Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 14C257 – Cefn Trefor, Trefor

 

12.2 18C117C – Swtan, Porth Swtan

 

12.3 19C1111B – Bodowen, Pentre Fferam Gorniog, Caergybi

 

12.4 39C601 – Cartrefle, Porthaethwy

 

12.5 40LPA356/CC – Ffordd Lligwy, Moelfre

Cofnodion:

12.1    14C257 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd fforddiadwy yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a draeniad gyda'r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn ar sail ei agosrwydd at y clwstwr ac angen lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Gavin Evans o blaid y cais a phwysleisiodd gysylltiadau lleol y teulu gan ddweud ei fod o a’i wraig wedi cael eu magu yn Llangefni – ei wraig yng Nghorn Hir ac yntau yn Rhostrehwfa sydd ddim ond 7 milltir o Drefor. Dywedodd Mr Evans ei fod ef a’i wraig yn gweithio yn Llangefni a’u bod yn siarad Cymraeg fel teulu. Prynwyd y tir dan sylw gan y Cyngor y llynedd gyda’r bwriad o adeiladu tŷ fforddiadwy 4 ystafell wely ar gyfer y teulu - roedd cartref y teulu yn Llanfihangel yn Nhowyn (RAF Valley) yn rhy fach ac ni fyddai’n bosib ei ymestyn. Rhoddwyd y tŷ ar y farchnad a chafodd ei werthu’n gyflym iawn gan olygu fod y teulu yn byw yn Llynfaes gyda’i frawd dros dro, sefyllfa sydd ddim yn ddelfrydol. Dywedodd Mr Evans ei fod yn dymuno i’w blant gael yr un rhyddid a’r un fagwraeth yng nghefn gwlad ag a gafodd yntau. Ni fyddai’n bosib iddynt brynu tŷ mewn lleoliad o’r fath ar y farchnad agored felly’r unig opsiwn yw adeiladau ar eu tir eu hunain. Y pwynt yw bod y teulu mor agos â phosib at Trefor a’u bod angen tŷ fforddiadwy.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. G. Parry, OBC, FRAgS, Aelod Lleol, mai bwriad y teulu oedd gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar y plot o dir y gwnaethon nhw ei brynu gan y Cyngor. Dywedodd nad oedd yn ystyried bod y cynnig yn ymwthiol gan fod 10 tŷ deulawr yn Nhrefor, tua 7 bwthyn a chapel. Mewn perthynas â bod yn lleol, dywedodd y Cynghorydd Parry fod Ynys Môn yn “lleol” iddo ef yn bersonol, er nad dyna ddiffiniad y polisi o “lleol”. Ar hyn o bryd mae’r ymgeiswyr yn byw yn Llynfaes sydd, fel Trefor, yn ward Canolbarth Môn. Hefyd, mae’r Gwasanaeth Tai wedi cadarnhau bod yr ymgeiswyr angen tŷ fforddiadwy. Gofynnodd y Cynghorydd Parry i’r Pwyllgor roi cyfle i’r ymgeiswyr.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Trefor yn cael ei nodi fel clwstwr o dan Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Cynllunio ar y Cyd. Mae’r polisi’n cefnogi cynigion ar gyfer tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol ar yr amod bod yr holl feini prawf yn cael eu bodloni. Mae’r polisi yn diffinio angen lleol fel “pobl mewn angen tŷ fforddiadwy sydd wedi byw o fewn y clwstwr neu yn yr ardal wledig o gwmpas am 5 mlynedd neu fwy yn olynol, naill ai yn union cyn cyflwyno cais neu yn y gorffennol”. Mae’r cartref a werthwyd yn Llanfihangel yn Nhowyn yn ardal ward Llifon. Nid yw’r polisi’n caniatáu i unigolion symud allan o bentrefi eraill i glystyrau er mwyn cael tŷ fforddiadwy. Yn ogystal, nid yw’r cynnig yn bodloni’r meini prawf mewn perthynas â graddfa gan ei fod am annedd 9m o uchder ar safle lle mae’r tŷ drws nesaf ac union gyferbyn yn fythynnod un llawr ac, oherwydd bod y cynnig wedi’i leoli ar ffin y pentref, ystyrir y bydd yn creu nodwedd ymwthiol yn ei leoliad. Er bod anheddau deulawr yn yr ardal maent yn bennaf ar raddfa fechan gyda’r ffenestri’n cyrraedd y bondo. Er bod y cynnig yn bodloni rhai o’r meini prawf, fel y mae’r adroddiad ysgrifenedig yn ei nodi, oherwydd nad yw’n bodloni’r holl feini prawf ystyrir ei fod yn groes i Bolisi TAI 6 ac felly argymhellir gwrthod y cais.

 

Wrth ystyried y cais yr oedd â’i fryd ar ei ganiatáu, gwnaeth y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn –

 

           Ar y map mewnosod, mae safle’r cais gyferbyn i adeilad lliw ac o fewn cwrtil yr eiddo o’i flaen ac mae’n cwblhau’r pentref yn daclus.

           A oes dyluniad derbyniol ar gyfer tŷ fforddiadwy o ran graddfa a maint sy’n golygu ei fod yn cydymffurfio â gofynion tŷ fforddiadwy.

           Bod yr ymgeisydd yn wreiddiol o Lôn Gefn Rhostrehwfa sydd yn ardal wledig yn ardal ward Canolbarth Môn ac mae Trefor hefyd o fewn ardal ward Canolbarth Môn. Mae’r ymgeisydd wedi gorfod byw tu allan i’r ardal dros dro oherwydd bod prisiau tai yn Llangefni yn afresymol o uchel.

           Bod y cais wedi cael ei gadarnhau fel angen am dy fforddiadwy ar gyfer teulu lleol a bod diffyg hyblygrwydd y polisi yn atal yr angen lleol hwnnw rhag cael ei gwrdd. Dylid defnyddio synnwyr cyffredin wrth weithredu’r polisi a chadw mewn cof bod y tir wedi cael ei werthu gyda’r bwriad o dderbyn caniatâd cynllunio.

 

Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio i’r materion a godwyd fel a ganlyn -

 

           Cadarnhaodd bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi o ran bod yn ran o’r clwstwr. Fodd bynnag, barn y Swyddog oedd y byddai’r datblygiad arfaethedig yn creu nodwedd ymwthiol yn ei leoliad oherwydd ei raddfa a’i faint a’i fod o’r herwydd yn groes i bolisi yn y cyswllt hwn.

           Bod asesiad o’r hyn sy’n fforddiadwy i’r ymgeiswyr wedi ei wneud ar sail eu sefyllfa a’u hanghenion fel teulu (yn hytrach na bod patrwm penodol ar gyfer tŷ fforddiadwy). Mae’r annedd arfaethedig yn adlewyrchu anghenion y teulu mewn perthynas â’i faint a nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen. Fodd bynnag, barn y Swyddog yw nad yw graddfa a maint cyffredinol yr annedd yn ei leoliad yn cydweddu â’r anheddau o’i gwmpas ac felly nid yw’r cynnig yn cydymffurfio â’r polisi.

           Mewn perthynas â thŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol mae’r datganiad polisi yn unol â’r hyn a nodwyd uchod h.y. “pobl mewn angen tŷ fforddiadwy sydd wedi byw o fewn y clwstwr neu yn yr ardal wledig o gwmpas am 5 mlynedd neu fwy yn olynol, naill ai yn union cyn cyflwyno cais neu yn y gorffennol”. Mater o farn yw a yw cysylltiad yr ymgeisydd ag ardal wledig drwy ei fagwraeth yn bodloni’r meini prawf. Barn y Swyddog yw nad yw’r ymgeisydd wedi darparu digon o dystiolaeth i fodloni’r maen prawf hwn ac felly nid yw’r cynnig yn cydymffurfio â pholisi.

           Nid yw sut cafodd y tir ei werthu i’r ymgeisydd yn ystyriaeth berthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail ei fod o’r farn bod y cynnig yn cydymffurfio â Pholisi TAI 6 o ran cyfarfod y prawf angen lleol ac o ran cydweddu â phatrwm datblygu cyffredinol yr anheddle heb fod yn ymwthiol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Cynghorodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol mai mater i’r Pwyllgor yw amlinellu ei ddiffiniad o “angen lleol” yn y polisi os nad yw’n derbyn y diffiniad a roddwyd gan y Swyddog. Lluniwyd y polisi i ymateb i broblem hanesyddol o ganfod cydbwysedd rhwng yr angen am dai lleol a chaniatáu datblygu tai o fewn aneddleoedd. Os yw’r Pwyllgor â’i fryd ar gymeradwyo’r cais yn groes i bolisi mewn perthynas â’r mater hwn mae’n debygol o ailagor y mater a bydd yn ei gwneud yn anodd i fod yn gyson yn achos nifer o geisiadau tebyg lle nad yw’r Pwyllgor yn derbyn diffiniad y polisi o ‘lleol’. O ganlyniad, mae risg i’r Pwyllgor fod yn fympwyol yn y modd y mae’n dehongli’r polisi a’r hyn y mae’n ystyried yn lleol yng nghyd-destun y polisi.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorydd Eric Jones, Kenneth Hughes a Bryan Owen o blaid cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Ymataliodd y Cynghorydd John Griffith ei bleidlais am ei fod yn cydnabod yr angen i dderbyn y polisi fel y mae, er ei fod yn cydymdeimlo â sefyllfa’r ymgeiswyr. Ymataliodd y Cynghorwyr Vaughan Hughes, Richard Owain Jones, Dafydd Roberts a Robin Williams eu pleidlais hefyd ar y sail eu bod yn derbyn y cyngor cyfreithiol a roddwyd, er eu bod yn cydymdeimlo’n fawr â’r ymgeiswyr.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod y Pwyllgor yn ystyried bod y cais yn cydymffurfio â Pholisi TAI 6. (Ymataliodd y Cynghorwyr John Griffith, Vaughan Hughes, Richard Owain Jones, Dafydd Roberts a Robin Williams eu pleidlais)

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.

 

12.2    18C117 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i lunio maes parcio ynghyd â newidiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ar dir yn Swtan, Porth Swtan.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod y cais yn cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor Sir.

 

Gadawodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y cyfarfod am ei fod wedi datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais, ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer creu maes parcio ar gyfer 6 o gerbydau i’w ddefnyddio gan ymwelwyr â bythynnod Swtan gerllaw fydd hefyd yn golygu gwneud newidiadau i’r mynediad presennol. Mae safle’r cynnig o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ond oherwydd graddfa fechan y datblygiad ni ystyrir y bydd y cynllun yn cael unrhyw effaith negyddol ar yr ardal ehangach. Derbyniwyd llythyr o wrthwynebiad gan ddeiliaid eiddo preswyl cyfagos ar sail lleoliad ymwthiol y maes parcio gan ei fod yn edrych dros ardd gefn yr eiddo. O ganlyniad, bydd amod y bydd ffens yn cael ei chodi ar y ffin rhwng safle’r cais a’r eiddo. Fodd bynnag, mae’r ymgeisydd wedi cynnig ei fod yn plannu llwyni yn hytrach na chodi ffens gan y byddai hynny’n gweddu’n well i’r lleoliad sydd o fewn yr AHNE. Cynigir amod hefyd fod cynllun rheoli’n cael ei ddarparu ar gyfer y maes parcio er mwyn lliniaru ymhellach unrhyw faterion a godwyd gan y gwrthwynebydd. Gyda’r amodau hynny, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ond gydag amodau ychwanegol hefyd mewn perthynas â darparu cynllun rheoli ar gyfer y maes parcio ac ymgymryd â chynllun plannu llwyni. 

 

12.3    19C1111B – Cais llawn ar gyfer creu mynedfa i gerbydau ar dir yn Bodowen, Pentre Fferam Gorniog, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y fynedfa newydd arfaethedig ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer creu mynedfa newydd i gerbydau o flaen gardd flaen bresennol annedd Bodowen ynghyd â chreu dau le parcio newydd. Mae’r datblygiad wedi’i leoli o fewn Ardal Gadwraeth Mynydd Twr sydd hefyd o fewn yr AHNE. Mae’r ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth bellach yn nodi, oherwydd lleoliad sensitif y cynnig, y bydd wal garreg newydd yn cael ei chodi rhwng y llefydd parcio a’r ardd bresennol ac y bydd cerrig mân yn hytrach na tharmac yn cael ei ddefnyddio ar y llefydd parcio a’r dreif. Nid oes gan Ymgynghorydd Treftadaeth y Cyngor na’r Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad. O ganlyniad, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys.

 

12.4    39C601 – Cais llawn ar gyfer lleoli 4 siale (defnydd gwyliau) ynghyd ag adeiladu llwybr a gwaith cysylltiedig ar dir gyferbyn â Cartrefle, Porthaethwy.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod yr Aelod Lleol wedi ei alw i mewn i’r Pwyllgor wneud penderfyniad arno.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Jamie Bradshaw o blaid y cais ac ymatebodd i’r pryderon a godwyd gan drigolion lleol mewn perthynas ag effaith y cynnig ar breifatrwydd ac amwynder, addasrwydd y fynedfa a’i leoliad tu allan i’r ffin ddatblygu. Dywedodd fod y cynllun wedi cael ei drafod yn helaeth gyda Swyddogion Cynllunio a’r nod o’r cychwyn oedd creu datblygiad o safon uchel fydd yn gweddu i’w leoliad ac yn parchu amwynderau gweledol a phreswyl fydd yn darparu llety o safon uchel ac yn creu buddion economaidd i’r ardal. Nododd nad yw Polisi TWR 3 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn ceisio cyfyngu ar ddatblygiadau o’r math hyn i safleoedd o fewn ffiniau datblygu.

 

Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â beth oedd ystyr yr ymadrodd ‘defnydd lefel isel’ y cyfeiriodd y siaradwr ato yn ei gyflwyniad, esboniodd Mr Bradshaw bod y datblygiad, sydd yn cynnwys 4 caban gwyliau yn unig, yn un bychan ar gyfer defnydd preswyl yn bennaf yn hytrach na defnydd masnachol gan nad oes elfen hamdden ynghlwm ag o. Mae’r cynnig ar gyfer cabannau gwyliau mewn lleoliad coediog tawel a dyma’r farchnad y mae’r ymgeisydd yn anelu ati ac y dyluniwyd y datblygiad ar ei chyfer.

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais gwreiddiol ar gyfer 5 caban gwyliau yn hytrach na’r 4 sy’n cael eu cynnig yn awr. Hefyd, cafodd y cabannau eu hail leoli mewn ymateb i sylwadau gan yr ymgyngoreion. Dywedodd y Swyddog fod Polisi TWR 3 yn cefnogi datblygiadau o’r fath ar yr amod nad ydynt yn arwain at ormodedd yn yr ardal. Ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol pan gaiff ei asesu yn erbyn darpariaethau Astudiaeth Sensitifrwydd a Chapasiti Tirlun Ynys Môn. Hefyd, mae’r cynnig yn bodloni gofynion polisi gan ei fod wedi ei leoli mewn lleoliad anymwthiol sydd yn cael ei sgrinio gan dir a choed o gwmpas y safle ac mae’n agos i’r brif rwydwaith briffyrdd. Nid oes rhaid lleoli datblygiadau tebyg i’r cynnig o fewn y ffin ddatblygu ac mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r safle’n cael ei sgrinio’n ddigonol a’i fod ar lefel is nag eiddo preswyl cyfagos yn lliniaru unrhyw effaith ar gymdogion. Nid yw’r datblygiad arfaethedig yn annhebyg i stad breswyl dwysedd isel lle na fyddai disgwyl i’r defnydd achosi unrhyw aflonyddu annerbyniol oherwydd sŵn ac eithrio’r ffaith na fyddai datblygiad preswyl yn cael ei ganiatáu tu allan i’r ffin. Hefyd, mae amodau yn cael eu cynnig i reoli goleuadau allanol ac atal cael gwared ar goed er mwyn diogelu’r sgrinio naturiol presennol. Nid oes unrhyw wrthwynebiad technegol i’r cynnig a’r argymhelliad yw un o ganiatáu.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor, cadarnhaodd y Swyddog bod safle’r cais yn gorwedd gyferbyn â’r AHNE ond bod y sgrinio yn ddigonol i leihau unrhyw effeithiau gweledol. Er nad yw’r coed sy’n amgylchynu’r safle yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed, mae’r cynnig yn rhoi cyfle i osod amodau i reoli’r coed a sicrhau bod y sgrinio naturiol yn cael ei gadw. Yn ychwanegol, mae Astudiaeth Sensitifrwydd a Chapasiti Tirlun Ynys Môn wedi asesu capasiti bob ardal cymeriad tirlun ar Ynys Môn i dderbyn llety carafán statig, siales neu gampio. Oherwydd bod y cynnig dan sylw yn un bach iawn (a ddiffinnir fel hyd at 10 uned) ni ystyrir y byddai’n arwain at or-ddwysáu darpariaeth o’r fath yn yr ardal a’i fod o’r herwydd yn dderbyniol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, sydd hefyd yn Aelod Lleol, ei fod o’r farn bod y polisi yn anghyson yn yr ystyr y byddai datblygiad cabannau gwyliau yn cael ei ganiatáu tu allan i’r ffin ddatblygu ond ni fyddai datblygiad preswyl yn cael ei ganiatáu. Nid yw’r datblygiad yn ymdebygu o gwbl i unrhyw beth arall ar Ffordd Caergybi ar hyn o bryd ac mae’n agos i’r fynwent sy’n bwysig i nifer o bobl yn yr ardal. Ychwanegodd y Cynghorydd Williams na fyddai wedi galw’r cais i mewn petai o’n gwybod, neu wedi cael ei hysbysu, bod Polisi TWR 3 yn caniatáu datblygiadau o’r math hwn tu allan i’r ffin ddatblygu. Fodd bynnag, roedd yn parhau i fod o’r farn bod y cynnig yn amhriodol yn ei leoliad ac y byddai o ganlyniad yn atal ei bleidlais ar y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys. (Ataliodd y Cynghorydd Robin Williams ei bleidlais)

 

12.5    40LPA356/CC – Cais llawn i godi 3 annedd fforddiadwy, ynghyd â gwaith tirlunio a datblygiadau cysylltiedig arall ar dir yn Ffordd Lligwy, Moelfre.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Cadarnhaodd Margaret Murley Roberts, yn siarad fel Aelod Lleol, ei bod hi a’r Cyngor Cymuned yn cefnogi’r cynnig ond pwysleisiodd ei bod yn gobeithio y byddai’r tai fforddiadwy arfaethedig ar gyfer pobl leol. Os felly, byddai’n rhyddhau tai cyngor y mae gwir eu hangen ar gyfer teuluoedd yn yr ardal o gofio ei bod yn anodd iawn i deuluoedd brynu neu rentu yn yr ardal oherwydd prisiau’r farchnad a nifer yr ail gartrefi a sgil effeithiau hynny ar wasanaethau e.e. recriwtio gwirfoddolwyr i’r bad achub.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Moelfre wedi ei ddynodi fel Pentref Lleol o dan ddarpariaethau Polisi TAI 5 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sydd yn caniatáu cynigion am dai marchnad leol ar safleoedd addas o fewn ffin yr anheddiad ar yr amod bod maint yr unedau yn cydymffurfio â’r uchafswm diffiniedig – felly bydd yr anheddau arfaethedig ar gyfer pobl leol yn unol â’r polisi. Yn ogystal â bod ar gyfer pobl o’r gymuned bydd y 3 uned arfaethedig yn dai fforddiadwy, a chan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd byddai hyn yn cael ei weithredu drwy amod yn hytrach na chytundeb cyfreithiol gan nad oes modd i’r Cyngor wneud cytundeb cyfreithiol ag ef ei hun. Er bod Polisi TAI 15 (Trothwy Tai Fforddiadwy a’u Dosbarthiad) yn ei gwneud yn ofynnol i 30% o’r unedau fod yn dai fforddiadwy, bydd 100% o’r datblygiad hwn yn dai fforddiadwy. O ran yr ystyriaethau eraill, ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol gan nad oes unrhyw wrthwynebiad o ran priffyrdd nac effeithiau dyluniad neu amwynder gormodol yn deillio ohono.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ac ar dderbyn sylwadau gan adran ddraenio’r Cyngor. 

Dogfennau ategol: