Eitem Rhaglen

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn cynnwys y Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod gosod y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 wastad am fod yn heriol – gwnaed y dasg hon yn anoddach fyth ar ôl y setliad dros dro siomedig a dderbyniodd Ynys Môn gan Lywodraeth Cymru sydd wedi gadael y Cyngor gyda bwlch cyllido o £7m yn fras (cyn cymryd unrhyw arbedion ac unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor i ystyriaeth). Mae’r Cyngor o’r herwydd yn wynebu gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Er bod gwasanaethau wedi canfod arbedion gwerth cyfanswm o £3.747m hyd yma, rhagwelir y bydd gorwariant ar gyllideb 2018/19 a hynny’n bennaf oherwydd y pwysau ar y Gwasanaethau Plant a bydd angen cyllido’r pwysau hyn o’r arian wrth gefn cyffredinol gan olygu y bydd balans arian wrth gefn y Cyngor yn gostwng ymhellach i lefel sydd islaw’r balans isaf ar argymhellir. Dywedodd yr Aelod Portffolio y bydd y gyllideb dros dro gan gynnwys y rhestr o arbedion arfaethedig yn Atodiad 4, ynghyd â lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Caiff effaith lefelau amrywiol y cynnydd yn y Dreth Gyngor ei dangos yn y tabl yn adran 10.2 yr adroddiad gydag opsiynau i gynyddu’r Dreth Gyngor gan 5% a 10% yn cael eu hystyried. Mae’r sefyllfa ariannol ar drothwy 2019/20 yn anodd a bydd angen gweithredu ar arbedion ynghyd â chynnydd sylweddol yn y Dreth Gyngor. Mae union lefel y cynnydd yn dibynnu hefyd ar a fydd Llywodraeth Cymru yn pasio ymlaen i lywodraeth leol rywfaint, os o gwbl, o’r arian ychwanegol a dderbyniodd yng Nghyllideb y Canghellor ac os felly, beth fydd cyfran Ynys Môn o’r arian hwnnw.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai’r cam cyntaf yn y broses o osod y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 yw creu cyllideb ddigyfnewid, sef y gyllideb sydd ei hangen i ddarparu’r un lefel o wasanaethau ag yn 2018/19 ond wedi ei haddasu ar gyfer unrhyw newidiadau y gwyddys amdanynt neu rai yr ymrwymwyd iddynt (e.e. cynnydd neu ostyngiad mewn costau) - manylir ar y prif newidiadau yn adrannau 3 a 4 yr adroddiad - ac ar ôl addasu ar gyfer unrhyw newidiadau o ran staffio a thâl a chwyddiant prisiau fel y manylir arnynt yn adrannau 5 a 6 yr adroddiad. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn darparu lefel realistig o gyllid, mae angen gwneud newidiadau pellach sy’n adlewyrchu’r pwysau cyfredol ac unrhyw bwysau ychwanegol ar y gyllideb y gwyddys amdanynt - yn arbennig felly yn y Gwasanaethau Plant er mwyn cefnogi’r nifer gynyddol o blant sydd mewn gofal, ac o ganlyniad i hynny, y ffioedd ar gyfer Addysg All-Sirol a amlinellir yn adran 7 yr adroddiad. Dygodd y Swyddog sylw at y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo i’r setliad ar gyfer 2019/20, ddau o grantiau (Grant Tâl Athrawon a’r Grant Prydau Ysgol Am Ddim) y mae’n bwriadu eu rhoi i Gynghorau yn 2018/19. Am y rhesymau a roddwyd ym mharagraff 7.5 yr adroddiad, argymhellwyd bod y ddau grant yn cael eu trin fel arian cyffredinol ychwanegol yn hytrach na chael eu trosglwyddo i gyllidebau’r gwasanaeth. 

 

Yn seiliedig ar yr holl addasiadau a rhagdybiaethau a nodir yn adrannau 3 i 7 yr adroddiad, daw’r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2019/20 i £137.402m – cynnydd o £6.457m neu 5% o gymharu â chyllideb derfynol 2018/19 sy’n gynnydd sylweddol ac sydd i’w briodoli i effaith gyfunol nifer o ffactorau sydd i gyd yn effeithio ar y Cyngor ar yr un pryd – codiadau cyflog, ail-brisio pensiynau athrawon, y pwysau ar y Gwasanaethau Plant, y Cyflog Byw Cenedlaethol ac ati. 

 

Ar y llaw arall, mae Ynys Môn wedi derbyn gostyngiad dros dro o 1% yn y setliad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 felly, er bod costau’r Cyngor wedi cynyddu 5%, mae’r cyllid a roddwyd iddo ac a ddefnyddir i gyllido ¾ ei gostau wedi gostwng 1% gan olygu bod y bwlch cyllido (cyn arbedion a chynnydd yn y Dreth Gyngor) hyd yn oed yn fwy – cyfanswm o £7.156m. Er nad oes un rheswm clir pam fod Ynys Môn wedi gwneud mor wael yn setliad eleni, ymddengys bod y fformiwla cyllido wedi ffafrio ardaloedd trefol yn Ne Cymru a hynny mae’n debyg oherwydd y cynnydd yn y boblogaeth yn yr ardaloedd hynny sy’n golygu bod y fformiwla’n dyrannu mwy o arian iddynt. Gobeithir y bydd y setliad terfynol a gyhoeddir ar 20 Rhagfyr, 2018 yn well na’r ffigwr dros dro; mae ymdrechion yn cael eu gwneud i geisio sicrhau setliad terfynol gwell ar gyfer llywodraeth leol.

 

Dywedodd y Swyddog y canfuwyd gwerth £3.747m o arbedion hyd yma sy’n golygu y bydd angen ariannu’r diffyg o £7.156 drwy’r Dreth Gyngor ac/neu drwy gynnydd ym mhremiwm y Dreth Gyngor. Yn Adran 10.5 yr adroddiad, amlinellir rhai o’r opsiynau sydd ar gael naill ai fel opsiynau unigol neu gyfuniad o opsiynau i gau’r bwlch hwn - byddai angen cynnydd o 9.72% yn y Dreth Gyngor i gau’r bwlch yn gyfan gwbl heb weithredu unrhyw opsiwn arall o gwbl. Gallai defnyddio arian wrth gefn y Cyngor i gau’r blwch yn 2019/20 ynghyd â’i ddefnyddio i gyllido’r gorwariant ar gyllideb 2018/19 fynd â balans yr arian wrth gefn dan £4m sydd ymhell islaw’r lefel isaf a aseswyd gan y Swyddog Adran 151 fel lefel briodol ar gyfer anghenion y Cyngor (tua £6.5m) gyda hynny o’r herwydd yn cynyddu’r risg ariannol y mae’r Cyngor yn ei hwynebu ac yn golygu y byddai angen gwneud toriadau pellach yn 2020/21; er bod hyn yn opsiwn, nid yw’n cael ei argymell.

 

Gorffennodd y Swyddog drwy ddweud bod cyfres o amgylchiadau anffafriol wedi gwneud sefyllfa a oedd eisoes yn heriol yn waeth gan olygu y bydd raid i’r Cyngor wneud rhai dewisiadau anodd iawn os ydyw am gydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2019/20.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 am yr adroddiad a’r cyflwyniad a oedd yn egluro sefyllfa’r Cyngor yn glir ac yn deg ac a fyddai o gymorth i’r cyhoedd ddeall yr holl ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried a rhoi sylw iddynt wrth bennu cyllideb ar gyfer 2019/20. Wrth ymateb i’r adroddiad a’r cynigion ynddo, gwnaeth y Pwyllgor Gwaith y pwyntiau a ganlyn –

 

           Mae’r sefyllfa ariannol yn destun gofid. Nodwyd bod llywodraeth leol unwaith eto wedi colli allan i’r GIG yng nghynlluniau gwario arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 a bod Ynys Môn yn agos at waelod y rhestr ar gyfer llywodraeth leol ac wedi dioddef gostyngiad o 1% yn ei setliad ariannu sy’n ergyd i holl bobl Ynys Môn.

           Mae’n anghyfrifol i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi bod llymder ar fin dod i ben pan mae cyllidebau llywodraeth leol yn amlwg yn adlewyrchu’r gwrthwyneb.

           Bod yr opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor ar gyfer cau’r bwlch cyllido fel y cânt eu hamlinellu yn adran 10.5 yr adroddiad yn anodd ac yn debygol o gael effaith ar drigolion Ynys Môn.

           Er cymaint yw awydd yr Awdurdod i osgoi gorfod cynyddu’r Dreth Gyngor sydd ymysg yr isaf yng nghynghorau Cymru – nid yw hyn yn opsiwn; yn y gorffennol, mae’r Cyngor wedi llwyddo i leihau effaith y toriadau drwy ganolbwyntio ar wneud arbedion drwy ostwng costau gweinyddol, swyddogaethau cefnogol ac ar weithredu mesurau effeithlonrwydd, nid yw hyn yn bosibl mwyach ac ychydig iawn o le sydd ar ôl i’r Cyngor symud oherwydd mae’r toriadau hynny y gellir eu gwneud heb effeithio ar wasanaethau a’r cyhoedd eisoes wedi cael eu gwneud.

           Bod y cyfan o wasanaethau’r Cyngor yn cael eu hadolygu er mwyn gweld ble y gellir gwneud arbedion.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2018 pryd ystyriwyd y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2018/19. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod yr her ariannol a oedd yn wynebu’r Awdurdod yn 2019/20 ac yn pryderu ynghylch goblygiadau setliad dros dro Llywodraeth Cymru i’r Cyngor. Roedd y Pwyllgor yn cytuno y dylid ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru yn mynegi ei siomedigaeth gyda’r setliad dros dro ac yn pwyso am arian ychwanegol yn y setliad terfynol. O ran y modd y dylai’r Cyngor gau’r bwlch cyllido, argymhellodd y Pwyllgor y dylid gwneud hynny drwy gynyddu’r Dreth Gyngor a’r premiwm ar gartrefi gwag / ail gartrefi er mwyn cydbwyso’r gyllideb. Dywedodd y Cynghorydd Jones mai sylwadau’r Pwyllgor yn gyffredinol oedd y rhain ac nad oeddynt o angenrheidrwydd yn adlewyrchiad o’i safbwynt ef yn bersonol.

 

Penderfynwyd –

 

                       Peidio â dyrannu’r ddau grant sydd wedi eu hymgorffori yn y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) i gyllidebau’r gwasanaethau perthnasol oherwydd caniatawyd ar gyfer hynny yn y gyllideb ddigyfnewid.

                       Cymeradwyo cyllideb ddigyfnewid o £137.402m a44r gyfer 2019/20 ac y dylai hyn fod yn sail ar gyfer cyllideb refeniw 2019/20.

                       Bod y Pwyllgor Gwaith yn penderfynu ar y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2019/20 a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

                       Ar ôl caniatáu ar gyfer y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor, dylai’r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud digon o arbedion yn 2019/20 i gydbwyso'r gyllideb refeniw heb orfod defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac er mwyn sicrhau bod yr arbedion y mae angen eu gwneud yn 2019/20 yn gyraeddadwy.

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn ceisio barn y cyhoedd ar yr arbedion arfaethedig.

Dogfennau ategol: