Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol: Safbwynt Defnydddwyr Gwasanaethau - Safon Ansawdd Tai Cymru - Cyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yr Archwiliwr Allanol ar ganlyniad ei adolygiad o brofiadau tenantiaid Tai Cyngor Ynys Môn mewn perthynas â chyflwyno Safon Ansawdd Tai Cymru i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Adroddodd Mr Gwilym Bury, Swyddfa Archwilio Cymru ar y prif faterion fel a ganlyn –

 

           Yn 2017/8, roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn cydweithio i ddeall "safbwynt y defnyddiwr gwasanaeth" ym mhob Cyngor yng Nghymru. Dilynwyd dull gweithredu eithaf tebyg ym mhob cyngor, er y cytunwyd â phob cyngor yn unigol ynghylch beth y canolbwyntid arno a’r dull gweithredu. Yng Nghyngor Sir Ynys Môn, adolygwyd y Gwasanaeth Tai ac, yn benodol, ymgysylltiad tenantiaid â chyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru a faint o ddewis sydd ganddynt yn rhan o hyn, a’u barn ar ansawdd y gwasanaeth y maent yn ei gael gan y Cyngor.

           I bwrpas yr adolygiad, siaradodd yr archwilwyr â sampl o 119 o denantiaid trwy arolwg carreg drws. Er nad oedd hi'n bosib siarad â phawb, roedd dwyn i mewn sampl o ddefnyddwyr gwasanaeth wedi helpu i gael gwell dealltwriaeth o'u persbectif. Yn ogystal, cynhaliwyd grŵp ffocws gyda Grŵp Llais Tenantiaid a Swyddogion Môn ac ymwelwyd â'r rhan fwyaf o stadau tai’r Cyngor.

           At ei gilydd, canfu'r adolygiad fod rhan fwyaf o denantiaid y Cyngor yr oedd yr archwilwyr yn siarad â nhw’n fodlon ag ansawdd y gwasanaeth, ond roeddent yn ymwneud llai â dylunio gwasanaethau nag a fu, ac nid yw'r Cyngor bob amser wedi gwerthuso effaith newidiadau i’r gwasanaeth. Daethpwyd i'r casgliad hwn oherwydd -

 

           Cyn 2015, roedd y Cyngor yn dwyn tenantiaid i mewn yn effeithiol wrth gynllunio gwasanaethau ar Safon Ansawdd Tai Cymru, ond mae cyfranogiad tenantiaid wedi gostwng ers hynny.

           Mae'r rhan fwyaf o denantiaid y Cyngor yn fodlon ag ansawdd y gwasanaeth er bod 37% o'r tenantiaid yn teimlo’u bod wedi cael problemau gyda thamprwydd a chyddwysiad yn eu cartref. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal arolwg tebyg yn ystod y 12 mis diwethaf ym mhob un o'r 11 cyngor yng Nghymru oedd yn cadw eu stoc dai ac mae hwn yn un o'r canrannau uchaf o ran tenantiaid yn adrodd am broblemau gyda lleithder a chyddwysiad yn eu cartrefi.

           Gall tenantiaid gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ond nid yw'r Cyngor bob amser wedi gwerthuso'r newidiadau y mae wedi'i wneud i gael mynediad at fodelau a safonau gwasanaeth ar gyfer tai gwarchod. Dywedodd llawer o denantiaid y tai gwarchod yr oedd yr archwilwyr yn siarad â nhw eu bod yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth tai ac yn hapus yn eu cartrefi. Fodd bynnag, maent yn teimlo, er eu bod yn cael gwybod am newidiadau, bod lefel y gwasanaeth wedi gostwng ac na wrandewir ar eu barn bob amser. Roedd y tenantiaid y siaradwyd â nhw’n gresynu y gwnaed i ffwrdd â gwasanaeth penodol ar-y-safle y warden ac roedd rhai yn teimlo'n unig ac ynysig o’r herwydd. Mewn dau gynllun yr ymwelwyd â nhw, mae'r trefniadau ar gyfer y gwasanaeth larwm tân, lle mae wardeniaid a ddefnyddir i chwarae rôl wrth wirio ac ailsefydlu larymau, yn bryder i rai tenantiaid. Dywedwyd wrth yr archwilwyr ei bod weithiau'n cymryd dros awr i rai contractwyr allanol eu hailosod ac nad oedd sylw’n cael ei roi i’w pryderon.

 

O ganlyniad i ganfyddiadau'r adolygiad, gwnaed y cynigion a ganlyn ar gyfer gwelliant -

 

           Dylai'r Cyngor weithio gyda thenantiaid i adolygu ei ddull gweithredu wrth gynorthwyo pobl sy'n dioddef problemau â chyddwysiad a thamprwydd, a

           Dylai'r Cyngor weithio gyda thenantiaid i adolygu effaith tymor hir dirwyn gwasanaeth y warden preswyl i ben o’i gynlluniau tai gwarchod.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y Gwasanaeth yn gweithio i gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru y bu iddo ei bodloni yn 2012. Un o'r meysydd y mae'r gwasanaeth yn gweithio arno yw'r wybodaeth a gedwir mewn perthynas â methiannau derbyniol h.y. tai lle nad yw elfen(nau) unigol o Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer rhesymau caniataol penodol wedi’u cyflawni ond sydd, fel arall, yn cydymffurfio. Ar hyn o bryd, mae'r Gwasanaeth yn cynnal arolygiadau ar yr anheddau hynny ac maent wedi bod yn canolbwyntio ar leihau nifer y methiannau derbyniol ymhlith ei stoc dai. Bwriad y Gwasanaeth y flwyddyn nesaf yw cynnal arolwg cyflawn o gyflwr y stoc fel y gall gael gwell dealltwriaeth o unrhyw feysydd lle mae angen iddo ganolbwyntio arnynt. O ran nifer y tenantiaid oedd yn pryderu am damprwydd yn eu cartrefi, nid yw 37% o'r 119 o denantiaid y siaradwyd â nhw yn nifer arbennig o uchel ac mae’n lleihau'r broblem i oddeutu 40 o denantiaid. Ffactorau ffordd o fyw e.e. mae tenantiaid nad ydynt yn gwresogi eu cartrefi neu ddim yn agor ffenestri i awyru eu cartrefi yn ystyriaeth wrth addysgu tenantiaid ar sut i ymdrin â'r mater a gwella'r broblem ac mae'r rhain yn uchel ar agenda'r Gwasanaeth. Yn yr achosion gwaethaf, gall y Gwasanaeth osod unedau dadleithio arbenigol i gael gwared â thamprwydd. Fodd bynnag, nid yw nifer y cwynion am damprwydd yn arbennig o uchel yng nghyd-destun y cwynion y mae'r Gwasanaeth yn eu derbyn.

 

Rhoes y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaeth bwyntiau fel a ganlyn –

 

           Nododd y Pwyllgor fod adroddiad yr Archwiliwr Allanol yn cydnabod bod rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru’r Cyngor wedi llwyddo i godi ansawdd tai a bod arolwg Swyddfa Archwilio Cymru gyda thenantiaid yn dangos bod pobl, yn gyffredinol, yn fodlon iawn ag ansawdd y gwasanaeth tai; eu bod yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth tai yn fawr a bod llawer wedi gwneud sylw ynghylch lefel uchel y gwasanaeth cwsmeriaid y mae’r rhan fwyaf o'r staff tai yn ei roi.

           Nododd y Pwyllgor fod 37% o denantiaid wedi codi pryderon ynghylch problemau gyda thamprwydd a chyddwysiad yn eu cartrefi. Nododd y Pwyllgor hefyd fod hwn yn fater cymhleth gydag achosion lluosog; a nododd ymhellach fod adroddiad yr Archwiliwr Allanol yn derbyn bod y Cyngor yn adolygu ei broses ar gyfer ymchwilio i adroddiadau am damprwydd a chyddwysiad a’r bwriad yw y bydd syrfewyr, yn y dyfodol, yn casglu mwy o wybodaeth am dai mewn cartrefi ac yn codi ymwybyddiaeth ar sut i osgoi cyddwysiad a gwneud i ffwrdd ag o drwy nifer o sianeli y mae'r Gwasanaeth yn eu defnyddio i ymgysylltu â'i denantiaid. Cadarnheir y dull gweithredu hwn gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

           Nododd y Pwyllgor y sylwadau a wnaed gan lawer o denantiaid tai gwarchod y Cyngor am deimlo'n unig ac ynysig yn dilyn dirwyn i ben wasanaeth penodol ar-y-safle y warden ac roedd yn bryderus yn ei gylch. Roedd y Pwyllgor yn arbennig o bryderus ynghylch y trefniadau ar gyfer y gwasanaeth larwm tân yn y ddau gynllun tai gwarchod yr ymwelwyd â nhw oherwydd y risgiau posib sy'n deillio o'r oedi wrth ailosod larymau nawr bod y gwaith hwn yn cael ei wneud gan gontractwyr allanol lle'r oedd ynghynt yn rhan o rôl y warden.

           Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd cynlluniau tai gwarchod y Cyngor fel rhan o'i agenda ataliol lle mae pobl hŷn a allai, fel arall, orfod mynd i ofal preswyl yn derbyn cefnogaeth briodol i fyw'n annibynnol. Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod angen cynnal safonau gwasanaeth er mwyn i gynlluniau tai gwarchod fod yn effeithiol. Cadarnhaodd y Pwyllgor gynnig yr Archwiliwr Allanol y dylid asesu effaith tymor hir dirwyn i ben y gwasanaeth warden ac argymhellwyd bod y Gwasanaeth Tai yn cynnal adolygiad ôl-weithredu o ddirwyn i ben wasanaeth penodol ar-y-safle y warden yn ei gynlluniau tai gwarchod.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y gwasanaeth warden, i bob pwrpas, wedi’i allanoli gyda chymorth symudol yn cael ei gomisiynu trwy'r rhaglen Cefnogi Pobl, sef un o'r penderfyniadau a wnaed gan y Cyngor wrth ddirwyn ei wasanaeth warden i ben. Felly, mae gwasanaeth symudol ar gael i unigolion y mae angen cymorth arnynt ond mae'r ddarpariaeth hon yn ymestyn y tu hwnt i denantiaid y Cyngor ac mae ar gael i berchnogion eiddo a rhai sy’n rhentu yn y sector preifat. Mae'n canolbwyntio ar anghenion unigol yn hytrach nag ar gynllun tai.

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad yr Archwiliwr Allanol ar Bersbectif y Defnyddiwr Gwasanaeth mewn perthynas â Safon Ansawdd Tai Cymru yng Nghyngor Sir Ynys Môn a nodi ei gynnwys.

 

GWEITHREDIAD YCHWANEGOL ARFAETHEDIG – Bod y Gwasanaeth Tai yn cynnal adolygiad ôl-weithredu o ddirwyn i ben wasanaeth penodol ar-y-safle y warden yn ei gynlluniau tai gwarchod.

Dogfennau ategol: