12.1 12LPA1003F/FR/CC – Lawnt Bowlio, Biwmares
12.2 42C6N – Tan y Graig, Pentraeth
12.3 42C188E/ENF - 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir
12.4 45C489/LB – Ynys Llanddwyn, Niwbwrch
Cofnodion:
12.1 12LPA1003F/FR/CC – Cais llawn ar gyfer gosod dwy bibell mewn cysylltiad â gwaith lliniaru llifogydd Biwmares yn y Lawnt Fowlio, Biwmares
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan iddo gael ei wneud gan y Cyngor a’i fod yn dir sy'n eiddo i'r Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais i osod dwy bibell mewn cysylltiad â'r gwaith lliniaru llifogydd ym Miwmares oedd hwn. Tua 380 metr oedd cyfanswm hyd y ceuffosydd a byddent yn cael eu claddu mewn dyfnder o rhwng dau a thri medr islaw lefel y tir presennol. Byddai’r mwyafrif o'r gwaith dan y ddaear ac, felly, nid oedd yn weladwy. O’r herwydd, nid ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith ar gadwraeth harddwch naturiol, nodweddion na rhinweddau arbennig yr AHNE oedd yn gysylltiedig ag effeithiau gweledol. Ystyriwyd bod y cynllun diwygiedig yn welliant sylweddol ar fwriad a gymeradwywyd yn flaenorol am waith lliniaru llifogydd ym Miwmares. Roedd arbenigwyr mewnol ac allanol yr ymgynghorwyd â nhw wedi asesu'r datblygiad arfaethedig mewn perthynas â'r Ardal Gadwraeth Arbennig, y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac ni fyddai unrhyw wrthwynebiadau pe ceid amodau. Yr argymhelliad, felly, oedd cymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
12.2 42C6N – Cais llawn ar gyfer gosod 15 bwthyn gwyliau, creu mynedfa newydd i gerbydau a llwybr cerdded ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Nhan y Graig, Pentraeth
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cadeirydd fod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Margaret M. Roberts, yn gofyn am gael ymweld â safle'r cais oherwydd effeithiau posib y datblygiad arfaethedig ar yr ardal, yr iaith a hefyd ar draffig.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ymweld â’r safle. Eiliodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes y cynnig.
Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr aelod lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.3 42C188E/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi uned llety gwyliau newydd yn 4 Tai Hirion, Rhoscefnir
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cadeirydd fod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Ieuan Williams, yn gofyn am gael ymweld â safle'r cais ar y sail bod yr adroddiad yn nodi bod y cynllun yn dderbyniol yn ei leoliad, er bod argymhelliad i’w wrthod ac nad yw’n arwain at unrhyw niwed i fwynderau preswylwyr yr eiddo cyfagos ar hyn o bryd.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones ymweld â’r safle. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig.
Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr aelod lleol am y rheswm a roddwyd.
12.4 45C489/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith mewnol ac allanol i'r bythynnod yn Ynys Llanddwyn, Niwbwrch
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod am waith i adeilad rhestredig ym mherchenogaeth y Cyngor Sir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y gwaith arfaethedig yn fychan ei natur a’i fod ar gyfer paratoadau am raglen ddogfen sy'n ceisio ail-greu amodau byw yn y bythynnod ar droad y ganrif. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol yng nghyd-destun yr adeiladau rhestredig a bod modd gwrthdroi'r gwaith a, thrwy hynny, adfer y bythynnod i'w cyflwr presennol.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog.
Dogfennau ategol: