Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 28C477B – Fferm Pencarnisiog, Pencarnisiog

 

10.2 33C182E/VAR – Berw Uchaf, Gaerwen

 

10.3 36C344C/VAR – Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

10.4 46C410H – Garreg Fawr, Lôn Garreg Fawr, Trearddur

Cofnodion:

10.1 28C477B – Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd (1 fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau a cherddwyr ar dir yn Pencarnisiog Farm, Pencarnisiog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod rhan o safle’r cais tu allan i ffin ddatblygu Pencarnisiog - ac o’r herwydd mae’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cydond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod cynllun y safle’n dangos, er bod ôl-troed a chwrtil yr anheddau arfaethedig yn gorwedd o fewn y ffin ddatblygu, mae rhan o’r ffordd fynediad a’r trefniadau draenio tu allan i’r ffin ddatblygu. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer codi dau annedd gyda’r lle parcio a’r trefniadau draenio mewn safle tebyg o dan bolisïau'r Cynllun Datblygu blaenorol felly o ran gosodiad y cynnig nid yw’n annhebyg i’r hyn y mae caniatâd yn bodoli ar ei gyfer yn barod ynghyd â 2 annedd ychwanegol. Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol yn ei leoliad o ran ei osodiad, ymddangosiad a graddfa ac nid yw’n cael unrhyw effaith negyddol ar amwynderau eiddo preswyl sy’n bodoli eisoes nac ar yr ardal ehangach. Fel rhan o’r cynnig, mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau y bydd 7 o lefydd parcio ar gael yn nhu blaen safle’r cais yn ogystal â llefydd parcio yn y cefn - bydd y llefydd parcio hyn ar gael er mwyn i rieni allu gollwng a chodi eu plant o’r ysgol gynradd gyfagos. Fel rhan o’r cynnig, bydd cyfraniad o £11,024.79 yn cael ei wneud i’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.

 

Darllenodd y Swyddog sylwadau'r Cynghorydd Richard Dew, Aelod Lleol (a oedd, oherwydd ymrwymiad arall, wedi gadael y cyfarfod cyn i’r cais hwn gael ei ystyried) yn cadarnhau nad oedd ganddo ef nac Ysgol Pencarnisiog unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad a’i fod yn croesawu’r ddarpariaeth tai fforddiadwy fel rhan o’r cynnig.

 

Gorffennodd y Swyddog drwy ddweud, gan mai darn bach yn unig o safle’r cais sydd tu allan i’r ffin ddatblygu ac o ystyried manteision y cynnig o safbwynt darparu fforddiadwy a chyfraniad i addysg, yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol Adran 106 ar gyfer un annedd fforddiadwy a thalu’r cyfraniad angenrheidiol i addysg. 

 

10.2            3C182E/VAR – Cais dan Adran 73A i amrywio amodau (03) (gwaith lliniaru), (08) (cau’r fynedfa gyfredol) a (09) (cynlluniau) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 33C182D (addasu adeilad allanol yn annedd ynghyd â chreu mynedfa) er mwyn newid y gorffenwaith ynghyd â chyflwyno manylion am ecoleg, trwydded liniaru a chau’r fynedfa wedi i’r gwaith gychwyn yn Berw Uchaf, Gaerwen

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio wedi ei roi yn 2017 o dan bolisïau’r Cynllun Datblygu blaenorol ar gyfer addasu adeilad allanol yn annedd yn Berw Uchaf, Gaerwen; fodd bynnag, ni ddarparwyd y manylion ecoleg, trwydded lliniaru a manylion cau mynediad yn unol â’r caniatâd a roddwyd ac o ganlyniad ailgyflwynwyd y cais er mwyn delio â’r materion hynny. Cadarnhaodd y Swyddog bod copi o drwydded a roddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn awdurdodi gwneud y gwaith a ganiatawyd wedi cael ei gyflwyno gyda’r cais yn ogystal â manylion cau’r fynedfa bresennol ac mae’r Adran Briffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn dderbyniol. Gwnaethpwyd cais hefyd i newid deunydd y gorffenwaith allanol a gosod ffenestri UPVC yn lle rhai pren ac mae Adain Dreftadaeth y Gwasanaeth Amgylchedd Adeiledig wedi cadarnhau eu bod yn dderbyniol ac na fyddent yn cael effaith niweidiol ar gymeriad cyffredinol yr adeilad. Gorffennodd y Swyddog drwy ddweud, er bod y cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, oherwydd bod caniatâd cynllunio yn bodoli eisoes ar safle’r cais a bod gwaith wedi dechrau yn barod a gan fod y manylion a gyflwynwyd o dan yr amodau cynllunio yn dderbyniol, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.

 

10.3    36C344B/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (07) o ganiatâd cynllunio rhif 36C344B/VAR (Cynlluniau Diwygiedig i godi annedd) er mwyn gallu cyflwyno manylion draenio ar ôl i waith gychwyn ar dir cyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am bod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Swyddog Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio i godi annedd ar safle’r cais wedi ei roi yn 2016 o dan bolisïau’r Cynllun Datblygu blaenorol. Roedd angen cyflwyno manylion dŵr wyneb cyn cychwyn gwaith ar y safle; fodd bynnag, ni chyflwynwyd y manylion hynny cyn cychwyn ar y gwaith ac mae’r cais ar gyfer cyflwyno’r manylion angenrheidiol ar ôl dechrau gwaith ar y safle. Cyflwynwyd y manylion hynny gyda’r cais ac mae’r Awdurdod Priffyrdd a’r Adain Ddraenio wedi cadarnhau eu bod yn dderbyniol. Mae’r cais yn groes i Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond oherwydd bod caniatâd cynllunio’n bodoli’n barod ar gyfer annedd ar y safle ac oherwydd yr ystyrir bod y manylion a gyflwynwyd yn foddhaol, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.

 

10.4    46C410H – Cais llawn ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys ardal teras wedi ei decio ar dir ger Lôn Garreg Fawr, Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Glen Seddon o blaid y cais a thynnodd sylw at y newidiadau a wnaed i’r cynllun sy’n gwneud y datblygiad yn llai ymwthiol ac o ganlyniad yn lleihau ei effaith. Mae’r cynllun a’r dyluniad newydd yn fwy effeithlon ac yn lleihau ôl-troed carbon cyffredinol y cynnig.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer newidiadau i gynllun yr annedd y mae caniatâd cynllunio’n bodoli’n barod ar ei gyfer. Bydd y newidiadau arfaethedig yn arwain at leihau graddfa a mas y datblygiad arfaethedig ac mae’n welliant sylweddol ar faint yr annedd a ganiatawyd yn flaenorol. Am fod y cynnig yn un am marchnad agored mae’n groes i Bolisi TAI 5 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sydd yn cefnogi tai marchnad leol, ond gan fod caniatâd cynllunio’n bodoli’n barod ac am fod y cynllun diwygiedig yn gwella’r hyn a ganiatawyd eisoes, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.

Dogfennau ategol: