Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r cynnydd hyd yma yn erbyn y Cynllun Gwella Gwasanaeth er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Arweinydd a Deilydd Portffolio'r Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaeth wedi llwyddo i recriwtio dau Weithiwr Cymdeithasol profiadol er gwaethaf prinder cenedlaethol o Weithwyr Cymdeithasol a’i fod wedi gweithredu ei gynllun wrth gefn, sef recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso fydd yn cael eu cefnogi gan Weithwyr Cymdeithasol Asiantaeth dros gapasiti am gyfnod o flwyddyn. Cyflwynodd y Tîm Cefnogi Annibynnol, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r gwasanaeth i helpu i wneud gwelliannau yn dilyn arolygiad gan AGGCC (AGC) ddiwedd 2016, ei adroddiad terfynol i’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant ym mis Gorffennaf. Cynhwysir detholiad o adborth y Tîm Cefnogi Annibynnol yn yr adroddiad; ar y cyfan mae’r adborth yn gadarnhaol ac mae’n amlygu nifer o feysydd lle mae newidiadau wedi arwain at welliannau arwyddocaol. Er gwaetha’r ffaith fod rhai materion angen sylw o hyd, mae’r Tîm Cefnogi Annibynnol yn barnu fod y gwelliannau a wnaethpwyd yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol ac yn gosod sylfaen gadarn i adeiladu arno. Yn ogystal, cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y gwelliannau amlwg ym mherfformiad y Gwasanaeth yn erbyn Dangosyddion Perfformiad yn ystod y chwarteri olaf fel yr adlewyrchir yn adran 3 yr adroddiad; yn ogystal mae perfformiad mewn perthynas â chyflawni safonau perfformiad corfforaethol megis targedau absenoldeb salwch a chwblhau modiwlau hyfforddiant gorfodol ar-lein wedi gwella’n fawr.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod yr arfarniad o gynnydd a gyflwynir yn y diweddariad hwn ac adroddiadau blaenorol yn rhoi sicrwydd fod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn gwella ac yn golygu fod y Pwyllgor Gwaith yn gallu bod yn fwy hyderus ynglŷn â sut mae’r Gwasanaeth yn gweithredu yn awr ond gyda’r rhybuddion canlynol

 

           Fod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd angen rhoi trefniadau mewn lle i sicrhau fod y gwelliannau a wneir yn gynaliadwy dros amser er mwyn lleihau’r posibilrwydd fod perfformiad yn amrywio.

           Fod cyfraddau gadael ymysg Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn bryder ac yn risg y mae angen camau lliniaru ar ei gyfer.

 

Roedd y Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod ei bod yn bwysig cael trefniadau effeithiol a chadarn mewn lle i gynnal y newidiadau a wnaed mewn ymarfer, polisïau a strwythurau staffio. Mae goruchwyliaeth, sicrhau ansawdd a phrosesau archwilio wedi cael eu datblygu a byddant yn sicrhau fod ansawdd yr ymarfer yn parhau i fod yn gyson o ddydd i ddydd a bod modd dangos tystiolaeth o hynny. Mewn perthynas â’r pwysau ar Weithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso, mae’r strwythur staffio newydd a gyflwynwyd yn golygu fod Gweithwyr Cymdeithasol yn gweithio mewn timau llai, yn delio gyda llai o achosion, yn cael gwell mynediad at Arweinwyr Ymarfer ac yn cael eu goruchwylio’n fwy cysonmae’r holl ffactorau hyn yn cyfrannu at wneud eu gwaith yn fwy diogel.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â’r camau a gymerwyd i weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a chyda cyflymder y cynnydd hwnnw ynghyd â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd hyd yma.

Dogfennau ategol: