Eitem Rhaglen

Rheoli Gwastraff - Penodi Rheolwr Prosiect Dros Dro

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo penodi Rheolwr Prosiect dros dro hyd at 31 Mawrth, 2021.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gasglu gwastraff, cadw tir perthnasol yn rhydd o sbwriel a chwrdd â thargedau ailgylchu statudol. Cyfanswm cost y gwasanaeth yn 2017/2018 oedd oddeutu £3.8m. Daw’r contract 14 mlynedd presennol gyda Biffa Municipal i ben ar 21 Mawrth 2021 a rhaid datblygu cynlluniau i sicrhau bod opsiynau hyfyw mewn lle pan ddaw’r contract presennol i ben. Bydd y broses o ail-gaffael y contract yn dasg sylweddol ac oherwydd ei faint a’i gymhlethdod bydd angen adnoddau sylweddol i gyflenwi’r prosiect. Fel y gwelir yn adran 2 yr adroddiad, bydd rhaid dwyn ynghyd nifer o arbenigeddau fel rhan o’r broses gaffael er mwyn sicrhau fod gwahanol ffrydiau yn cael eu rheoli a’u gweithredu mewn modd amserol. Barn Swyddogion a’r Uwch Dîm Rheoli yw y dylid penodi Rheolwr Prosiect ar gontract cymharol fyrdymor er mwyn sicrhau bod y prosiect caffael yn cael ei gyflenwi i safon uchel er mwyn sicrhau fod y risgiau’n cael eu lleihau, dyddiadau cau yn cael eu cwrdd a bod y Cyngor yn cael gwerth am arian.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gyflwynwyd ac, wrth gydnabod maint a chymhlethdod y contract newydd, gwnaed y pwyntiau a ganlyn -

 

  Bod rhaid gwneud popeth posib er mwyn sicrhau bod y contract sy’n cael ei gaffael yn addas i bwrpas.

  Ystyrir bod angen penodi rheolwr prosiect dros dro oherwydd diffyg capasiti o fewn y Cyngor o ganlyniad i doriadau dros nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, nodwyd y bydd y sawl a benodir yn gweithio gyda staff Adain Rheoli Gwastraff y Cyngor fydd yn darparu cyfran helaeth o’r amser, arbenigedd ac adnoddau i gefnogi’r broses gaffael.

  A fyddai modd ystyried cydweithio gydag awdurdod lleol cyfagos er mwyn rhannu capasiti.

  A fyddai modd i’r Cyngor ystyried darparu’r gwasanaeth casglu a glanhau gwastraff yn fewnol.

  Sut fyddai diwrnodau rhydd y Rheolwr Prosiect (1-2 ddiwrnod yr wythnos yn ystod y ddwy flynedd ariannol gyntaf a 3 diwrnod yr wythnos yn ystod y flwyddyn olaf) yn cael eu rhannu rhwng y prosiectau trawsnewid eraill a nodir yn yr adroddiad.

  A yw’n penodi’r unigolyn iawn sy’n meddu ar yr arbenigedd angenrheidiol i swydd dros dro yn debygol o fod yn anodd.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y rhagwelir y bydd y Rheolwr Prosiect dros dro yn ymgymryd â’r tasgau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad, yn cynnwys cynnal arfarniad o opsiynau er mwyn asesu pa wasanaethau a ddylid eu darparu a sut.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at lwybrau recriwtio posib e.e. mae gwaith adeiladu’r cyfleuster adfer ynni, Parc Adfer, yn Sir y Fflint yn tynnu tua’i derfyn a gallai hynny olygu fod adnoddau rheoli prosiect yn cael eu rhyddhau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod llawer iawn o gydweithio yn digwydd yn barod mewn perthynas â rheoli gwastraff e.e. gyda Sir y Fflint ac awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru fel rhan o Brosiect Rheoli Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru y mae’r Parc Adfer yn rhan ohono; yn ogystal ceir deialog gyda Gwynedd yn ddyddiol. Fodd bynnag, mae cydbwyllgor yn annhebygol oherwydd gwahaniaethau o ran anghenion ac amseru mewn perthynas â mynd allan i dendr. Rhoddir ystyriaeth i’r opsiwn o ddarparu’r gwasanaeth yn fewnol fel rhan o arfarniad cynhwysfawr o opsiynau fydd yn adolygu pa wasanaethau a ddylid eu darparu, sut ddylid eu darparu a’u rheoli, a’r gost. Er mai prif dasg y Rheolwr Prosiect fydd rheoli’r broses o gaffael y contract casglu a glanhau newydd, ni ragwelir y bydd gofynion y gwaith hwn yn cymryd holl amser y sawl fydd yn cael ei benodi ac y bydd diwrnodau rhydd ar gael, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, i weithio ar brosiectau blaenoriaeth y mae angen cefnogaeth rheoli prosiect ar eu cyfer; trefnir hyn mewn ymgynghoriad â’r Gwasanaeth Trawsnewid.

 

Penderfynwyd awdurdodi penodi Rheolwr Prosiect Dros Dro hyd at 31 Mawrth, 2021 i

 

  Gynnal arfarniad o’r opsiynau er mwyn asesu sut y dylid casglu a glanhau gwastraff yn y dyfodol.

  Cyflawni swyddogaethau rheoli prosiect mewn perthynas â chaffael gwasanaeth casglu gwastraff a glanhau newydd fydd yn cychwyn ar 1 Ebrill, 20201.

  Rheoli prosiectau unwaith ac am byth ar draws y Cyngor yn ôl yr angen.

Dogfennau ategol: