Eitem Rhaglen

Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol 2019/20 - 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019/20 i 2021/22 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried. Mae’r cynllun yn nodi strategaeth cyllideb y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac yn nodi’r rhagdybiaethau a fydd yn cael eu cynnwys yn y broses o bennu’r gyllideb flynyddol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn ofynnol i'r Cyngor sefydlu system gadarn i fonitro a rheoli ei gyllideb refeniw a bod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn elfen allweddol o'r system honno. Dywedodd y bydd rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniadau anodd dros y tair blynedd nesaf ac nad oes tebygrwydd y bydd unrhyw lacio yn y toriadau cyllid y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi eu hysgwyddo dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhaglen gyni a gyflwynwyd gan Lywodraeth San Steffan wedi arwain at doriadau yn y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn ac mae hynny yn ei dro’n cael effaith ar y cyllid y mae cynghorau yng Nghymru’n ei dderbyn sy’n golygu fod cyllidebau cynghorau’n cael eu torri flwyddyn ar ôl blwyddyn. Er gwaetha’r ffaith bod lefelau cyllido awdurdodau lleol wedi lleihau mae’n rhaid i’r Cyngor barhau i ddarparu gwasanaethau i bobl Ynys Môn – ac mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys gwasanaethau ar gyfer pobl fregus a gwasanaethau y mae gofyn cyfreithiol arno eu darparu.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at Dabl 2 yn yr adroddiad sy’n rhoi dadansoddiad o’r arbedion a wnaed fesul gwasanaeth dros gyfnod o dair blynedd rhwng 2013/14 a 2018/19 o gymharu â’r Gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19. Mae’r Cyngor wedi gwneud cyfanswm o £21.748m o arbedion yn y cyfnod hwn ac er ei fod wedi ceisio gwarchod ysgolion, Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant, mae gwasanaethau rheng flaen eraill - Hamdden, Morol, Datblygu Economaidd, Tai, Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn benodol - wedi ysgwyddo baich yr arbedion ac wedi darparu’r gyfran uchaf o arbedion o gymharu â’u cyllidebau net.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn disgrifio sut mae’r Cyngor yn bwriadu delio gyda’r heriau ariannol sy’n ei wynebu dros y tair blynedd nesaf yn ogystal â chydbwyso ei gyllideb a pharhau i ddarparu gwasanaethau a chyflawni ei ddyletswyddau statudol. Cymeradwyodd y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn gosod y cyd-destun ariannol y bydd rhaid i’r Cyngor weithredu oddi fewn iddo yn ystod y 3 blynedd nesaf. Nid yw’r sefyllfa bresennol yn un galonogol, gyda’r Cyngor yn rhagweld, ar sail data Chwarter 1, y bydd gorwariant o tua £1.744m yn y gyllideb erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018/19. Fodd bynnag, gellid dadlau fod y cyllidebau wedi cael eu tangyllido ac nad ydynt yn cwrdd â’r galw. Er gwaethaf hynny, rhaid taclo’r hyn sy’n creu gorwariant yn y gwasanaethau neu bydd cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod yn cael eu herydu ymhellach, gyda phosibilrwydd y byddant yn disgyn o fod ychydig yn uwch na’r lleiafswm o £6.5m y mae’r Cyngor wedi cytuno arno i lai na £5m. Mae hyn yn annerbyniol a byddai’n creu risg i’r Cyngor yn y dyfodol. O ganlyniad, bydd rhaid datblygu strategaeth i godi lefelau’r cronfeydd wrth gefn yn ôl i’r cyfanswm a argymhellir dros gyfnod o amser.

 

Dywedodd y Swyddog fod y Cyngor wedi gwneud arbedion sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond ei fod wedi amddiffyn ysgolion a’r Gwasanaethau Plant rhag y gwaethaf o’r toriadau drwy gydol y broses. Mae hyn yn anghynaladwy bellach wrth i allu’r gwasanaethau eraill i ysgwyddo cyfran uwch o’r toriadau leihau. Er bod y sefyllfa economaidd gyffredinol yn parhau’n ansicr, gwelwyd peth tystiolaeth fod y Llywodraeth yn llacio rhywfaint ar ei raglen o gyni yn sgil y cyhoeddiad ym mis Mehefin 2018 y byddai codiad cyfartalog blynyddol o 3.4% uwchlaw lefel chwyddiant yng Nghyllideb y GIG yn Lloegr, sy’n golygu cynnydd o £20b mewn termau real erbyn 2023. Bydd hyn yn arwain at gynnydd o £1.37b i Gymru drwy’r fformiwla Barnett yn ystod yr un cyfnod er nad yw’n glir a fydd unrhyw gyfran o’r cyllid ychwanegol hwn yn cyrraedd cyllidebau’r awdurdodau lleol. O ganlyniad, mae’r Awdurdod yn seilio ei ragdybiaethau ar ostyngiad disgwyliedig o 1% yn y setliad ar gyfer llywodraeth leol yn 2019/20, sydd yn golygu £900k llai o incwm i Ynys Môn.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at adran 5 yr adroddiad sy’n rhestru’r pwysau ar y gyllideb, yn faterion cenedlaethol ac yn faterion lleol i Ynys Môn, y mae’r Awdurdod yn eu hwynebu ac y bydd rhaid iddo eu datrys. Mae Tabl 3 yn yr adroddiad yn nodi cyllideb ddisymud ar gyfer y tair blynedd nesaf - 2019/20, 2020/21 a 2021/22 sydd, o’u cymharu â chyllidebau terfynol y tair blynedd diwethaf, yn dangos pwysau o oddeutu £6m, £4m a £4m yn ystod y tair blynedd nesaf, yn y drefn honno. Ariennir y gyllideb ddisymud ragamcanedig o’r cyllid allanol cyfun (AEF) a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys y Grant Cynnal Refeniw (CGR) a Chyllid Cronfa Annomestig ac o’r Dreth Gyngor a godir yn lleol. Byddai codiad o 5% yn y Deth Gyngor yn creu tua £1.6m o gyllid ychwanegol; fodd bynnag, bydd y toriad o 1% a ragwelir yn y RSG, petai’n cael ei wireddu, yn arwain at leihad o £900k yn y ffigwr hwnnw gan adael tua £500k o incwm ychwanegol i wrthbwyso costau ychwanegol o thua £6m. Bydd rhaid pontio’r bwlch cyllido hwn sy’n golygu y bydd rhaid canfod arbedion unwaith eto; rhagwelir y bydd canfod £9.34m (8.3%) o arbedion o gyllidebau gwasanaethau dros y 3 mlynedd nesaf, ar ben yr arbedion a wnaethpwyd eisoes, yn her enfawr i wasanaethau.

 

Dywedodd y Swyddog mai strategaeth effeithlonrwydd y Cyngor yn y gorffennol oedd gostwng cyllidebau gwasanaeth drwy ofyn i wasanaethau adolygu eu cyllidebau presennol a lleihau’r gyllideb net gyffredinol drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol sy’n cynnwys lleihau costau staff a chostau gweinyddol, cynyddu incwm a rhesymoli gofod swyddfa. Fodd bynnag, mae’r sgôp i gynhyrchu’r arbedion sydd eu hangen drwy ddefnyddio’r dulliau hyn yn unig yn sylweddol llai erbyn hyn a rhaid i’r Cyngor newid ei strategaeth er mwyn parhau i wireddu’r arbedion sydd eu hangen. Mae adran 9.5 yr adroddiad yn rhestru’r meysydd fydd angen gweithredu arnynt fydd yn golygu newid y ffordd y mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau a lle bydd lleihad yn y gwasanaethau. Bydd cydbwyso’r gyllideb yn ystod y 3 blynedd nesaf drwy weithredu’r camau hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd ac mae nifer o risgiau allai atal y Cyngor rhag cyflawni pob un o’r mesurau; cyfeirir atynt yn adran 9.6 yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gwnaed sylwadau fel a ganlyn -

 

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y sefyllfa ariannol yn heriol ac nad yw’r rhagolygon yn obeithiol; Mae rhaglen gyni Llywodraeth y DU a gyflwynwyd i leihau’r diffyg yng nghyllideb y Llywodraeth yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus ac, oherwydd y toriad yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru, mae’n cael effaith sylweddol ar gyllidebau Cynghorau yng Nghymru. Drwy gydol y broses mae’r Awdurdod yn Ynys Môn wedi ceisio lliniaru effeithiau’r toriadau ariannol, ond yn debyg i awdurdodau eraill, mae’n ei chael yn gynyddol anodd delio gyda’r heriau cyllidebol hyn ac mae gwasanaethau megis Hamdden, Morol a Datblygu Economaidd wedi gwneud arbedion sylweddol yn barod, fel cyfran o’u cyllidebau. Rhaid anfon y neges i Lywodraethau’r DU a Chymru fod y sefyllfa’n anghynaladwy ac na ellir disgwyl i awdurdodau lleol osod cyllideb gytbwys i gwrdd â’r cynnydd am wasanaethau os oes toriad yn eu cyllid.

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £23m o gyllid ychwanegol o ganlyniad i’r penderfyniad i godi cyflogau athrawon. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynglŷn â fydd hyn yn debygol o wneud gwahaniaeth i’r sefyllfa yn Ynys Môn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y deallir y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £8.7m yn 2018/19 a £14.8m yn 2019/20 sydd gyfystyr â £200k ychwanegol i Ynys Môn yn 2018/19 a £350k yn 2019/20 os yw’r cyllid hwn yn cael ei gynnwys yn y setliad.

           Nododd y Pwyllgor Gwaith y sefyllfa yng Nghanolfan Addysg y Bont, gyda’r ysgol yn wynebu problemau ariannol oherwydd nad yw ei chyllideb yn cyd-fynd â’r cynnydd yn y costau o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y disgyblion yn yr ysgol a nododd hefyd ohebiaeth gan y Cynghorydd Dylan Rees, fel Aelod Lleol, yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gefnogi’r hyn sy’n cael ei argymell yn yr adroddiad, sef fod darpariaeth ar gyfer y costau hyn yn cael ei wneud yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol er mwyn caniatáu i’r ysgol barhau i gwrdd â’i dyletswydd gyfreithiol i ofalu am ei disgyblion.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi dilyn y trywydd hwn a nododd hefyd bod mesurau cyni yn arwain at sefyllfa lle nad yw cyllidebau yn cyd-fynd â’r galw ac o ganlyniad y rhai mwyaf bregus yn aml iawn sy’n cael eu heffeithio. Dyma’r math o bwysau parhaus y mae’r Cyngor yn gorfod ymdopi ag o wrth geisio bodloni ei ddyletswyddau statudol i gyflenwi’r ystod o wasanaethau y mae’n gyfrifol amdanynt.

 

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y gyllideb Iechyd yn cyfateb i 49% o gyllideb Llywodraeth Cymru o gymharu â 42% yn 2011/12, tra bod cyllideb Llywodraeth Leol wedi gostwng o 30% o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru i 28% yn ystod yr un cyfnod. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor Gwaith efallai ei bod yn amserol cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru yn gofyn iddo ailystyried rhoi blaenoriaeth i Iechyd ar draul Llywodraeth Leol.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canol 2019/20 – 2021/22 a chymeradwyo’r rhagdybiaethau a gynhwysir ynddo.

Dogfennau ategol: