Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2018/19 (1 Ebrill – 30 Mehefin).

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio fod y Cyngor wedi gosod cyllideb net ym mis Chwefror ar gyfer 2018/19 gyda gwariant net y gwasanaethau, swm o £130.870m, i gael ei gyllido o incwm o’r Dreth Gyngor, Trethi Annomestig a grantiau cyffredinol oedd yn rhoi cyfanswm o £130.9m yn dilyn addasiadau. Roedd y gyllideb ar gyfer 2018/19 yn cynnwys arbedion angenrheidiol o £2.522m. Fe’u hymgorfforwyd yng nghyllidebau unigol y gwasanaethau a chaiff llwyddiant neu fethiant i’w cyflawni eu hadlewyrchu yn y (tan)/gorwariant net a ddangosir yn yr adroddiad.  Ar sail canlyniadau Chwarter 1, dywedodd yr Aelod Portffolio y rhagwelir cyfanswm o £1.744m o orwariant yn 2018/19 yn cynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor. Mae hyn yn cyfateb i 1.33% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2018/19. Y rheswm am hyn yw pwysau cyllidebol tebyg i’r hyn a brofwyd yn 2017/18, a chost y gwasanaethau plant statudol yw’r elfen fwyaf arwyddocaol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod llawer o sylw wedi’i roi i ddefnydd yr Awdurdod o staff asiantaeth a/neu ymgynghorwyr a’r costau sy’n codi o ganlyniad i hynny; mae’r Awdurdod yn monitro’r costau hyn yn ofalus ac yn adrodd arnynt yn chwarterol fel rhan o’r gwaith o fonitro’r gyllideb. Dywedodd fod yr Awdurod yn rhan o ddau brosiect seilwaith mawr ar hyn o bryd sy’n creu’r angen am arbenigedd a chymorth arbenigol o du allan i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gorwariant a ragwelir yng nghyllideb 2018/19 yn adlewyrchiad o effaith cronnus toriadau yng nghyllidebau gwasanaethau dros amser. Yn hanesyddol, mae gwasanaethau yng Nghyngor Môn wedi llwyddo’n weddol i gadw o fewn eu cyllidebau gyda gwasanaethau sy’n tanwario yn cynorthwyo i gydbwyso gorwariant mewn meysydd gwasanaeth eraill. Fodd bynnag, wrth i gyllidebau leihau ac i gyllidebau nad ydynt yn cael eu defnyddio ddiflannu, mae llai o sgôp i wasanaethau danwario ar eu cyllidebaudengys yr adroddiad fod y rhan fwyaf o wasanaethau yn debygol o fod o fewn, neu ychydig dros, eu cyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ac nid yw hynny o gymorth er mwyn gwrthbwyso gorwariant sylweddol yn y Gwasanaethau Plant. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol newydd felly mae’n bosib y bydd y sefyllfa’n newid, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd rhaid rhoi sylw i’r sefyllfa o ran y prif orwariant, sef yn y Gwasanaethau Plant, er nad oes fawr o gyfleoedd i weithredu yn bennaf oherwydd diffyg lleoliadau lleol ar yr Ynys ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.  Oherwydd hyn, rhaid i’r Gwasanaeth chwilio am leoliadau all sirol sydd yn ddrud ac maent yn creu cost i’r Gwasanaeth Addysg oherwydd y gofyn i gyllido darpariaeth addysg ar gyfer y plant sy’n cael eu lleoli tu allan i Ynys Môn.

 

Dywedodd y Swyddog fod rhai gwasanaethau eraill yn gorwario ar hyn o bryd, Addysg Ganolog, er enghraifft, a bod pwysau cyllidebol sylweddol ar gludiant ysgol; Gofal Cymdeithasol Oedolion, lle mae pwysau cyllidebol yn y Gwasanaeth Anableddau Corfforol a Dysgu a’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl, a’r Gwasanaeth TG gydag amcangyfrif y bydd gorwariant o £327k erbyn diwedd y flwyddyn. Canolwyd yr holl gyllidebau meddalwedd a chaledwedd ar draws y Cyngor, heblaw am ysgolion, ac erbyn hyn y Gwasanaeth TGCh sy’n eu rheoli. Mae canfyddiad fod y cyllidebau meddalwedd wedi bod yn annigonol yn hanesyddol a phan fydd y drefn ganolog wedi gwreiddio’n llawn, disgwylir y bydd lleihad yn y costau hyn. Bydd tanwariant a ragwelir yn y cyllidebau Cyllid Corfforaethol yn helpu i liniaru gorwariant mewn gwasanaethau eraill.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at wariant hyd yma yn erbyn y gyllideb Buddsoddi i Arbed a chynnydd prosiectau unigol fel y manylir arnynt yn Atodiad CH yr adroddiad. Mae Atodiadau DD ac E yn cyfeirio at gostau Asiantaeth ac Ymgynghori; hyd yn hyn gwariwyd £224k ar staff asiantaeth a chafodd hyn ei gyllido’n rhannol o’r gyllideb staffio oherwydd eu bod yn ymwneud â swyddi gweigion, tra bod £149k yn gysylltiedig â staff ychwanegol yn y Gwasanaethau Plant, yn bennaf tra bod y gwasanaeth yn cael ei ailstrwythuro. Roedd gwariant ar wasanaethau ymgynghori yn ystod y chwarter yn £401k a chafodd £285k o hyn ei gyllido’n allanol drwy grantiau neu gyfraniadau. Tynnodd y Swyddog sylw at y ffaith fod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), ym mis Awst 2018, wedi derbyn cais y Cyngor am ad-daliad TAW (yn dyddio’n ôl i 2012) a dalwyd i CThEM ar Wasanaethau Hamdden. Mae hyn gyfystyr ag oddeutu £800k net i’r Cyngor ac mae’n dilyn dyfarniad cyfreithiol ym mis Tachwedd 2017 na ddylid codi TAW ar incwm y Gwasanaeth Hamdden. Bydd rhaid penderfynu a ddylid rhoi’r swm a ad-dalwyd yn y cronfeydd cyffredinol neu mewn cronfa wedi’i chlustnodi er mwyn buddsoddi yn y Gwasanaeth Hamdden, neu gyfuniad o’r ddau.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol

 

           Y sefyllfa a amlinellir yn atodiadau A a B yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2018/19;

           Y crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2018/19 fel y manylir arnynt yn Atodiad C;

           Y sefyllfa mewn perthynas â’r Rhaglenni Buddsoddi i Arbed yn Atodiad CH;

           Y sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2018/19 yn Atodiad D;

           Y modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2018/19 fel yr amlinellir yn Atodiadau DD ac E, a fod

           Yr ad-daliad TAW annisgwyl oddeutu £800k yn cael ei gredydu i gronfa wrth gefn glustnodedig y byddir yn penderfynu ar ei defnydd yn nes ymlaen.

 

Dogfennau ategol: