Eitem Rhaglen

Cynllun Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru: Y Ddogfen Gynnig

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr yn cynnwys Dogfen Gynnig Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Adroddodd y Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor fod y Ddogfen Gynnig hon yn nodi’r rhaglenni blaenoriaeth o weithgareddau ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru y mae cyllid cenedlaethol yn ace lei geisio amdano drwy’r Fargen Twf ac sy’n paratoi’r tir ar gyfer cais bid twf. Mae’n gosod allan y rhaglenni a’r prosiectau i’w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y Fargen Twf ar y cam Penawdau’r Telerau gan y ddwy Lywodraeth. Mae’r ddogfen wedi ei hawdurdodi gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru sef y cydbwyllgor y bydd y bartneriaeth ranbarthol rhwng y chwe awdurdod lleol, dwy brifysgol, dau goleg addysg bellach a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy yn gweithredu drwyddo.   

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y Fargen Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru yn nodi’r uchelgais cyfunol a strategol ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru ar gyfer datblygiad isadeiledd, sgiliau a chyflogaeth a thwf busnes; mae’n cynnwys ymrwymiad gan yr holl bartneriaid i gydweithio tuag at nod cyffredin. Mae uchelgais i'r rhanbarth osod ei hun fel un o brif leoliadau'r DU ar gyfer cynhyrchu ynni a gweithgynhyrchu uwch - ynghyd â bod yn ganolbwynt o arloesedd ac arbenigedd technoleg, a chanolfan o ragoriaeth ar gyfer twristiaeth gwerth uchel. Mae'r uchelgais hon yn adeiladu ar gryfderau a chyfleoedd, a bydd ei chyflawni yn creu ymagwedd fwy cynaliadwy a chytbwys i ddatblygu'r economi. Seiliwyd y Weledigaeth Twf ar dri nod allweddol: Creu Gogledd Cymru Flaengar; creu Gogledd Cymru Wydn a chreu Gogledd Cymru Gysylltiedig. Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig bod yn glir am yr hyn y mae’r Fargen Twf yn ei olygu a’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni ar gyfer y rhanbarth.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gyflwynwyd ac roedd yn gefnogol o’r Ddogfen Gynnig gan ei bod yn cynrychioli’r cam nesaf yn y broses o ddatblygu’r Fargen Twf. Nododd y Pwyllgor Gwaith ei bod yn synhwyrol bod y partneriaid rhanbarthol yn cydweithio â’i gilydd er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleodd a chryfhau economi Gogledd Cymru mewn hinsawdd sydd yn anodd yn economaidd a hefyd, ei bod yn bwysig fod Cyngor Sir Ynys Môn yn gyfranogwr ac yn dylanwadu . Nododd y Pwyllgor Gwaith nad yw mabwysiadu’r Ddogfen Gynnig yn ymrwymo’r Cyngor i unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun ar y cam hwn o’r broses. 

 

Penderfynwyd

 

           Cadarnhau'r Ddogfen Gynnig i'w chymeradwyo i'r Cyngor ei mabwysiadu fel (1) sail strategaeth ranbarthol tymor hwy ar gyfer twf economaidd a (2) y cais rhanbarthol ar gyfer y rhaglenni a'r prosiectau blaenoriaeth a ddefnyddir i ffurfio cynnwys Cynllun Twf ar y cam Penawdau'r Telerau gyda'r Llywodraethau. Nid yw mabwysiadu yn ymrwymo’r Cyngor i fuddsoddiad ariannol o gwbl ar y cam hwn ac mae’n amodol ar nodi risgiau a buddion ariannol y Cynllun Twf terfynol yn fanwl, i’w hystyried yn llawn, pan gaiff y Cynllun terfynol ei gyflwyno er cymeradwyaeth yn ddiweddarach.

 

           Awdurdodi'r Arweinydd i ymrwymo'r Cyngor i Benawdau'r Telerau gyda'r

            Llywodraethau law yn llaw ag arweinyddion gwleidyddol a phroffesiynol o'r             naw partner statudol arall a gynrychiolir ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, gyda'r       Ddogfen Gynnig yn gosod y ffiniau ar gyfer y cytundeb Penawdau'r Telerau.

 

 

Dogfennau ategol: