Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  14C257 – Cefn Trefor, Trefor

Cofnodion:

7.1  Cais amlinellol ar gyfer codi annedd fforddiadwy yn cynnwys manylion llawn am y fynediad i gerbydau a draenio gyda’r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor

 

Cafodd y cais ei gyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol ar sail agosrwydd i’r Clwstwr ac angen lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2018 fe benderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS bod yr ymgeiswyr wedi byw yn ardal Canolbarth Môn am y rhan fwyaf o’u bywydau. Cyfeiriodd at ddyluniad yr eiddo yn Trefor ac nid oedd o’r farn y byddai caniatáu’r cais hwn yn fewnwthiol yn y gymuned. Dywedodd y Cynghorydd Parry fod yr ymgeiswyr yn dymuno adeiladu cartref ar gyfer eu teulu ifanc o bedwar o blant a gofynnodd i’r Pwyllgor gadarnhau ei benderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer annedd fforddiadwy ar dir ger Cefn Trefor, Trefor. Cafodd y cais ei ganiatáu yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd fod yr annedd yn cyd-fynd â’r ardal ac na fyddai’n edrych allan o le a gan fod yr ymgeiswyr yn lleol i’r ardal gan fod safle’r cais wedi’i leoli o fewn Canolbarth Môn lle cawsant eu magu ac felly bod y cais yn Cydymffurfio â Maen Prawf 4 y Polisi. Dywedodd, fel y tynnwyd sylw ato yn y cyfarfod diwethaf, nad yw’r diffiniad o leol i Canolbarth Môn yn cydymffurfio â’r diffiniad o fewn y polisi o fod yn ‘lleol’. Mae’r polisi yn cefnogi cynigion ar gyfer anheddau fforddiadwy ar gyfer angen lleol ar yr amod fod yr holl feini prawf yn cael eu bodloni. Mae’r polisi yn diffinio angen lleol fel ‘pobl sydd angen tŷ fforddiadwy ac pobl sydd angen tŷ fforddiadwy ac sydd wedi bod yn byw yn y clwstwr neu yn yr ardal wledig gyfagos am gyfnod di-dor o 5 mlynedd neu ragor, naill ai’n union cyn cyflwyno’r cais neu yn y gorffennol’. Roedd yr ymgeiswyr yn byd yn Llanfihangel yn Nhowyn (RAF Y Fali) cyn gwerthu eu cartref. Nid yw’r polisi yn caniatáu unigolion i symud allan o bentrefi eraill i glystyrau er mwyn sicrhau annedd fforddiadwy; mae’r polisi ar gyfer pobl sy’n byw mewn clystyrau i allu cyflwyno ceisiadau am anheddau fforddiadwy. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, tra’n derbyn fod gan yr ymgeiswyr ‘angen am dŷ fforddiadwy’, nid yw’r cais yn cydymffurfio â meini prawf penodol o fewn polisïau cynllunio. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Eric W Jones fod y safle ger adeilad lliw ar y map mewnosodiad ac ei fod o fewn cwrtil yr eiddo o’i flaen ac felly ei fod yn cydymffurfio â pholisi 6.2 o'r cynllun datblygu ar y cyd. Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.   

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, fel y nodwyd yn adroddiad blaenorol y Swyddog i’r Pwyllgor, nad yw’r cais hwn yn bodloni rhannau o’r meini prawf cynllunio. Derbynnir y bydd yr annedd wedi’i lleoli yn ardal clwstwr Trefor a bod tystiolaeth o’r angen am annedd fforddiadwy, fodd bynnag, mae’r meini prawf yn nodi fod angen i’r person fod wedi byw o fewn y clwstwr neu o fewn yr ardal wledig gyfagos am gyfnod di-dor o 5 mlynedd. Mae’r diffiniad hwn yn nodi’n glir fod yn rhaid iddynt fod wedi byw yn ardal y clwstwr ac nid o fewn y ward etholiadol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod y gyfraith yn nodi bod angen i benderfyniadau ar geisiadau cynllunio gael eu gwneud yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a bod angen i’r Pwyllgor ddehongli’r Cynllun Datblygu yn gywir. Dywedodd hefyd, os yw’r Pwyllgor yn penderfynu peidio â derbyn y dehongliad yn y Cynllun Datblygu Lleol yn y modd cywir y bydd unrhyw benderfyniad a wneir yn ansicr ac y gallai fod yn agored i her drwy adolygiad barnwrol neu gellid ei gyfeirio at yr Ombwdsmon.  

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod yn ystyried bod y cais arfaethedig yn cydymffurfio â’r diffiniad o ‘angen lleol’. Dywedodd ymhellach, os yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru o greu cymunedau ffyniannus a llewyrchus yn mynd i ddigwydd ac os yw’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn mynd i gael ei gwarchod, yna mae’n hanfodol cefnogi teuluoedd ifanc i allu bod yn rhan o’r cymunedau hynny ac i amddiffyn cymunedau gwledig. Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig i gadarnhau’r penderfyniad blaenorol i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard O Jones, gan fod y polisi o fewn y Cynllun Datblygu wedi eu adolygu, y byddai’n rhaid iddo gynnig bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Ni chafwyd eilydd i’r cynnig.

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu Cynllunio, fel rhan o’r polisi o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, bod angen cytundeb Adran 106 i gyd-fynd ag unrhyw gais sy’n cael ei ganiatáu fel ‘annedd fforddiadwy’.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog yn amodol ar gytundeb cyfreithiol A106 yn nodi y dylai’r annedd fod yn ‘annedd fforddiadwy’.

 

(Bu’r Cynghorydd John Griffith atal ei bleidlais).

 

 

Dogfennau ategol: