Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2019/20 - Cynigion Cychwynnol

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn amlinellu’r cyd-destun ar gyfer y broses o osod cyllideb 2019/20. Mae’r adroddiad a oedd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yn nodi’r cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb 2019/20. Mae’r papur yn darparu datganiad sefyllfa ar y materion canlynol:-

 

·      Cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith  ar y gyllideb

·      Setliad Cychwynnol Llywodraeth Leol (Llywodraeth Cymru)

·      Y Dreth Gyngor

·      Arian wrth gefn a balansau cyffredinol

·      Cynigion am arbedion

·      Pwysau ar y gyllideb

·      Risgiau

·      Effaith ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid y bydd gosod cyllideb ar gyfer 2019/20 yn heriol o ganlyniad i’r setliad dros dro ar y gyllideb sydd wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar 9 Hydref 2018, yn cynnwys toriad o 1% yn y gyllideb. Nododd bod y Cyngor, cyn adnabod unrhyw arbedion a chynyddu’r Dreth Gyngor neu bremiwm y Dreth Gyngor, yn wynebu bwlch ariannol o £7.156 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Mae’r gwasanaethau o fewn y Cyngor wedi adnabod arbedion o £3.7 miliwn ac mae Aelodau Etholedig wedi eu hysbysu am fanylion yr arbedion hynny yn ystod Sesiynau Briffio ac mae’r manylion wedi eu cynnwys yn Atodiad 4 yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor. Cyfeiriodd ymhellach at falansau arian wrth gefn y Cyngor a oedd yn £6.9 miliwn ar 31 Mawrth 2018, sef ychydig uwchben yr isafswm angenrheidiol fel yr aseswyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) /Swyddog Adran 151. Fodd bynnag, mae’r rhagamcaniad ar gyfer cyllideb 2018/19 yn darogan gorwariant o £2 filiwn a bydd yn rhaid i hyn gael ei ariannu o’r arian wrth gefn cyffredinol a fydd yn golygu y bydd lefel yr arian wrth gefn cyffredinol yn is nag isafswm y balans sy’n cael ei argymell. Fodd bynnag, yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cyllideb y DU ar 29 Hydref, 2018, dywedodd y disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ychwanegol (fel rhan o’r fformiwla Barnett i Gymru), ac mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai Llywodraeth Leol sydd ar ‘flaen y ciw’ i dderbyn unrhyw gyllid ychwanegol sydd ar gael. Dywedodd y Deilydd Portffolio hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried yn ogystal sut i ariannu’r costau’r Pensiwn newydd i Athrawon gan y bydd yn fwrn ariannol ar awdurdodau lleol. Roedd yn dymuno nodi diwygiad i’r adroddiad sef y byddai’r cynnig ar gyfer y gwasanaeth casglu clytiau yn cael ei ymgynghori arno yn ystod y broses o ymgynghori ar Gyllideb 2019/20.      

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn nodi nifer o ragdybiaethau ac mae’r rhain wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2019/20. Cyfeiriodd at y Gyllideb Ddigyfnewid o ran y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor ar hyn o bryd ac sy’n amlygu’r gofynion ar gyfer cyllid ychwanegol i wasanaethau sydd o dan bwysau ariannol h.y. Gwasanaethau Plant. Dywedodd fod y ‘Newidiadau Ymrwymedig’ o fewn y gyllideb yn newidiadau sy’n cael eu hystyried wrth lunio’r gyllideb ddigyfnewid a’u bod yn adlewyrchu cynnydd/gostyngiad mewn costau sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Tynnwyd sylw at y rhain ym mharagraff 3 yr adroddiad. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth hefyd y byddai unrhyw newid i bremiwm y Dreth Gyngor yn effeithio ar gyllid y Cyngor ac yn newid y bwlch yn y gyllideb. Cyfeiriodd at y premiwm tai gwag ac ail gartrefi a allai fod yn fater i’w drafod yn ystod y broses ymgynghori ar y gyllideb ar gyfer 2019/20.      

 

Dywedodd  y Cynghorydd Dafydd Roberts, ar ran y Panel Sgriwtini Cyllid, fod y panel wedi rhoi ystyriaeth fanwl i rai o’r cynigion drafft cychwynnol ar y gyllideb yn ei gyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 26 Medi, 2018. Roedd y Panel Sgriwtini Cyllid wedi blaenoriaethu 3 maes gwasanaeth yn benodol h.y. Gwasanaethau Dysgu, Gwasanaethau Oedolion a Phriffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Roedd crynodeb o drafodaethau’r Panel wedi’u hatodi fel Atodiad 2 yr adroddiad.   

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·      Mynegodd y Pwyllgor bryderon sylweddol am y toriad annerbyniol o 1% yn y setliad ariannol ar gyfer 2019/20. Nodwyd fod CLlLC yn ymgyrchu er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol terfynol. Codwyd cwestiynau am y fformiwla a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru o ran y setliad ar gyfer llywodraeth leol. Ymatebodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod Llywodraeth Cymru wedi adolygu eu fformiwla setliad llywodraeth leol ar gyfer 2017/18 a 2018/19 a oedd wedi golygu arian ychwanegol ar gyfer awdurdodau gwledig. Fodd bynnag, mae’r fformiwla cyllido yn ymddangos ei fod yn ffafrio ardaloedd dinesig De Cymru sydd wedi gweld gostyngiad llai o ganlyniad i gynnydd ym mhoblogaethau’r ardaloedd dinesig hynny. Nid yw dadansoddiad o’r Asesiad Gwariant Safonol yn adnabod un rheswm penodol pan fod Ynys Môn wedi dioddef yn setliad eleni o gymharu â blynyddoedd eraill. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Grŵp Arweinwyr Awdurdodau Lleol Cymru wedi gofyn am gyfarfod â’r Aelod Cabinet Cyllid, Mr Mark Drakeford AC er mwyn trafod y setliad llywodraeth leol ond hyd yma nid oedd y cyfarfod hwnnw wedi’i gynnal. Nodwyd fod CLlLC yn ymgyrchu er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol terfynol.        

Ym marn y Pwyllgor, roedd angen anfon ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru yn mynegi eu pryderon am y setliad cychwynnol ac i bwyso am gyllid ychwanegol yn y setliad terfynol.   

 

·      Roedd y Pwyllgor yn ystyried bod angen codi’r premiwm 2ail Gartrefi / Tai Gwag fel dull ar gyfer cau’r bwlch yn y gyllideb. 

 

·      Gofynnwyd am gadarnhad am y fformiwla ddyrannu a ddefnyddiwyd o ran cyllid y pen ar gyfer disgyblion a’r fethodoleg ar gyfer trosglwyddo’r cyllid hwnnw pan fydd disgybl yn trosglwyddo i ysgol arall. Ymatebodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod cyllid ysgolion yn cael ei rannu drwy fformiwla sy’n ystyried nifer y disgyblion mewn ysgol. Bydd y fformiwla yn dyrannu mwy ar gyfer pob disgybl mewn ysgolion llai er mwyn sicrhau’r isafswm o ran lefel staffio a bod costau’r adeilad yn cael eu hariannu ac o ganlyniad eu bod yn dod yn gyfran uwch o gyfanswm y gyllideb ar gyfer ysgolion llai.   

 

 PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith:-

 

·      Y dylid cyflwyno ymateb ffurfiol i Lywodraeth Cymru yn mynegi eu siom â’r setliad cychwynnol ac i bwyso am gyllid ychwanegol yn y setliad terfynol yn y man;

·      I dderbyn y gyllideb ddigyfnewid a pheidio â gofyn i wasanaethau ddod o hyd i fwy o arbedion ac i beidio â defnyddio arian wrth gefn y Cyngor er mwyn cau’r bwlch ariannol;

·      Bod angen rhoi ystyriaeth i gynyddu’r premiwm ar Ail Gartrefi / Tai Gwag.   

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

(Ymataliodd Mr Keith Roberts, Aelod Cyfetholedig, ei bleidlais).