Eitem Rhaglen

Premiymau'r Dreth Gyngor - Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Tymor Hir (Adolygiad o'r Flwyddyn Gyntaf)

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar flwyddyn gyntaf premiwm y Dreth Gyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2019/18 a hyd yn hyn am 2018/19. Nod yr adroddiad oedd sefydlu a oedd y premiymau a ddefnyddiwyd yn 2017/18 (25% o gyfradd safonol y dreth gyngor ar gyfer cartref gwag tymor hir ac ail gartrefi) yn cwrdd ag amcanion y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Sir ac o ganlyniad, a oedd angen amrywio neu ddiddymu lefelau’r premiwm pan fydd y Cyngor Llawn yn gosod ei ofynion o ran Treth Gyngor 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, mai nod Llywodraeth Cymru wrth roddi’r disgresiwn i awdurdodau lleol godi premiwm ar ben cyfraddau safonol y Dreth Gyngor oedd dod â chartrefi gwag tymor hir yn ôl i ddefnydd, ychwanegu at y cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud cymunedau lleol yn fwy cynaliadwy. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod yr holl opsiynau gwahanol ar gyfer gosod premiwm y Dreth Gyngor yn y dyfodol wedi cael eu hystyried yn y modd a amlinellwyd yn yr adroddiad gan gymryd i ystyriaeth nifer o ffactorau o ran gweithredu’r premiwm yn dilyn ei gyflwyno ym mis Ebrill, 2017. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at Atodiad A yn yr adroddiad sy’n rhoi manylion am yr amcangyfrif o’r incwm a fyddai ar gael yn sgil y gwahanol ganrannau premiwm ar gyfer cartrefi gwag tymor hir ac ail gartrefi ac at Atodiad B sy’n cynnwys gwybodaeth am y premiymau a osodwyd gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ble mae hynny’n hysbys. Gan gymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a ddarparwyd yn yr adolygiad o flwyddyn gyntaf y premiwm ac yn wyneb y ffaith bod nifer o gartrefi sydd wedi bod yn wag am amser maith yn parhau i fodoli ar draws yr Ynys – rhai y mae’r Cyngor yn awyddus i’w gweld yn dod yn ôl i ddefnydd - argymhellir y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar godi’r premiwm ar gyfer ail gartrefi i  35% o gyfradd safonol y dreth gyngor ac i 100% ar gyfer cartrefi gwag tymor hir.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adolygiad wedi dangos nad yw’r penderfyniad i godi premiam wedi cael effaith arwyddocaol ar nifer yr ail gartrefi neu’r cartrefi gwag tymor hir o ran sbarduno perchenogion sy’n gorfod talu’r premiwm i farchnata neu werthu eu heiddo neu geisio trosglwyddo eiddo i gyfraddau busnes er mwyn cael eu heithrio o’r premiwm ac nad yw gweithredu’r premiwm wedi cael effaith fawr ar sail y Dreth Gyngor. Er bod £13,988 yn parhau i fod yn ddyledus o ran premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18, mae’r gyfradd gasglu ar gyfer 2017/18, sef 98.5%, yn dda iawn. Bydd cynyddu’r premiwm ar gyfer 2019/20 yn cynhyrchu mwy o incwm gan olygu y bydd modd dyrannu cyllid ychwanegol i gynlluniau a ddyluniwyd i gynorthwyo prynwyr tro cyntaf petai’r Cyngor yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, mae’r risgiau canlynol yn gysylltiedig â chynyddu'r premiwm -

 

           Gallai perchenogion ail gartrefi geisio osgoi talu’r premiwm drwy drosglwyddo defnydd i gyfraddau busnes. Petai hynny’n digwydd, bydd y Cyngor yn colli incwm Treth Gyngor ynghyd ag incwm o’r premiwm. Gallai perchenogion eiddo sy’n trosglwyddo i gyfraddau busnes hefyd hawlio rhyddhad trethi ar gyfer busnes bychan gan olygu na fyddent yn talu cyfraddau busnes chwaith.

           Gallai perchenogion ail gartrefi sydd fel arfer yn byw yn Lloegr lle nad oes premiwm ar ail gartrefi hawlio mai eu hail gartref ar Ynys Môn yw eu prif breswylfan. Er y gellir naill ai gadarnhau neu wrthod hyn, mae’r broses yn golygu gwaith gweinyddol ychwanegol i Wasanaeth Refeniw a Budd-daliadau’r Cyngor.  

           Gallai perchenogion ail gartrefi wrthod talu’r premiwm uwch. Er bod modd i’r Cyngor adennill Treth Gyngor/premiymau Treth Gyngor sy’n ddyledus, caiff hyn effaith ar lif arian oherwydd mae’n dilyn os nad yw perchenogion ail gartrefi’n talu’r premiwm, nid ydynt yn talu’r Dreth Gyngor chwaith.

           Gallai perchenogion werthu eu heiddo drwy arwain o bosib at bentwr o dai’n dod ar y farchnad gyda hynny’n cael effaith ar brisiau tai. Nid yw’n sicr ychwaith a fyddai tai o’r fath yn gyraeddadwy i bobl leol ac y byddent o bosib yn cael eu gwerthu i brynwyr o’r tu allan i Ynys Môn a fyddai’n fodlon talu’r premiwm.

 

Wrth nodi’r risgiau sy’n gysylltiedig â chodi’r premiwm yn y modd a gynigiwyd, dygodd y Pwyllgor Gwaith sylw at yr isod –

 

           Bod yr adolygiad o flwyddyn gyntaf gweithrediad cynllun premiwm y Dreth Gyngor, dan y cynllun Cartrefi Gwag a gefnogir gan yr incwm ychwanegol a godir o’r premiwm, yn dangos fod 7 eiddo wedi cael eu dychwelyd i ddefnydd gyda 7 pellach wrthi’n cael eu hatgyweirio ar hyn o bryd ac erbyn diwedd Rhagfyr, 2018, rhagwelir y bydd 18 o dai gwag yn cael eu dychwelyd i ddefnydd. Bydd y cynllun felly wedi cefnogi 18 o brynwyr tro cyntaf ar draws Ynys Môn i brynu eu cartrefi eu hunain gan gadarnhau fod premiwm y Dreth Gyngor wedi cwrdd â’i brif nod.

           Mae dros 600 o eiddo ar draws Ynys Môn wedi bod yn wag am amser maith, gyda hyn yn cael effaith ar bob cymuned bron sy’n torri calon pobl ifanc leol sy’n chwilio am eu cartrefi eu hunain. Mae angen cyflenwad o dai ar gyfer y mentrau economaidd ar yr Ynys sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth felly mae cynlluniau sy’n dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd ar gyfer pobl ifanc leol i fyw ynddynt neu eu prynu yn bwysig.

           Mae pryder mewn perthynas â’r duedd gynyddol lle mae cwmnïau masnachol neu fusnesau’n prynu eiddo preswyl ar gyfer defnydd achlysurol/hamdden neu wyliau sydd weithiau’n cael effaith ar fwynderau preswylwyr yn yr ardal ac yn crebachu’r stoc dai a bod hwn yn fater sydd angen sylw ar lefel genedlaethol.

           Mae dros 2,500 o ail gartrefi ar Ynys Môn ac mae’n rhesymol bod eu perchenogion yn cyfrannu tuag at y ddarpariaeth o wasanaethau lleol. Mae ail gartrefi hefyd yn lleihau’r stoc sydd ar gael i bobl leol felly mae ond yn deg eu bod yn gwneud cyfraniad tuag at anghenion tai lleol ac yn helpu’r Cyngor i ddarparu tai cymdeithasol. 

 

Am y rhesymau uchod, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi mynd allan i ymgynghori ar gynyddu premiwm y Dreth Gyngor fel yr argymhellwyd gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid gyda’r cynigion isod -

 

           Bod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn digwydd ar yr un pryd â’r ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer Cyllideb 2019/20.

           Bod sylwadau’n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn pwyso iddynt weithredu i wneud i ffwrdd â’r anghysondeb sy’n caniatáu i berchenogion ail gartrefi drosglwyddo eu heiddo i gyfraddau busnes os ydynt yn cael eu gosod ar sail fasnachol am 70 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n arwain at golli incwm o’r premiwm i’r Cyngor  ynghyd â cholli incwm o’r Dreth Gyngor safonol. Awgrymwyd y dylai’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i’r perwyl hwn.

           Y dylai’r incwm ychwanegol a gynhyrchir o’r premiwm, sef £170k y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf (£340k i gyd) gael ei ddyrannu i’r cynlluniau sydd wedi eu dylunio i gynorthwyo prynwyr tro cyntaf a hynny’n unol â chais Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn yr adroddiad yn Atodiad C.

 

Penderfynwyd –

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad sy’n adolygu blwyddyn gyntaf premiwm y Dreth Gyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18 a hyd yn hyn am 2018/19.

           Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ynglŷn â chodi Premiwm y Dreth Gyngor i 100% ar eiddo gwag tymor hir ac i 35% ar ail gartrefi. Gwneir hyn fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion Cyllideb 2019/20.

           Argymell y dylai’r £170k ychwanegol y flwyddyn y bydd y premiwm yn ei greu yn ystod y ddwy flynedd nesaf gael ei neilltuo i’r cynlluniau a fwriadwyd i gynorthwyo prynwyr tro cyntaf er mwyn cynyddu nifer yr ymgeiswyr y gellir eu cynorthwyo.

           Bod y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlygu’r angen i gael gwared â’r anghysondeb cyfreithiol lle mae modd trosglwyddo ail gartrefi yn y system Dreth Gyngor i drethi busnes.

Dogfennau ategol: