Eitem Rhaglen

Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, sef y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2018 a 30 Medi, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn siomedig nodi, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael hyd yma, mai’r sefyllfa ariannol ragdybiedig ar gyfer  2018/19 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa’r Dreth Gyngor yw gorwariant o £2.660m sy’n cynrychioli 2.3% o gyllideb net y Cyngor am 2018/19. Mae hyn i’w briodoli i’r pwysau tebyg a welwyd ar y gyllideb yn 2017/18 ac roedd y pwysau mwyaf sylweddol ar y gwasanaethau statudol i blant. Gofynnwyd i Adrannau edrych ar ffyrdd o leihau gwariant am weddill y flwyddyn ariannol ac i gyflwyno cynlluniau arbedion. Dywedodd yr Aelod Portffolio, er bod modd ariannu’r lefel hon o orwariant o’r arian wrth gefn cyffredinol yn 2018/19, byddai gwneud hynny yn gostwng ymhellach falansau cyffredinol y Cyngor. Mae gorfod defnyddio arian wrth gefn i sicrhau cyllideb gytbwys yn arwydd o raddfa’r pwysau ariannol sydd ar y Cyngor ac yn golygu y bydd raid iddo edrych yn ofalus ar y modd y caiff y gyllideb ar gyfer  2019/20 ei gosod a’r modd y caiff ei hariannu.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod tri o brif wasanaethau’r Cyngor – y Gwasanaethau Oedolion, y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Dysgu yn wynebu lefel gynyddol o alw am y gwasanaethau sy’n golygu eu bod yn gorwario ar eu cyllidebau. Er bod y sefyllfa o ran gwasanaethau eraill y Cyngor yn well ar ddiwedd Chwarter 2, nid yw’n ddigon i gwrdd â gorwariant y tri gwasanaeth arall. Er y gobeithir bod y gorwariant mwyaf wedi digwydd ac y gellir cynnal gwariant rhwng rŵan a diwedd y flwyddyn ariannol, mae hyn yn dibynnu ar amgylchiadauyn enwedig pwysau dros y gaeaf a lefel y  galw am wasanaethau. Dywedodd y Swyddog y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith hefyd gefnogi defnyddio’r arian wrth gefn ar gyfer Tâl Cyfartal, sef cronfa a gafodd ei chreu i ddelio gyda hawliadau Tâl Cyfartal, er mwyn ariannu’r diffyg o ran diswyddiadau yn ystod 2018/19. Mae’r broses Tâl Cyfartal wedi dod i ben mwy neu lai gyda’r mwyafrif o’r hawliadau wedi cael eu setlo gan adael gwarged yn y gronfa y gellir ei drosglwyddo i helpu gyda’r sefyllfa gyllidebol bresennol.

 

Wrth drafod yr adroddiad a’r sefyllfa yr oedd yn ei hadlewyrchu, gwnaed y pwyntiau a ganlyn gan y Pwyllgor Gwaith -

 

           Mae rheoli cyllidebau sy’n dibynnu ar y galw am wasanaethau yn anodd ac nid Ynys Môn yw’r unig gyngor sy’n wynebu’r her o ymdopi’n ariannol gyda galw cynyddol. Nodwyd bod raid i’r Cyngor ymateb i anghenion oedolion bregus a phlant ond bod cyflymder y twf yn y galw am y gwasanaethau hyn yn golygu eu bod yn gorwario ar eu cyllidebau.

           Mae’n debygol na fydd y Cyngor, am yr ail flwyddyn yn olynol, yn gallu cydbwyso ei gyllideb heb dynnu o’r arian wrth gefn cyffredinol sy’n golygu y bydd arian wrth gefn y Cyngor yn gostwng islaw’r isafswm a argymhellir. Awgryma hyn nad yw’r Gyllideb yn ddigonol i gwrdd ag anghenion y Cyngor.  

           Fel y gwelir o’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol, mae’r Cyngor dal yn llwyddo i gynnal ansawdd gwasanaethau er gwaethaf y pwysau ariannol.

           Mae’r Panel Sgriwtini Cyllid yn cefnogi’r Pwyllgor Gwaith i fonitro’r Gyllideb Refeniw drwy gadw golwg reolaidd ar y gwasanaethau sy’n gorwario a chan herio’r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol ynglŷn â’u cynlluniau i liniaru gorwariant a rheoli gwariant.

           Bod lefel y manylder yn yr adroddiad ar fonitro’r gyllideb a baratowyd gan y Gwasanaeth Cyllid o gymorth i’r Pwyllgor Gwaith o ran rheoli’r gyllideb ac ymateb pan gaiff ei herio ar y modd y mae adnoddau’n cael eu defnyddio, yn enwedig mewn perthynas â chostau asiantaeth ac ymgynghorwyr, sydd i raddau helaeth, yn cael eu cyllido o gyfraniadau allanol.  Esboniodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, o’r cyfanswm o £674,406 a wariwyd ar gostau asiantaeth ac ymgynghorwyr yn ystod Chwarter  2,  daeth £155k o gyllideb graidd ac/neu arian wrth gefn y Cyngor a bod y gweddill, oddeutu 75%,  wedi cael ei ariannu o grantiau ac/neu gyfraniadau allanol.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2018/19.

           Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2018/19 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

           Nodi’r  sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

           Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2018/19 yn Atodiad D yr adroddiad.

           Nodi’r modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2018/129 yn Atodiadau DD ac E yr adroddiad.

           Cymeradwyo defnyddio’r gronfa wrth gefn ar gyfer Tâl Cyfartal i gyllido’r diffyg mewn perthynas â diswyddiadau yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19.

Dogfennau ategol: