Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd - Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cyflwyno’r canlynol –

 

·        Adroddiad cynnydd gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant.

 

·        Adroddiad cynnydd gan y Panel Gwella Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

           Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar weithrediad y Cynllun Gwella Gwasanaeth ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Tynnwyd sylw gan yr Arweinydd, sydd hefyd yn Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, at rai o’r sylwadau a wnaed yn adroddiad terfynol y Tîm Cefnogi Annibynnol (IST) a gafodd eu hatgynhyrchu yn adroddiad y Swyddog. Mae’r IST, ar gais y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi bod yn cydweithio â’r Gwasanaeth er mwyn cefnogi gwelliant yn dilyn yr arolygiad o’r Gwasanaethau Plant ym mis Tachwedd, 2016. Mae’r IST yn cyfeirio at y nifer o nodweddion calonogol a chadarnhaol sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod ei waith sy’n cynnwys ond sydd ddim yn gyfyngedig i arweinyddiaeth glir a strwythur rheoli; recriwtio effeithiol i swyddi gwag a rhaglenni hyfforddiant a datblygu staff; gwell rheolaeth a chymorth mentora ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Plant ynghyd â lefel uchel o ddealltwriaeth wleidyddol o’r materion sy’n cael sylw gan y Gwasanaethau Plant.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio hefyd ar y gwelliant amlwg mewn Dangosyddion Perfformiad fel a welir yn y tabl yn Adran 3 o’r adroddiad sy’n cymharu’r perfformiad yn Chwarter 1, 2018/19 â’r perfformiad cronnus ar gyfer 2017/18. Mae cymhariaeth tebyg at ei debyg â pherfformiad Chwarter 1 2017/18 yn dangos y gwelliant hyd yn oed yn fwy amlwg. Yn debyg, mae gwelliannau sylweddol wedi bod mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaeth o ran cyflawni safonau perfformiad corfforaethol. Nododd yr Aelod Portffolio fod y Gwasanaeth wedi trefnu Dathliad ar gyfer Gofalwyr Maeth yn ddiweddar a gynhaliwyd fel cydnabyddiaeth o’r gwaith amhrisiadwy a wneir gan ofalwyr maeth yr Awdurdod a’u teuluoedd a’u ffrindiau (pobl gysylltiedig) wrth iddynt ddarparu gofal i blant a phobl ifanc mewn amgylchedd diogel pan nad oes modd iddynt fyw adref.    

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud ers arolygiad CSSIW (CIW bellach) ym mis Tachwedd, 2016 a’r adroddiad dilynol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym Mawrth, 2017 a oedd yn cynnwys 14 o argymhellion ar gyfer gwella. Dywedodd y Swyddog fod CIW bellach wedi cadarnhau y cynhelir arolygiad arall o’r Gwasanaeth ym mis Hydref, 2018. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y Cynllun Gwella Gwasanaeth wedi cael ei adolygu a’i ychwanegu ato yn rheolaidd ers iddo gael ei roi at ei gilydd yn dilyn yr archwiliad. O ran y gwaith o recriwtio a chadw staff, a oedd yn faes allweddol ar gyfer gwelliant ac sydd wedi bod yn un o’r pethau sydd wedi cael ei ganolbwyntio arno ers yr adroddiad diwethaf i’r Pwyllgor, mae’r gwaith o ail-strwythuro’r Gwasanaeth bellach yn dod i ben. Mae’r Gwasanaeth wedi llwyddo i recriwtio 5 Gweithiwr Cymdeithasol Plant sydd newydd gymhwyso a chafwyd ychydig o lwyddiant hefyd wrth benodi Gweithwyr Cymdeithasol Profiadol ac mae’r Gwasanaeth yn parhau i hysbysebu am weithwyr profiadol tebyg. Bu i hysbyseb diweddar am y swydd Arweinydd Ymarfer ennyn diddordeb o du allan i’r Awdurdod, sy’n adlewyrchiad o’r gwelliant yn enw da yr Adran Gwasanaethau Plant.  Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi gwneud cynnydd mewn ffyrdd eraill fel y mae’r gwelliant mewn perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol yn tystio iddo a llai o gwynion am y Gwasanaeth. Cyfeiriodd y Swyddog at adroddiad y Tîm Cefnogi Annibynnol a cafodd ei groesawu fel gwaith calonogol ac adeiladol.   

 

           Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, a oedd yn darparu diweddariad ar waith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.  

 

Adroddodd y Cynghorydd Richard Griffiths, cynrychiolydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Panel Gwella Gwasanaethau Plant, fod y Panel wedi cyfarfod 13 o weithiau ers haf 2017 ac yn ystod y cyfnod hwnnw fod aelodau wedi datblygu gwell gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o gymhlethdodau’r Gwasanaethau Plant a’r risgiau a wynebir ganddynt ac o ganlyniad eu bod mewn lle gwell i allu craffu yn effeithiol, dal pobl yn atebol, adnabod blaenoriaethau a sicrhau bod y ffrydiau gwaith mewn perthynas a'r Cynllun Gwella Gwasanaeth yn mynd rhagddynt yn briodol. Fel rhan o’i raglen waith, mae’r Panel wedi ymgymryd ag ymarfer hunanwerthuso sydd wedi galluogi Aelodau i wneud asesiad critigol o’r cyfraniad y mae’r Panel yn ei wneud ar y daith tuag at wella’r Gwasanaethau Plant.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Griffiths fod y Panel yn gweld fod cynnydd da yn cael ei wneud ar weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth. Er bod y ddibyniaeth ar staff asiantaeth wedi lleihau, mae’r Panel yn nodi ac yn tynnu sylw’r Pwyllgor at y ffaith bod rhai swyddi Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau i gael eu llenwi gan staff asiantaeth a bod angen llenwi’r swyddi hyn ar sail parhaol. Nodir fodd bynnag bod y mater hwn yn cael ei ddelio ag ef drwy benodi gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso a gweithwyr cymdeithasol cymwys a drwy gefnogi gweithwyr cefnogi profiadol i gymhwyso. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd yn y ddau adroddiad ac fe godwyd y pwyntiau canlynol – 

 

           Nododd y Pwyllgor fod y Gwasanaeth wedi gweithredu rhaglen ailstrwythuro a’i fod yn gwneud cynnydd mewn perthynas â recriwtio i swyddi Gweithwyr Cymdeithasol gwag. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad o’u llwyddiant o ran recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol dwyieithog ac a yw hyn yn her i’r Gwasanaeth.  

 

Dywedodd y Pennaeth Plant a Gwasanaethau Teuluoedd bod prinder cenedlaethol o Weithwyr Cymdeithasol Plant a bod hyn yn sicr yn wir o ran Gweithwyr Cymdeithasol Plant dwyieithog. Er hyn, mae’r gwasanaeth wedi gallu bodloni dewis iaith y gwasanaethau y darperir gwasanaethau ar eu cyfer ac fy hysbysebir swyddi yn ddwyieithog ac yn unol â Pholisi Iaith Gymraeg y Cyngor. Mae gradd Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Bangor yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac o eleni ymlaen mae gofyniad bod myfyrwyr yn ddwyieithog. Felly, er bod prinder Gweithwyr Cymdeithasol dwyieithog ar hyn o bryd, mae’n debygol y bydd y sefyllfa yn newid yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Swyddog hefyd fod y gwasanaeth wedi bod yn marchnata Gwaith Cymdeithasol fel proffesiwn mewn ysgolion a cholegau ac mae wedi sefydlu Llysgenhadon Gofal Cymdeithasol er mwyn hyrwyddo’r swyddogaeth hon. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cefnogi cynllun hyfforddeion Gwaith Cymdeithasol.   

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol / Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod rhai o Weithwyr Cymdeithasol asiantaeth y Gwasanaeth yn weithwyr proffesiynol sy’n dychwelyd i weithio yn yr ardal ac sydd angen anogaeth i ail ymgysylltu â’r Gymraeg ac maent yn derbyn y cymorth i wneud hynny. O ran recriwtio yn gyffredinol, mae gan y Gwasanaeth weithwyr cymorth a swyddogion cyswllt yn gweithio iddo sy’n awyddus i ymgymryd â gwaith cymorth cyn penderfynu a ydynt yn dymuno derbyn hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol ffurfiol ai peidio; mae hon yn ffordd dda o’u cynorthwyo i weld a ydynt yn dymuno dilyn y llwybr hwn ac er mwyn eu paratoi ar gyfer yr ymrwymiad hwnnw.  

 

           Nododd y Pwyllgor bod gostyngiad yn nifer y cwynion a dderbyniwyd yn cael ei ystyried fel canlyniad y gwelliannau sy’n cael eu gwneud yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad a yw’r gostyngiad yn un mesuradwy.  

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol fod 5 cwyn Cam 1 wedi eu cofnodi ar gyfer Chwarter 1 2018/19 a dim cwynion Cam 2 o gymharu â 15 cwyn Cam 1 ar gyfer yr un cyfnod y llynedd sy’n awgrymu bod unigolion yn hapusach â’r gwasanaeth y gwnaethant ei dderbyn. Mae gwrando ar blant a’u teuluoedd a gwella cyfranogiad yn faes y mae’r Gwasanaeth wedi bod yn canolbwyntio arno. Fodd bynnag, mae natur y gwasanaeth a pha mor fregus yw’r plant, pobl ifanc a'r teuluoedd y bydd y Gwasanaeth yn dod i gysylltiad â nhw yn gwneud cwynion yn fwy tebygol.   

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd fod dysgu o gwynion yn rhan hanfodol o wella gwasanaethau. Cyflwynir adroddiadau monitro chwarterol i’r Tîm Rheoli Gwasanaethau Plant a Theuluoedd sy’n gwerthuso nifer y cwynion a chanmoliaethau a dderbyniwyd ym mhob gwasanaeth o dan bob cam o’r weithdrefn ynghyd â’r gwersi a ddysgwyd ohonynt. 

 

           Nododd y Pwyllgor fod cadw staff wedi bod yn broblem yn y gorffennol. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad o’r ffyrdd y mae’r Gwasanaeth yn gwella’r gefnogaeth y mae’n ei ddarparu i staff. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y staff newydd sy’n cael eu recriwtio yn cael rhaglen cynefino gorfforaethol ynghyd ag un o fewn y gwasanaeth er mwyn eu cynorthwyo i setlo yn eu swyddi. Mae rôl yr Arweinwyr Ymarfer a gyflwynwyd fel rhan o ailstrwythuriad y gwasanaeth yn gyfrifol am dîm llawer llai o Weithwyr Cymdeithasol gan felly ddarparu cymorth cyson y mae’n hawdd cael mynediad iddo. Cynhelir cynadleddau staff yn rheolaidd hefyd. Un o’r elfennau pwysicaf o gymorth staff yw goruchwyliaeth sy’n agwedd o ymarfer y mae’r Gwasanaeth wedi bod yn canolbwyntio ar ei ddatblygu ac yn un y gellir bellach ei ddangos fel un sy’n gweithio’n gyson.     

 

Dywedodd y Cyfarwyddwyr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol bod recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol Plant yn broblem yn genedlaethol. Fodd bynnag, mae’r gwaith y mae’r Gwasanaeth wedi’i gyflawni hyd yma fel rhan o’r Rhaglen Gwelliant a’r ailstrwythuro sydd wedi digwydd wedi arwain at recriwtio llwyddiannus, yn enwedig ar lefel rheoli, gan felly ddatblygu enw da y Gwasanaeth fel lle da i weithio. Wrth i’r neges hon ledaenu, mae’n debygol o helpu ymdrechion recriwtio yn y dyfodol.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y Gwasanaeth yn lleihau ei ddibyniaeth ar staff asiantaeth a gofynnodd am gadarnhad o'r sefyllfa a ragwelir ymhen blwyddyn o ran y gymhareb o staff parhaol o gymharu â staff asiantaeth. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol, tra bo’r Gwasanaeth yn mynd ati i geisio lleihau ei ddibyniaeth ar staff asiantaeth, nad yw hyn yn golygu na fydd yn cyflogi staff asiantaeth yn y dyfodol. Mae staff asiantaeth yn galluogi’r Gwasanaeth i fod yn hyblyg ar adegau pan mae angen mewnbwn ychwanegol e.e. am brosiectau cyfnod penodol megis er mwyn mynd i’r afael ag achosion hanesyddol pan y gallai recriwtio fod yn broblem fel arall neu mewn cyfnodau o absenoldebau staff. Gall staff asiantaeth hefyd gyflawni rôl gefnogi bwysig wrth iddynt rannu arbenigedd a phrofiad â gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso. 

 

           Nododd y Pwyllgor, er bod yr adborth a ddarparwyd gan y Tîm Cefnogi Annibynnol ar ddiwedd ei waith â’r Gwasanaeth yn galonogol, mae’r IST yn nodi er bod rhai arwyddion o welliant yn ansawdd yr ymarfer bod pryderon yn parhau o ran i ba raddau mae hyn yn digwydd yn gyson. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd y bydd y mater o ansawdd a safon yr ymarfer yn parhau i gael ei ddelio ag ef. Bu’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol gydnabod fod ansawdd yr ymarfer yn ffactor pwysig ac mai dyna’r rheswm dros gyflwyno’r Safonau Ymarfer ar draws t Gwasanaeth ers 2017. Dywedodd y Swyddog, er bod lle am welliannau pellach fel y mae’r IST yn gydnabod, mae ansawdd y Gwasanaeth wedi gwella’n sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf.   

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod sefydlu’r Fframwaith Sicrwydd Ansawdd hefyd yn rhan o’r broses o wella ymarfer ar draws holl rannau’r Gwasanaeth.

 

Bu’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol dynnu sylw at y ffaith bod y Swyddog Adolygu annibynnol, mewn cyfarfod o'r Panel Rhiant Corfforaethol yr wythnos hon, wedi dweud fod yr Uned Ansawdd a Diogelu wedi nodi, yn dilyn adolygiad ar hap o 10 o achosion, y gwelwyd fod pob un â chofnodion diweddar a bod tystiolaeth o gynnydd cadarnhaol yn y cyswllt hwn. 

 

 

           Gofynnodd y Pwyllgor a yw’r amserlen o 3 blynedd ar gyfer cwblhau’r Cynllun Gwella Gwasanaeth yn realistig ac yn galluogi’r Gwasanaeth i gyflawni ei holl amcanion. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol fod y 14 o argymhellion a wnaed gan CIW o ganlyniad i’w harchwiliad o Wasanaethau Plant yr Awdurdod wedi creu’r 21 o weithredoedd yn y Cynllun Gwella Gwasanaeth. Mae tua hanner o’r gweithredoedd hynny bellach wedi’u cwblhau ac mae 8 arall ar y gweill ac ar y llwybr cywir. Tra bo tri maes yn y Cynllun Gwella wedi eu dynodi’n oren ac yn ymwneud â materion cysondeb, nid oes unrhyw ffactorau wedi’u dynodi’n Goch.  Fel gydag unrhyw raglen gwelliant, mae gwneud newidiadau a sicrhau eu bod yn cael eu sefydlu’n gadarn yn y gwasanaeth yn gyson yn cymryd amser; ystyrir bod y Gwasanaeth tua tri chwarter o’r ffordd tuag at gyflawni’r newidiadau sydd angen eu gwneud.  

 

Penderfynwyd –

 

           Cadarnhau bod y Pwyllgor yn fodlon â’r camau a gymerwyd er mwyn datblygu gweithrediad y Cynllun Gwella Gwasanaeth a gyda chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyn yma gyda’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a bod y Pwyllgor – 

           Yn nodi’r Cynnydd a wnaed hyd yma gyda gwaith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant, o ran cyflawni ei raglen waith.

           Yn nodi fod yr holl ffrydiau gwaith yn ymwneud â’r Cynllun Gwella Gwasanaeth ar y trywydd iawn hyd yn hyn.

           Yn nodi canlyniadau ffrwd waith yr hunan arfarniad diweddar i fesur effaith a gwerth ychwanegol y Panel.

           Yn nodi rhaglen ddatblygu barhaus ar gyfer aelodau’r Panel, gyda llawer o’r gwaith hwnnw’n cael ei ddarparu’n fewnol.

           Nodi hefyd bod y Panel wedi uwchgyfeirio er sylw’r panel bod rhai swyddi gweithwyr cymdeithasol yn cael eu llenwi gan staff asiantaeth o hyd er bod cynnydd da wedi ei wneud i weithredu’r strwythur staffio diwygiedig. Nododd y Pwyllgor ymhellach yr ymdrinnir â’r mater hwn drwy apwyntio gweithwyr cymdeithasol (profiadol a rhai newydd gymhwyso) a chefnogi gweithwyr cefnogi profiadol i gymhwyso.

 

NI CHYNIGWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL 

Dogfennau ategol: