Eitem Rhaglen

Galw Penderfyniad i Fewn - Moderneiddio Ysgolion Ardal Seiriol

Penderfyniad a waned gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2018 mewn perthynas â moderneiddio ysgolion ardal Seiriol sydd wedi’i alw i fewn gan y Cynghorwyr John Arwel Roberts, Robert Llewelyn Jones, Bryan Owen, Peter Rogers ac Aled Morris Jones.

 

Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn :-

 

           Y Penderfyniad a gyhoeddwyd ar 23 Gorffennaf, 2018

 

           Y Cais Galw i Fewn

 

           Y adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2018 ynghylch Moderneiddio Ysgolion Ardal Seiriol.

Cofnodion:

Cafodd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2018 i gymeradwyo Opsiwn 1, sef adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llangoed, ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Robert Llewelyn Jones, Bryan Owen, John Arwel Roberts a Peter Rogers. Cyflwynwyd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, y cais galw i mewn ac adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2018 ar foderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol.

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Bryan Owen, Aelod Arweiniol y cais Galw i Mewn, esboniodd y  Cynghorydd Peter Rogers y rheswm dros alw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2018 fel y nodwyd yn y ffurflen gais galw i mewn, sef nad oedd y syniad o ysgol wedi ei lleoli ar safle newydd ar gyfer disgyblion Llandegfan, Biwmares a Llangoed wedi cael ei archwilio'n llawn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Rogers at yr ansicrwydd mawr iawn ynglŷn â pha ysgolion fyddai disgyblion yn eu mynychu petai Ysgol Biwmares yn cau ac y gallai hynny effeithio ar niferoedd disgyblion Ysgol Llangoed. Nododd nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd rhieni yn anfon eu plant i Ysgol Llangoed ac y mae deall dewisiadau rhieni yn hanfodol yn y mater hwn oherwydd ei fod hefyd yn rhannol gyfrifol am y gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n mynychu Ysgol Biwmares. Yn ogystal, gallai gael effaith ar niferoedd yr ysgol uwchradd sy'n gwasanaethu'r dalgylch. Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers y bydd llawer o bobl wedi deall bod moderneiddio ysgolion yn golygu adeiladu ysgol ardal newydd fel sydd wedi digwydd mewn ardaloedd eraill lle mae'r ddarpariaeth addysg gynradd wedi cael ei hadolygu. Roedd yn credu bod cyflwyno ysgol ardal newydd yn briodol yn yr achos hwn hefyd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Robert Llewelyn hefyd fel un o lofnodwyr y cais galw i mewn. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at ddiffyg Cynllun Busnes manwl,  rhywbeth yr oedd o’r farn y dylid fod wedi ei ddarparu gyda’r cynnig i ddangos yn gliriach oblygiadau ariannol ac arbedion posib o ganlyniad i wireddu’r cynnig. Nid oedd yn amlwg chwaith fod y risgiau wedi cael eu hasesu. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith na chafodd unrhyw gynlluniau ar gyfer y ddarpariaeth cyn-ysgol, sydd mor boblogaidd ac uchel eu parch yn Ysgol Biwmares, eu cynnwys a chyfeiriodd at yr angen am sensitifrwydd wrth ddelio gydag Ysgol Biwmares fel adeilad rhestredig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes a oedd yn siarad ar ran y Cynghorydd J. Arwel Roberts, un o lofnodwyr y cais galw i mewn, er bod y cymunedau dan sylw yn amau cynigion ar gyfer ysgolion ardal newydd ar y dechrau, maent bellach yn ganolbwynt i’r gymuned ac yn cael eu croesawu gan rieni yn yr ardaloedd hynny lle cawsant eu datblygu e.e. Ysgol Cybi. Dywedodd y Cynghorydd Haynes ei fod o'r farn mai ysgol newydd oedd yr ateb cywir ar gyfer Seiriol yn yr un modd â mewn ardaloedd eraill ar yr Ynys.

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fel a ganlyn -

 

           Archwiliodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yr ymgynghoriad anstatudol ar foderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2017. Roedd yr adroddiad i'r cyfarfod yn cynnwys dadansoddiad o'r opsiynau a ystyriwyd gan gynnwys ysgol ardal newydd a safleoedd posibl. Er y gwnaethpwyd cynnig ar y pryd gan aelod o'r Pwyllgor y dylid ymchwilio i hyn ymhellach, ni chafodd ei gefnogi gan y Pwyllgor.

           O ran effaith cau Ysgol Biwmares ar y dref (Cwestiwn Allweddol 1), a'r ansicrwydd ynghylch a fydd rhieni wedyn yn anfon eu plant i Ysgol Llangoed, mae cau ysgol yn cael effaith mewn tref neu mewn ardal wledig. Mae Biwmares yn haeddu ac yn cael yr un parch ac ystyriaeth â chymunedau eraill lle penderfynwyd cau'r ysgol leol. Pan yr oedd Ysgol Rhyd y Llan yn cael ei datblygu, y farn leol yn Llanfachraeth oedd na fyddai rhieni yn dewis anfon eu plant i'r ysgol newydd. Mae’r ysgol, sydd wedi agor erbyn hyn, yn derbyn nifer dda o ddisgyblion, yn cynnwys plant o Lanfachraeth. Felly, gall dewisiadau rhieni newid ac nid yw'n ffactor y mae gan yr Awdurdod reolaeth drosto.

           O ran dyfodol adeilad Ysgol Biwmares (Cwestiwn Allweddol 2), yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i sefydlu darpariaeth Gofal Ychwanegol ar safle'r ysgol (a archwiliwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol), gofynnwyd i'r Prif Weithredwr agor trafodaethau gyda CADW ynglŷn â'r broses ar gyfer ymdrin ag Ysgol Biwmares fel adeilad rhestredig.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) fel a ganlyn -

 

           Bod ysgol ardal newydd ar gyfer Seiriol yn un o'r opsiynau a werthuswyd ac a sgoriwyd fel rhan o'r ymgynghoriad anstatudol ar foderneiddio ysgolion cynradd yn ardal Seiriol a gynhaliwyd ym mis Mehefin a Gorffennaf, 2017 (Opsiynau 4 a 20 yn yr ymgynghoriad). Roedd y ffaith nad oedd tir/safleoedd addas ar gael yn ffactor wrth beidio â datblygu'r opsiwn hwn. Byddai ysgol o'r maint hwn yn gofyn am oddeutu 6 erw o dir ac nid oedd modd canfod y tir hwnnw yn yr ardal, yn arbennig gan nad yw safle Lairds wedi’i gynnwys fel safle datblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

           Bod yr Asesiad Effaith Cymunedol wedi'i gynnal gan ddefnyddio'r un fformat â'r hyn a ddefnyddiwyd yn yr ardaloedd eraill lle cynhaliwyd ymgynghoriad ar foderneiddio ysgolion. Mae'n fformat sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae'r risgiau hefyd wedi cael sylw fel rhan o'r asesiad.

           Bod nifer o rieni yn ardal Seiriol wedi dewis dros y blynyddoedd peidio ag anfon eu plant i Ysgol Biwmares a bod yn well ganddynt anfon eu plant i ysgolion yn Llangoed a Llandegfan a thu allan i'r dalgylch ym Mhorthaethwy, Llanfairpwll a Bangor, gan arwain at 72% o leoedd gwag yn Ysgol Biwmares. Hyd yn oed pe bai'r holl fewnfudwyr sy'n gysylltiedig â datblygiadau fel Wylfa Newydd yn dod i ardal Seiriol, mae'r rhagamcanion yn ôl fformiwla Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddai lleoedd gwag yn Ysgol Biwmares o hyd.

           Cydnabyddir y gall rhieni ddewis anfon eu plant i ysgolion ac eithrio Ysgol Llangoed pe bai Ysgol Biwmares yn cau. I'r plant hynny o Ysgol Biwmares sy'n dewis mynychu Ysgol Llangoed, cynhelir asesiad effaith traffig a thrafnidiaeth gan fod y pellter dros 2 filltir.

           Mae'r ymholiadau hynny â CADW wedi'u cychwyn mewn perthynas ag adeilad Ysgol Biwmares. Mae potensial i ddefnyddio tir y tu ôl ac o flaen yr adeilad mewn ymgynghoriad â Swyddogion CADW.

           Wrth gyflwyno eu cynigion i Lywodraeth Cymru, rhaid i'r Swyddogion ystyried niferoedd disgyblion a ragwelir. Mae'r Awdurdod yn archwilio data mewn perthynas â genedigaethau rhagamcanol mewn ardal ac yna caiff y ffigwr hwn ei gynnwys yn y cyfrifiadau ar gyfer niferoedd disgyblion rhagamcanol yn y dyfodol. Mae'r Awdurdod yn defnyddio fformiwla Llywodraeth Cymru i gyfrifo rhagamcanion.

           Bod gofynion Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn uchelgeisiol o ran moderneiddio asedau ysgolion, ac er nad yw'r cynnig ar gyfer Seiriol yn darparu ysgol newydd ar gyfer yr ardal, bydd adnewyddu Ysgol Llandegfan ac Ysgol Llangoed yn trawsnewid y ddwy ysgol ac yn creu ysgolion modern, addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

           Bod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a wnaed ar 18 Gorffennaf, 2018 hefyd yn cydnabod y dylai unrhyw drefniant fynd i'r afael â'r angen am ddarpariaeth cyn-ysgol yn ardal Seiriol.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau'r Pwyllgor ofyn cwestiynau.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr y pwyntiau canlynol –

 

           Ystyriwyd yr opsiwn o adeiladu ysgol newydd ar gyfer ardal Seiriol i ddisodli’r ysgolion sy’n bodoli’n barod – Ysgol Llandegfan, Ysgol Llangoed ac Ysgol Biwmares - yn ogystal ag opsiwn i leoli ysgol fawr yn agosach at Borthaethwy. Nid oeddent wedi'u cynnwys yn yr opsiynau a ffafrir oherwydd nad oedd tir ar gael, a hefyd oherwydd daeth yn amlwg yn y broses ymgynghori nad oedd rhieni yn Llandegfan yn dymuno teithio i Fiwmares a bod rhieni a rhanddeiliaid o Fiwmares a Llangoed yn pryderu am natur y ffordd i Landegfan a Phorthaethwy.

           Gwnaed ac ystyriwyd asesiad o effaith cau Ysgol Biwmares ar y gymuned. Pe bai penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn sefyll, mae'n hanfodol bod cymunedau Biwmares a Llangoed yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod yr ysgol newydd yn Llangoed yn llwyddo.

           Cynhaliwyd trafodaethau gyda Swyddogion CADW mewn perthynas ag adeilad presennol Ysgol Biwmares; y gobaith yw y gellir cyrraedd yr un trefniant fel yn achos Ysgol Cybi yng Nghaergybi lle mae ffrynt yr ysgol bresennol yn cael ei gadw.

           Mae llunio Achos Busnes yn un o'r tasgau a wneir unwaith y gwneir penderfyniad. Rhaid i gyflwyniadau ar sail Achos Busnes am gyllid ar gyfer prosiectau ysgol o dan Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain fod yn fanwl ac mae'n ofynnol iddynt fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion.

 

Rhoddwyd cyfle i lofnodwyr y cais galw i mewn, yr Arweinydd a'r Swyddogion grynhoi.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd ac, er ei fod yn cydnabod bod cau ysgol yn beth anodd ei wneud, roedd o blaid cefnogi penderfyniad y Pwyllgor Gwaith am y rhesymau y bydd yn golygu uwchraddio dwy ysgol yn ardal Seiriol i gwrdd â safonau modern, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; bydd yn mynd i'r afael â phroblem lleoedd gwag yn ysgolion yr ardal, gyda chanran uchel o'r lleoedd hynny yn Ysgol Biwmares, ac oherwydd na chynhyrchwyd unrhyw dystiolaeth yn y cyfarfod hwn i ddangos bod opsiwn mwy priodol yn bodoli, ac o gadw mewn cof fod nifer o opsiynau wedi eu hystyried yn ystod yr ymgynghoriad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod gan y Pwyllgor dri opsiwn wrth ddod i benderfyniad ar y cais galw i mewn, sef -

 

           Gwrthod y cais galw i mewn a chadarnhau penderfyniad y Pwyllgor Gwaith.

           Gwrthod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a'i gyfeirio yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith gydag argymhelliad y dylid ei ailystyried a/neu ei ddiwygio.

           Gwrthod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a chyfeirio'r mater gydag argymhelliad i'r Cyngor Llawn. Yn yr achos hwn, gan nad yw penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn groes i'r Fframwaith Cyllideb na'r Polisi nac yn anghyson â'r Gyllideb, nid oes gan y Cyngor unrhyw bŵer yn y mater. Byddai’n ymgynnull yn unig i ystyried y mater ac, os yw'n gwrthwynebu'r penderfyniad, ei gyfeirio yn ôl gydag unrhyw sylwadau i'r Pwyllgor Gwaith fel y corff gwneud penderfyniadau. Ni allai'r Cyngor ddod i benderfyniad newydd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y cais galw i mewn yn cael ei wrthod. Yn y bleidlais ddilynol cafodd y cynnig ei gario.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais galw i mewn yn ymwneud â phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2018 mewn perthynas â moderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol.

 

O ganlyniad, mae penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn dod i rym yn syth.

 

Dogfennau ategol: