Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1 11C73F/VAR – Lastra Farm, Amlwch

 

11.2 34C734 – 18 Nant y Pandy, Llangefni

Cofnodion:

11.1    11C73F/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 11C73E (troi ystafell weithgareddau yn bedair uned hunangynhaliol ac ystafelloedd gwesty ychwanegol) er mwyn creu dwy uned hunangynhaliol a chynyddu nifer yr ystafelloedd gwesty i 8 yn Lastra Farm, Amlwch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod swyddog perthnasol yn unol â diffiniad paragraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad sydd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r broses gynllunio wedi datgan diddordeb yn y cais. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofyn o dan y cyfryw baragraff.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer newid gosodiad a dyluniad y caniatâd cynllunio a roddwyd yn 2017 i droi ystafell weithgareddau bresennol yn bedair uned hunangynhaliol a dwy ystafell westy ychwanegol, er mwyn lleihau nifer yr unedau hunangynhaliol o 4 i 2 a chynyddu nifer yr ystafelloedd gwely o 4 i 8. Ni fydd y cynllun diwygiedig yn cynyddu ôl-troed presennol y cynlluniau a ganiatawyd eisoes ac ni fydd yn cael unrhyw effaith niweidiol ar fwynderau eiddo preswyl cyfagos a gan fod y newidiadau yn rhai mân, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.

 

11.1    34C734 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd ac ymestyn y cwrtil yn 18 Nant y Pandy, Llangefni.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn cael ei wneud gan swyddog perthnasol yn unol â diffiniad Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi adolygu’r cais.

 

Adroddodd y Swyddog Datblygu Cynllunio bod y cais yn cynnwys estyniad ar ddrychiad gogleddol/ochr yr annedd. Gan nad yw’r estyniad yn fawr iawn ni fyddai crynswth yr adeilad yn anghydnaws â’r ardal gyffredin o ystyried maint yr eiddo preswyl sydd o gwmpas y safle. Oherwydd lleoliad yr estyniad, ni fydd y cynnig yn effeithio ar amwynderau’r stad yn gyffredinol ac er y bydd y cynnig yn wynebu gardd eiddo sy’n bodoli’n barod, oherwydd ei ogwydd ni fydd effaith digonol oherwydd goredrych i gyfiawnhau gwrthod y cais. Dywedodd y Swyddog bod y cynnig yn golygu ymestyn y cwrtil i gyfeiriad y gogledd er mwyn gwneud lle ar gyfer y datblygiad. Ni fydd yr estyniad i’r cwrtil yn ymestyn i Warchodfa Natur Nant y Pandy a’r safle bywyd gwyllt a leolir tu ôl i’r annedd; y bwriad yw codi ffens bren ar hyd y cwrtil newydd er mwyn cyfateb i’r hyn sy’n bodoli eisoes. Mae Swyddog Ecoleg y Cyngor yn cadarnhau na fydd y cynnig yn cael unrhyw effaith ecolegol ar Safle Natur Nant y Pandy. O ganlyniad, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.

Dogfennau ategol: