Eitem Rhaglen

Strategaeth Addysg Ynys Môn - Moderneiddio Ysgolion (Diweddariad 2018)

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu a oedd yn cynnwys diweddariad ar Strategaeth Addysg Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid, ers cyhoeddi’r strategaeth wreiddiol yn 2013, bod yr Awdurdod wedi cydweithio â Phenaethiaid ysgolion ac Aelodau Etholedig er mwyn moderneiddio’r stoc ysgolion ar yr Ynys a hynny drwy gyfuno 10 o ysgolion cynradd llai ac adeiladu ysgolion 21ain Ganrif mewn tair ardal o fewn Band A gyda’r ddiweddaraf i agor ym Mawrth, 2019. Erbyn diwedd rhaglen Band A ym mis Ebrill, 2019 bydd dros 10% o blant ysgol gynradd Ynys Môn yn derbyn eu haddysg mewn adeiladau’r 21ain Ganrif a bydd nifer y lleoedd gwag yn ysgolion cynradd Ynys Môn wedi lleihau 10% - gostyngiad o dros 17% dros chwe mlynedd. Yn y sector uwchradd, mae’r gostyngiad yn niferoedd disgyblion a’r cynnydd mewn lleoedd gwag ynghyd â’r toriadau ariannol wedi golygu heriau cyllidebol sylweddol ar draws y sector a bydd yn debygol o barhau neu hyd yn oed waethygu dros y blynyddoedd nesaf. O ganlyniad, ac oherwydd rhaglen cyni ariannol parhaus y Llywodraeth Ganolog sy’n golygu bod yn rhaid i’r Gwasanaeth Dysgu ddod o hyd i arbedion o £5 Miliwn dros y dair blynedd nesaf, mae angen adolygu’r Strategaeth Moderneiddio Ysgolion sydd hefyd yn amserol gan y bydd rhaglen Band B yn dechrau yn Ebrill, 2019.    

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio bod Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn darparu cyfle i foderneiddio ysgolion Ynys Môn ymhellach ac i ddod o hyd i atebion lleol i broblemau lleol. Mae’r adroddiad yn nodi’r amserlen ar gyfer gweithredu ar y Strategaeth sydd wedi’i diweddaru ac hefyd yn ymhelaethu ar y gyrwyr ar gyfer newid ar gyfer y rhaglen Band B sydd wedi eu haddasu o’r rhai hynny a ddefnyddiwyd ar gyfer Band A. Rhagwelir y bydd yn rhaid blaenoriaethu dalgylch Ysgol Syr Thomas Jones o fewn Band B ac er bod potensial ar gyfer cynnydd yn y boblogaeth honno o ganlyniad i ddatblygiad Wylfa Newydd lle rhagwelir hyd at 200 o ddisgyblion ychwanegol, bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth i wneud newidiadau er mwyn sefydlu trefniadau addysgol sy’n briodol ar gyfer y dyfodol. Yn fwy na hynny, bydd angen blaenoriaethu’r ddarpariaeth addysg ôl-16 a hynny am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.   

 

Bu’r Aelod Portffolio gloi drwy ddweud bod y bum mlynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod cyffrous ar gyfer moderneiddio ysgolion a bod yn rhaid i’r Awdurdod fanteisio ar y cyfle cyn y bydd yn parhau â’i raglen gwelliant er mwyn sefydlu system ysgolion sy’n addas ar gyfer y 30 i 50 mlynedd nesaf er mwyn i blant yr Ynys gael y cyfle gorau i ffynnu a gwneud y gorau o’r cyfleoedd byd gwaith sydd ar y gorwel – ni fydd y genhedlaeth nesaf yn diolch i’r Awdurdod am beidio â gweithredu ar y cyfle hwn. Mae gweledigaeth y Cyngor ar gyfer addysg yn gyson â’i Gynllun Corfforaethol o ran gwneud ymrwymiad i weithio gyda phobl Ynys Môn er mwyn sicrhau gwasanaethau o’r safon uchaf sy’n gwella bywydau pobl ac sydd hefyd yn creu’r amodau er mwyn i blant a phobl ifanc yr Ynys allu cyflawni eu llawn botensial.   

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at weledigaeth y Cyngor ar gyfer addysg fel y’i crisialir gan y strategaeth. Er mwyn gallu cyflawni’r weledigaeth hon, bydd y Cyngor yn sicrhau bod pob ysgol yn cyflawni’r safonau uchaf fel y gall pobl ifanc Ynys Môn elwa o’r cyfleoedd sydd ar gael yn y byd cystadleuol sydd ohoni heddiw. Dywedodd y Swyddog ei fod yn hanfodol bod safonau addysgol yn Ynys Môn ymysg y gorau yn genedlaethol a bod ei systemau ysgolion yn effeithiol ac effeithlon. Bydd y Rhaglen Moderneiddio diwygiedig fel y’i cyflwynwyd yn allweddol ar gyfer gallu cyflawni nodau uchelgeisiol y Cyngor ar gyfer addysg drwy sicrhau ysgolion o’r maint cywir yn y lleoliadau cywir a arweinir gan Benaethiaid a Thimau Arweinyddiaeth ysbrydoledig sydd wedi ymrwymo i godi safonau gwaith y dysgwyr maent yn gofalu amdanynt. Mae hyn yn golygu adolygu’r system bresennol yn ôl ardal a seilio’r atebion ar ofynion ac ethos pob ardal unigol.     

 

Siaradodd y Swyddog am y sefyllfa bresennol a’r newidiadau sydd angen sylw gan nodi er bod yr Awdurdod wedi gwneud camau sylweddol o dan raglen Band A, mae nifer o heriau yn parhau yn y sector cynradd ac yn y sector uwchradd lle mae gostyngiad mewn niferoedd a chynnydd mewn lleoedd gwag ochr yn ochr â thoriadau ariannol wedi arwain at heriau ariannol sylweddol. O ganlyniad, bydd lleihau nifer yr ysgolion uwchradd neu newid ethos yr ysgolion yn rhywbeth y bydd angen ei ystyried os yw darpariaeth addysg uwchradd i’w sicrhau mewn rhai rhannau o’r sir. Mae’r arbedion bydd yn rhaid i’r Gwasanaeth Addysg eu gwneud dros y dair blynedd nesaf yn golygu bod yn rhaid adolygu’r system er mwyn sicrhau bod adnoddau’r Cyngor yn cael eu defnyddio’n fwy effeithlon ac mai’r canlyniad yn y pen draw yw system sy’n addas ar gyfer y 30 mlynedd nesaf, sy’n hyrwyddo’r safonau addysg gorau posibl, sy’n diogelu patrwm priodol o ddarpariaeth ôl-16; sy’n meithrin hyfedredd dwyieithog ac sy’n creu amodau lle gall penaethiaid lwyddo.

 

Bydd gweithredu Band B yn golygu buddsoddiad cyfalaf sylweddol, gan olygu y bydd yr ardaloedd sydd angen sylw gyntaf yn cael eu blaenoriaethu a bydd cost-effeitholrwydd pob opsiwn angen ystyriaeth bwysig wrth wneud y penderfyniadau hynny.    

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Dysgyu ar y gyrwyr dros newid ar gyfer rhaglen Band B, sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Dywedodd er na fydd yn bosibl cael model sydd yr union yr un peth ar draws Ynys Môn a hynny am resymau daearyddol, poblogaeth, trafnidiaeth, dewis rhieni ac ati, mae angen i unrhyw ddatblygiad newydd allu bodloni’r anghenion a restrir yn adran 4 o’r adroddiad. Mae’r modelau darparu posibl wedi eu hamlinellu yn adran 4.2 yr adroddiad. Mae’r broses ar gyfer cymeradwyo a gweithredu’r strategaeth ddiwygiedig ynghyd ag amserlen Bandiau A i C y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion 21ain Ganrif wedi eu hamlinellu yn adrannau 5 a 6.     

 

Dywedodd y Swyddog mai’r bwriad yw i’r Rhaglen Moderneiddio adael etifeddiaeth o system addysg sy’n addas i’r diben ac sy’n creu amodau lle gall athrawon weithio â dysgwyr er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth addysg ymysg y gorau yn genedlaethol.  

 

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn ôl o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2018 a roes sylw i’r Strategaeth Moderneiddio ysgolion. Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees fod y Pwyllgor wedi cefnogi’r adroddiad a'r argymhellion a oedd wedi eu cynnwys tra hefyd yn tynnu sylw at nifer o faterion, sef –

 

           yr angen i barhau ar fyrder i adolygu’r ddarpariaeth addysg ôl-16;

           fforddiadwyedd y strategaeth mewn cyfnod o gyni ariannol;

           cyflwr ysgolion y Sir;

           yr angen i gadw dysgwyr ôl-16 ar yr Ynys;

           yr angen i gysoni gwariant y pen yn yr holl ysgolion;

           yr angen i weithredu’r opsiwn gorau ar gyfer pob ardal unigol gan nodi hefyd nad yw’r strategaeth yn gwneud unrhyw gyfeiriad at gau ysgolion â llai na 120 o ddisgyblion;

           pwysigrwydd amser di-gyswllt i benaethiaid;

           pwysigrwydd cadw at amserlenni adeiladu ysgolion newydd;

           yr angen i wneud trefniadau ystyriol er mwyn galluogi’r cyhoedd i gyflwyno eu safbwyntiau yn ystod cyfnodau ymgynghori.

           bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i drefnu ymweliad ar gyfer aelodau’r Pwyllgor gydag ysgol pob oedran ynghyd ag un o’r ysgolion cynradd newydd sydd eisoes wedi’i hadeiladu fel rhan o’r rhaglen moderneiddio ysgolion ym Môn.   

 

Bu i’r Pwyllgor Gwaith nodi a diolch i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am ei fewnbwn. Wrth gefnogi’r Strategaeth Moderneiddio Ysgolion un unfrydol, roedd y Pwyllgor Gwaith yn  cydnabod mai’r flaenoriaeth frys bellach yw rhoi sylw i’r sector uwchradd a'r ddarpariaeth ôl-16 ynghyd â pharhau i weithredu’r rhaglen moderneiddio yn y sector cynradd er mwyn sicrhau’r newidiadau a fydd yn arwain at system addysg deg, effeithiol ac addas i’r diben ar Ynys Môn sy’n ymatebol i anghenion y 21ain Ganrif.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach y bydd y rhaglen o gyni ariannol parhaus y Llywodraeth Ganolog a’r gostyngiadau yng nghyllidebau Cynghorau yn effeithio ar Addysg gan greu sefyllfa bosibl lle efallai bydd yr Awdurdod ar un llaw yn ceisio cyfrannu 50% tuag at gostau cyfalaf ysgolion newydd yr 21ain Ganrif tra ar y llaw arall yn edrych i dorri cyllidebau ysgolion a allai arwain at golli staff. Os yw Addysg, fel y mae’n cael ei nodi, yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yna mae angen cefnogi’r ymrwymiad hwn gydag adnoddau digonol fel y gall cynghorau fodloni’r disgwyliadau ohonynt o ran darparu system addysg lwyddiannus yn eu hardal.  

 

Penderfynwyd –

 

           Mabwysiadu’r Strategaeth Addysg Ynys Môn-Moderneiddio Ysgolion (Diweddariad 2018) fydd yn weithredol o’r 15 Hydref 2018 ymlaen.

           I swyddogion gychwyn y broses o ymgynghori yn ardaloedd Band ‘B’ dros y 12 mis nesaf.

Dogfennau ategol: