Eitem Rhaglen

Cais yn Codi - Wylfa Newydd, Cemaes

38C310F/EIA/ECON – Wylfa Newydd, Cemaes

Cofnodion:

7.6  38C310F/EIA/ECON – Gwaith paratoi a chlirio’r safle ar gyfer datblygu gorsaf bŵer Wylfa Newydd, yn cynnwys y gweithgareddau canlynol: clirio'r safle (gan gynnwys clirio a rheoli llystyfiant, tynnu ffensys, waliau, giatiau, ffiniau caeau, strwythurau presennol (gan gynnwys adeiladau), prysg, coed a nodweddion eraill sydd ar y tir); gwaith sefydlu'r safle (gan gynnwys gosod croesfan newydd ar draws ffordd fynediad gorsaf bŵer bresennol Magnox, ffurfioli pwyntiau croesi presennol i gerbydau ar draws Ffordd Cemlyn, ffurfioli llwybrau i gerbydau, gosod ffens adeiladu o amgylch perimedr y safle, sefydlu ardaloedd gosod, compowndiau storio deunyddiau, compowndiau adeiladu ac adeiladau lles/swyddfa dros dro cysylltiedig, meysydd parcio, cyswllt llwybr troed cysylltiedig rhwng prif gompownd y safle a maes parcio cyn Glwb Cymdeithasol a Chwaraeon Wylfa, lle i storio tanwydd, ffensys diogelwch, a nodweddion diogelwch a draenio); gwaith gwella'r tir (gan gynnwys sefydlu compownd prosesau adfer a ffensys cysylltiedig, storio deunyddiau wedi'u prosesu/wedi'u trin, sefydlu traciau mynediad cysylltiedig, draenio, cloddio a thrin priddoedd sy'n debygol o fod yn halogedig, a thrin a thynnu rhywogaethau estron goresgynnol); dargyfeirio a/neu gau Ffordd

Cemlyn dros dro gyda mynediad at Dy Croes (Maes Parcio’r Pysgotwyr) yn cael ei reoli; gwaith cysylltiedig arall a chynllun adfer i ddychwelyd y safle i gyflwr derbyniol os na fydd datblygiad gorsaf bŵer Wylfa Newydd yn mynd rhagddo yn

Wylfa Newydd, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol wedi cael ei gyflwyno gyda’r cais ac o’r herwydd, caiff ei gyfeirio i’r Pwyllgor i’w benderfynu yn unol â pharagraff 3.5.3.10 y Cyfansoddiad. 

 

Dywedodd Mr Roger Dobson (gwrthwynebydd i’r cais) nad oedd yn gwrthwynebu’r prosiect Wylfa newydd arfaethedig ond ei fod yn erbyn y cais ar gyfer paratoi a chlirio’r safle. Dywedodd fod ardal datblygiad Wylfa newydd yn ffinio tair ochr o’i eiddo; mae’n Gynghorydd Cymuned ac yn cynrychioli ardal Llanbadrig ar Bartneriaeth Gogledd Ynys Môn. Er fod ganddo ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais, mae wedi derbyn caniatâd y Pwyllgor Safonau i siarad ar faterion sy’n gysylltiedig â Wylfa. 

 

Nododd ymhellach fod y datblygiad yn un sylweddol ac yn fwy nag unrhyw ddatblygiad a welwyd ar Ynys Môn ers adeiladu’r A55. Nododd y bydd 50 o beiriannau diesel trwm ac 80 o weithwyr ar y safle. Bydd 740 acer o arfordir yn dod yn dir gwastraff yn yr ardal. Mae’r datblygwr wedi tynnu’r gwelliannau ‘oddi ar-lein’ o’r cais; byddai hyn wedi elwa’r gymuned yn barhaol. Dywedodd Mr Dobson hefyd ei fod wedi siarad â’r datblygwr am oriau’r gweithwyr a fydd yn gweithio ar y safle; dywedodd nad ydynt yn gallu rhoi ateb plaen.  Roedd yn ystyried bod Horizon yn bwriadu i’r gweithwyr weithio oriau hir a fyddai’n debygol o fod yn fwy na 60 awr yr wythnos, sy’n cael ei ystyried yn anniogel; mae’n cynyddu’r risg o ddamweiniau a marwolaethau. Nododd fod ROSPA yn dweud bod 20% o ddamweiniau ffordd yn digwydd o ganlyniad i flinder a bod yn 50% yn fwy tebygol o arwain at farwolaethau neu anafiadau difrifol.     

 

Dywedodd Mr Dobson fod Horizon yn dymuno i’r Cyngor gytuno i ddinistrio tirlun prydferth sydd wedi datblygu dros miloedd o flynyddoedd ynghyd ag adeiladau a thai gan yr ystyrir y bydd hyn yn lleihau’r amser a gymer i adeiladu’r orsaf bŵer o flwyddyn. Fodd bynnag, petai’r gwaith hwn yn cael ei integreiddio gyda’r prif adeilad, yn unol â’r cynllun gwreiddiol, gellid lleihau unrhyw oedi i lawer llai na blwyddyn. Mae nifer o flynyddoedd eisoes wedi eu colli o ganlyniad i newidiadau o ran rheolaeth a pherchnogaeth Horizon; bydd mwy o oedi yn codi yn y dyfodol fel, y gwelwyd yn achosion Hinkley C a HS2 er enghraifft. Mae gwir risg y gallai’r prosiect gael ei atal neu ei ohirio yn dilyn canlyniad y DCO ac efallai na fydd yn digwydd oherwydd am resymau ariannol, yn enwedig yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol. Bydd y tirlun wedi’i ddifetha i ddim pwrpas.   

 

Holodd Mr Dylan Morgan (gwrthwynebydd i’r cais) yn y lle cyntaf a oedd aelodau’r Pwyllgor wedi derbyn copi o lythyr Cyfreithiwr Harrison Grant a oedd yn gweithredu ar ran Greenpeace. Ymatebodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi derbyn y llythyr ac y byddai hyn yn cael sylw yn niweddariad y Swyddog. Dywedodd Cyfreithiwr y Cyngor fod y llythyr gan Gyfreithiwr Harrison Grant wedi ei dderbyn a’i drin yn yr un modd ag unrhyw wybodaeth arall wrth ddelio â cheisiadau cynllunio.  

 

Dywedodd Mr Morgan fod PAWB yn gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio a’r Cyngor wrthod y cais ar gyfer paratoi a chlirio’r safle ar gyfer datblygiad Wylfa Newydd. Dywedodd y dylid cyfeirio’r cais at yr Arolygiaeth Gynllunio (dan ddarpariaethau’r Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac y dylid llunio adroddiad i Weinidogion Cymru ar ganfyddiadau Ymchwiliad Cynllunio Cyhoeddus Lleol Annibynnol o gynigion Horizon i ddinistrio tua 300 hectar (738 erw) o dir yn Wylfa. Dywedodd na ddylai’r cyhoedd gael eu hamddifadu o’u hawliau traddodiadol, democrataidd a datganoledig i gwestiynu ac archwilio’n uniongyrchol pob agwedd o’r cais hwn mewn ymchwiliad cyhoeddus lleol. Dywedodd hefyd bod angen i’r cais paratoi a chlirio safle ar gyfer datblygiad Wylfa Newydd gael ei wrthod gan y bydd y tirlun yn cael ei ddinistrio wrth i 750 o erwau gael eu clirio; cymharodd raddfa’r safle i ardal gyfan Caergybi. Nododd fod y safle ar ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Ardal Tirlun Arbennig Gogledd Ynys Môn, Gerddi Cestyll a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) yng Nghae Gwyn a Tre’r Gof. Ystyriodd bod bygythiad i safleoedd a rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod yn amgylcheddol; bod bygythiad i safle bridio Môr Wenoliaid ym Mae Cemlyn sydd unwaith eto yn safle SSSI. Dywedodd Mr Morgan y bydd y datblygiad arfaethedig yn lleihau’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ar Ynys Môn yn gyfan gwbwl i’r gorllewin o Afon Cafnan (y rhan y mae’r ymgeisydd wedi ei chynnig fel ardal gyfyngedig dymhorol). Byddai hefyd yn dinistrio cynefin adar, anifeiliaid a mathau penodol o ffyngau yn ogystal â draeniad dŵr wyneb; bydd tirweddau pwysig ac ardaloedd o bwysigrwydd hanesyddol yn cael eu colli.           

 

Dywedodd Mr Morgan ymhellach, petai Hitachi yn tynnu allan o brosiect Wylfa Newydd am unrhyw reswm, byddai caniatáu’r cais hwn yn hynod ffôl. Nododd fod un o drigolion Tregele wedi cysylltu ag ef yn mynegi nad yw Horizon wedi bodloni’r trigolion lleol o ran ateb cwestiynau mewn perthynas â lefelau sŵn, llwch, aflonyddwch traffig ac ati. Mae Horizon wedi gwneud addewidion i’r trigolion lleol, pethau fel gosod ffenestri gwydr triphlyg ond nid yw hynny wedi digwydd. Mae craciau mawr wedi ymddangos mewn eiddo cyfagos o ganlyniad i ddrilio sylweddol yn yr ardal.  

 

Roedd Mr Ifer Gwyn a Mr Will Ryan yn bresennol fel cynrychiolwyr ar ran Horizon.

 

Dywedodd Mr Ifer Gwyn fod y cais arfaethedig hwn sydd gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn dynodi dechrau prosiect Wylfa Newydd ac fe gydnabyddir hyn yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol (CCA) y Cyngor hwn ar Wylfa Newydd fel y’u mabwysiadwyd yn ddiweddar ac fel sy’n ymddangos o fewn Polisïau Cenedlaethol. Nododd fod Horizon wedi bod yn gweithio ar brosiect Wylfa newydd ers nifer o flynyddoedd a bod y cais sydd gerbron y Pwyllgor wedi ei gyflwyno ar gyfer y gwaith paratoi a chlirio safle ond heb y prif weithrediadau peirianneg a gynigiwyd yn wreiddiol. Os bydd Wylfa newydd yn mynd rhagddo, bydd y gwaith hwn o baratoi a chlirio’r safle yn arbed amser o ran y rhaglen gwaith adeiladu ar y safle. Fodd bynnag, os na fydd Wylfa Newydd yn mynd yn ei flaen gellir dychwelyd y safle i’w ffurf gwreiddiol at ddibenion ecolegol neu amaethyddol. Mae’r cwmni yn dymuno sicrhau y bydd modd adfer y safle drwy roi cytundeb ariannol os rhoddir caniatâd cynllunio i’r datblygiad. Derbynnir y bydd y gwaith yn newid edrychiad y safle ac y bydd yn golygu dymchwel chwech annedd, mae hyn yn rhan hanfodol o’r gwaith o baratoi’r tir ar gyfer prosiect Wylfa Newydd a chynlluniau isadeiledd eraill. Fodd bynnag, mae’r dyluniad yn cynnwys darpariaeth ar gyfer storio cerrig y gellid eu hail ddefnyddio yn y dyfodol a bydd boncyffion coed a llwyni hefyd yn cael eu storio er mwyn gallu diogelu coed hynafol cyn y gwneir penderfyniad ar y Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer adeiladu Wylfa Newydd. Nododd fod adroddiad y Swyddog gerbron y Pwyllgor a bod ei gasgliadau yn gadarn ac yn adlewyrchu’r trafodaethau heriol sydd wedi eu cynnal rhwng Horizon a Swyddogion y Cyngor.        

 

Dywedodd Mr Gwyn ymhellach fod Horizon yn cydnabod y pryderon lleol sydd ynghlwm â’r cynlluniau h.y. nifer y gweithwyr a fydd yn gweithio ar y safle ynghyd â’r materion traffig. Mae diogelwch yn ystyriaeth hanfodol gan Horizon o ran y gweithwyr a’r cyhoedd. Nodir yr oriau gwaith yn adroddiad y Swyddog, oriau sy’n arferol o fewn rheoliadau’r diwydiant cynllunio. Bydd Horizon yn gweithio gyda’r contractwyr a fydd yn gwneud y gwaith o glirio safle, ar yr amodau ar gyfer paratoi a chlirio’r safle a lle mae hynny’n ymarferol, bydd nifer symudiadau’r cerbydau yn cael eu lleihau er mwyn lleihau traffig a blinder posibl y gweithwyr ar y safle. Mae amod wedi’i baratoi sy’n sicrhau y bydd manylion yn cael eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio cyn i’r caniatâd gael ei ryddhau. Bydd hyn yn sicrhau bod Horizon a’i gontractwyr yn gweithio o fewn systemau cadarn ac yn rhoi ystyriaeth briodol i iechyd a diogelwch a bod yr arferion gorau posibl yn cael eu gweithredu. Bydd cytundeb cyfreithiol Adran 106 yn cael ei gynhyrchu er mwyn sicrhau bod ymrwymiad i leihau effeithiau’r datblygiad arfaethedig. Nododd ymhellach fod gan y Cwmni nifer o gynlluniau sy’n rhan o’r DCO sydd wedi eu darparu fel camau cychwynnol neu arbrofol sy’n cynnwys strategaeth swyddi a sgiliau ac arolwg o gartrefi lleol a fydd yn sicrhau bod modd i’r cwmni eu hinswleiddio yn erbyn niwsans sŵn yn y dyfodol. Bydd gwaith adfer hefyd yn cael ei sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol sy’n cadarnhau bod Horizon yn cydnabod pa mor sylweddol yw’r cais hwn yng nghyd-destun y prosiect Wylfa Newydd ehangach.        

 

Gofynnodd yr Aelodau os oedd dod â’r cais gerbron y Pwyllgor yn gynamserol gan nad oes caniatâd yn ei le hyd yma ar gyfer datblygiad prosiect Wylfa Newydd. Ymatebodd Mr Ifer Gwyn drwy ddweud y bydd y gwaith o baratoi a chlirio’r safle yn sicrhau y bydd y cwmni yn gallu adeiladu’r orsaf bŵer 12 mis yn gynharach. 

 

Holodd y Cynghorydd Robin Williams a fyddai’r ffenestr o 12 mis ar gyfer paratoi a chlirio safle Wylfa Newydd o fantais i’r cwmni yn elwa’r cwmni pan gallai pethau sylweddol eraill ymyrryd â’r broses h.y. cyllid ar gyfer prosiect Wylfa Newydd a’r DCO. Ymatebodd Mr Wil Ryan drwy ddweud, petai’r cais sydd gerbron y Pwyllgor yn cael ei ganiatáu y byddai’r gwaith o baratoi a chlirio’r safle yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd. Dywedodd hefyd fod y DCO wedi ei gyflwyno a bod gan y Cwmni strategaeth gyfnodol a bod Horizon o’r farn y bydd modd darparu’r prosiect Wylfa Newydd ac y bydd hynny’n cael ei benderfynu gan yr awdurdodau perthnasol yn y man. Mae’r gwaith 12 mis o baratoi a chlirio’r safle yn hanfodol er mwyn gallu darparu prosiect Wylfa Newydd.    

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith pam nad yw’r gwaith ‘oddi ar y lein’ ar yr A5025 wedi ei gynnwys yn y cais cyn y Pwyllgor. Dywedodd Mr Will Ryan fod y penderfyniad i wahanu’r cais cynllunio oddi wrth y gwaith ‘oddi ar-lein’ wedi’i wneud er mwyn sicrhau bod effeithiau’r gwaith o baratoi a chlirio’r safle yn llai ar y gymuned; gall y rhwydwaith traffig priffyrdd presennol ymdopi gyda’r traffig sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r gwaith ar y safle. Dywedodd y Cynghorydd John Griffith fod yr adroddiad i’r Pwyllgor hwn yn nodi y bydd 80 o weithwyr yn cael eu cyflogi er mwyn ymgymryd â’r gwaith o baratoi a chlirio safle Wylfa Newydd. Holodd faint o’r gweithwyr hynny fyddai o’r Ynys. Ymatebodd Mr Will Ryan, fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad i’r Pwyllgor, y rhagwelir y bydd rhwng 70% ac 80% o’r Ynys a’r tir mawr cyfagos. Dywedodd y Cynghorydd Griffith y bydd 30 o adeiladau a 6 o anheddau yn cael eu dymchwel, holodd beth oedd y rheswm am hyn. Ymatebodd Mr Will Ryan fod y cais cynllunio yn un ar gyfer cael gwared ar 35 o adeiladau a bod 8 o anheddau preswyl eisoes wedi eu dymchwel neu angen eu dymchwel. Dywedodd fod y rhan fwyaf o'r adeiladau yn sguboriau ac yn adeiladau allanol lle mae ystlumod yn clwydo; mae’r cwmni yn y broses o adeiladau sguboriau ystlumod a thyrau bywyd gwyllt er mwyn sicrhau bod y rhywogaethau a warchodir yn gallu symud i’r strwythurau newydd. Holodd y Cynghorydd Griffith a fyddai’r cwmni yn ystyried rhoi rhai o enwau hanesyddol yr adeiladu a fydd yn cael eu dymchwel ar y safle Wylfa Newydd. Ymatebodd Mr Will Ryan drwy ddweud y bydd y mater o enwau hanesyddol yn rhywbeth i’w ystyried gan y Cwmni.  

 

Holodd y Cynghorydd Bryan Owen os oedd y ddogfen gyfreithiol cytundeb Adran 106 bellach yn ddogfen gyhoeddus. Ymatebodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau Mawr) drwy ddweud bod trafodaethau yn parhau gyda’r datblygwr mewn perthynas â’r cais cynllunio ac nad yw’r cytundeb A106 terfynol wedi’i gadarnhau. Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen hefyd at y ffaith bod nifer o feddi a oedd yn dyddio’n ôl 2,000 o flynyddoedd wedi eu darganfod yn ystod cloddfa archeolegol yn ddiweddar. Ymatebodd Mr Will Ryan bod prosesau a gweithdrefnau yn eu lle er mwyn delio â’r beddi a’u hadfer fel bo’n briodol. Ychwanegodd hefyd mai ychydig iawn o waith adeiladu fydd yn digwydd yn y rhan honno o’r safle ac y bydd yn cynnwys ffensys ac ychydig o waith cloddio ar dir llygredig. Mae amod yn gysylltiedig ag unrhyw ganiatâd a roddir i’r cais, sef bod angen i’r datblygwr gael cynllun ar gyfer cofnodi manylion archeolegol ar y safle, cofnodi adeiladau hanesyddol ac arolygon ac ati a bod angen ei gymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.    

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts bod un o’r gwrthwynebwyr i’r cais arfaethedig wedi cyfeirio at bryderon y bydd yn rhaid i weithwyr ar y safle weithio oriau hir iawn. Holodd y Cynghorydd Roberts faint o oriau fydd y gweithwyr yn eu gweithio ar y safle. Ymatebodd Mr Will Ryan bod amodau yn gysylltiedig â’r cais arfaethedig sy’n rhoi cyfyngiad ar yr oriau y caniateir gweithio ar y safle. Dywedodd fod angen i gyflogwyr sicrhau nad yw’r oriau y bydd gweithwyr yn eu gweithio ar y safle yn fwy na’r cyfyngiad wythnosol cenedlaethol o 48 awr yr wythnos a bod dyletswydd ar eu contractwyr i sicrhau dyletswydd gofal i bob gweithiwr oherwydd materion iechyd a diogelwch.  

 

Dywedodd y Cynghorydd R O Jones fod trigolion lleol yn bryderus y bydd tirlun yr ardal yn cael ei ddinistrio petai’r cais hwn yn cael ei gymeradwyo. Ymatebodd Mr Will Ryan y derbynnir y bydd y tirlun yn newid ond y bydd y cwmni yn sicrhau bod yr effeithiau cyn lleied â phosibl, y bydd coetiroedd hynafol yn cael eu gwarchod ac na fydd unrhyw effaith ar y SSSI. Nododd fod y gwaith ffrwydro a draenio sylweddol yr ymgynghorwyd arno’n flaenorol wedi ei dynnu allan o’r cais.    

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith y nodir yn yr adroddiad i’r Pwyllgor y bydd y gost o adfer y safle rhwng £6 miliwn a £7 miliwn. Holodd a fydd Cytundeb yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael ei ddiogelu os nad yw datblygiad Wylfa Newydd yn digwydd. Dywedodd Mr Will Ryan y bydd y cytundeb cyfreithiol Adran 106, ar ôl ei arwyddo, yn golygu y gellir adfer yr ardal os bydd unrhyw gwmni sydd ynghlwm â Wylfa Newydd yn cael ei ddiddymu.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffith, Aelod Lleol, bod trigolion Tregele wedi gorfod dioddef gwaith ar y briffordd a gwaith ymchwilio ers dros 2 flynedd yn gysylltiedig â safle Wylfa Newydd. Roedd yn ystyried y dylai’r trigolion lleol gael eu digolledu ac y dylid sicrhau hyn drwy’r cytundeb cyfreithiol A106. Mynegodd nad yw’n gwrthwynebu’r gwaith o baratoi a chlirio’r safle gan na fyddai achosi oedi i’r gwaith yn ymarferol gan fod y trigolion eisoes wedi dioddef niwsans sŵn a gwaith ar y safle ond mynegodd fod angen cyfathrebu â’r trigolion.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones, Aelod Lleol, ei fod yn gwbl gefnogol o’r prosiect Wylfa Newydd. Nododd fod y cytundeb cyfreithiol A106 wedi ei grybwyll yn ystod trafodaethau am y cais hwn ac roedd yn gobeithio y byddai’r holl aelodau etholedig ac aelodau Cynghorau Cymuned Llanbadrig a Mechell yn cael copi o’r cytundeb ar frys. Nododd fod cwestiynau wedi eu codi fod y cais sydd gerbron y pwyllgor ar gyfer clirio a pharatoi’r safle yn gynamserol a bod ganddo rai pryderon ond ei fod o’r farn y dylid caniatáu’r cais. Nododd ymhellach ei fod yn ystyried bod angen cynnwys y gwaith priffyrdd gyda’r cais. Holodd y Cynghorydd Jones y Swyddogion ymhen faint o flynyddoedd y byddai angen i’r datblygwr gyflawni’r gwaith petai’r cais cynllunio yn derbyn caniatâd heddiw. Ymatebodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau Mawr) bod amod wedi’i roi ar unrhyw ganiatâd yn nodi bod gan y datblygwr ddwy flynedd i ddechrau unrhyw waith ar y safle. Nododd y Cynghorydd A M Jones ei fod yn ystyried y dylid rhoi 5 mlynedd i ddechrau’r gwaith ar y safle fel sy’n arferol gyda cheisiadau cynllunio eraill. Fodd bynnag, mynegodd bod angen i reolau llym fod yn eu lle er mwyn sicrhau bod cymunedau lleol yn cael eu hamddiffyn rhag y datblygiad arfaethedig hwn; mae angen i hyn fod yn rhan o'r cytundeb A106 ac mae angen sefydlu amodau gwaith y gweithwyr ar y safle. Dywedodd hefyd fod angen gosod amod a fydd yn diogelu Gerddi Cestyll ger Cemaes.       

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau Mawr) fod y cais sydd gerbron yr aelodau yn un i baratoi a chlirio’r safle ar gyfer datblygiad gorsaf bŵer Wylfa Newydd ac mae disgrifiad llawn o’r gwaith hwn ar gael yn y papurau. I grynhoi, mae’r gwaith y bwriedir ei wneud yn cynnwys clirio’r safle, sefydlu’r safle, gwella’r ddaear gan gynnwys rhoi sylw i unrhyw lygredd, codi ffensys adeiladu a chredu ffyrdd mynediad, ardaloedd ‘laydown’ a chompowndiau ar y safle. Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar ffensys, waliau, giatiau, ffiniau caeau, strwythurau presennol, prysgwydd a choed. Mae safle’r cais yn ymestyn i oddeutu 299 hectar o dir ac mae’r rhan fwyaf ohono’n dir amaethyddol sy’n cael ei ddefnyddio fel tir pori. Mae ffin ogleddol Safle’r Cais SPC yn dilyn arfordir Ynys Môn yn fras ond nid yw’n cynnwys yr Orsaf Bŵer gyfredol na’r tir yn Nhrwyn Wylfa a Thrwyn Pencarreg. Caiff y ffin ei gwahanu o Gemaes i’r dwyrain gan ardal o dir amaethyddiaeth. Mae ffordd yr A5025 yn gyfagos i’r ffin dde-ddwyreiniol. Lleolir Gardd Gestyll i’r gorllewin.  

 

Nododd fod sgôp y gwaith wedi lleihau ers yr ymgynghoriad yn y cyfnod cyn cyflwyno cais er mwyn cymryd i ystyriaeth yr ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriadau hyn. Mae’r sgôp cyfredol wedi gwneud i ffwrdd a rhai elfennau fel ail-alinio cyrsiau dŵr, chwythu’r graig a chau Llwybrau Cyhoeddus. Y cais hwn yw cychwyn prosiect Wylfa Newydd a byddai’n caniatáu’r gwaith mawr cyntaf ar safle a fydd yn cael ei ddatblygu dros gyfnod a fydd yn hirach na deng mlynedd i gyd. Er mai hwn yw cychwyn y prosiect yn ei gyfanrwydd, atgoffir Aelodau  mai cais yw hwn i hwyluso gorsaf bŵer niwclear newydd ac nid ar gyfer yr orsaf bŵer ei hun. 

 

Mae’r datblygiad arfaethedig yn cyfateb i ddatblygiad EIA o ran y rheoliadau ac mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei gynhyrchu ar ei gyfer. Mae’r swyddogion a’r sawl sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad wedi codi rhai pryderon ynghylch a yw rhai elfennau yn hwnnw yn ddigonol ac fe gyflwynwyd gwybodaeth amgylcheddol bellach gan yr ymgeisydd gan ei hysbysebu a’i hymgynghori arni yn ôl yr angen. Mae effeithiau amgylcheddol y cynnig yn cael eu gosod allan yn yr adroddiad ynghyd â chasgliad y swyddogion bod y rhain yn dderbyniol o ran cydbwysedd cynllunio a chyda rhai amodau.    

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau Mawr) fod gan y datblygiad arfaethedig y potensial i effeithio ar amcanion cadwraeth safleoedd Ewropeaidd a ddiogelir. Fel y mae’r aelodau’n gwybod, rhaid i CSYM, fel yr awdurdod cymwys dan y rheoliadau cynefinoedd, benderfynu a oes angen asesiad priodol ac, os oes angen, i gynnal yr asesiad hwnnw. Ni fedrir rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio oni bai bod yr asesiad cynefinoedd yn dod i ganlyniadau y gellir symud ymlaen gyda’r datblygiad ac o’r herwydd, mae’r ystyriaeth hon yn un o rag-ofynion y penderfyniad sydd gerbron  heddiw.

 

Cyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth fel rhan o’r cais yn nodi ei safiad na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar safleoedd o’r fath ac y gellid ei sgrinio allan o’r asesiad hwn. Mae Swyddogion, yn wyneb y Cyngor a gafwyd gan CNC ac ymgynghorwyr arbenigol a chynghorwyr cyfreithiol y Cyngor, ac wedi ystyried gwahanol sylwadau a wnaed ynghylch y wybodaeth cynefinoedd a gyflwynwyd gan yr  ymgeisydd mewn ymateb i’r ymgynghoriad, wedi penderfynu na fedrir ei sgrinio allan o’r asesiad. Mae ymgynghorwyr y cyngor felly wedi cynnal asesiad priodol. Canlyniad yr asesiad hwnnw yw na fydd y datblygiad, ar yr amod y cymerir mesurau lliniaru addas, yn cael effaith andwyol ac y gellir gwneud penderfyniad cynllunio yn seiliedig ar ei rinweddau.  Mae Swyddogion wedi argymell amodau ar gyfer camau lliniaru angenrheidiol mewn perthynas â chynefinoedd yn cynnwys mesurau megis  atal gwaith rhag cael ei wneud yn ymyl safleoedd nythu yn ystod y tymor bridio ar gyfer môr-wenoliaid fel bod yr adar yn cael llonydd. O’r herwydd, cynghorodd y Swyddog yr Aelodau bod y datblygiad, o safbwynt cynefinoedd a chydag amodau penodol, yn dderbyniol a bod modd iddynt symud ymlaen i ystyried rhinweddau cynllunio’r cais.

 

Hyd yma, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi derbyn tua 95 o lythyrau yn gwrthwynebu’r cais ac 1 yn ei gefnogi. Mae hyn yn cynnwys 4 o wrthwynebiadau sydd wedi cael eu derbyn ers cyhoeddi adroddiad y Swyddog ynghyd â nifer o wrthwynebiadau a ddygwyd at sylw’r Awdurdod Cynllunio Lleol gan Gynghorwyr nad ydynt wedi codi unrhyw faterion newydd neu ychwanegol nad ydynt eisoes wedi cael eu codi fel rhan o asesiad y Swyddog Achos. Cafwyd sylwadau hwyr pellach ddoe gan gyfreithwyr yn gweithredu ar ran Greenpeace. Mae’r sylwadau hyn yn gwrthwynebu’r cais ar y sail bod Greenpeace o’r farn nad oes modd dibynnu ar neu briodoli unrhyw bwysau i Ddatganiad Polisi Cenedlaethol EN6 sy’n ymwneud ag ynni niwclear oherwydd mae’n ymwneud â darparu ynni niwclear erbyn 2025 a bod yr ymgeisydd yn rhagweld yn awr na fydd Wylfa’n cychwyn cynhyrchu tan  2027. Mae’r datganiad yn mynd yn ei flaen i wrthwynebu pŵer niwclear mewn egwyddor ac yn dweud nad yw’r angen ar gyfer pŵer niwclear yn cael ei brofi ac nad yw’r cais o’r herwydd yn angenrheidiol. Nid oes wnelo’r penderfyniad sydd gerbron yr aelodau heddiw â gorsaf bŵer niwclear a’i heffeithiau a bydd manylion y cynnig hwnnw’n cael eu hystyried drwy’r broses DCO yn hytrach na’r cais hwn. 

 

Hyd yma, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) wedi derbyn tua 95 llythyr yn gwrthwynebu’r cais ac 1 llythyr yn cefnogi’r cais. Mae hyn yn cynnwys 4 gwrthwynebiad sydd wedi eu derbyn ers cyhoeddi adroddiad y Swyddog ynghyd â nifer o wrthwynebiadau a dynnwyd at sylw’r ACLl gan Gynghorwyr ond nad ydynt yn codi unrhyw faterion newydd neu ychwanegol nad ydynt eisoes wedi eu codi fel rhan o asesiad y Swyddog Achos. Derbyniwyd sylwadau yn hwyr ddoe gan gyfreithwyr yn gweithredu ar ran Greenpeace. Mae’r sylwadau hynny yn gwrthwynebu’r cais ar y sail bod Greenpeace yn ystyried na fedrir dibynnu ar y y Datganiad Polisi Cenedlaethol EN6, sy’n ymwneud ag ynni niwclear newydd, ac na ellir ei ystyried wrth benderfynu ar y cais gan ei fod yn ymwneud â darpariaeth pŵer niwclear erbyn 2025 a rhagwelir na fydd Wylfa yn dechrau cynhyrchu ynni tan 2027. Mae’r sylwadau yn parhau i nodi gwrthwynebiadau i’r egwyddor o bŵer niwclear yn gyffredinol ac yn nodi nad oes modd dangos yr angen am ynni niwclear ac felly nad oes modd dangos fod angen y cais. Nid yw’r penderfyniad sydd gerbron yr aelodau heddiw yn un am orsaf bŵer niwclear a’i effeithiau, bydd manylion y cais hwnnw yn cael eu hystyried drwy’r broses DCO ac nid y cais hwn.

 

Mewn egwyddor, mae’r pwysau y dylai awdurdodau cynllunio lleol eu priodoli i ddatganiadau polisi cenedlaethol wrth ystyried gwaith sydd wedi ei ddylunio i gefnogi neu hwyluso NSIPs yn cael ei gefnogi gan lythyr gan Brif Gynllunydd DCLG ym mis Mawrth 2010 dan y teitl ‘Preliminary Works; Planning Act 2008 – Guidance for Local Authorities’. Dywed hwn y gall NPSs fod yn ystyriaeth o bwys i awdurdodau lleol pan maent yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio am waith rhagarweiniol. Mae’r adroddiad sydd ger eich bron a chanllawiau’r llywodraeth ar y System Gynllunio: Egwyddorion Cyffredinol a gyhoeddwyd gan DCLG yn ail-adrodd y gyfraith gyffredinol “In principle…any consideration which relates to the use and development of land is capable of being a planning consideration. Whether a particular consideration falling within that broad class is material in any given case will depend on the circumstances”.

 

Mae’r gwrthwynebwyr yn hollol gywir i ddweud mai bwriad EN6 oedd darparu canllawiau ar gyfer datblygiadau niwclear a fyddai yn eu lle erbyn 2025. Fodd bynnag, yn Rhagfyr 2017, dywedodd y Llywodraeth ei bod, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr adolygiad o EN6 a’i ddisodli, yn bwriadu cario drosodd y safleoedd sydd wedi eu rhestru yn EN6 (gan gynnwys safle’r cais) i’r NPS newydd.  Mae’r Datganiad Gweinidogol ar y Seilwaith Ynni a wnaed hefyd yn 2017 yn cynghori bod y Llywodraeth mewn egwyddor yn parhau i gefnogi’r cynigion ar gyfer y prosiectau yn y safleoedd hynny a restrir yn EN6. Mae’r canllawiau ar yr Egwyddorion Cyffredinol yn dweud bod datganiadau’r Llywodraeth ar bolisi cynllunio yn ystyriaethau o bwys y mae’n rhaid eu cymryd i ystyriaeth, ble mae hynny’n berthnasol, wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. O’r herwydd, er bod y polisi cenedlaethol ar safleoedd niwclear yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru, gall y pwyllgor roddi pwys ar y datganiadau a wnaed ynghylch bwriad y Llywodraeth i gario’r safle hwn drosodd os ystyrir eu bod yn berthnasol yn yr amgylchiadau. Nodir hefyd bod yr angen cenedlaethol am ynni newydd (ac yn enwedig ynni carbon isel) yn cael ei nodi yn NPS EN-1 yn ogystal â EN6 a bod yr angen am bŵer niwclear newydd yn cael ei ddatgan yn benodol yn y polisi hwnnw; mae polisi NPS EN1 yn parhau i fod yn berthnasol.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau Mawr) bod nifer o wrthwynebwyr wedi dweud bod y cais sydd gerbron yr aelodau heddiw yn gynamserol oherwydd nad oes unrhyw ganiatâd wedi’i roddi eto ar gyfer y datblygiad y mae’r gwaith hwn yn ei hwyluso. Cyfeirir y pwyllgor at y sylw a roddi’r i’r pwynt hwn yn yr adroddiad a nodir yn benodol bod polisi PS9 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn delio’n benodol gyda chynigion ar gyfer gwneud gwaith yn gynnar.  

 

Cynigir y dylid adfer safle’r cais i gyflwr derbyniol os na fydd datblygiad yr orsaf bŵer yn mynd rhagddo ar safle’r cais. Mae’n amlwg na fedrir dychwelyd y safle i’r cyflwr y mae ynddo yn awr ac mae gwaith adfer ‘tebyg am debyg’ bron yn amhosibl o ystyried y llystyfiant a’r coed a fydd wedi eu colli. Oherwydd, mae modd dychwelyd y safle yn ôl i gyflwr nad yw’n arwain at ddifrod parhaol i’r dirwedd ac sy’n annog ac yn cefnogi bio-amrywiaeth ac sy’n adfer pethau megis ffiniau caeau a phatrymau llystyfiant.  Mae swyddogion wedi argymell y dylai unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd sy’n gofyn am gynllun adfer amlinellol ac sy’n nodi egwyddorion a safonau’r gwaith adfer hwnnw, gael eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn y gwneir unrhyw waith ac y ceir sicrwydd ariannol drwy gyfrwng cytundeb adran 106 er mwyn gwarantu bod y gwaith adfer yn cael ei wneud. Byddai manylion y gwaith adfer yn cael eu rheoli gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol drwy’r amodau mewn ymgynghoriad gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a chan gymryd i ystyriaeth y safonau cyfredol ar gyfer gwaith o’r fath ar yr adeg y cymeradwywyd y manylion ac yn unol â’r egwyddorion y cytunwyd arnynt cyn cychwyn ar y gwaith. Mae Swyddogion yn argymell fod y lefel hon o reolaeth yn ddigonol i roi sicrwydd i’r aelodau na fydd y dirwedd yn cael ei gadael mewn cyflwr annerbyniol ac yn cael effaith andwyol ar gymunedau lleol petai’r DCO yn cael ei wrthod neu ddim yn cael ei weithredu.

 

Mae’r datblygiad arfaethedig yn cyfateb i EIA o ran y rheoliadau ac mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei gynhyrchu ar ei gyfer. Mae’r swyddogion a rhai ymatebion i’r ymgynghori wedi codi rhai pryderon ynghylch a yw rhai o’r elfennau yn y datganiad yn ddigonol ac fe gyflwynwyd gwybodaeth amgylcheddol bellach gan yr ymgeisydd ac fe gafodd y wybodaeth honno ei hysbysebu a’i hymgynghori arni yn ôl yr angen.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau Mawr) bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud y cais Gwaith SPC (Paratoi a Chlirio Safle) yn dderbyniol o safbwynt cynllunio yng nghyd-destun y prosiect yn gyffredinol. Gan gymryd i ystyriaeth gyd-destun a sail y cais, yn enwedig felly gan fod y gwaith yn ddechrau ar brosiect Wylfa yn ehangach, nid yn unig fydd angen mesurau lliniaru er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau uniongyrchol y cynigion ond mae hefyd angen sicrhau bod rhai o’r pethau sydd eu hangen er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau’r datblygiad ehangach yn cael eu rhoi ar waith rŵan. 

 

Mae’r hyn y mae’r Cyngor yn ceisio ei ddiogelu wedi ei seilio ar y cais ynghyd ac ymatebion a dderbyniwyd drwy’r ymgynghoriad ac ystyrir ei fod yn bodloni’r trothwyon cyfreithiol priodol sydd eu hangen o ran goblygiadau cynllunio.

 

Y meysydd pwnc allweddol ar gyfer y goblygiadau cynllunio a fydd yn cael eu cadarnhau yn y cytundeb Adran 106 (sydd wedi eu cytuno arnynt gyda’r ymgeisydd) os rhoddir y caniatâd cynllunio yw:

 

1. Cyfraniad Cyfleusterau Lleol

2. Twristiaeth

3. Treftadaeth ac Archaeoleg

4. Yr Iaith Gymraeg

5. Cyflogaeth, Addysg a Sgiliau

6. Prynu Lleol a Datblygu'r Gadwyn Gyflenwi

7. Llety Gweithwyr

8. Cyfraniad i'r Amgylchedd, Treftadaeth a Chydnerthedd Cymunedol

9. Gweithredu a Monitro

10. Adfer Tirwedd

11. Cynllun Rheoli Trwyn Wylfa

12. Cynllun Arolwg Sŵn, Ansawdd Aer a Dirgryniad

13. Hawliau Tramwy Cyhoeddus

 

Cyfanswm gwerth y taliadau – sydd wedi’u cytuno arnynt yn amodol rhwng y datblygwr a’r Awdurdod Cynllunio Lleol yr wythnos diwethaf (ar ôl i bapurau’r pwyllgor gael eu cyhoeddi) yw £2,058,000. Mae hyn yn cynrychioli cymysgedd o gyfraniadau a mesurau, sydd, y cyfan ohonynt, yn angenrheidiol er mwyn gwneud y datblygiad yn dderbyniol yn nhermau cynllunio. Yn ychwanegol at hynny, bydd y cytundeb adran 106 arfaethedig yn sicrhau bod y safle yn cael ei adfer i gyflwr derbyniol pe na fyddai’r DCO ar gyfer gorsaf bŵer niwclear yn cael ei ganiatáu a/neu ei weithredu. Mae’r gost ar gyfer adfer y dirwedd (sy’n cynnwys rheoli’r safle ac ôl-ofal am gyfnod o 10 mlynedd) wedi ei gyfrifo gan ymgynghorydd cymwys ac mae’r gost wedi ei amcangyfrif rhwng £7 miliwn a £7.5 miliwn yn seiliedig ar y sefyllfa waethaf petai angen gwneud y gwaith adfer mwyaf posibl. Os nad yw’r ymgeisydd / perchennog wedi cwrdd â’r gofynion ar gyfer adfer, ôl-ofal a rheolaeth, bydd y Cyngor yn gallu galw ar y diogelwch ariannol priodol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni i’r safon angenrheidiol.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau Mawr) hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais i ‘alw’r cais i mewn’ ar gyfer ei benderfynu ond nad yw’r Awdurdod hwn wedi derbyn cadarnhad ei fod wedi’i ‘alw i mewn’. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal y Pwyllgor rhag gwneud penderfyniad ar y cais hwn yn y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y cais arfaethedig yn ddibynnol ar gwblhau cytundeb cyfreithiol A106 rhwng yr ymgeisydd a'r Awdurdod Cynllunio Lleol; roedd ef o’r farn y bydd y datblygiad yn cael effaith ar yr Ynys gyfan. Gofynnodd y Cynghorydd Roberts a oedd y cais yn un y dylid ei benderfynu gan y Cyngor Llawn. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod Cyfansoddiad y Cyngor yn atal y Cyngor llawn rhag delio â cheisiadau cynllunio. 

 

Holodd y Cynghorydd Bryan Owen os oedd maint yr  ardal paratoi a chlirio safle o ran y cais arfaethedig yn ddigonol er mwyn delio ag unrhyw estyniad posibl i’r safle yn Wylfa Newydd. Ymatebodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau Mawr) bod yn rhaid delio â’r cais cynllunio sydd gerbron y Pwyllgor yn unig. 

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes bod nifer o amodau wedi eu cysylltu ag unrhyw ganiatâd ar gyfer y cais ond bod un o’r prif amodau o ran y ‘Bond’ wedi ei hepgor. Ymatebodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau Mawr) na fyddai unrhyw ganiatâd cynllunio yn cael ei ryddhau cyn i’r datblygwr arwyddo’r cytundeb cyfreithiol. Holodd y Cynghorydd Hughes a oedd angen cynnwys amod ychwanegol i unrhyw ganiatâd sef y dylai’r bond fod yn  ei le cyn i unrhyw waith datblygu ddechrau ar y safle. Ymatebodd y Cyfreithiwr na ddylid ceisio amod am unrhyw warantau ariannol gan y byddai hyn yn cael ei sicrhau drwy’r Cytundeb Adran 106 fel amod unrhyw ganiatâd a roddir.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith am gadarnhad ynghylch pwy fydd yn monitro’r amodau llym a roddir ar y cais hwn. Ymatebodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau mawr) mai’r Awdurdod hwn fydd yn gyfrifol am fonitro’r amodau a roddir; mae adran o fewn y cytundeb cyfreithiol A106 sy’n nodi bod angen talu costau tuag at y gwaith monitro hefyd wedi ei gytuno mewn egwyddor. Holodd yr Aelodau a oedd gan yr Awdurdod y capasiti a’r staff i fonitro cais mor fawr. Ymatebodd y Rheolwr Cynllunio (Prosiectau Mawr) gan ddweud bod trafodaethau helaeth wedi eu cynnal mewn perthynas â’r cais arfaethedig ar gyfer Paratoi a Chlirio’r Safle yn Wylfa Newydd a bod cyllid tuag at y gwaith o fonitro’r gwaith sydd i’w gyflawni wedi’i sicrhau o fewn Penawdau Telerau’r cytundeb.  

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod Aelodau Etholedig eraill o’r Cyngor Sir wedi gofyn am gael siarad yn y cyfarfod. Dywedodd nad oedd yn gallu caniatáu i’r Aelodau siarad yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor Sir. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y Cyfansoddiad yn caniatáu Aelodau o’r Pwyllgor a’r Aelodau Lleol y mae’r datblygiad arfaethedig wedi’i leoli yn eu wardiau ac sydd wedi derbyn rhybudd o ddatblygiad yn unol â Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Nid oedd yn ystyried bod sail dros ymestyn hyn ymhellach.      

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar gwblhau’r Cytundeb Adran 106 o’r Ddeddf Gynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd).

 

 

Dogfennau ategol: