Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd - Panel Sgriwtini Cyllid

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd ar waith y Panel Sgriwtini Cyllid yn ystod y cyfnod rhwng Gorffennaf ac Awst, 2018 a gyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts (Aelod Sgriwtini ar y Panel Sgriwtini Cyllid) bod yr Awdurdod yn gweithio mewn amseroedd ariannol heriol gyda’r angen i leihau cyllidebau heb effeithio ar wasanaethau yn uniongyrchol yn dod yn dasg gynyddol anodd. Mae’r Panel Sgriwtini Cyllid yn ymwybodol o’r pwysau ariannol ar wasanaethau, yn enwedig y pwysau ar wasanaethau a arweinir gan y galw amdanynt megis y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd ac elfennau o’r Gwasanaeth Dysgu. Un o nodau’r panel oedd adnabod a deall y materion sylfaenol sy’n gyfrifol am y pwysau parhaus ar y gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod y gorwariant sy’n codi o ganlyniad yn cael ei liniaru gan weithredoedd parhaus a phriodol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts fod craffu ar y pwysau ariannol yn y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Dysgu felly wedi parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Panel yn y cyd-destun o fonitro’r gyllideb yn ystod Chwarter 1 o 2018/19. Comisiynodd y Panel wybodaeth bellach gan y ddau Bennaeth Gwasanaeth, a ystyriwyd yng nghyfarfod mis Gorffennaf, gyda sylw penodol yn cael ei roi i’r meysydd hynny a oedd o dan fwyaf o bwysau ynghyd â’r mesurau lliniaru a gynigwyd a/neu a weithredwyd. Mae’r Panel wedi gwahodd y ddau Bennaeth Gwasanaeth o gyflwyno diweddariad pellach i gyfarfod Medi 2018.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y Panel hefyd wedi bod yn ystyried ei rolyn y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2019/20 ynghyd â chraffu pa mor dda mae arbedion a gynlluniwyd yn cael eu darparu hyd yma yn y Gwasanaeth Dysgu, Gwasanaethau Oedolion a Phriffyrdd, Gwastraff ac Eiddo er mwyn gallu ffurfio barn ar y canran debygol o arbedion i’w cyflawni yn llawn erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyllid) / Swyddog Adran 151 mai pwrpas sefydlu’r Panel Cyllid Sgriwtini oedd galluogi grŵp bach o Aelodau i graffu’n fwy manwl ar gyllidebau gwasanaethau na mae rhaglen waith y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei ganiatáu a hynny er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o’r materion cyllideb sy’n effeithio ar wasanaethau gan arwain at heriau fwy ystyrlon ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Yn y cyswllt hwn, mae mewnbwn y panel yn ychwanegu gwerth i’r broses o osod y gyllideb a’i monitro. 

 

Nododd y Pwyllgor fod y pwysau ar y gyllideb yn y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Dysgu yn parhau i achosi pryder i’r Panel a’i fod wedi uwchgyfeirio’r mater hwn at sylw’r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor ymhellach y gall y term “gorwarioachosi argraff gamarweiniol o wasanaeth yn gwario mewn modd anghyfrifol neu heb roi ystyriaeth i’w gyllideb ond yn achos y Gwasanaethau Plant, mae’r gwariant yn digwydd gan fod yn rhaid i’r gwasanaeth fodloni anghenion y nifer gynyddol o blant sy’n dod i ofal yr Awdurdod er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gofal priodol. Gellid hefyd gwneud achos fod  cyllideb y Gwasanaethau Plant yn rhy isel ac nad yw cyllideb y Gwasanaeth wedi cynyddu yn unol â’r gofynion cynyddol a wynebir gan y gwasanaeth.    

Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith nad yw’r pwysau a wynebir gan y Gwasanaethau Plant yn unigryw i Ynys Môn. Nododd y Pwyllgor fod Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru a Lloegr yn teimlo o dan bwysau gydag adroddiadau yn y wasg am nifer cynyddol o gynghorau yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r cynnydd mewn galw ar wasanaethau cymdeithasol gofal plant ynghyd â chyllidebau llai.  

 

Penderfynwyd nodi

 

           Y cynnydd hyd yma o ran gwaith y Panel Sgriwtini Cyllid, o ran cyflawni ei raglen waith a mesur effaith a gwerth a ychwanegwyd

           Bod y prosesau’n ymwneud â monitro cyllideb 2018/19 yn ymddangos yn addas i bwrpas ac ar y trywydd iawn.

           Y rhaglen ddatblygu o ran sgriwtini ariannol parhaus ar gyfer aelodau’r Panel sy’n cael ei chyflwyno gan CIPFA Cymru.

           Bod y panel wedi uwchgyfeirio’r mater i ystyriaeth y Panel Sgriwtini Corfforaethol er mwyn mynegi ei bryder parhaus ynglŷn â phwysau ar y gyllideb yn y gwasanaethau plant a’r gwasanaeth dysgu. Hefyd, nodi fod y Panel yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus a bod trefniadau yn eu lle i sicrhau deialog reolaidd gyda’r Prif Weithredwr Cynorthwyol a Phenaethiaid Gwasanaeth er mwyn darparu esboniad am y sefyllfa ariannol yn y ddau wasanaeth ac effaith y mesurau lliniaru sydd mewn lle i reoli gorwariant. Fel y nodwyd yn flaenorol, bydd y Panel yn parhau i adrodd ar ei ganfyddiadau i’r Pwyllgor hwn wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

 

NI CHYNIGWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL 

Dogfennau ategol: