Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 1 2018/19

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Trawsnewid ac Adnoddau Dynol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid ac Adnoddau Dynol yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2018/19 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol bod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn adlewyrchu safle’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel yr amlinellwyd hwy ac fel y cytunwyd arnynt rhwng yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth / y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol mewn gweithdy a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2018. Mae’r sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 1 yn galonogol ac yn cymharu’n ffafriol â’r sefyllfa yn ystod Chwarter 1 2017/18 gyda mwyafrif y dangosyddion yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau. Fodd bynnag, mae 2 ddangosydd wedi dechrau’r flwyddyn yn tanberfformio yn erbyn eu targed blynyddol ar gyfer y flwyddyn – y rhain yw’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion. Mae’r dangosydd yn y ddau achos yn cynnwys nifer fach o unigolion sy’n golygu y gall unrhyw amrywiad effeithio ar berfformiad; bydd y dangosyddion yn parhau i gael eu monitro. Mae gweddill y dangosyddion a adroddir arnynt ar gyfer Chwarter 1 o ran rheoli perfformiad i gyd â statws RAG Gwyrdd neu Felyn. Yn ogystal, o gyfanswm nifer y dangosyddion a gafodd eu dynodi’n Goch neu Oren ar ddiwedd 2017/18, mae’n braf nodi, o’r rhai hynny y gellir eu tracio yn ystod Chwarter 1 o’r flwyddyn bresennol, bod 5 o’r 6 wedi gwella o ran perfformiad a dim ond un sy’n tanberfformio ar hyn o bryd. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, o ran Rheoli Pobl, bod y perfformiad mewn perthynas ag absenoldeb salwch ar ddiwedd Chwarter 1 wedi dirywio ychydig o’r gymharu â’r un cyfnod y llynedd gyda graddfa salwch o 2.69 diwrnod ar gyfer pob aelod o staff cyfwerth ag amser llawn o’r gymharu â 2.23 diwrnod ar gyfer pob aelod o staff yn ystod Chwarter 1 yn 2017/18. Ar lefel gwasanaeth, mae Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Dysgu yn tanberfformio ac yn y Gwasanaeth Oedolion mae hynny’n ganlyniad i nifer yr achosion o salwch hirdymor yn yr Uned Ddarparwyr ac yn y Gwasanaeth Dysgu mae’n ganlyniad i lefelau salwch tymor hir a lefelau salwch uchel yn yr ysgolion cynradd. Mae nifer y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith – sy’n declyn effeithiol er mwyn rheoli salwch – sy’n cael eu cynnal ar amser wedi cynyddu ar gyfer y Chwarter.  

 

O ran Gwasanaeth Cwsmer, mae’r defnydd o App Môn er mwyn cysylltu â’r Cyngor yn parhau i gynyddu. O ran rheoli Cwynion Cwsmeriaid, ar ddiwedd Chwarter 1 roedd 12 o gwynion wedi eu derbyn o gymharu ag 20 ar gyfer Chwarter 1 2017/18. Mae hyn yn welliant ar ddarpariaeth gwasanaeth y Cyngor yn enwedig wrth nodi bod yr holl gwynion yr oedd angen ymateb erbyn diwedd y chwarter (12) wedi derbyn ymateb o fewn yr amser angenrheidiol. O fewn Gwasanaethau Cymdeithasol, derbyniodd 56% o’r cwynion ymateb o fewn yr amserlen gyda 4 ymateb hwyr. Roedd canran y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a gafodd eu hymateb iddynt o fewn yr amserlen yn 80% - i fyny o 78% ar ddiwedd 2017/18.  

 

O ran Rheolaeth Ariannol, ar ddiwedd Chwarter 1 fe ragwelir gorwariant o £1.744 miliwn ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth, 2019. Mae’r Gwasanaethau a oedd yn teimlo pwysau cyllidebol sylweddol yn 2017/18 – Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaeth Dysgu – yn dal i deimlo’r pwysau hynny yn y flwyddyn ariannol newydd, Mae’r sefyllfa’n cael ei monitro’n ofalus.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a codwyd y pwyntiau canlynol –  

           Nododd y Pwyllgor fod y Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaeth Dysgu wedi tanberfformio yn ystod Chwarter 1 mewn perthynas ag achosion salwch tymor hir gydag achosion salwch tymor hir yn yr Uned Ddarparu yn cyfri am 634 o ddyddiau a gollwyd i salwch yn Chwarter 1 ac mae ysgolion cynradd yn cyfri am 69% o’r lefelau salwch yn y Gwasanaeth Dysgu yn yr un Chwarter. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad o’r mesurau a fydd yn cael eu cyflwyno er mwyn gwella’r lefelau salwch yn yr ysgolion ac yn y gwasanaethau oedolion. 

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y Gwasanaeth wedi sefydlu cynllun gweithredu ar y cyd ag Adnoddau Dynol er mwyn mynd i’r afael â lefelau salwch yn y sector cynradd. Mae nifer o elfennau wedi’u cynnwys gan gynnwys targed ysgolion penodol lle mae’r broblem ar ei gwaethaf a chynnwys llywodraethwyr ysgolion er mwyn iddynt allu herio lefelau salwch ysgolion. Mae’r Gwasanaeth Dysgu yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Adnoddau Dynol a Phenaethiaid Ysgolion er mwyn gweithredu Cynllun Gweithredu i sicrhau gwelliant. 

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau Dynol a Thrawsnewid fod lefelau absenoldeb salwch yn uwch yn y sector cynradd yn rhannol oherwydd bod camau gweithredu wedi bod yn cael eu targedu i’r sector uwchradd lle mae lefelau salwch wedi gostwng o ganlyniad. Mae sicrhau bod ysgolion yn cynnal y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith yn rhan o’r Cynllun Gweithredu y cyfeiriwyd ato uchod a byddant yn cael eu darparu â’r cymorth angenrheidiol er mwyn galluogi hyn i ddigwydd. 

 

O ran Gwasanaethau Oedolion, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol / Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol fod y lefelau salwch uchel yn gysylltiedig â’r Uned Ddarparu sydd â 450 o staff yn gweithio ag oedolion bregus drwy ddarpariaeth gofal cartref a / neu ddarpariaeth gofal preswyl. Dywedodd y Swyddog fod 49% o gyfanswm y dyddiau a gollwyd o ganlyniad i salwch yn y gwasanaeth yn ganlyniad i ychydig o achosion o salwch tymor hir gyda’r gweddill yn ganlyniad i gyfnodau salwch tymor byr. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, bydd mwy o bwyslais ar gynnal Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a lle bo’n briodol bydd achosion penodol yn cael eu cyfeirio at Banel Absenoldeb Salwch y Gwasanaeth. Y llynedd, cafodd lefelau absenoldeb salwch y Gwasanaeth eu heffeithio arnynt gan nifer uchel o achosion o ffliw ac oherwydd natur y gwaith roedd yn golygu nad oedd modd i staff ddod i gysylltiad â’r bobl fregus y maent yn gofalu amdanynt. Mae staff yn cael eu hannog i gael eu brechu yn erbyn ffliw. Dywedodd y Swyddog hefyd y cyfeiriwyd yn y gorffennol yn yr adroddiad monitro perfformiad corfforaethol chwarterol at lefelau salwch o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ond nad oes sôn am hynny yn yr adroddiad o dan sylw; y rheswm am hyn yw bod lefelau absenoldeb salwch yn y Gwasanaeth wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i ailstrwythuro’r Gwasanaeth, adolygu’r llwyth achosion a gwella goruchwyliaeth.       

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y Gwasanaeth wedi rhoi’r un faint o gyfrifoldeb ar y staff a’r rheolwyr am y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith gan ofyn i staff ofyn/atgoffa eu rheolwyr os nad yw’r Cyfweliad Dychwelyd i’r Gwaith wedi’i gwblhau o fewn yr amserlen. 

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ynglŷn â’r broses o ddatblygu darpariaeth Gofal Ychwanegol a hynny o ran yr adnodd sy’n cael ei adeiladu yn Llangefni a’r ddarpariaeth arfaethedig yn ardal Amlwch. O ran y cyfleuster Gofal ychwanegol, holodd y Pwyllgor a fydd unrhyw oedi yn golygu costau ychwanegol i’r Cyngor ac a fydd methu â llenwi’r adeilad yn achosi risg.   

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod cyfleuster Llangefni yn cael ei ddatblygu ar y cyd â Grŵp Tai Pennaf. Mae unrhyw oedi yn yr amserlen ar gyfer cwblhau’r cyfleuster yn fater rhwng Pennaf a’r cwmni adeiladu. Y nod yw sicrhau bod y cyfleuster yn barod erbyn y gaeaf. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod canran fawr o’r fflatiau wedi eu clustnodi i bobl a bod llawer o ddiddordeb yn parhau i fod. Mae’n bwysig bod yr Awdurdod yn sicrhau mai pobl sydd angen gofal ychwanegol fel y ddarpariaeth fwyaf briodol sy’n byw yn y fflatiau. O ran ardal Amlwch, mae Gwasanaeth Tai yr Awdurdod wrthi’n edrych ar anghenion tai yn ehangach yn yr ardal, i gynnwys tai Gofal Ychwanegol.   

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, o ran datblygiad Hafan Cefni fod contract yr Awdurdod â Pennaf yn nodi mai’r Cyngor fodd yn gorfod talu rhent unrhyw fflatiau sydd yn parhau i fod yn wag yn Hafan Cefni ar ôl  3 mis. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Cyngor gymryd yr amser i sicrhau bod yr unigolion sy’n dod i fyw yn Hafan Cefni yn rhai y mae modd i’w hanghenion gael eu bodloni gan lety Gofal Ychwanegol neu os nad dyna’r sefyllfa mae’n fwy tebygol o gael mwy o gostau yn ddiweddarach os yw pobl yn byw yn y cyfleuster nad yw’r math hwn o ddarpariaeth yn addas ar eu cyfer.   

 

           Nododd y Pwyllgor yr hoffai weld, wedi’i gynnwys o fewn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol, Ddangosydd Perfformiad ar gyfer camau gorfodaeth cynllunio lle bydd y dangosyddion yn cael eu hadolygu ar gyfer y flwyddyn ganlynol ar y sail bod hwn yn faes a reolir gan dîm bach sy’n gweithio o dan bwysau.  

 

Penderfynwyd –

 

           Derbyn yr adroddiad, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau ar gyfer y dyfodol fel sydd wedi’i grynhoi ym mharagraffau 3.1.1 I 3.1.5 ac i dderbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn dilyn hynny.  

           Argymell, pan fydd Dangosyddion Perfformiad yn cael eu hadolygu nesaf ar gyfer eu cynnwys yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol 2019/20, y dylai’r UDA, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol ystyried dangosydd ar gyfer Gorfodaeth Cynllunio.

 

NI CHYNIGWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL 

Dogfennau ategol: