Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1  14C245B/VAR – Bodwrog, Tyn Lon

10.2  42C135F/VAR – Coch y Meiri, Wern y Wylan, Llanddona

Cofnodion:

10.1  14C245B/VAR – Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amodau (04) (mannau pasio) a (07) (cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 14C245A (newid defnydd adeilad allanol i annedd) er mwyn diwygio’r dyluniad a gymeradwywyd a lleihau nifer y mannau pasio o ddau i un ynghyd â thynnu amod (06) (cofnod ffotograffig) ar dir i’r gogledd o Bodwrog, Tyn Lon

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar argymell penderfyniad rhanedig, gan gymeradwyo rhan o’r cais a gwrthod y llall. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi’i leoli mewn cefn gwlad agored. Mae’r egwyddor o ddatblygu’r safle eisoes wedi ei sefydlu pan roddwyd y caniatâd. Nodwyd bod y cynnig sydd gerbron y Pwyllgor yn un i ddiwygio Amod (07) ar gyfer estyniad i greu ystafell wely ar y llawr cyntaf a fyddai’n cyfateb i newid dyluniad yr adeilad sy’n groes i bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sy’n dweud y dylai unrhyw waith addasu gadw cymeriad yr adeilad a lleihau effaith unrhyw waith newydd.    

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y cynnig i ddiwygio Amod (04) a oedd yn ymwneud â newid i leihau nifer y llefydd pasio o 2 i 1. Roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau fod hynny’n dderbyniol a’u bod yn fodlon i’r amod gael ei amrywio’n unol â hynny.   

 

Cyfeiriodd ymhellach at y ffaith fod yr ymgeisydd wedi gofyn am gael dileu Amod (06) (Cofnod Ffotograffig) o’r cais a gymeradwywyd ond ystyriwyd y dylid gollwng yr amod hwn yn hytrach na’i ddileu. Cyflwynwyd tystiolaeth ffotograffig gyda’r cais cynllunio ac roedd Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r dystiolaeth ffotograffig a gyflwynwyd gyda’r cais.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid caniatáu amrywio Amod (04) (lleoedd pasio) a dileu Amod (06) (Cofnod Ffotograffig) ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid gwrthod y cais i amrywio Amod (07) (cynlluniau a gymeradwywyd) yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      cymeradwyo’r cais mewn perthynas ag amrywio amod (04) (mannau pasio) a dileu amod (06) (Cofnod Ffotograffig) yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

·      Gwrthod yr amrywiad i amod (07) (cynlluniau wedi’u cymeradwyo) yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

10.2  42C135F/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (11) (cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 42C135C (Cais cynllunio hybrid: Cais amlinellol gyda'r holl wybodaeth o fynedfa, edrychiad, tirlunio, gosodiad a graddfa ar gyfer codi bloc stablau. Cais llawn ar gyfer gosod 4 pod gwyliau a man parcio) er mwyn diwygio dyluniad y podiau a gosodiad y maes parcio ynghyd a rhyddhau amod (09) (cynllun tirlunio) yn Coch y Meiri, Wern y Wylan, Llanddona

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.  

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i amrywio’r amodau i newid dyluniad y 4 pod gwyliau ar y safle a gosodiad y maes parcio. Mae’r cais yn tynnu’n groes i Bolisi TWR3 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond mae sefyllfa wrth gefn, sef bod safle cais wedi â chaniatâd cynllunio ers 2017.  Amlinellodd hanes y caniatâd cynllunio blaenorol yn 2017 a nododd fod y cais gwreiddiol am 6 o bodiau gwyliau a bod y nifer wedi’i ostwng i 4 ac y gwnaethpwyd i ffwrdd hefyd â’r elfen honno o’r cais a oedd yn ymwneud â chanolfan farchogaeth. Fel rhan o’r cais, roedd bwriad i wneud i ffwrdd â 3 carafán statig a oedd yn cael eu defnyddio i ddibenion gwyliau ar y safle. Roedd y cais yn un i godi uchder y podiau gwyliau gan 60cm ac i wneud newidiadau i ddrysau a ffenestri’r podiau ac i wneud gwaith tirlunio er mwyn lliniaru effaith y datblygiad. 

 

Dywedodd ymhellach fod safle’r cais ar ffiniau Wardiau Seiriol a Lligwy a bod un o Aelodau Lleol Ward Seiriol wedi gwrthwynebu amrywio’r Amod sy’n ymwneud â thirlunio’r safle gan nodi fod yr ymgeisydd yn cyflwyno cynlluniau llawn yn hytrach na gwneud i ffwrdd â’r amod. Nododd fod yr Aelod Lleol wedi dweud fod gan Gyngor Cymuned Llanddona bryderon oherwydd fod y safle yn yr AHNE ac yn ymyl y llwybr arfordirol.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor Cymuned wedi mynegi pryderon ynghylch y cais blaenorol o safbwynt yr amod a oedd yn ymwneud â lled y lôn a oedd yn arwain at y safle. Nododd fod y Cyngor Cymuned bellach yn fodlon gyda manylion y cais llawn ac nad oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig. Mae manylion am y lleoedd pasio wedi cael eu cyflwyno fel rhan o’r cais ac mae’r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon â’r cynnig. Bydd angen diwygio Amod 8 er mwyn sicrhau bod y lleoedd pasio’n cael eu cwblhau cyn i bobl ddechrau defnyddio’r podiau gwyliau. Dywedodd ymhellach fod manylion am y system ddraenio wedi dod i law ond y disgwylir am ymateb gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel un o’r ymgyngoreion statudol; mae Adain Ddraenio’r Awdurdod yn fodlon â’r manylion.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 25 Gorffennaf, 2018 a gofynnodd am i’r Swyddogion gael hawl i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus os na fydd unrhyw sylwadau wedi dod i law.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      cymeradwyo’r cais a rhoi’r hawl i’r Swyddog weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben;

·      bod gwelliant yn cael ei wneud i Amod 8 sef gofyniad i’r mannau pasio gael eu cwblhau cyn i’r podiau gwyliau ddechrau cael eu defnyddio.  

Dogfennau ategol: