategaeth.       

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Tai unwaith eto fod y Strategaeth Gwrthdlodi yn ddogfen gorfforaethol ar draws holl wasanaethau’r Cyngor ac y dylai fod yn rhan o’r Cynllun Cyflawni Blynyddol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y prif faterion canlynol:-

 

·      Gwnaed sylwadau fod Cyngor ar Bopeth Ynys Môn wedi nodi bod mwy na £1.2 miliwn o fudd-daliadau a oedd ar gael i bobl Ynys Môn yn mynd heb eu hawlio. Codwyd cwestiynau am sut y gall gwasanaethau sicrhau bod y bobl hynny sy’n gymwys i gael budd-daliadau o’r fath yn gallu gwneud cais a sut y gellir sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau tai bod Swyddogion Cynhwysiant Cymdeithasol wedi eu penodi yn y Gwasanaethau Tai ac y bydd un swyddog yn gweithio o fewn y sector preifat er mwyn codi ymwybyddiaeth am hawliau i fudd-daliadau. Dywedodd fod pobl yn methu â hawlio budd-daliadau yn fater cenedlaethol, fel rhieni yn methu â hawlio prydau ysgol am ddim i’w plant y mae ganddynt yr hawl i’w derbyn. Nododd y Pwyllgor ymhellach nad yw pobl yn cael eu harwain tuag at y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt a’u bod felly yn colli allan yn ariannol;  

·      Gofynnwyd am gadarnhad o ran pa bartneriaethau sy’n gweithio gyda’r awdurdod yr ymgynghorwyd â nhw mewn perthynas â’r strategaeth hon. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai enghraifft o’r mathau o sefydliadau y mae’r Gwasanaeth Tai yn cydweithio’n agos â nhw h.y. Medrwn Môn, CAB a’r Cymdeithasau Tai. Nododd hefyd fod gan wasanaethau eraill bartneriaethau â gwahanol sefydliadau y byddant yn cydweithio â nhw. Codwyd cwestiynau pellach am y ffordd y bydd yr awdurdod yn monitro datblygiad y Strategaeth Gwrthdlodi. Ymatebodd y Swyddog gan ddweud y bydd yn her o ran y Strategaeth hon gan y bydd yn ddogfen y bydd angen i bob gwasanaeth fynd i’r afael â hi a nododd y dylai pob gwasanaeth ei mabwysiadu fel rhan o’u Cynlluniau Darparu Gwasanaeth; 

·      Cyfeiriwyd at atodiad 1 yr adroddiad a oedd yn nodi canran y plant a oedd yn byw mewn tlodi ar Ynys Môn. Gofynnwyd sut yr oedd cymhareb tlodi plant yr awdurdod yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai gan ddweud bod y lefel o dlodi plant yn uwch mewn rhai ardaloedd o Gymru na’i gilydd. Gwnaed sylwadau y gall diffyg tai cymdeithasol a llety rhent fod yn ffactor ac y gallai’r broblem waethygu unwaith y bydd y prosiect Wylfa Newydd yn dechrau ac fe allai llety fod yn broblem ddifrifol ar yr Ynys. 

·      Cyfeiriwyd at y sylwadau yn yr adroddiad mewn perthynas â ‘Chryfhau teuluoedd a chymunedau’. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu cymorth i deuluoedd a chymorth blynyddoedd cynnar a mynediad amserol i wasanaethau megis gwasanaethau iechyd meddwl’. Fe’i ystyriwyd yn rhagfarnllyd awgrymu bod pobl sy’n dioddef tlodi angen mwy o wasanaethau iechyd meddwl nag unrhyw un arall a bod angen newid yr adroddiad i ddarllen ‘mynediad mwy amserol i wasanaethau megis gwasanaethau iechyd’. Cyfeiriwyd hefyd ar y ffaith nad yw tlodi o reidrwydd yn golygu bod pobl yn dlawd ac ar fudd-daliadau; mae mathau gwahanol o dlodi e.e. pobl yn gweithio ar gyflogau isel, pobl â phroblemau iechyd ac anableddau a phobl sydd â safon wael o addysg.  

 

Roedd yr Aelodau yn ystyried bod angen i bob adran yn y Cyngor fabwysiadu’r ddogfen bwysig hon a bod angen rhoi hyfforddiant i’r holl staff rheng flaen.

 

Mynegodd yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau fod hon yn ddogfen bwysig a cytunodd bod angen i’r Strategaeth Gwrthdlodi gael ei chynnwys a’i blaenoriaethu ym mhob Gwasanaeth o fewn y Cyngor.    

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylai gymeradwyo’r Strategaeth Gwrthdlodi a bod pob gwasanaeth yn blaenoriaethu’r strategaeth yn eu gwaith o ddydd i ddydd a’i fod yn amcan i bob gwasanaeth ei chynnwys yn eu Cynlluniau Darparu Gwasanaeth.  

 

Dogfennau ategol: