Eitem Rhaglen

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 1, 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol a Thrawsnewid) yn amlinellu sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar gyfer chwarter 1 blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Adroddodd Deilydd Portffolio'r Gwasanaethau Corfforaethol y cytunwyd ar y dangosyddion ar gyfer eleni (yn debyg i’r drefn yn ystod y blynyddoedd diwethaf) mewn gweithdy a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2018 gydag aelodau’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol yn dilyn derbyn arweiniad gan y Penaethiaid Gwasanaeth ynglŷn â’r dangosyddion yr oeddent hwy wedi eu nodi fel rhai pwysig. Maent yn cynnwys Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (MAC) newydd, sef set o ddangosyddion sy’n mesur perfformiad ar lefel cenedlaethol. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn galonogol nodi ar ddiwedd Chwarter 1 fod y mwyafrif o’r dangosyddion rheoli perfformiad yn perfformio’n dda yn erbyn eu targed. Mae hyn hefyd yn cymharu’n dda â’r sefyllfa yn ystod yr un cyfnod yn 2017/18. Fodd bynnag, mae dau ddangosydd yn tanberfformio yn erbyn eu targed blynyddol ar ddechrau’r flwyddyn ac wedi eu dangos mewn Coch / Ambr, gydag un yn ymwneud â’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (PM28 - yr amser ar gyfartaledd yr oedd yr holl blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn ac a ddad-gofrestrwyd yn ystod y flwyddyn) a’r llall yn ymwneud â’r Gwasanaethau Oedolion (PM20a - canran yr oedolion a oedd wedi cwblhau cyfnod o ail-alluogi ac a oedd yn derbyn pecyn gofal a chymorth ar lefel is 6 mis yn ddiweddarach). Mae’r ddau ddangosydd yn delio â nifer fach o achosion sy’n golygu y gall perfformiad amrywio. Mae gweddill y dangosyddion ar gyfer chwarter 1 yn Wyrdd neu’n Felyn ac maent wedi cael dechrau da yn erbyn eu targedau. Yn ogystal, o’r 8 dangosydd a amlygwyd mewn Coch neu Ambr ar ddiwedd 2017/18, da yw gweld fod 5 o’r 6 y gellir eu tracio yn ystod Chwarter 1 y flwyddyn bresennol wedi gwella a dim ond un ohonynt sy’n tanberfformio ar hyn o bryd.

 

Mewn perthynas â Rheoli Pobl, dywedodd y Deilydd Portffolio fod cyfraddau salwch y Cyngor ar ddiwedd chwarter 1, sef 2.69 o ddyddiau fesul ALlC, yn dangos dirywiad o gymharu â’r gyfradd o 2.23 diwrnod ar gyfer yr un cyfnod yn 2017/18. Ar lefel gwasanaeth, y ddau wasanaeth sy’n tanberfformio o gymharu â’u targedau ar gyfer y chwarter yw Gwasanaethau Oedolion, yn bennaf oherwydd achosion o salwch tymor hir yn yr Uned Ddarparu, a’r Gwasanaeth Dysgu lle mae absenoldeb salwch tymor hir yn ffactor unwaith eto ynghyd â lefel uchel o salwch yn y sector cynradd. Mae’r ddau Bennaeth Gwasanaeth yn ymwybodol o’r mater ac yn gweithio i gyflwyno mesurau lliniaru.

 

Mewn perthynas â rheoli Cwynion gan Gwsmeriaid, ar ddiwedd Chwarter 1 derbyniwyd 13 o gwynion o gymharu ag 20 yn ystod yr un cyfnod yn 2017/18. Mae’r gwasanaeth wedi gwella yn enwedig o nodi fod y cyfan o’r cwynion a oedd angen ymateb erbyn diwedd Chwarter 1 (cyfanswm o 12) wedi derbyn ymateb o fewn yr amserlen ofynnol. O’r 10 o gwynion o dan broses gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (1 Cam 2 a 9 Cam 1), ymatebwyd i 56% o fewn yr amserlen. Er na lwyddodd y Gwasanaethau Plant i anfon ymatebion ysgrifenedig o fewn yr amserlen ar gyfer 3 allan o 5 cwyn Cam 1, cynhaliwyd trafodaeth gyda’r achwynydd mewn 4 allan o’r 5 achos, neu 80% o gwynion.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, ar sail perfformiad ariannol y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1, y rhagwelir gorwariant o £1.744m erbyn diwedd y flwyddyn sydd yn debyg iawn i’r patrwm ar gyfer yr un cyfnod yn 2017/18 ac mae’r un gwasanaethau - y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaeth Dysgu - yn parhau i brofi pwysau cyllidebol. Ymdrinnir â’r sefyllfa ariannol mewn mwy o fanylder yn yr adroddiadau monitro ariannol sydd ar y rhaglen.

 

Gorffennodd y Deilydd Portffolio drwy ddweud ei fod yn dymuno manteisio ar y cyfle i ddiolch i holl staff y Cyngor am eu hymdrechion i gynnal a gwella perfformiad mewn cyfnod pan mae cyllidebau’r Cyngor dan straen sylweddol. Bydd parhau i weithio fel tîm yn cynorthwyo i wella dangosyddion perfformiad ymhellach yn Chwarter 2.

 

Mewn perthynas â lefelau absenoldeb salwch yn y sector cynradd, dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant, fod y mater wedi cael ei nodi a bod y Gwasanaeth Dysgu ac Adnoddau Dynol ar y cyd wedi llunio cynllun gweithredu er mwyn lleihau’r lefelau hyn. Bydd y cynllun yn golygu targedu ysgolion penodol lle mae’r broblem yn fwy. Rhoddwyd llawer o bwyslais yn barod ar wella lefelau salwch yn y sector uwchradd ac mae hynny wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod gan Aelodau Etholedig gyfraniad i’w gwneud hefyd drwy gymryd camau pendant i gyfleu’r neges yn eu hysgolion yn eu rôl fel llywodraethwyr ysgol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gyflwynwyd ac roedd yn cydnabod rôl staff y Cyngor o safbwynt gwella perfformiad ar draws y gwasanaethau yn Chwarter 1 o dan amgylchiadau cynyddol heriol. Yn ogystal nododd y Pwyllgor Gwaith, o safbwynt gofal cwsmer, fod poblogrwydd AppMôn fel modd o gysylltu gyda’r Cyngor yn tyfu ac amlygwyd yr angen i ymestyn y defnydd hwn ac i barhau i hyrwyddo AppMôn fel dull gwell a chyflymach o gysylltu gyda’r Cyngor.

 

Penderfynwyd nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol, sef y rhai a nodir ym mharagraffau 3.1.1 i 3.1.5 yr adroddiad ac i dderbyn y mesurau lliniaru fel y cawsant eu hamlinellu.

 

Dogfennau ategol: