Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 19C411N/1/ENF – 20 Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi

12.2 19C448B – Mountain View, Greenfield Terrace, Caergybi

12.3  39C589A/VAR/ENF – 1 Tros y Môr, Ffordd Cynan, Porthaethwy

Cofnodion:

12.1  19C411N/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer rhannu’r annedd i ffurfio dwy annedd ar wahân yn 20 Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond, Aelod Lleol, bod caniatâd Cynllunio wedi’i roi yn 2009 ar gyfer estyniad i 20 Parc Felin Ddŵr. Dywedodd fod y perchennog wedi cymryd mantais wrth ymestyn yr annedd er mwyn ffurfio dau annedd ar wahân heb ganiatâd gynllunio gan dorri polisïau cynllunio mewn modd sylweddol. Holodd y Cynghorydd Redmond a fyddai cais cynllunio a gyflwynwyd er mwyn trosi annedd ym Mharc Felin Ddŵr i ffurfio dwy annedd ar wahân yn cael ei gymeradwyo. Dywedodd fod angen ymyrraeth cyfreithiol er mwyn atal achosion o’r fath o dorri polisïau cynllunio. Dywedodd hefyd nad oedd yn derbyn na fyddai rhannu’r annedd yn cael unrhyw effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos, dywedodd y bydd problemau parcio yn codi ac y bydd cerbydau’n cael eu hychwanegu i’r eiddo.       

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gwrthwynebiadau lleol i’r cais fel y nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod caniatâd cynllunio wedi ei gymeradwyo ar gyfer codi estyniad i’r annedd ym Mharc Felin Ddŵr ond yn dilyn ymweliadau gorfodi i’r eiddo ei bod hi’n amlwg bod yr annedd wedi ei rannu yn ddau eiddo. Mae gan Stad Parc Felin Ddŵr 18 annedd sy’n rhannu mynedfa i’r stad. Ni fydd y cais arfaethedig yn cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos o ganlyniad i’r defnydd presennol o’r safle fel annedd preswyl. Gan gydnabod y rhoddwyd caniatâd yn wreiddiol ar gyfer addasiadau ac estyniadau, mae’r ymgeisydd wedi mynd ati i rannu’r annedd yn dilyn ymestyn yr eiddo. Mae’r cais yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fel cais ôl-weithredol. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y prif ystyriaethau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Swyddog a cyfeiriodd at Baragraff 14.2.3 o Lawlyfr Rheoli Datblygu Llywodraeth Cymru sy’n nodi:-  

  

Dylid sicrhau mai’r bwriad yw cywiro effeithiau’r datblygiad anawdurdodedig, nid cosbi’r person(au) sy’n cyflawni’r gweithrediad neu’r defnydd. Ni ddylid cymryd camau gorfodi ychwaith dim ond er mwyn unioni datblygiad na ofynnwyd am ganiatâd ar ei gyfer ond sy’n dderbyniol fel arall”.

 

Dywedodd hefyd fod yr Awdurdod Cynllunio yn delio â cheisiadau ôl-weithredol yn yr un modd ag unrhyw geisiadau Cynllunio newydd y bydd yn eu derbyn; bydd ceisiadau’n cael eu delio a nhw yn unol â’r polisïau cynllunio presennol er mwyn gallu penderfynu a ydynt yn dderbyniol.  

 

Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor bryderon am y ceisiadau ôl-weithredol sy’n parhau i gael eu cyflwyno i’r Awdurdod Lleol. Awgrymwyd bod angen i’r Cyngor anfon mwy o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru am y ceisiadau ôl-weithredol parhaus sy’n cael eu derbyn a bod angen adolygu polisïau mewn perthynas â cheisiadau o’r fath. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac           adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys.

 

12.2  19C448B – Cais amlinellol ar gyfer codi 2 annedd sydd yn            cynnwys manylion llawn am y mynedfa ar dir rhwng Mountain

            View, Greenfield Terrace, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol o ganlyniad i bryderon draenio a'r ffaith bod gan y safle lwybrau troed o’i amgylch ond nad oes unrhyw fanylion amdanynt wedi eu cynnwys fel rhan o’r cais.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn gan un o drigolion y gymuned sydd â hawl tramwy ar draws mynedfa safle’r cais. Roedd y safle yn hen iard lo ac roedd y fynedfa i’r safle yn rhan o’r defnydd busnes. Nododd fod anghydfodau mynediad preifat yn fater preifat ac nad yw’n ystyriaeth gynllunio wrth ddelio â cheisiadau arfaethedig o’r fath. Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach y bydd y llwybrau troed/llwybrau cefn o amgylch safle’r datblygiad yn cael eu cadw. Mae Polisi TAI15 yn ceisio darpariaeth briodol o dai fforddiadwy; yng Nghaergybi, mae angen 10% o dai fforddiadwy. Gan fod y cais yn disgyn o dan 1 uned mae angen taliad sydd wedi’i gyfrifo fel £20k ar gyfer tai fforddiadwy. Mae’r Adran addysg wedi cadarnhau nad oes angen cyfraniad tuag at addysg yn yr achos hwn.      

 

Adroddodd y Swyddog ymhellach nad oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r cais gan eu bod wedi cynnal arolwg cyflymder yn lleoliad y datblygiad arfaethedig. Bydd y draenio dŵr budr yn cysylltu â’r brif garthffos bresennol. Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r cais gan fod gwaith sylweddol wedi’i ymgymryd ag ef yng Nghaergybi er mwyn mynd i’r afael â’r system garthffosiaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’r adran ddraenio wedi cadarnhau y bydd angen manylion pellach am ddŵr wyneb gydag unrhyw gais materion a gedwir yn ôl. Mynegodd yr Adran Iechyd yr Amgylchedd hefyd bod angen cysylltu amod ag unrhyw ganiatâd o ran y tir llygredig. Mae’r argymhelliad yn un o gymeradwyo’r cais yn amodol ar gytundeb cyfreithiol A106 ar gyfer cyfraniad tuag at dai fforddiadwy.        

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes ei fod yn cytuno â’i gyd-aelodau etholedig (fel y nodir yn adroddiad y Swyddog) y byddai’r datblygiad o dai yn gwneud lles i’r ardal gan fod y tir yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwaredu sbwriel a gwastraff. Ail bwysleisiodd ei bryderon mewn perthynas â materion priffyrdd a pharcio yng Nghaergybi fel y mae wedi’i wneud mewn nifer o Bwyllgorau. Nododd ymhellach fod gan safle’r datblygiad lwybrau troed o amgylch y safle ond nad oes unrhyw fanylion yn rhan o’r cais. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau datblygu mewn perthynas â’r safle ac na fydd unrhyw effaith ar y llwybrau troed o amgylch y safle.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

            PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac         adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys          ynghyd ag amodau ychwanegol mewn perthynas â draenio dŵr wyneb ac adfer tir halogedig.

 

12.3  39C589A/VAR/ENF – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (02) o        ganiatâd cynllunio rhif 39C589 (Cais llawn ar gyfer addasu ag ehangu sydd yn cynnwys dec haul yn) er mwyn diwygio dyluniad y cynllun a gymeradwywyd, yn cynnwys dymchwel ac ail adeiladu rhan o’r llawr isaf yn 1 Tros y Môr, Ffordd Cynan, Porthaethwy.

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Dywedodd Mr Sam Wilson (yn siarad o blaid y cais), pan ddechreuodd y gwaith ar y safle o dan y caniatâd cynllunion gwreiddiol yn 2007, cafodd ei ddarganfod nad oedd unrhyw sylfeini digonol i’r estyniad cefn ac roedd yn rhaid iddynt gymryd camau angenrheidiol er mwyn  cywiro’r mater hwn. Nododd fod un gwrthwynebiad wedi’i dderbyn gan un o’r cymdogion ond ystyriodd bod adroddiad y Swyddog Cynllunio i’r Pwyllgor wedi ymdrin â phryderon y gwrthwynebydd mewn modd digonol.       

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Chynllunio fod y gwrthwynebydd i’r cais wedi cyflwyno cais i gael siarad ond nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod o ganlyniad i amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld. Nododd fod y gwrthwynebydd wedi anfon ei phryderon ymlaen drwy ohebiaeth gyda’r Adran Gynllunio y bore yma. Dywedodd y Rheolwr Datblygu cynllunio ei bod yn ystyried fod y materion a godwyd wedi eu delio â nhw o fewn adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach fod y caniatâd cynllunio gwreiddiol wedi ei roi ym mis Gorffennaf 2017 am estyniad llawr cyntaf yn y cefn a oedd yn cynnwys cegin, ystafell haul a dec haul. Nododd, gan fod yr ymgeisydd wedi nodi y daeth yn amlwg yn ystod y gwaith fod sylfaen yr estyniad presennol yn annigonol, roedd yn rhaid dymchwel yr estyniad. Nodwyd fod y cais hwn i ddiwygio dyluniad yr estyniad yn gais ôl-weithredol gan fod y gwaith adeiladu eisoes wedi ei wneud. Nid yw dyluniad a chymeriad yr estyniad yn annhebyg i’r adeilad blaenorol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio na ystyrir bod y newidiadau arfaethedig i’r estyniad i’r eiddo yn creu effeithiau sylweddol gwahanol i’r cais a gafodd ei gymeradwyo yn wreiddiol ac felly roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu’r cais.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

       PENDERFYNWYDcymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac    adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys. 

 

 

Dogfennau ategol: