Eitem Rhaglen

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 2, 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2, 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor bod y sefyllfa o ran Rheoli Perfformiad ar ddiwedd Chwarter 2 yn bositif gydag ond 2 o’r dangosyddion yn tanberfformio yn erbyn eu targed blynyddol am y flwyddyn. Roedd y ddau ddangosydd a oedd yn tanberfformio yn ymwneud â’r Gwasanaethau Oedolion ac fe gafwyd manylion yn adran 2.4.3 yr adroddiad ynghyd â’r camau lliniaru a argymhellwyd gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Roedd perfformiad o ran rheoli absenoldeb salwch hefyd wedi gwella o gymharu â Chwarter 1 er ei fod ychydig islaw’r targed o gymharu â’r un cyfnod yn  2017/18. Mae lefelau absenoldeb salwch wedi gwella’n benodol yn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Dysgu yn ystod y chwarter ac mae’r ddau wasanaeth wedi cael eu blaenoriaethu gan yr UDA ar gyfer gwelliant pellach yn Chwarter 3. Mae cynllun gwaith salwch wedi cael ei lunio’n benodol i fynd i’r afael ag absenoldeb salwch yn yr ysgolion cynradd ac mae’r gwasanaeth wrthi’n ei weithredu. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn bleser fodd bynnag i allu adrodd bod nifer y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd o fewn yr amserlen ofynnol wedi cyrraedd y targed am y tro cyntaf yn y tair blynedd ddiwethaf.   

 

Dan Wasanaethau Cwsmer, mae nifer defnyddwyr cofrestredig Ap Môn yn parhau i dyfu gyda chynnydd o bron i 600 o ddefnyddwyr o ddiwedd Chwarter 1 sy’n dod â’r cyfanswm i 4,883 ar ddiwedd Chwarter 2. Cafwyd 552 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth gyda 3,899 o gwestiynau erbyn diwedd Chwarter 2 ac fe ymatebwyd i 76% ohonynt o fewn yr amserlen ofynnol. Mae’r UDA a’r Penaethiaid Gwasanaeth yn parhau i fonitro’n ofalus y perfformiad o ran ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio yn fras at Reolaeth Ariannol a’r alldro rhagdybiedig ar gyfer cyllideb refeniw’r flwyddyn ariannol gyfredol sy’n rhagweld gorwariant o £2.660m. Bydd hyn yn cael sylw manylach dan eitem arall ar y rhaglen.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad ar gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd pryd trafodwyd Chwarter 2 y Cerdyn Sgorio Corfforaethol. Wrth graffu’r Cerdyn Sgorio, roedd y Pwyllgor wedi nodi’r isod -

           Mae’r cerdyn sgorio yn ei chweched flwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwn, mae’r broses o gasglu gwybodaeth ac adrodd ar ddangosyddion perfformiad mewn modd cydlynol wedi esblygu ac aeddfedu.

           Bod perfformiad yn erbyn dangosyddion cenedlaethol allweddol yn dda yn gyffredinol a bod rhai meysyddGwasanaethau Oedolion yn benodolangen sylw pellach. Roedd y Pwyllgor yn glir am y mesurau lliniaru a argymhellwyd gan yr UDA i wella perfformiad.

           Bod lefelau absenoldeb salwch yn Chwarter 2 wedi gwella o gymharu â Chwarter 1 ond nad oeddynt gystal â’r un cyfnod y llynedd.

           Bod y Cyngor yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol. Roedd y Pwyllgor yn glir am yr angen i fonitro pwysau ariannol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Dysgu a nodwyd y bydd hynny’n parhau drwy’r Panel Sgriwtini Cyllid.

 

Nododd y Pwyllgor y meysydd hynny y mae’r UDA yn eu rheoli i sicrhau gwelliant yn y dyfodol drwy weithredu’r mesurau lliniaru a amlinellwyd yn benodol mewn perthynas â’r Gwasanaethau Oedolion; presenoldeb yn y gwaith gan ganolbwyntio’n arbennig ar y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Dysgu; y pwysau ariannol ar y Gwasanaethau Plant, y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Dysgu a Rheoli Cwynion yn y Gwasanaethau Plant. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylid ystyried cynnwys dangosydd ar gyfer Gorfodaeth Gynllunio ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ym mlwyddyn ariannol 2019/20.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am ei sylwadau. Wrth ystyried y sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad yn ystod Chwarter 2 fel y caiff ei adlewyrchu yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ac a oedd ym marn y pwyllgor, yn dda yn gyffredinol, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod yr angen i barhau i fonitro meysydd sy’n perfformio’n is na’u targedau ac amlygodd Rheoli Cwynion gan y Gwasanaethau Plant fel maes penodol y mae angen ei fonitro o ran sicrhau ymatebion mwy amserol i’r cwynion a dderbynnir.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol, sef y rhai a nodir ym mharagraffau 3.1.1 i 3.1.5 yr adroddiad ac i dderbyn y mesurau lliniaru fel y cawsant eu hamlinellu ynddo.

           Derbyn argymhelliad y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys dangosydd perfformiad ar gyfer Gorfodi Cynllunio yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol nesaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20.

 

Dogfennau ategol: