Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1  34C304Z/1/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

7.2  39C18C/2/VAR – Plot 10, Ty Mawr, Porthaethwy

7.3  41LPA1041/FR/TR/CC – Star Crossroads, Star

Cofnodion:

7.1  34C304Z/1/ECON – Cais llawn ar gyfer codi chwech o adeiladau, newid defnydd cae yn ardal hyfforddiant peiriannau trwm ynghyd a chreu maes parcio newydd yn Coleg Menai, Ffordd Y Coleg, Llangefni

 

(Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd K P Hughes allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Roedd y Cynghorydd John Griffith wedi datgan diddordeb personol yn y cais ond yn dilyn cyngor cyfreithiol, fe gymerodd ran yn y drafodaeth a’r bleidlais arno.)

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cais mawr ac yn ffurfio rhan o’r cynllun meistr tymor hir ar gyfer y campws a thref Llangefni. Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf, 2018, penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y swyddog. Fe gynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 18 Gorffennaf, 2018.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygiad arfaethedig yn cynnwys 6 adeilad sef (1) Storfa offer gweithredol ar gyfer gwaith adeiladu cyffredinol (2) Storfa sgaffaldiau (3) Canolfan hyfforddiant ar gyfer gwneud casmentau a chaeadau (‘shuttering’) ac adeilad hyfforddi gweithredol cyffredinol  (5) Adeilad hyfforddiant sgaffaldiau a (6) Storfa ar gyfer peiriannau trwm.  Yn ychwanegol at hyn, bydd newid defnydd o dir amaethyddol yn ardal hyfforddiant peiriannau trwm ynghyd â chreu maes parcio ar gyfer 41 o gerbydau a’r gwaith tirlunio cysylltiedig. Mae’r cais yn gais llawn ar gyfer creu Canolfan ar gyfer Hyfforddiant Sgiliau Seilwaith a bydd yn darparu sgiliau sy’n gysylltiedig â chyfnodau adeiladu prosiectau seilwaith mawr. Nodwyd y bydd y datblygiad yn creu 20 o swyddi newydd ac y bydd y ganolfan â’r capasiti i hyfforddi rhwng 800 a 1,000 o unigolion bob blwyddyn.    

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch mesurau lliniaru ar gyfer ystlumod ac y disgwylir hefyd am sylwadau gan yr Adain Ddraenio a chan Asiantaeth Briffyrdd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r datblygiad. Nododd fod sylwadau wedi dod i law gan Dŵr Cymru, Gwasanaethau Cynllunio Archeolegol Gwynedd (GAPS), yr Awdurdod Priffyrdd a’r Swyddog Iaith Gymraeg a oeddynt oll yn fodlon gyda’r datblygiad. 

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith am lefel y niwsans sŵn i anheddau cyfagos yn sgil y peiriannau trwm a ddefnyddir yn ystod rhaglenni hyfforddiant y myfyrwyr. Nododd fod adroddiad y Swyddog yn dweud na fydd hyn yn cael unrhyw effeithiau andwyol ar eiddo cyfagos. Dywedodd ymhellach nad oes unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at yr 153 eiddo a’r gwesty sydd wedi cael eu cymeradwyo’n ddiweddar fel rhan o’r datblygiadau yng Ngholeg Menai.  Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod cais amlinellol blaenorol a gymeradwywyd ar gyfer codi adeiladau ar gyfer hyfforddiant peiriannau trwm yn agosach at yr eiddo. Nododd fod y cais wedi cael ei ddiwygio a bod yr adeiladau yn awr ymhellach i ffwrdd o’r eiddo. Gofynnodd y Cynghorydd Griffith am eglurhad ynghylch a fydd modd rhoi amod ynghylch lefelau sŵn ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd a hynny o ran symudiadau peiriannau trwm ar y safle. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oes unrhyw amodau ynghylch lefelau sŵn wedi cael eu hatodi i’r cais ond bod amod (05), fel a nodir yn adroddiad y Swyddog, yn dweud bod defnydd o beiriannau trwm ar y safle wedi cael ei gyfyngu i rhwng 9.00 a.m., a 5 p.m. yn unig, ac na fydd unrhyw beiriannau’n cael eu gweithredu dros y penwythnos neu dros Wyliau’r Banc.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod yr ymateb angenrheidiol gan yr ymgyngoreion statudol yn dderbyniol.

 

7.2  39C18C/2/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) o ganiatâd cynllunio rhif 39C18H/DA (codi 21 o dai) er mwyn diwygio yr edrychiad allanol yn Plot 10, Tŷ Mawr, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf, 2018, penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y swyddog. Fe gynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 18 Gorffennaf, 2018.

 

Dywedodd Mr Ken Hughes (a oedd yn erbyn y cais) ei fod yn cynrychioli ef ei hun a’i gymydog Mr Dyfrig Williams a oeddent ill dau yn byw mewn tai yn ymyl y datblygiad hwn. Nododd nad oedd ganddo ef na Mr Williams unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad o ran ei ddyluniad na’i faint ond bod ganddynt bryderon ynghylch uchder y cynnig hwn a lefelau’r llawr gorffenedig. Nododd y bydd gan yr annedd newydd do a fydd yn goleddfu ar bedair ochr i fyny at grib gul ac y bydd môr o lechi yn wynebu eiddo cyfagos ac yn arbennig o flaen rhif 6 Stad Tŷ Mawr. Roedd Mr Hughes o’r farn y gellid gostwng lefel y llawr heb i hynny gael effaith andwyol ar fwynderau’r eiddo unwaith y byddai wedi’i gwblhau.  

 

Gofynnodd yr Aelodau pam eu bod o’r farn bod angen gostwng uchder to’r annedd arfaethedig ac a ydyw’n cael effaith andwyol ar y golygfeydd o eiddo cyfagos. Ymatebodd Mr Hughes drwy ddweud bod uchder yr annedd arfaethedig a gyflwynwyd gan y datblygwr yn awr ddwywaith yn uwch na’r annedd a gymeradwywyd yn flaenorol. Bydd y sawl sy’n byw yn 6 Stad Tŷ Mawr yn edrych dros fôr o doeau llechi a byddai gostwng uchder to’r annedd arfaethedig yn lleddfu’n fawr ei effaith ar yr annedd gyfagos.    

 

Dywedodd Mr Jamie Bradshaw (o blaid y cynnig) bod y cais yn un i newid y dyluniad a gymeradwywyd ar gyfer plot 10 ar ddatblygiad Tŷ mawr. Mae’r dyluniad newydd yn un am fyngalo 4 llofft gydag un ystafell wely yn nho’r adeilad. Nododd fod y dyluniad a gymeradwywyd ar gyfer byngalo unllawr, ond ei bod yn bwysig nodi bod uchder llawr gwaelod yr eiddo hwnnw’n sylweddol uwch na’r hyn a gynigir yn awr.  Mae’r cais a gymeradwywyd eisoes 34 o fetrau’n uwch na’r cynlluniau diwygiedig, sef 31.82 o fetrau. Mae’r cais yn un am do sy’n goleddfu ar bedair ochr i fyny at grib sengl, gul. Roedd gan y dyluniad a gymeradwywyd grib hir ar hyd y canol a thalcenni a oedd yn wynebu   eiddo cyfagos. O’r herwydd, caiff y cynnig hwn lai o effaith ar gymdogion na’r dyluniad a gymeradwywyd ac mae hynny’n ddadl allweddol o’i blaid. Dywedodd ymhellach fod rhaid nodi bod y dyluniad a gymeradwywyd yn cynrychioli’r sefyllfa ‘wrth gefn’ ac y gellid bwrw ymlaen i’w adeiladu petai’r cais hwn yn cael ei wrthod. Dywedodd  Mr Bradshaw fod y datblygiad arfaethedig yn ddyluniad modern a fyddai’n well na’r dyluniad hen ffasiwn a gymeradwywyd ac y byddai’n adlewyrchu’r tai eraill a adeiladwyd yn ddiweddar ar y rhan hon o’r stad o ran edrychiad a graddfa yn ogystal â maint yr adeilad ar y plot. Roedd y Swyddogion wedi dod i’r un casgliadau wrth asesu’r cynnig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts a oedd unrhyw reswm technegol pam nad oedd modd gostwng lefel llawr yr eiddo arfaethedig. Dywedodd Mr Bradshaw y byddai angen gwneud gwaith cloddio sylweddol ac y byddai hynny’n gostus.  Dywedodd fod uchder y datblygiad arfaethedig hwn wedi cael ei ostwng o gymharu â’r cais a gymeradwywyd yn flaenorol.   

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais i newid dyluniad yr annedd a gymeradwywyd eisoes yw hwn. Mae’r ardal wedi’i nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a disgwylir y bydd tai yn cael eu codi ynddi. Mae to’r annedd arfaethedig wedi cael ei ostwng yn sylweddol o gymharu â’r annedd a gymeradwywyd eisoes a byddai’n cael llai o effaith ar eiddo cyfagos. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu. 

 

Dywedodd y Cynghorydd R Meirion Jones, Aelod Lleol fod gwaith datblygu ar Stad Tŷ Mawr wedi bod yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd a bod deiliaid yr anheddau ar y stad wedi cael gwybod beth fyddai gosodiad a maint yr eiddo ar y stad. Yn ddiweddar, roedd perchenogion plotiau ar y stad wedi bod yn cyflwyno ceisiadau i ymestyn ôl troed yr anheddau.  Cyfeiriodd at Blot 8 ar y stad a dywedodd fod ôl troed yr annedd hon wedi llenwi’r plot cyfan a bod arni do â môr o lechi a oedd yn edrych dros eiddo cyfagos. Dywedodd y Cynghorydd Jones oedd yn cytuno gyda datblygwr  Plot 10 y câi’r annedd lai o effaith ar eiddo cyfagos na’r dyluniad a gymeradwywyd yn flaenorol oherwydd roedd ôl troed yr annedd yn fwy gyda hynny o ganlyniad yn cael mwy o effaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod yn cytuno gyda’i gyd-Aelod Lleol, y Cynghorydd R Meirion Jones bod ôl troed anheddau a gymeradwywyd yn ddiweddar ar y stad yn fwy o lawer.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar gyfer eiddo ar y stad yn ôl eu rhinweddau eu hunain a hynny ar ôl y caniatâd gwreiddiol ar gyfer datblygu Stad Tŷ Mawr. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts pa mor bell oedd yr annedd arfaethedig oddi wrth yr eiddo cyfagos. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod 9.5m rhwng yr eiddo ac ystyrir bod hynny’n dderbyniol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at y Canllawiau Cynllunio Atodol, Nodyn 8 sy’n dweud y dylai eiddo fod o leiaf 10.5m oddi wrth ei gilydd ac y dylai’r pellteroedd o ran lefelau’r safle fod yn 3m; o’r herwydd, dylai fod 13.5m o bellter rhwng y tai hyn. Roedd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yn derbyn fod y canllawiau’n dweud y dylai fod pellter o 10.5m rhwng ffiniau eiddo a bod y CCA yn dweud y dylent fod yn bellach oddi wrth ei gilydd pan mae ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod yn rhan o’u dyluniad. Dywedodd fod Plot 10 yn is na’r eiddo cyfagos ac y gellir gostwng y pellteroedd rhwng ffiniau eiddo cyfagos oherwydd ni fydd yr annedd arfaethedig yn edrych dros yr un ohonynt.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ei fod yn amlwg yn ystod yr ymweliad safle na fu digon o reolaeth dros ddatblygu cynllunio ar y stad hon a hynny oherwydd yr estyniadau i faint, a’r newid i ddyluniad anheddau a godwyd yn ddiweddar. Roedd ef o’r farn fod hyn yn cael effaith ar fwynderau trigolion ac roedd yn cytuno gyda’r gwrthwynebydd y dylid gostwng lefel llawr yr annedd hon.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Ymataliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ei bleidlais.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3  41LPA1041/FR/TR/CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Gyffordd Star, Star.

 

(Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais gan y Cyngor ydyw. 

 

Yn dilyn derbyn yr adroddiad ar yr effaith o ran llifogydd, cynigiodd y Cynghorydd Williams bod angen ymweld â’r safle er mwyn gweld a yw’n addas ar gyfer man stopio dros dro ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

 

Dogfennau ategol: