Eitem Rhaglen

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol yn cynnwys yr Adroddiad Perffomriad Blynyddol 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.  

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Trawsnewid Corfforaethol bod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol, y mae angen statudol i’r Cyngor ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Hydref yn flynyddol, yn dadansoddi’r perfformiad dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn erbyn y gwelliannau a’r blaenoriaethau a amlinellir gan y Cyngor yn ei amcanion Llesiant ac yng Nghynllun y Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Cyngor wedi cael  nifer o lwyddiannau yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18, yn cynnwys yr enghreifftiau canlynol

 

           Croesawodd Ysgol Cybi, yng Nghaergybi, ac Ysgol Rhyd y Llan, yn Llanfaethlu, ddisgyblion ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Mae’r ddwy ysgol 21ain ganrif fodern yn cynrychioli prosiectau arloesol i’r Cyngor Sir gan ei fod yn gweithio i foderneiddio a gwella addysg a sgiliau ar yr Ynys.

           Mae’r cyfradd ailgylchu’r Cyngor bellach yn 72% gyda dim ond 0.5% o’n gwastraff sirol bellach yn cael ei ddanfon i safleoedd tirlenwi. Yn seiliedig ar ddata’r llynedd, byddai hyn yn golygu mai Ynys Môn yw’r Awdurdod Lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru.

           Mae’r Cyngor wedi wedi ymrwymo i geisioStatws Di-blastigar gyfer Ynys Môn ac mae bellach yn gweithio tuag at yr amcan hwn. 

           Mae 75 o dai gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd o ganlyniad i gamau uniongyrchol gan y Cyngor.

           Mae cyfleuster gofal ychwanegol Hafan Cefni wedi ei ddatblygu yn Llangefni a bydd yn agor yn yr hydref.

 

Tra bo’r perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad lleol allweddol, fel yr adlewyrchir gan y Sgorfwrdd Corfforaethol, yn adrodd stori gymysg ar y cyfan gyda nifer y Dangosyddion Perfformiad y gellir eu cymharu yn dangos bod 45% wedi gwella, 13% wedi aros yr un fath a 22% wedi dirywio ers y llynedd, dylid nodi bod 58% o’r dangosyddion wedi perfformio yn uwch na’u targed ar gyfer y flwyddyn, roedd 15% yn agos at y targed a’r 17% sy’n weddill yn is na’r targed. O ran perfformiad yn erbyn dangosyddion cenedlaethol y cyfeirir atynt fel Mesurau Atebolrwydd Perfformiad (PAM) sy’n cymharu pob awdurdod lleol yn erbyn yr un dangosyddion, roedd 50% o ddangosyddion y Cyngor wedi gwella, 36% wedi gwaethygu o gymharu â pherfformiad 2016/17. Fodd bynnag, rhaid nodi mai’r rhain yw’r dangosyddion PAM sydd wedi eu cyhoeddi ar hyn o brydbydd 2 o’r dangosyddion PAM Rheoli Gwastraff presennol nad ydynt wedi eu cyhoeddi yn perfformio’n dda ac mae 6 dangosydd pellach i’w cynnwys ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yr holl ddangosyddion PAM yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd, 2018.   

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, gan edrych ymlaen tuag at 2018/19, bod y Cyngor yn ymwybodol o’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Gwasanathau Plant a’r Gwasanaethau Dysgu a’i fod yn bwriadu edrych ar ffyrdd o gryfhau ei wasanaethau ataliol a llesiant ar gyfer plant, pobl ifanc a phobl fregus o fewn cymdeithas. Bydd datblygiadau’n cael eu gwneud er mwyn gwella cyfleusterau hamdden ymhellach drwy greu cae 3G a buddsoddi mewn offer ffitrwydd. Mae nifer o brosiectau Datblygiad Economaidd ac Ynys Ynni ar y gweill a bydd datblygiad y rheini yn parhau i 2018/19. Tra bo cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn uchelgeisiol, credir gyda chymorth staff, trigolion a phartneriaid y gellir cyflawni amcanion y Cyngor a chreu Ynys Môn sy’n fodern, iach a ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.     

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod perfformiad yn bwysig ac, yr un modd, bod cael system reoli perfformiad gadarn.  Mae’r system hon o fewn y Cyngor, sy’n cynnwys y Byrddau Rhaglen Trawsnewid, Adolygiadau Gwasanaeth a’r Sgorfwrdd Corfforaethol wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac maent yn rhan allweddol o’r datblygiad parhaus tuag at wella gwasanaethau.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) sylw at y ffaith bod dangosyddion perfformiad Gwasanaethau Plant wedi gwella a’u bod yn parhau i wella gyda’r gwelliant hwn fwyaf amlwg yn ail hanner 2017/18. 

 

Nodwyd y wybodaeth gan y Pwyllgor Gwaith a nodwyd hefyd fod perfformiad yr Awdurdod yn parhau i fod yn dda o gofio’r pwysau mae’n ei wynebu ac o gofio ei fod yn un o’r awdurdodau lleiaf yng Nghymru.

 

Penderfynwyd cytuno ac argymell 

 

           Bod fersiwn derfynol Adroddiad Perfformiad 2017/18 yn cael ei chyhoeddi erbyn y dyddiad statudol ar ddiwedd mis Hydref a bod Swyddogion yn cwblhau’r adroddiad mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio i’w gyhoeddi fel rhan o bapurau’r Cyngor ar gyfer ei gyfarfod ar 22 Hydref.

           Bod Adran 3.2 o Gyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio i gynnwys cymeradwyo penderfyniadau ar gyfer Datganiad ac Amcanion Llesiant y Cyngor yn unol â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant 2016 fel swyddogaeth y mae’n rhaid i’r Cyngor Llawn ei chyflawni.

           Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn cael ei hawdurdodi i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r materion sydd wedi eu neilltuo fel swyddogaethau y mae’n rhaid i’r Cyngor Llawn eu cymeradwyo yn y Cyfansoddiad ynghyd ag unrhyw newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud o ganlyniad i adlewyrchu hynny.

Dogfennau ategol: