Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 21C38H/VAR – Canolfan Fusnes Daniel, Llanddaniel

 

10.2 28C257D/VAR – Bryn Maelog, Llanfaelog

Cofnodion:

10.1    21C38H/VAR – Cais dan Adran 73A i ddiwygio amodau (10) (dŵr budr a dŵr wyneb) a (11) (Cynllun Rheoli a Chynnal a Chadw) caniatâd cynllunio rhif 21C38G/VAR (codi pedair annedd) er mwyn cyflwyno gwybodaeth o fewn tri mis yn lle dau fis yn hen safle Canolfan Busnes Daniel, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y bwriad yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond roedd yn un yr oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol o blaid ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio llawn wedi'i roi ar y safle dan gais blaenorol a gymeradwywyd yn 2010. Ers hynny roedd llwybr troed wedi'i gwblhau'n rhannol ac roedd dwy o'r pedair annedd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Ym mis Chwefror 2018, cymeradwywyd cais i amrywio amod mewn perthynas â'r cynlluniau a gymeradwywyd er mwyn diwygio dyluniad y pedair annedd. Fel rhan o'r amodau a roddwyd ar y caniatâd bryd hynny, roedd yn ofynnol i'r datblygwr gyflwyno o fewn dau fis i’r caniatâd, fanylion dylunio ac adeiladu'r systemau draenio dŵr budr a dŵr wyneb arfaethedig a sut y byddai'r rhain yn cael eu rheoli a'u cynnal. Roedd y datblygwr nawr yn gwneud cais i ymestyn yr amserlen i dri mis ond hefyd i gyflwyno'r manylion gofynnol yr un pryd â'r cais. Cyflwynwyd y manylion hynny ac asesodd yr asiantaethau perthnasol eu bod yn dderbyniol.

Eglurodd y Swyddog y câi’r adroddiad ei gyflwyno i'r Pwyllgor oherwydd fel cais Adran 73 roedd, mewn gwirionedd, yn gais newydd ac roedd y bwriad i godi annedd yn y lleoliad hwn, sef yn rhannol y tu allan i'r ffin ddatblygu, yn groes i'r polisïau cynllunio cyfredol. Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa wrth gefn a ddarparwyd gan y caniatâd cynllunio oedd eisoes yn bodoli, sefyllfa oedd yn y broses o gael ei gweithredu, yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ganiatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

10.2    28C257D/VAR – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (11) (cynlluniau a gymeradwywyd) caniatâd cynllunio rhif 28C257C (dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi annedd newydd) fel y gellir diwygio dyluniad yr annedd ynghyd â newid amodau (02) (system ffosydd cerrig dŵr wyneb), (09) (dim dŵr wyneb i ddraenio i’r briffordd) a (10) (Cynllun Rheoli Traffig) fel y gellir ystyried y wybodaeth fel rhan o'r cais yma ar dir ger Bryn Maelog, Llanfaelog

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y bwriad yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond roedd yn un yr oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol o blaid ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn ar y safle dan gais blaenorol i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi annedd newydd a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf, 2017. Cais i amrywio'r amodau a ddisgrifir oedd y cais dan ystyriaeth. Roedd diwygiadau’r dyluniad arfaethedig yn cynnwys un modurdy gyda tho brig llechi yng ngogledd-orllewin y safle yn hytrach na phorth car dwbl to fflat i'r dwyrain o'r safle; cynnydd bychan ym maint y cyfleustod llawr gwaelod; mân newidiadau i ffenestri a symud y brif annedd i ymgorffori lleoliad newydd y modurdy. At ei gilydd, ystyriwyd bod y newidiadau a wnaed i'r annedd yn fychan eu natur ac na fyddent yn cael effaith ar eiddo preswyl cyfagos dim mwy na wnaeth y caniatâd cynllunio a gymeradwywyd yn flaenorol. Roedd manylion cynlluniau draenio a rheoli traffig wedi'u cyflwyno gyda'r cais dan ystyriaeth ac roeddynt yn dderbyniol. Er bod y bwriad yn groes i'r polisïau cynllunio presennol, argymhelliad y Swyddog oedd cymeradwyo'r cais gan fod y caniatâd cynllunio presennol am annedd yn cynnig sefyllfa wrth gefn ac roedd y dyluniad diwygiedig yn welliant ar y cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Richard Dew, Aelod Lleol, i gadarnhau ei fod yn cefnogi'r bwriad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: